 rhan newydd sbon Ystad Penrhyn, Bangor, gogledd Cymru
Ar ôl cymryd 5 mlynedd i’w gwblhau, mae llwybr sydd newydd agor yn rhoi mynediad i ran brydferth o arfordir Cymru nad oedd yn agored i’r cyhoedd cyn hyn.
Arferai’r llwybr fynd tua’r tir o amgylch Tal-y-bont ac Ystad y Penrhyn. Ond nawr mae’n dilyn ymyl yr ystad er mwyn cynnig profiad mwy arfordirol a cheir golygfeydd o Afon Menai, golygfeydd newydd sbon o Ynys Môn a Dociau’r Penrhyn.
Da iawn Cyngor Gwynedd am ei holl waith caled yn cyflawni un o’r prosiectau adlinio pwysicaf ers i Lwybr Arfordir Cymry agor yn 2012. Gweler y llwybr newydd sbon ar Google Street View
Wyddech chi fod gennym gasgliad eang o nwyddau swyddogol Llwybr Arfordir Cymru er mwyn ichi gofio am eich amser ar y llwybr.
Mae gennym dystysgrifau a bathodynnau cwblhau pan fyddwch wedi cwblhau rhannau (mae gennym hyd yn oed dystysgrif aur ar gyfer y llwybr cyfan!).
Hwdis cynnes braf, amrywiaeth o hetiau a chapiau a chrysau T cotwm organig gyda lluniau Cymreig pwrpasol
Yr anrheg berffaith i chi’ch hun neu ddilledyn ‘lwc dda’ ar gyfer eich teithiau i’r dyfodol – rydym wedi meddwl am bopeth.
|
|
 |
Arweinlyfr swyddogol Penrhyn Llŷn: Bangor i Borthmadog yw’r llyfr delfrydol i archwilio un o rannau hiraf y llwybr yn y Gymraeg. Mae’n rhoi trosolwg o hanes yr ardal, gwybodaeth am natur a manylion lleol.
Mae’n rhoi’r cyfle i ymwelwyr ddysgu am yr ardal hon yn y Gymraeg. Mae hefyd yn ardderchog ar gyfer dysgwyr sy’n awyddus i wella eu sgiliau darllen mewn ffordd ymarferol.
Cost: £15.99 ac ar gael ym mhob siop lyfrau dda ac ar-lein
|
 Ynys Ennlli (Bardsey Island) a Mynydd Mawr, Pen Llŷn
Manteisiwch yn llawn ar y penwythnos hir drwy ymweld â’r llwybr - ffordd ardderchog o gael eich dos o awel yr heli.
Os ydych chi eisiau cerdded y rhan o’r llwybr sydd agosaf atoch chi, ein tudalen teithiau cerdded yw’r lle delfrydol i ddechrau chwilio. Ceir dewis mawr o deithiau cerdded – sy’n amrywio o 3 – 10 milltir o hyd a digon o syniadau am lefydd i stopio am ddiod a thamaid neu fannau o ddiddordeb ar hyd y ffordd. Edycrhwch ar ein map llwybr arfordirol rhyngweithiol i weld pa ran o’r llwybr sydd agosaf atoch chi.
 Filkin's Drift
Mae CERDD//ED yn daith gerddoriaeth gyda gwahaniaeth.
Mae’r ddeuawd werin, Seth a Chris o “Filkin’s Drift” yn chwilio am ffyrdd mwy cynaliadwy o fynd ar daith. Byddan nhw’n cerdded rhannau o Lwybr Arfordir Cymru ar eu ffordd i berfformio eu gigs mewn lleoliadau cymunedol ar hyd y llwybr.
Nod Seth a Chris yw cyfuno ymdeimlad o le gyda’u cerddoriaeth, wrth ddod â chymunedau at ei gilydd i rannu profiadau o arfordir Cymru.
Bydd yna 40 gig, wedi’u trefnu mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol ym mis Medi a mis Hydref. Byddwn yn sicr o ddilyn y ddau ar eu taith!
 |
|
Oes gennych chi ddigwyddiad ar Lwybr Arfordir Cymru neu gerllaw iddo? Anfonwch Ffurflen Awgrymu Digwyddiad i ni fel y gallwn ei hyrwyddo ar ein gwefan. (dibynnol ar gymeradwyaeth).
|
 |
|
Gyda dros 6,000 o aelodau yn ein Cymuned Facebook, mae'n lle perffaith i gasglu ambell awgrym ymarferol ar gerdded y llwybr ynghyd â digon o ysbrydoliaeth ac anogaeth gan gerddwyr eraill. Welwn ni chi yno! Facebook: Cymuned Llwybr Arfordir Cymru |
|