|
Mae tri digwyddiad rhwydwaith wedi’u cynllunio ar gyfer yr Hydref eleni, sef:
Caerdydd 28 Medi 2023 10:00 – 16:00
Aberystwyth 12 Hydref 2023 10:00 – 16:00
Conwy 20 Hydref 2023 10:00 – 16:00
Dyma gyfle i:
- siarad ag eraill sy'n wynebu heriau tebyg er mwyn dysgu oddi wrth ein gilydd
- clywed gan wahanol sefydliadau sy'n ymwneud â llifogydd a sut maen nhw’n gweithio gyda'i gilydd yng Nghymru
- gweithio mewn grwpiau llai er mwyn adolygu camau gweithredu ymarferol a heriau i gymunedau/gwirfoddolwyr cymunedol yn ystod achos o lifogydd
- siarad â chynrychiolwyr o sefydliadau eraill un ac un
Cofrestrwch erbyn 31 Awst 2023, os gwelwch yn dda, i fynychu un o'r digwyddiadau hyn.
|
|
Os ydych chi wedi cofrestru gyda’n Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd rhad ac am ddim – gwnewch yn siŵr bod eich manylion cyswllt a’ch dewisiadau yn parhau’n gyfredol. Byddwn yn cysylltu â phob cwsmer yr Haf hwn i'w hatgoffa i wirio eu manylion.
Rydym yn argymell eich bod wedi cofrestru o leiaf un cyfeiriad e-bost a rhif ffôn symudol.
Gallwch reoli eich cyfrif ar-lein, neu ffoniwch Floodline: 0345 988 1188 neu gallwch deipio sgwrs ar 0345 602 6340.
Gallwch ofyn am gopïau papur o ffurflenni cofrestru y gallwch eu postio atom am ddim drwy lenwi'r ffurflen fer hon.
Gallwch brofi eich gwybodaeth am y Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd a chael mwy o wybodaeth yn Cyfoeth Naturiol Cymru / Llifogydd.
|
Fe sylwch ar rai newidiadau yng ngeiriad ein negeseuon Rhybudd Llifogydd a Rhybuddion Llifogydd Difrifol.
Fe wnaethom gynnal ymchwil defnyddwyr manwl gyda phobl sydd mewn perygl o lifogydd a dangosodd hyn fod pobl yn fwy tebygol o weithredu pan fydd ein negeseuon yn fwy uniongyrchol.
Er enghraifft, yn lle dweud:
“Rhybudd Llifogydd wedi’i gyhoeddi [lleoliad]. Am ragor o wybodaeth ewch i [y wefan]”
“Rhybudd Llifogydd Difrifol wedi'i gyhoeddi [lleoliad]. Am ragor o wybodaeth ewch i [y wefan]”
rydym ni nawr yn dweud:
“Rhybudd. Disgwylir llifogydd [lleoliad]. Gweithredwch nawr. Ewch i [y wefan]”.
“Rhybudd. Disgwylir llifogydd difrifol [lleoliad]. Perygl i fywyd. Gweithredwch nawr. Ewch i [y wefan]”
Rydym yn gweithio’n barhaus er mwyn gwella ein Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd. Bydd cyfleoedd i chi gael dweud eich dweud a helpu llunio dyfodol y gwasanaeth drwy rannu eich barn:
|
|
Mae CoastSnap yn brosiect gwyddoniaeth dinasyddion sydd â’r nod o olrhain sut mae arfordir Cymru’n newid dros amser oherwydd ffenomenau naturiol fel stormydd a lefelau’r môr yn codi yn ogystal ag effaith gweithgarwch dynol.
Anogir aelodau'r cyhoedd i dynnu lluniau o safleoedd penodol sydd wedi'u nodi gyda chrud i ddal y ffôn. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y lluniau i gyd yn cael eu tynnu o'r un ongl, fel y gellir monitro unrhyw newidiadau i'r arfordir.
Dyma’r safleoedd a ddewiswyd ar gyfer prosiect CoastSnap:
- Y Graig Ddu
- Allteuryn
- Ffordd Lamby
- Penarth
- Porthcawl
- Port Talbot
- Bae Langland
- Pentywyn
- Dinbych-y-pysgod (dau safle)
- Aberaeron
- Cricieth (dau safle)
- Biwmares
- Llandudno
- Y Rhyl
- Talacre
Oes gyda chi ddiddordeb mewn cymryd rhan neu yn y canlyniadau hyd yn hyn? Cewch wybod mwy yn wcmc.wales/coastsnap
|
|
|
Mae ein rhybuddion llifogydd yn dweud wrthych am symud eich hun, eich plant, anifeiliaid anwes a’ch eiddo i le ‘diogel’. Ond beth sy’n ddiogel, os ydych chi mewn perygl o lifogydd?
