O fis Medi tan fis Tachwedd 2023, bydd Twyni Byw yn adfywio nifer o laciau twyni yn Nhywyn a Choedwig Niwbwrch.
Mae llaciau twyni yn ardaloedd isel a gwastad sy'n wlyb yn dymhorol ac sy'n aml â bioamrywiaeth uchel a rhywogaethau arbenigol, fel tegeirianau'r gors, llysiau'r afu petalog a madfallod dŵr cribog. Fodd bynnag, dros amser mae cyflwr rhai llaciau wedi dirywio, gan fod glaswelltirau bras, prysgwydd a rhywogaethau estron goresgynnol wedi gordyfu arnyn nhw fel cotoneaster a helygen y môr.
Ar Dywyn Niwbwrch, byddwn yn adfer 2 hectar o gynefinoedd llaciau mewn dau leoliad, drwy grafu i ffwrdd haen o dywarch, a gostwng yr wyneb ychydig i adfer amodau corsiog, yn ogystal â chreu pwll newydd.
Yng Nghoedwig Niwbwrch, mae Twyni Byw wedi adfer sawl llannerch yn flaenorol gan gynnwys yn Ffrydiau a Phant y Gwylan. Eleni, byddwn yn canolbwyntio ar Bant y Fuches a Phant Canada, lle byddwn yn cael gwared ar y llystyfiant trwchus ac yn ail-greu cynefinoedd tywod moel a phyllau newydd.
Mae'r gwaith yn cynnwys peiriannau tyrchu mawr a thryciau dympio a gall edrych yn eithaf llym. Ond buan y mae'r safle'n cynefino, gan adael amodau perffaith ar gyfer rhywogaethau arbenigol o blanhigion ac infertebratau i gytrefu.
Y llynedd, tynnodd Twyni Byw 2 hectar o bren marw oddi ar ochr atfor Llwybr y Gymanwlad yn nhwyni Penrhos (rhwng y goedwig a'r twyni). Rydyn ni'n bwriadu parhau â'r gwaith hwn drwy gael gwared â 3.4 hectar pellach o foncyffion marw a changhennau sydd wedi disgyn oddi ar ochr tua'r tir o’r llwybr. Dyma un o ardaloedd cyfoethocaf o laswelltir twyni, gydag amrywiaeth eang o blanhigion gan gynnwys Briwydd Felen, Pysen y Ceirw, tegeirian y Gwenyn a thegeirian Bera. Bydd y gwaith yn sicrhau bod y cynefin blaenoriaeth hwn, sy'n brin ac o dan fygythiad ledled Ewrop, yn cael ei warchod.
|