|
Croeso i rifyn yr Haf cylchlythyr LIFE Afon Dyfrdwy!
Dim ond dyddiau ar ôl i’n gwaith gwella gael ei gwblhau i helpu mudo i lawr yr afon yng Nghored Caer, gwelwyd pysgod ifanc yn mynd drwy’r hollt! Gwyliwch y fideo yma.
Mewn partneriaeth ag Asiantaeth yr Amgylchedd, nod y gwaith oedd gwella'r llwybr i lawr yr afon i eogiaid a brithyllod y môr ifanc. Wedi'i lleoli ar derfyn llanw Afon Dyfrdwy, mae Cored Caer yn 150 metr o hyd a 3 metr o uchder. Roedd giât ganŵ a physgod a oedd yn bodoli eisoes yn ei lle ar gopa'r gored nad oedd wedi gweithredu ers dros 20 mlynedd. Cyn y gwaith, roedd pysgod ifanc yn aml yn cael eu gohirio ar eu taith i lawr yr afon ger y gored, yn enwedig ar lifoedd isel yn y gwanwyn pan nad oedd digon o ddŵr i'w helpu i basio dros yr adeiledd. Yn methu nofio dros rwystr mor fawr o waith dyn, byddai pysgod yn ymgasglu uwchben y gored, lle byddent yn fwy agored i ysglyfaethu gan adar a physgod mwy.
Gwnaethpwyd gwaith i ddatgymalu'r giât bresennol a'r adeiledd o'i chwmpas ar adegau llanw isel gan gontractwyr lleol profiadol, gan ddefnyddio pontŵn i gludo deunyddiau ar draws yr afon. Gosodwyd giât ddur wrthstaen newydd, wedi'i gwneud yn arbennig, sy'n cael ei weithredu gan winsh ar y clawdd, gan ganiatáu iddi gael ei hagor a'i chau'n hawdd ar adegau allweddol trwy gydol y flwyddyn. Bydd y gwaith pwysig hwn yn darparu llwybr diogel i lawr yr afon ar gyfer pysgod ifanc, gan leihau oedi yn y gored a chynyddu eu siawns o oroesi. Darllenwch y datganiad i'r wasg llawn yma.
|
|
Yn ystod wythnos olaf mis Gorffennaf, cawsom ein hail ymweliad monitro, gan groesawu cydweithwyr o raglen LIFE yr UE, sef Gustavo Becerra-Jurado, Rheolwr Prosiect rhaglen LIFE ym Mrwsel, a Dr Lynne Barratt, sy’n gweithio i ELMEN EEIG, sy'n gyfrifol am fonitro prosiectau LIFE o safbwynt technegol ac ariannol.
Yn gyntaf, buont yn ymweld â deorfa Clywedog, oherwydd bod misglod perlog Afon Dyfrdwy wedi atgynhyrchu’n llwyddiannus am y tro cyntaf. Mae hyn yn newyddion gwych i raglen fagu mewn caethiwed y rhywogaeth hon, sydd mewn perygl difrifol. Yn ddiweddar, ariannwyd gwelliannau i seilwaith y ddeorfa gan brosiect Pedair Afon LIFE.
Gan symud i'r gogledd, i ddalgylch Afon Dyfrdwy, aethom â Gustavo a Lynne i weld rhai o'r coredau y byddwn yn eu haddasu yn y blynyddoedd i ddod, megis Rhaeadr y Bedol, Manley Hall ac Erbistog. Fe wnaethom dynnu sylw at fanteision lluosog cyflawni’r gwaith hwn ar gyfer mudo pysgod i fyny ac i lawr yr afon, ynghyd â’r heriau amrywiol sy’n ein hwynebu.
Dim ond trwy gydweithio y byddai modd cyflawni prosiectau trawsffiniol gyda gwahanol gyrff llywodraethu, a gweithio ar safleoedd mewn ardaloedd gwarchodedig. Hoffem ddiolch i'n partneriaid, Carrie Wright o Asiantaeth yr Amgylchedd a Dafydd Roberts o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, am fynychu'r ymweliad cenhadol a dangos eu cefnogaeth barhaus i'r prosiect.
|
|
|
Yn ogystal ag arsylwi ar symudiadau llysywod pendoll y môr ac afon esgynnol, rydym yn parhau i dagio eogiaid ar gyfer monitro telemetreg acwstig. Ar gyfer pob rhywogaeth, mae hyn yn rhoi syniad o sut mae ein pysgod yn ymateb i newidynnau amgylcheddol, megis newidiadau llif a thymheredd. A thrwy osod derbynyddion acwstig yng nghyffiniau rhwystrau posibl, mae hyn yn ein galluogi i asesu'r effaith y mae adeileddau mewn afonydd yn ei chael ar ymfudiad pysgod, boed hynny’n rhwystr llwyr neu un sy’n achosi oedi sylweddol o ran amser. Yn ystod y mis diwethaf, cwblhawyd y gwaith o dagio ugain o eogiaid llawndwf i'w hychwanegu at y set ddata hon. Hyd yn hyn yn 2023, o lysywod pendoll ac eogiaid, rydym wedi derbyn dros 200,000 o ddatgeliadau!