Y cyngor cyffredinol yw symud i fyny i dir uwch oherwydd bydd dŵr yn llifo i lawr yr allt ac yn casglu mewn ardaloedd isel. Os yw llifogydd yn mynd i mewn i'ch eiddo neu mewn perygl o fynd i mewn i'ch eiddo, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio'ch drws ffrynt neu'ch drws cefn fel y byddech fel arfer. Felly byddai ystafell i fyny'r grisiau yn lle diogel i aros, gyda ffenestr y gallwch ei hagor a mynd drwyddi pe bai angen, gyda chymorth y gwasanaethau brys.
Serch hynny, nid yw pethau bob amser mor syml â hyn, felly ystyriwch y posibilrwydd o’ch lle diogel mewn amrywiaeth o senarios gwahanol. Dyma pam bod deall perygl llifogydd eich ardal, a hefyd eich eiddo, yn gallu’ch helpu i ddatblygu cynllun ar gyfer llifogydd sy’n benodol i’ch perygl lleol - yn debyg iawn i gynllunio beth i'w wneud rhag ofn y digwydd tân o wahanol ffynonellau yn eich eiddo.
Bydd hyn yn beth personol iawn i chi a’ch eiddo, ond isod mae rhai pethau i’w hystyried ar gyfer gwahanol fathau o eiddo neu amgylchiadau:
Llifddwr
- Gall llifogydd ddigwydd ymhell ar ôl i'r glaw ddod i ben, a gall amodau newid yn annisgwyl. Hyd yn oed pan nad oes llifogydd, gall afonydd, nentydd, llynnoedd a chronfeydd dŵr fod yn beryglus.
- Ceisiwch osgoi sefyll ar neu gerllaw unrhyw beth allai fod yn agored i niwed neu allai ddymchwel oherwydd llifogydd, er enghraifft: pontydd a glannau afonydd pan yw’r dŵr yn uchel.
- Mae’n beryglus iawn croesi llifddwr, ar droed neu mewn cerbyd
- Ystyriwch lwybr allanfa a lleoliad diogel i encilio iddo bob amser, rhag ofn y bydd llifddyfroedd yn codi'n gynt na'r disgwyl a chithau’n cael eich torri i ffwrdd.
Isloriau
- Gall isloriau a selerydd orlifo'n gyflym, gan eu bod dan lefel y ddaear ac mae dŵr yn teithio i ardaloedd isel yn gyntaf.
- Ceisiwch beidio â storio eitemau sentimental neu werthfawr yno, neu ystyriwch ddechrau symud eich eiddo i rywle arall ar lefel is ymhell o berygl llifogydd cyn unrhyw lifogydd posibl a chyn bod Rhybudd Llifogydd yn cael ei gyhoeddi (er enghraifft, pan gyhoeddir Rhybudd Llifogydd).
- Gall pympiau pwdel neu gynnyrch mwy parhaol fod yn addas ar gyfer eich math chi o berygl llifogydd, er mwyn cyfyngu ar faint o ddŵr sy'n mynd i mewn i'ch eiddo.
- Mewn achos llifogydd, symudwch i fyny'r grisiau os oes gennych rai, neu trefnwch leoedd diogel eraill y gallech fynd iddyn nhw ymlaen llaw.
Carafanau
- Gall meysydd carafanau fod mewn perygl o afonydd neu'r môr, oherwydd eu lleoliad agos i ardaloedd sy'n dueddol o ddioddef llifogydd yn gyntaf. Gan ddibynnu ar y math o garafán, efallai y byddai'n well symud y garafán neu adael yr ardal cyn unrhyw lifogydd posibl.
- Os ydych yn berchennog preswyl, cofrestrwch i dderbyn rhybuddion llifogydd ac os ydych ar wyliau, ceisiwch gyngor rheolwyr y parc.
Byngalos neu fflatiau llawr gwaelod
- Efallai y bydd angen i chi adael yr ardal, os na allwch symud i le uwch yn eich eiddo gyda ffordd o ddianc fel llofft neu ofod atig.
