Natural Resources Wales sent this bulletin at 20-09-2023 12:19 PM BST
Llwybr Meddwlgarwch
Rhosili, Gŵyr
Mae bod allan ar y llwybr yn ffordd ardderchog o ymlacio, o ddadflino a chael egwyl yng nghanol straen bywyd bob dydd.
Ar y llwybr, rydym wrth ein bodd yn gwylio patrymau’r môr a gwrando ar gân yr adar o’n cwmpas. Rydym yn gofalu ein bod yn loetran ychydig mwy er mwyn cael mwynhau’r golygfeydd anhygoel hynny o’r arfordir. Onid y pethau bach mewn bywyd mewn bywyd sy’n ein gwneud yn hapus!
Rydym wedi ymuno â Heads Above the Waves, sefydliad nid er elw sy’n codi ymwybyddiaeth o iselder a hunan niweidio ym mhlith pobl ifanc ac wedi creu Cyfres o adnoddau i helpu i roi hwb i’ch lles ar y llwybr. Rydym yn gobeithio y byddwch yn canfod hyn yn ddefnyddiol.
Efallai ein bod wedi ffarwelio â’r haf ond gallwn edrych ymlaen am deithiau cerdded hydrefol nawr.
Byddwch yn cael cyfle i weld arfordir Cymru mewn goleuni gwahanol ac o safbwynt gwahanol. Rydym yn mwynhau gwylio haul y gaeaf yn machlud a ninnau’n gynnes braf!
Cyn i chi fynd allan am dro, beth am gael golwg ar ein dillad cerdded hanfodol sy’n gynnes a ffasiynol wrth i fisoedd y gaeaf agosáu.
Mae gennym hwdis a chrysau T ymarferol a ffasiynol (syn ddefnyddiol i’w pacio fel haen ychwanegol yn eich bag) ac ategolion eraill hanfodol fel blancedi teithio a sachau cefn.
Bydd popeth sy’n cael ei brynu yn mynd i gefnogi’r llwybr nawr ac yn y dyfodol.
Awydd ennill rhywfaint o nwyddau Llwybr Arfordir Cymru?
Tagiwch ni @llwybrarfordircymru yn eich lluniau gyda’r hashnod #LlACMachludMedi i gael siawns o ennill y pecyn hwn.
Mae gennych tan 30 Medi – pob lwc!
I sylw pob athro ac athrawes!
Wyddech chi am yr adnoddau dysgu sydd ar gael am y llwybr?
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi creu adnoddau defnyddiol ac wedi dylunio gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r Cwricwlwm i Gymru; sy’n gwneud y mwyaf o’r hyn y gall y llwybr ac arfordir Cymru ei gynnig i ddysgwyr, er enghraifft:
defnyddio’r map rhyngweithiol ar ein gwefan i blotio llwybr cerdded
dysgu sut i hyrwyddo’r llwybr drwy wneud poster neu wneud newyddlen
Rhag ofn i chi ei fethu...870 Milltir ar Droed, 2 Gerddor, 40 o Sioeau
Mae’r ddeuawd gwerin Filkin's Drift yn mynd â theithio cynaliadwy gam ymhellach. Ar eu taith gyfredol CERDD//ED, mae Seth (ar the chwith) a Chris (ar y dde) yn cerdded ar hyd y Llwybr Arfordirol ac yn perfformio mewn sioeau mewn canolfannau cymunedol ar y ffordd tan 31 Hydref pan fyddant yn gorffen eu taith yng Nghas-gwent. Yn ddiweddar gwnaethom fwynhau eu sioeau yn Eglwys Llanbadrig ac Eglwys Cwyfan ar Ynys Môn yn ddiweddar – llecyn mor brydferth ar lwybr yr arfordir.
Oes gennych chi ddigwyddiad ar Lwybr Arfordir Cymru neu gerllaw iddo? Anfonwch Ffurflen Awgrymu Digwyddiad i ni fel y gallwn ei hyrwyddo ar ein gwefan. (dibynnol ar gymeradwyaeth).
Ymunwch â’n Cymuned
Gyda dros 6,000 o aelodau yn ein Cymuned Facebook, mae'n lle perffaith i gasglu ambell awgrym ymarferol ar gerdded y llwybr ynghyd â digon o ysbrydoliaeth ac anogaeth gan gerddwyr eraill. Welwn ni chi yno! Facebook: Cymuned Llwybr Arfordir Cymru