|
Bu sawl moment arwyddocaol yn stori safle prosiect Cors Crymlyn yn ddiweddar. Camau breision ymlaen o ran cyflawni gwaith prosiect ffisegol ar y dirwedd ei hun, datblygiadau cyffrous o ran ymgysylltu â chymunedau lleol a hefyd wrth fynd ar drywydd ein targedau addysg a gwirfoddoli. Yn dilyn misoedd lawer o gynllunio a gweithio gyda rhanddeiliaid, tirfeddianwyr, contractwyr a ffermwyr lleol, rydym wedi cwblhau'r gwaith o adfer trac a oedd yn bodoli eisoes sy'n arwain i lawr i'r gors ei hun. Bydd y trac 1,400m o hyd, sy'n costio ychydig o dan £200,000, yn rhoi mynediad uniongyrchol i beiriannau trwm (megis Cynaeafwyr Gwlyptir “Pistenbully”, gweler y llun) er mwyn iddynt gyflawni gwaith ar raddfa fawr ar wyneb y gors. Diolch yn fawr i St Modwens Homes, The Port Tennant Canal Company a'n cydweithwyr Peirianeg Integredig CNC am alluogi'r gwaith adeiladu. Gwyliwch ddyddiadur fideo byr o'r gwaith o adeiladu'r trac yma.
Mae LIFEquake yn falch iawn hefyd o fod wedi meithrin cysylltiadau ystyrlon iawn gydag addysgwyr lleol a gwirfoddolwyr cymunedol. Mae tiwtoriaid o Gyngor Astudiaethau Maes Margam wedi dewis ychwanegu Gwarchodfa Crymlyn at eu hamserlen ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch Gwyddor Amgylcheddol a Bioleg, yn ogystal â grwpiau Cyfnod Allweddol 2. Bydd y bartneriaeth wych hon yn esblygu dros y blynyddoedd nesaf ac yn denu llawer o ddysgwyr i'r safle i fwynhau a dysgu am ecoleg, esblygiad ac adferiad cynefinoedd gwlyptir a hefyd y broses atafaelu carbon mewn corsydd gweithredol.
Mae Gwirfoddolwyr Cymunedol Kilvey Hill, grŵp hynod weithgar o bobl sy'n lleol i Grymlyn, wedi llwyddo i gael mynediad ffurfiol i'r ganolfan ymwelwyr erbyn hyn ar gyfer eu digwyddiadau rheolaidd, sesiynau cadwraeth a sesiynau crefft coetir. Mae LIFEquake wedi edmygu'r grŵp ers cryn amser yn gyffrous eu bod yn gweithio gyda nhw ac yn eu cefnogi yn eu hymdrechion eu hunain ac er budd y cynefin yng Nghrymlyn.
Roedd yn bleser cyfarfod â Rick Hughes, cadeirydd Cymdeithas Camlas Tennant. Rhoddodd Rick gipolwg diddorol ar hanes y dyfrffyrdd o amgylch Crymlyn – yn enwedig Camlas Glan y Wern sy'n ymestyn ar draws y gors ei hun. Dyma fideo byr y gwnaethom ei greu gyda Rick.
|
|
Un o'r ffyrdd gorau o gynnal wyneb cors yw defnyddio anifeiliaid i'w phori.
Mae llawer o'r cynefinoedd hyn mewn cyflwr gwael, naill ai gan nad yw anifeiliaid yn eu pori neu, mewn rhai achosion, gan fod gormod o bori. Rhan fawr o brosiect LIFEquake yw ymgysylltu â ffermwyr i greu'r ffyrdd gorau o bori'r tir yn gynaliadwy. Dros oes y prosiect, byddwn yn gosod tua 50 cilometr o ffensys ar safleoedd prosiect i alluogi pori diogel a hylaw ond, mewn rhai lleoliadau ac oherwydd y math o dirwedd, efallai na fydd gosod ffensys ffisegol yn opsiwn... a dyna pam rydym yn treialu system ffensio rithwir.
Mae'r dechnoleg yn cynnwys coler GPS a bwerir gan fatri, a ffin rithwir. Mae'r goler yn cyfathrebu ag Ap sy'n golygu y gall ffermwyr olrhain symudiadau'r anifeiliaid.
Gall y ffensys rhithwir gael eu haddasu neu eu symud yn rhwydd, gan alluogi'r anifeiliaid i gael mynediad i ardaloedd newydd a thir pori ffres. Pan fo'r anifail yn croesi ffin, mae'r goler yn rhoi rhybudd.