Anifeiliaid Anwes
- Os oes anifeiliaid anwes yn rhan o'ch teulu, mae gan Blue Cross a'r RSPCA gyngor ar sut y gallwch eu cadw'n ddiogel.
Cofiwch bob amser ystyried eich teulu cyfan, gan gynnwys anghenion yr henoed a'r methedig, plant ac anifeiliaid anwes.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn Cyfoeth Naturiol Cymru / Cynllun llifogydd personol, neu gofynnwch am gopi caled o dempled cynllun llifogydd personol drwy lenwi’r ffurflen fer hon, neu gallwch ffonio Ymholiadau Cyffredinol ar 0300 065 3000 (Llun – Gwener, 9yb – 5yp).
Cofrestrwch i dderbyn rhybuddion llifogydd am ddim, neu ffoniwch 0345 988 1188 neu sgwrs-deipio 0345 602 6340.
|
|
Ffaith: Gall llifogydd dŵr wyneb yn yr haf ddigwydd yn gyflym iawn
Gall cawodydd yr haf fod yn ddwys a gallant ddigwydd yn gyflym iawn, heb fawr o rybudd, os o gwbl.
Gall storm fellt a tharanau ddod â glaw trwm a llifogydd lleol i un ardal, ond lawr y ffordd gallech fod yn dal i fwynhau'r haul a heb fod yn gweld unrhyw lifogydd.
Nid ydym yn cyhoeddi rhybuddion llifogydd a rhybuddion am lifogydd dŵr wyneb.
Bydd ein perygl llifogydd 5 diwrnod yn nodi a oes perygl llifogydd dŵr wyneb yn digwydd yn eich awdurdod lleol a beth allwch chi ei wneud yn achos gwahanol lefelau o risg. Mae’n anodd rhagweld llifogydd dŵr wyneb fwy nag un diwrnod ymlaen llaw, felly rydym yn argymell eich bod yn gwirio hyn bob dydd, yn ogystal â Rhybuddion Tywydd Garw'r Swyddfa Dywydd am law a stormydd mellt a tharanau.
Mae gennym gyngor hefyd ar baratoi ar gyfer llifogydd, beth i'w wneud mewn llifogydd a beth i'w wneud ar ôl llifogydd.
|
Ffuglen: Mae uchder y llanw yr un peth bob dydd.
Mae uchder ac amseroedd y llanw yn amrywio bob dydd.
Os ydych chi'n treulio amser ger yr arfordir yr haf hwn, gwiriwch amseroedd y llanw fel nad ydych chi'n cael eich dal.
Mae lefel y môr hefyd yn cael ei ddylanwadu gan y tywydd, gan fod amodau stormus yn achosi cynnydd yn lefel y môr hefyd, a hynny trwy gyfuniad o ymchwydd storm a symudiad tonnau.
Felly, er ei bod yn ddefnyddiol bod yn ymwybodol o uchder ac amserau llanw uchel o fyrddau llanw, mae hefyd yn bwysig gwybod nad ydyn nhw’n cynnwys effaith ymchwyddiadau stormydd neu donnau.
Mae ein rhybuddion llifogydd yn ystyried hyn, ynghyd â ffactorau eraill sy'n effeithio ar berygl llifogydd, fel uchder y tir ac unrhyw amddiffynfeydd môr. Felly beth am gofrestru er mwyn cael hysbysiadau am ddim?
Mae rhagor o gyngor ynglŷn â threulio amser yn ddiogel ar y traeth ar gael gan yr RNLI.
|
|
Y llynedd lansiodd CNC y Prosiect Pedair Afon LIFE gyda’r nod o wella cyflwr pedair afon yn ne Cymru, sef afonydd Teifi, Tywi, Cleddau ac Wysg. Amcangyfrifir y bydd 776km o afon yn cael ei gwella.
Cefnogir y prosiect gan grant Rhaglen LIFE yr UE, gyda chyllid hefyd yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru a Dŵr Cymru / Welsh Water. Bydd dros £9 miliwn yn cael ei fuddsoddi er mwyn mynd i'r afael â heriau cadwraeth brys sy'n wynebu'r afonydd dros y pum mlynedd nesaf.
Mae’r afonydd yn cael eu dosbarthu fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), sy’n golygu eu bod o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer bywyd gwyllt a phlanhigion fel eogiaid, llysywod pendwll, gwangod, dyfrgwn a chrafanc y dŵr.