Enghraifft dda o sut rydym yn defnyddio'r data hwn yw'r giât sydd newydd ei chwblhau ar y hollt yng Nghored Caer. Rydyn ni wedi gweld, o dan lifau isel, y gall cleisiaid eogiaid gael eu gohirio yn y gored hon am sawl diwrnod, sy'n golygu eu bod yn agored i ysglyfaethu. Dylai ychwanegu'r giât newydd, sy'n galluogi tramwyo drwy'r hollt ar adegau allweddol, leihau oedi'n sylweddol, gan wella'r siawns o oroesi.
|
|
|
Yn 2021, ychydig i'r dwyrain o'r Waun ar Afon Ceiriog, fe wnaethon ffensio rhai rhannau o'r afon a oedd wedi dioddef o erydiad gwartheg, yn ogystal â difrod gan rai lefelau uchel iawn o afonydd yn y gaeaf. Cryfhawyd rhai darnau ymhellach gan ddefnyddio technegau gwrthglawdd naturiol o goed wedi'u prysgoedio, ac mae rhai ohonynt bellach yn blaguro ac yn dechrau tyfu fel coed afonol. Llwyddwyd i sefydlogi’r glannau ymhellach drwy blannu amrywiaeth o goed lleol – gwern, drain gwynion, helyg, derw a chriafol – a fydd ymhen amser yn rhoi cysgod i’r afon.
Ers gwahardd gwartheg, mae haenen drwchus o laswellt a llwyni wedi sefydlu sy'n darparu gwell cynefin i fywyd gwyllt (gweler y llun, a dynnwyd yn gynharach yr haf hwn). Mae'n werth nodi'r cribau tal sy'n tyfu, y mae pryfed sy'n peillio yn ymweld â nhw yn eu blodau, ac adar, yn enwedig y nico, wrth iddynt hadu. Byddwn yn cadw llygad allan yn yr hydref am nicos yn glanio ar yr hen bennau blodau brown i ‘ddatrys’ hadau oddi wrthynt. Fel arfer, rydym yn ddiolchgar am y cydweithrediad a’r gefnogaeth gan dirfeddianwyr a ffermwyr, yn ogystal â’r contractwyr lleol, wrth gyflawni’r gwaith hanfodol hwn.
|
|
|
Ym mis Gorffennaf, aeth y tîm allan i Jämtland, Sweden, i ymweld â phedwar prosiect LIFE gwahanol, fel rhan o gamau gweithredu ein prosiect i ledaenu dysgu a rhannu arfer gorau gyda phrosiectau LIFE eraill yn Ewrop. Bu’n ychydig o ddyddiau hynod ddiddorol a phrysur yn nalgylch Gimån wrth i ni ymweld â Rivers of LIFE; EcoStreams for LIFE; LIFE Triple Lakes; a Grip on LIFE. Roedd y rhain i gyd yn brosiectau dŵr croyw, ond Rivers of LIFE oedd y prosiect mwyaf tebyg i’n un ni o ran maint, rhywogaethau targed, a chamau gweithredu i’w cyflawni. Fel ninnau, eu nod yw adfer eu hafonydd i gyflwr mwy naturiol, gan ddileu rhwystrau i fudo, creu cynefin da, a gwella niferoedd pysgod a misglod perlog. Roeddem yn falch iawn o weld eu poblogaethau helaeth o fisglod perlog, gyda dros filiwn o gregyn gleision, gan gynnwys ychydig o rai ifanc hefyd – gwelwch y lluniau tanddwr a gymerwyd gennym yma.
Roedd yn gyfle gwych i ni i gyd rannu ein profiadau a’n gwybodaeth am adfer afonydd, a dysgu am y gwahanol heriau sy’n ein hwynebu, ond, yn galonogol, wrth ddefnyddio dull tebyg iawn i gyrraedd ein nodau terfynol. Er bod llawer o faterion ein prosiect yn ymwneud â llygredd, rhwystrau o waith dyn, ac arferion amaethyddol gwael, eu prif her yn Sweden yw delio â chanlyniad y cyfnod arnofio pren. Yn ystod y chwyldro diwydiannol, cynyddodd y diwydiant coed yn aruthrol, a defnyddiwyd y cyrsiau dŵr i gludo pren o ddyfnderoedd y goedwig i ddiwydiannau ar hyd yr arfordir. Er mwyn arnofio'r pren yn effeithlon, cliriwyd y cyrsiau dŵr o glogfeini a'u sythu, gan arwain at afonydd wedi'u sianelu ac unffurf gyda gwelyau afon llyfn a pharthau glannau afon â waliau o'u cwmpas. Dinistriodd hyn y rhan fwyaf o gynefin yr afon, a chafodd effaith aruthrol ar rywogaethau dŵr croyw. Mae’r tîm wedi bod yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â’r materion hyn, a’u gobaith yw ail-greu amgylchedd dyfrol amrywiol, cryfhau’r fflora a ffawna naturiol, a chreu ecosystem lewyrchus unwaith eto.