Mae LIFEquake wedi prynu 30 o'r coleri hyn ac mae’n gweithio gyda ffermwyr yn awr ac yn eu hyfforddi ar ddefnyddio'r ateb arloesol hwn i bori corsydd!
|
|
|
Ym mis Ebrill, teithiodd arweinydd tîm LIFEquake, Matthew Lowe, a'r Uwch Swyddog Prosiect, Gareth Thomas, i Ferlin i fynychu Cynhadledd Mawndiroedd LIFE Ewrop. Roedd 25 o brosiectau adfer mawndiroedd eraill a ariennir gan LIFE o bob rhan o Ewrop yn bresennol hefyd, yn rhannu profiadau, lledaenu arfer gorau, rhwydweithio a dathlu llwyddiannau.
Cyflwynodd prif siaradwyr ac arbenigwyr ar fawndiroedd yn yr UE weithdai a chyflwyniadau, ac roedd cyfleoedd i ymweld â safleoedd prosiect cyfagos i fwrw golwg ar wahanol dechnegau adfer ar waith.
Rhannwyd rhai ffeithiau diddorol, heriol ac eithaf brawychus yn ystod y gynhadledd – yn fwyaf nodedig bod 1 hectar o fawndir diraddiedig yn rhyddhau cymaint o CO2 â gyrru car am 143,000 cilometr y flwyddyn a bod angen i'r UE ail-wlychu 500,000 hectar o fawndir wedi'i ddraenio y flwyddyn i fodloni Cytundeb Paris. Daeth y cysur o weld faint o brosiectau gwahanol mewn cymaint o wahanol wledydd oedd yn canolbwyntio ar gyflawni'r ymyrraeth hynod bwysig hon.
|
|
|
Gwnaed darganfyddiad arwyddocaol ar safle prosiect LIFEquake Rhos Goch ym mis Gorffennaf - mwsogl coch, prin - 'sphagnum divinum’. Mae'r mwsoglau migwyn coch, mawr hyn yn brin yng Nghymru ac maent wedi'u cyfyngu bron yn gyfan gwbl i fawnogydd nad ydynt wedi'u draenio. Fodd bynnag, yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, mae cytrefi o figwyn coch, mawr wedi'u canfod mewn llystyfiant cyforgorsydd pontio mewn safleoedd gwasgaredig ledled Cymru.
Mae llawer o'r cyforgorsydd pontio hyn yn datblygu mewn hen doriadau mawn, ac mae'r migwyn coch mawr yn ffurfwyr mawn pwysig felly mae eu hymddangosiad yn y toriadau yn rhoi gobaith y bydd mawn yn dechrau ffurfio unwaith eto yn yr ardaloedd hyn sydd wedi'u difrodi. Mae bron pob un o'r migwyn coch mawr sydd wedi'u gwirio o dan ficrosgop yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi profi i fod yn figwyn canolig yn hytrach na'r sphagnum divinum prinnach. Dyma'r cofnod cyntaf ar gyfer hanner deheuol Cymru ac mae ei bresenoldeb yn y gyforgors bontio yn Rhos Goch yn awgrymu bod mawn yn parhau i ffurfio ar y safle.
|
|
|
Bu’r tymor digwyddiadau’n llwyddiant ysgubol – ac roedd yn wych gweld bod adfer mawndiroedd yn cael lle mor amlwg ar y ddwy stondin (yn enwedig stondin arobryn y Sioe Fawr). Cynrychiolwyd aelodau o dîm LIFEquake bob dydd yn y ddau ddigwyddiad a manteisiwyd ar y cyfle i siarad ag aelodau o'r cyhoedd sydd â diddordeb a ffermwyr am y prosiect a manteision adfer y cynefin gwerthfawr hwn. Roedd 'bog-in-a-box' yn rhan o'r arddangosfa ac yn rhoi cyfle i bobl deimlo mwsogl migwyn i werthfawrogi'r gallu anhygoel sydd ganddo i storio dŵr. Roedd fideo a chwaraewyd drwy gydol y digwyddiadau’n rhoi golwg unigryw o'r awyr ar wahanol dirweddau mawndiroedd yng Nghymru. Crëwyd y ffilm gan Swyddog Cyfathrebu LIFEquake, Mark, a oedd wedi cymhwyso'n ddiweddar fel peilot drôn masnachol ac sydd wedi creu llawer o fideos o'r awyr o safleoedd LIFEquake. Gwyliwch y fideo yma.
|
Ewch i'n tudalen am yr holl newyddion diweddaraf am y prosiect, neu dilynwch y ffrydiau cyfryngau cymdeithasol @LIFE Quaking Bogs
Website: Cyfoeth Naturiol Cymru / Corsydd Crynedig LIFE (naturalresources.wales)
Email: lifecorsyddcrynedig@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
|
|
|
|
|