Bydd y prosiect yn gweithio gyda ffermwyr, tirfeddianwyr, contractwyr a chymunedau lleol i:
- Gwella amodau ar gyfer poblogaethau eogiaid, llysywod pendwll, gwangod a physgod eraill sydd wedi gostwng yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf
- Cael gwared ar gyfyngiadau ar fudo pysgod - mynd i'r afael â rhwystrau afonydd megis coredau a rhwystrau eraill
- Ail-naturioli afonydd – ailgyflwyno clogfeini, deunydd prennaidd a graean yn ôl i’r afonydd, yn ogystal ag ail-ddolennu, ac ailgysylltu gorlifdir
- Plannu coed ar hyd glannau afonydd er mwyn creu cynefin, cynyddu cysgod a sefydlu lleiniau clustogi, gyda manteision cysylltiedig o ran ansawdd dŵr a sefydlogrwydd glannau.
- Lleihau effaith rhywogaethau anfrodorol ymledol megis Jac y neidiwr, Pidyn-y-gog Americanaidd, canclwm Japan a'r efwr enfawr.
- Gwella arferion rheoli tir – lleihau maetholion a gwaddodion o dir amaethyddol drwy weithio gyda ffermwyr a pherchnogion tir i hyrwyddo technegau ffermio arfer gorau.
- Ailsefydlu'r fisglen berlog yn ne-orllewin Cymru sydd mewn perygl difrifol.
I gael gwybod mwy, ewch i wefan y prosiect.
|
|
Mae’r cynllun grant hwn yn cefnogi datblygu datrysiadau draenio cynaliadwy, ôl-ffit, ar raddfa fach yng Nghymru drwy gylch dichonoldeb cychwynnol. Mae systemau draenio cynaliadwy (y cyfeirir atynt yn gyffredin fel SuDS) yn helpu lleihau llifogydd dŵr wyneb mewn ardaloedd adeiledig ac yn lleihau dŵr ffo i afonydd a nentydd lleol. Mewn tirweddau gwledig, gall cynlluniau leihau llifogydd lleol a gwella ansawdd dŵr.
Maent yn defnyddio dull mwy naturiol o reoli llif, cyfaint ac ansawdd dŵr wyneb trwy gynnwys cydrannau fel palmentydd athraidd, creu gwlypdiroedd, ffosydd cerrig a gerddi glaw.
I gael gwybod mwy a sut i wneud cais, ewch i wefan CNC.
|
|
Sod ceir negeseuon a ddarperir ar ran eraill, allai fod o ddiddordeb i chi.
Ar noson 16eg Chwefror 2020, cafodd trigolion Nantgarw eu deffro o’u cwsg a’u cael eu hunain mewn hunllef fyw. Wrth i lefelau’r llifogydd godi, arllwysodd dŵr i mewn i dai, gan ddal trigolion yn eu cartrefi a gadael ond ychydig amser i arbed eiddo gwerthfawr.
Bu’n rhaid i gannoedd o bobl gael eu hachub gan y gwasanaethau brys a'u cludo i ganolfannau lloches cyfagos. Mewn rhai cartrefi, roedd y llifddwr mor uchel â nenfwd y llawr gwaelod. Pan ddychwelodd y preswylwyr i werthuso'r difrod, fe gawson nhw eu synnu gan yr hyn welson nhw. Mae un preswylydd yn cofio agor y drws a chrio.
Yn fuan ar ôl y llifogydd, dechreuodd cyfnodau clo Covid, gan lesteirio bywydau'r rhai gafodd eu heffeithio. Gyda'r gymuned yn wasgaredig ac yn methu gwneud unrhyw gynnydd o ran atgyweiriadau na threfnu gwaith adeiladu brys, bu’r cartrefi a ddifrodwyd yn wag am fisoedd.
Bu’r trigolion yn siarad â’r Groes Goch Brydeinig gan ddisgrifio sut yr effeithiodd y llifogydd ar bob rhan o fywyd “yn gorfforol, yn feddyliol ac yn feddygol”.
Yn ôl adroddiad diweddaraf y Groes Goch Brydeinig, Every Time it Rains, cafodd tua 1,500 o gartrefi eu boddi a chafwyd achosion sylweddol o lifogydd seilwaith.
