|
|
Gair neu ddau o newyddion ac ysbrydoliaeth ar gyfer ymwelwyr sy’n ymweld â’n coetiroedd a’n Gwarchodfeydd Natur Genedlaethol.
 Rydyn ni i gyd yn cadw llygad ar ein ceiniogau ar hyn o bryd ond mae mynd i ymweld ag un o'n coetiroedd neu warchodfeydd yn ddiwrnod allan sy’n rhoi gwerth am eich arian.
Does dim ffioedd mynediad i'n lleoedd ac mae ein holl lwybrau yn rhad ac am ddim i'w defnyddio. Paciwch bicnic i'w fwynhau ar hyd y llwybr neu yn y man picnic ger y maes parcio.
Mae mannau ail-lenwi dŵr am ddim yn ein canolfannau ymwelwyr (Bwlch Nant yr Arian ac Ynyslas, y ddau ger Aberystwyth, a Choed y Brenin ger Dolgellau) felly cofiwch ddod â photel ddŵr y gellir ei hailddefnyddio gyda chi a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n yfed digon o ddŵr wrth i chi droedio’r llwybrau.
Codir tâl parcio yn ein canolfannau ymwelwyr ac yn ein lleoliadau eraill sydd â llawer o gyfleusterau i ymwelwyr ond, os byddwch yn dod yn rheolaidd, gallwch chi arbed arian drwy brynu tocyn tymor i barcio mewn rhai mannau.
Ewch i'n gwefan i gynllunio’ch ymweliad â choetir neu warchodfa natur.
|
|
 Rydyn ni’n gofalu am lawer o leoedd arbennig o amgylch arfordir Cymru, o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol sydd â thwyni tywod enfawr i goedwigoedd ger traethau.
Mae panel gwybodaeth ym mhob un o’n lleoedd, i'ch helpu i wneud y gorau o'ch diwrnod ac mae gan lawer o’n lleoedd lwybrau cerdded ag arwyddbyst.
Mae gan Gymru yr ansawdd dŵr ymdrochi gorau yn y DU ac mae llawer o'n traethau yn ennill gwobrau fel Baneri Glas, Gwobrau Arfordir Glas a Gwobrau Glan Môr.
Ewch i'n gwefan i gynllunio eich ymweliad â rhywle ger y môr.
|
|
 Cyn mynd i ymdrochi mewn dŵr agored yr haf hwn, cymerwch eiliad i feddwl am eich diogelwch a diogelwch y rhai sydd gyda chi.
Dilynwch y pedwar awgrym hwn i'ch helpu i gadw'n ddiogel ger y môr, ac yn y môr, mewn afonydd ac mewn unrhyw ddŵr agored arall:
- Stopiwch a meddyliwch: A yw'n ddiogel nofio yn y man hwn?
- A oes peryglon o dan y dŵr?
- A oes cerrynt cryf neu ddŵr sy'n llifo'n gyflym?
- Pa mor ddwfn yw’r dŵr ac a allwch chi fynd allan ohono’n hawdd?
- Arhoswch gyda'ch gilydd: Ewch gyda rhywun arall bob amser
- Arnofiwch i fyw: Os ydych chi'n mynd i drafferth yn y dŵr, arnofiwch nes eich bod chi'n teimlo'n fwy diogel ac wedi’ch cynhyrfu’n llai
- Ffoniwch 999 neu 112 os gwelwch chi rywun mewn trafferth yn y dŵr
Y llynedd, bu farw pedwar o bobl dan 20 oed ar ôl boddi ar ddamwain yng Nghymru - y nifer uchaf ers 2015. Er mwyn helpu'ch teulu i ddeall sut i ymddwyn o amgylch dŵr, gwyliwch yr animeiddiad syml hwn am y Cod Diogelwch Dŵr gan y Gymdeithas Frenhinol er Achub Bywyd gyda’ch plant.
|
|
 Mae ein llwybrau beicio sydd ag arwyddbyst yn golygu ei bod hi’n hawdd mynd â’r plant i feicio yn un o’n coetiroedd.
Rhowch gynnig ar ein llwybrau gradd werdd sy'n addas i ddechreuwyr neu ein llwybrau byrrach sy'n ddelfrydol i feicwyr iau.
Neu ewch i un o’n meysydd sgiliau i ymarfer eich technegau beicio cyn mynd ati i daclo’r llwybrau.
|
|
 Rydyn ni am i bawb fwynhau ein llwybrau a mwynhau byd natur. Os ydych chi’n defnyddio offer addasol ac yn chwilio am her, efallai y bydd rhai o'n llwybrau beicio mynydd yn addas i chi.
Edrychwch ar ein ffilmiau sy'n dangos sut beth yw reidio pob llwybr i'ch helpu i benderfynu a yw'n iawn i chi a'ch offer.
Gallwch ddarganfod mwy am ein gwaith o greu mwy o gyfleoedd beicio i bawb yn ein blog diweddaraf gan ein tîm Mynediad a Hamdden Awyr Agored.
|
|
 Mae ein canolfannau ymwelwyr yn Ynyslas a Bwlch Nant yr Arian wedi cadw eu statws Baner Werdd ar gyfer 2023.
Mae'r wobr hon yn arwydd bod parc neu fan gwyrdd yn meddu ar y safonau amgylcheddol uchaf posibl, yn cael ei gynnal a'i gadw mewn cyflwr hyfryd, a bod ganddo gyfleusterau rhagorol i ymwelwyr.
Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.
Cynlluniwch ymweliad ag un o'n canolfannau ymwelwyr sydd wedi ennill gwobrau
|
|
 Mae ein canolfannau ymwelwyr yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau i blant dros wyliau'r ysgol, fel helfeydd bwystfilod bach a gweithgareddau celf natur.
Dilynwch y canolfannau ymwelwyr ar Facebook i gael gwybod am eu gweithgareddau a'u newyddion.
|
|
 P'un a ydych chi'n cerdded drwy barc, yn crwydro ar hyd traeth, neu'n dilyn llwybr coedwig, mae cerdded yn yr haf yn cynnig cymaint o fanteision i iechyd corfforol a lles cyffredinol.
Dysgwch am fanteision cerdded yn ystod yr haf i’ch iechyd yn ogystal â sut i ofalu am eich hun ar ddiwrnodau poeth a heulog yn y blog hwn gan ein cynghorydd iechyd.
|
|
 Rydym ni’n mawr obeithio ein bod wedi rhoi ychydig flas i chi o’r hyn sy’n cymryd lle i rai o’r lleoedd rydym yn gofalu amdanyn nhw ledled Cymru. Gobeithio fod hyn wedi rhoi rhywfaint o ysbrydoliaeth i chi i fynd allan i’r awyr agored.
Rhowch wybod i ni beth yw eich barn am y cylchlythyr hwn yn ogystal â rhannu unrhyw syniadau sydd gennych ar gyfer yr hyn i’w gynnwys i’r rhifynnau nesaf.
A beth am anfon y cylchlythyr ymlaen at ffrindiau a theulu fyddai wrth eu bodd i wybod mwy am Gymru?
I dderbyn mwy o wybodaeth am ein coetiroedd a’n Gwarchodfeydd Natur Genedlaethol a’r cyfleusterau sydd ar gael i ymwelwyr, yna ewch i’n gwefan Ar grwydr
|
|
|
|