Natural Resources Wales sent this bulletin at 31-10-2023 02:11 PM GMT
Cadw eich pen uwchben y tonnau
Rydym wedi ymuno â Heads Above the Waves (HATW) sefydliad nid-er-elw sy'n codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ac iselder. Rydym i gyd yn gwybod bod taith dda ar y llwybr yn helpu i glirio'r meddwl i gael eglurdeb a lle yn eich bywyd. Cenhadaeth HATW yw helpu i leihau nifer y bobl ifanc sy'n troi at hunan-niweidio. Felly, gyda phob eitem a brynir, rydych chi'n helpu HATW i roi cefnogaeth i'r rhai sydd ei angen. Cymerwch olwg ar y casgliad cyffrous newydd sbon nawr!
Ydych chi wedi gorffen cerdded rhannau o'r llwybr y gaeaf hwn?
Mae gennym fathodynnau coffa a thystysgrifau i ddathlu eich llwyddiant!
Mae bathodynnau defnydd o ansawdd uchel (y gellir eu pwytho neu eu smwddio ar eich dillad) wedi'u paru â thystysgrif bersonol liwgar A4 ar gael o'r siop ar-lein. Ar gael fel bwndel tystysgrif a bathodyn neu prynwch yr eitemau ar wahân – chi biau'r dewis. Mae pob pryniant yn mynd at gefnogi'r llwybr heddiw ac ar gyfer y dyfodol. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn dangos y rhain i’ch ffrindiau a'ch teulu!
Rydym yn rhan o brosiect gwyddoniaeth dinasyddion byd-eang o'r enw "CoastSnap" – lle mae pobl yn rhannu eu lluniau o’r arfordir gan gyfrannu at ddeall effeithiau newid yn yr hinsawdd yn yr amgylchedd bregus hwn.
Fe welwch chi fannau CoastSnap arbennig – crudau sefydlog i roi eich ffôn ynddynt ar rai mannau ar hyd y llwybr. Rhowch eich ffôn yn y crud, tynnwch lun o'r olygfa a'i lanlwytho. Dewch o hyd i'n lleoliadau CoastSnap
Beth am roi cynnig arnyn nhw ar eich teithiau cerdded dros yr hydref - rydym angen mwy o luniau hydrefol a gaeafol!
Gadewch i ni ddechrau cynllunio!
Mwnt, Ceredigion
Rydyn ni wedi gweld llawer o bobl yn cynllunio lle maen nhw'n mynd i gerdded y flwyddyn nesaf.
Mae ein tudalen Cynllunio’ch Ymweliadyn llawn adnoddau defnyddiol i wneud y gorau o'ch amser ar y llwybr:
• Map rhyngweithiol – i weld lle mae'r llwybr yn agosaf atoch chi a chynllunio eich taith. • Tablau pellter – pellteroedd bras rhwng trefi mawr a phentrefi i gynllunio seibiannau ar hyd y ffordd. • Gwyriadau dros dro – y gwyriadau diweddaraf i'r llwybr • Teithiau cerdded - yn amrywio o deithiau cerdded byr hyd at 6 milltir neu deithiau cerdded hirach hyd at 13 milltir o hyd.
Ymunwch â Cymuned Llwybr Arfordir Cymru ar Facebook– grŵp defnyddiol a chyfeillgar o gerddwyr o'r un anian gyda llawer o syniadau ysbrydoledig ar ble i fynd ar y llwybr.
Oes gennych chi ddigwyddiad ar Lwybr Arfordir Cymru neu gerllaw iddo? Anfonwch Ffurflen Awgrymu Digwyddiad i ni fel y gallwn ei hyrwyddo ar ein gwefan. (dibynnol ar gymeradwyaeth).
Ymunwch â’n Cymuned
Gyda dros 6,000 o aelodau yn ein Cymuned Facebook, mae'n lle perffaith i gasglu ambell awgrym ymarferol ar gerdded y llwybr ynghyd â digon o ysbrydoliaeth ac anogaeth gan gerddwyr eraill. Welwn ni chi yno! Facebook: Cymuned Llwybr Arfordir Cymru