Yn dilyn storm ddinistriol Dennis, mae'r Groes Goch Brydeinig wedi sefydlu tîm ymateb brys newydd sydd wedi'i leoli yn ardal Rhondda Cynon Taf. Pan fydd argyfwng yn digwydd, mae ymatebwyr y Groes Goch Brydeinig yno i gefnogi pobl yn syth wedyn, p'un ai ydyn nhw wedi cael eu heffeithio gan dân mewn tŷ, ymosodiad terfysgol, neu lifogydd fel yr un a brofodd trigolion ardal Rhondda Cynon Taf yn 2020. Gall y Groes Goch Brydeinig anfon cymorth i unrhyw le yng Nghymru gan fod eu timau’n gweithio ar draws ffiniau, a gallant deithio i ble bynnag y mae eu hangen.
Llifogydd yw un o’r peryglon hinsawdd mwyaf difrifol yn y DU a rhagwelir y bydd yn achosi gwerth £195m o ddifrod y flwyddyn yng Nghymru yn unig. Mae cyfran uwch o aelwydydd yn cael eu heffeithio gan lifogydd yng Nghymru na gweddill y DU, a disgwylir i lifogydd effeithio ar 1 o bob 21 o aelwydydd bob blwyddyn[1].
Er gwaethaf hyn, mae’r Groes Goch Brydeinig wedi darganfod nad yw’r mwyafrif o bobl Cymru yn gwybod beth yw eu perygl llifogydd ac nad ydyn nhw’n gwybod sut i baratoi ar gyfer llifogydd. Mae’n amlwg bod angen gwneud mwy i gefnogi cymunedau i baratoi’n well ar gyfer llifogydd ac ymadfer ar ôl llifogydd.
Yn ei hadroddiad, Every Time it Rains, mae’r Groes Goch Brydeinig yn argymell:
- Gwell defnydd o fapiau a data perygl llifogydd yn y dyfodol i helpu cymunedau i ddeall eu perygl a gweithredu;
- Cefnogaeth wedi’i blaenoriaethu ar gyfer y cymunedau a'r unigolion hynny sy'n arbennig o agored i niwed;
- Gwybodaeth llifogydd sydd wedi'i theilwra i anghenion cymunedau penodol;
- Cefnogaeth i bobl gael yr yswiriant cywir yn erbyn llifogydd;
- Eglurder ynghylch pa gamau y dylai unigolion a busnesau eu cymryd er mwyn paratoi ar gyfer llifogydd;
- Gwell ymgysylltiad rhwng awdurdodau lleol a chymunedau sy’n cael eu heffeithio er mwyn cefnogi gweithredu lleol a meithrin gwytnwch; a
- Dull a chanllawiau cenedlaethol cydgysylltiedig a chynhwysfawr er mwyn ymateb i argyfyngau, gan gynnwys llifogydd.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Naomi White, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus (Cymru) ar naomiwhite@redcross.org.uk
- Beth hoffech chi ei weld yn rhifynnau'r cylchlythyr hwn yn y dyfodol?
- Oes rhywbeth yr hoffech wybod mwy amdano?
- Fyddech chi'n barod i rannu'ch profiadau o lifogydd neu fel gwirfoddolwr cymunedol?
- Cysylltwch â ni os gwnaethoch fethu unrhyw un o'n rhifynnau blaenorol, a gallwn eu rhannu gyda chi.
Gallwch ddewis ym mha iaith yr hoffech chi dderbyn ein cylchlythyr. Cliciwch ‘Rheoli eich tanysgrifiad' ar ddiwedd y cylchlythyr, a gallwch ddewis Cymraeg, Saesneg neu’r ddwy iaith. Os nad ydych chi wedi dewis iaith, byddwn yn anfon y ddwy fersiwn atoch.
Nid yw CNC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau eraill. Rydym yn darparu hyn fel dull cyfeirio at wybodaeth, ac nid er mwyn hyrwyddo sefydliadau neu gwmnïau eraill. Credwn fod y cyngor y maent yn ei rannu yn ddefnyddiol i bawb. Efallai mai gwybodaeth yn Saesneg yn unig fydd ar gael mewn safleoedd allanol.
You can choose which language you’d like to receive our newsletter in. Click ‘Rheoli eich tanysgrifiad’ at the end of the newsletter, and you can choose between English, Welsh or both languages. If you haven’t chosen your preferred language, we will send you both versions.
NRW is not responsible for the content of other sites. We are providing this as a signpost to information, and not as a promotion of other organisations or companies. We believe the advice that they are sharing is helpful to everyone. Links to external sites may only have information available in English.
|
|
|
|
|