|
Newyddion ac ysbrydoliaeth i ymwelwyr â’n coetiroedd a’n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Rydym wedi dewis pum llwybr cerdded byr yn ein coetiroedd a’n gwarchodfeydd sy'n berffaith ar gyfer mynd am dro hydrefol.
Maent yn amrywio o lwybrau gwastad sy'n ddelfrydol ar gyfer teuluoedd â phlant ifanc i ddringfeydd serthach gyda golygfeydd sy’n llawn lliwiau tymhorol.
Mae gan bob llwybr arwyddbyst a gradd i roi syniad o lefel yr anhawster, ac mae panel gwybodaeth ar ddechrau'r llwybr.
Mae manylion llawn ar ein gwefan i'ch helpu i ddewis taith gerdded sy'n addas i chi.
|
|
Mae llwybr newydd pellter hir ar gyfer beicio oddi ar y ffordd yng Ngogledd Cymru bellach ar agor i feicwyr.
Mae llwybr Traws Eryri yn ymddolennu am 122 o filltiroedd trwy rannau tawelach Parc Cenedlaethol Eryri, gan gynnwys aber afon Mawddach, coedwigoedd Coed y Brenin a Gwydir, ac olion treftadaeth mwyngloddio llechi Gogledd Cymru.
Mae’r llwybr yn cyfuno’r gorau o’r hawliau tramwy cyhoeddus a’r traciau presennol i gynnig taith bell a chanddi naws fwy gwyllt. Mae hefyd yn cysylltu canolfannau llwybrau beicio mynydd lleol gan gynnwys Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin.
Ariannwyd y gwaith i greu Traws Eryri gennym ni a chrëwyd y llwybr gan Cycling UK. Darllenwch y manylion llawn a lawrlwythwch fapiau, ffeiliau .gpx a chanllaw i’r llwybr ar wefan Cycling UK.
|
|
Mae ardal archwilio chwarae naturiol wedi agor yn ddiweddar yn un o’n coetiroedd yn Nyffryn Gwy, 10 milltir i’r gogledd o Gas-gwent.
Mae ardal chwarae Whitestone yn cynnwys cerrig camu, twneli, cylchoedd coed cudd a boncyffion cydbwyso. Mae twmpath gyda chaer ar ei ben, y gellir ei gyrraedd ar hyd llwybr troellog sy'n hygyrch i bob defnyddiwr, ac mae meinciau picnic o fewn y man chwarae.
Mae gan nifer o’n coetiroedd eraill ledled Cymru ardaloedd chwarae sy’n gwneud y gorau o’u lleoliad naturiol a gallwch ddarganfod mwy amdanynt ar ein gwefan.
|
|
Mae cymeriad animeiddiedig Aardman, Shaun the Sheep, yn hyrwyddo'r Cod Cefn Gwlad i annog pawb i barchu, diogelu a mwynhau'r awyr agored.
Mae Shaun a’i ffrindiau ar fferm Mossy Bottom yn brysur yn rhannu awgrymiadau o’r Cod Cefn Gwlad, fel sut i ofalu am fyd natur, dilyn arwyddion a rhannu’r gofod gydag eraill.
Cadwch lygad am Shaun ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu daliwch i fyny ar YouTube isod.
Os gallwch chi rannu anturiaethau Shaun â chynulleidfa ehangach, cysylltwch â thîm y Cod Cefn Gwlad.
|
|
Mae gan lawer o'n coetiroedd a'n gwarchodfeydd lwybrau hygyrch wedi'u cynllunio ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, ond mae'r llwybrau gwastad, di-rwystr hyn hefyd yn addas ar gyfer ymwelwyr â chadeiriau gwthio.
Mae ein llwybrau hygyrch yn mynd trwy lawer o wahanol dirweddau, ac yn cynnwys llwybrau pren dros wlyptiroedd a llwybrau o amgylch llynnoedd neu ar hyd afonydd. Mae ganddynt arwyddbyst o'r dechrau i'r diwedd ac mae panel gwybodaeth ar ddechrau pob un.
Dysgwch fwy am ein llwybrau cerdded hygyrch ar ein gwefan.
|
|
Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth yw lleoliad Ffair Bwyd, Diod a Chrefft Mynyddoedd Cambria ddydd Sadwrn 28 Hydref.
Bydd y ffair yn cynnwys busnesau o gyffiniau Mynyddoedd Cambria ac ymhlith y cynhyrchion lleol a fydd ar werth mae te, siocled, cyffeithiau, caws a gwirodydd.
Wedi'r holl therapi siopa yna efallai y bydd arnoch awydd taith ar y beic neu ar droed ar hyd un o'r llwybrau sy'n cychwyn o'r ganolfan ymwelwyr felly cofiwch ddod â'ch beic mynydd neu esgidiau cerdded gyda chi!
I gael y manylion llawn ewch i dudalen Facebook Bwlch Nant yr Arian neu cysylltwch â thîm y ganolfan ymwelwyr ar 0300 065 5470 neu bnya@naturalresourceswales.gov.uk
|
|
Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau hanner tymor i blant o wahanol oedrannau yng Nghanolfan Ymwelwyr Ynyslas ger y Borth. Mae'r pynciau'n cynnwys dyrannu pelenni tylluanod; helfa am gasys wyau siarcod; straeon Calan Gaeaf a gwneud llyfrau; creu poster bywyd gwyllt; creu sêr ar gyfer eich ffenest; ac archwilio rhifau ym myd natur.
Mae Canolfan Ymwelwyr Ynyslas hefyd yn cynnal cyfres o weithdai undydd ar gyfer oedolion gan gynnwys paentio Mandala (17 Tachwedd); gweithdy lliwio (25 Tachwedd); gweithdy crosio (2 Rhagfyr) a sanau Nadolig wedi'u huwchgylchu (15 Rhagfyr).
I gael y manylion llawn ewch i dudalen Facebook Ynyslas neu cysylltwch â thîm y ganolfan ymwelwyr ar 01970 872901 neu ynyslas@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
|
|
Wrth i'r clociau fynd yn ôl y penwythnos hwn gan wneud i’r dyddiau deimlo'n fyrrach, mae llawer o bobl yn teimlo eu hwyliau yn gwaethygu. Ond mae rhai pethau hawdd y gallwch chi eu gwneud i helpu eich lles.
Darllenwch flog ein cynghorydd iechyd i ddarganfod sut y gall treulio amser yn yr awyr agored wella eich iechyd meddwl.
|
|
Rydym ni’n mawr obeithio ein bod wedi rhoi ychydig flas i chi o’r hyn sy’n digwydd yn rhai o’r lleoedd rydym yn gofalu amdanyn nhw ledled Cymru. Gobeithio fod hyn wedi rhoi rhywfaint o ysbrydoliaeth i chi i fynd allan i’r awyr agored.
Rhowch wybod i ni beth yw eich barn am y cylchlythyr hwn yn ogystal â rhannu unrhyw syniadau sydd gennych ar gyfer yr hyn i’w gynnwys yn y rhifynnau nesaf.
A beth am anfon y cylchlythyr ymlaen at ffrindiau a theulu fyddai wrth eu bodd yn darganfod mwy o Gymru?
I gael mwy o wybodaeth am ein coetiroedd a’n Gwarchodfeydd Natur Genedlaethol a’r cyfleusterau sydd ar gael i ymwelwyr, ewch i’n tudalen Ar Grwydr.
|
|
|
|