Ni allwn ddiolch digon iddynt am fod mor hael â'u hamser, gan ddangos ystod mor eang o safleoedd i ni ar draws ardal eang, a bod mor gyfeillgar a chroesawgar. Edrychwn ymlaen at eu croesawu yma y flwyddyn nesaf i ymweld â phrosiect LIFE Afon Dyfrdwy.
|
|
|
Afon Alwen - Cyn, ar ôl ac yn awr
Mae defnydd a gallu dronau wedi datblygu'n sylweddol, hyd yn oed yn ystod oes fer prosiect LIFE Afon Dyfrdwy. Mae gennym dri pheilot drone hyfforddedig yn y tîm sy'n defnyddio ein drôn i gofnodi newidiadau ffisegol y mae'r prosiect yn eu gwneud – gan dynnu awyrluniau cyn, yn ystod ac ar ôl gwaith adfer. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn wrth fonitro a chofnodi newid, ond mae hefyd yn ffordd weledol o ddangos maint a manylder ein gwaith yn ystod cyflwyniadau, datganiadau i'r wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'r defnydd o luniau o'r awyr hefyd yn helpu ein swyddogion adfer i werthuso effaith eu hymyriadau oddi uchod – mae hyn yn cynnig manteision sylweddol dros edrych ar eu safleoedd ar lefel y ddaear yn unig. Gan ddefnyddio’r wybodaeth a gasglwyd gan y drôn, efallai y bydd ein swyddogion yn penderfynu y byddai safleoedd ymyrryd yn elwa o fwy o glogfeini, graean neu waith ar y glannau yn seiliedig ar yr olygfa uwch hon neu efallai ychwanegu deunyddiau ychwanegol wrth gynllunio gwaith yn y dyfodol.
Un arf arbennig o ddefnyddiol a ddefnyddir ar y prosiect yw ffotograffiaeth sydd wedi'i chywiro trwy ddulliau orthocromatig (OR) i gofnodi newidiadau dros gyfnodau amser mwy arwyddocaol – dyweder blynyddoedd! Trwy hedfan dros safle ymyrryd a thynnu lluniau manwl iawn wedi'u mapio'n rheolaidd, gellir wedyn pwytho'r ffotograffau hyn at ei gilydd i wneud un llun cyflawn, heb golli'r manylder pwysicaf. Fel arfer, mae angen rhwng cant a phedwar cant o luniau unigol ar safleoedd i greu un ddelwedd OR derfynol a gallant ymestyn dros 500 metr o hyd.
Lluniau: Afon Alwen cyn, yn syth ar ôl, a blwyddyn ar ôl gwaith adfer.
|
|
Dyluniadau cwlfert Afon Alwen
Ers peth amser bellach, rydym wedi bod yn gweithio tuag at ddatrysiad llwybr pysgod ar gyfer cwlfert ffordd y B4501 ar Afon Alwen. Gan weithio'n agos gyda'n dylunwyr, JBA Consulting, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, rydym wedi ystyried sawl opsiwn dylunio ac yn awr mae gennym ateb a fydd yn darparu llwybr pysgod, a hefyd yn caniatáu ar gyfer archwiliadau cynnal a chadw yn y dyfodol. Mae hwn yn ddyluniad cwbl bwrpasol ar gyfer y lleoliad hwn.
Bydd darparu llwybr pysgod yma yn caniatáu mynediad i 1km o brif gynefin. Dangosodd arolygon electrobysgota diweddar pa mor bwysig fydd y prosiect hwn, gan fod silod mân eogiaid wedi’u cofnodi islaw’r cwlfert ond ni chanfuwyd yr un uwchben y cwlfert, sy’n awgrymu ei fod yn rhwystr i ymfudo.
|
Clogfeini'r Bala
Ym mis Medi, rydym yn bwriadu dechrau prosiect cyflwyno clogfeini mawr yn y brif afon uchaf islaw'r Bala. Bydd y prosiect hwn yn cyflwyno 500 tunnell o glogfeini i'r afon yn ogystal â symud cerrig presennol i greu cynefinoedd i silod mân a llochesi i bysgod mwy. Yn y 1950au, cafodd yr ardal hon ei sythu a'i charthu, a bydd y gwaith hwn yn mynd peth o'r ffordd i adfer y rhan hon o'r afon. Rydym yn ddiolchgar i Ystad Rhiwlas a Chymdeithas Bysgota’r Bala a’r Cylch am eu cydweithrediad â’r prosiect hwn.
|
Cored Z
|
|
Bydd gwaith yn cychwyn yn fuan ar Gored Z, sy'n rhan o system llifddor y Bala. Lleolir Cored Z ar Afon Tryweryn ac mae'n gweithredu fel sianel liniaru o dan lifoedd uchel. Cynigir ein bod yn cael gwared ar ran o'r gored hon i lawr i lefel y gwely er mwyn caniatáu i bob rhywogaeth o bysgod sy'n defnyddio'r sianel mewn amodau llif uchel symud yn rhwydd. |
|
|
|
|
|