|
Croeso i rifyn y Gwanwyn o gylchlythyr LIFE Afon Dyfrdwy
Bu darganfyddiad cyffrous yn ystod gwaith arolwg ar rannau isaf Afon Dyfrdwy yn ddiweddar, pan ddaethom o hyd i gragen misglen ar lan yr afon ond roeddem yn ansicr o’r rhywogaeth. Gwyddom fod nifer o wahanol rywogaethau misglen yn bodoli yn nalgylch Afon Dyfrdwy, sef y fisglen alarch (Anodonta cygnea), y fisglen hwyaden (Anodonta anatine) a’r fisglen berlog (Margaritifera margaritifera). Fodd bynnag, nid oedd yn ymddangos bod y fisglen a welsom yn unrhyw un o'r rhywogaethau hyn. Datgelodd gwaith ymchwilio ac adnabod pellach gan arbenigwyr mai Misglen Chwyddedig yr Afon oedd hon (Unio tumidus). Er nad yw dan fygythiad ar draws ei gwasgariad, dyma’r cofnod cyntaf a gadarnhawyd yn Afon Dyfrdwy (a dim ond y degfed tro i’r anifail hwn gael ei gofnodi yng Nghymru), gan ychwanegu at fap ecolegol ein hafon. Yr anifeiliaid lletyol ar gyfer y fisglen hon yw draenogiaid dŵr croyw, rhufelliaid a physgod rhudd.
Mae’r Fisglen Berlog mewn perygl difrifol yn Ewrop ac mae achub poblogaeth Afon Dyfrdwy rhag diflannu yn un o amcanion allweddol LIFE Afon Dyfrdwy, ac rydym yn gwneud cynnydd da yn hyn o beth. Daethpwyd o hyd i hanner cant o fisglod llawndwf a’u hadleoli i ddeorfa Clywedog, ac mae’n bleser gennym ddweud bod y rhain yn y deuddeg mis diwethaf wedi llwyddo i atgynhyrchu (silio) i ddatblygu fel larfau (a elwir yn glochidia). Misglod bach yw'r rhain sy'n cael eu rhyddhau i'r golofn ddŵr a oedd ynghlwm wrth dagellau pysgod lletyol. Mae lletywyr larfau misglod perlog yn salmonidau ifanc (eogiaid, brithyllod y môr a brithyllod). Yn y gwyllt, mae'r siawns y bydd larfau’n dod ar draws pysgodyn addas yn isel iawn, ac mae bron pob un yn cael ei ysgubo i ffwrdd ac yn marw, dim ond ychydig o rai lwcus sy'n cael eu hanadlu, lle maent yn cau o amgylch tagellau'r pysgod. Mae glochidia yn byw ac yn tyfu mewn amgylchedd llawn ocsigen tan y mis Mai neu fis Mehefin canlynol, pan fyddant yn gollwng eu lletywr. Rhaid i'r misglod ifanc lanio ar is-haenau graeanog neu dywodlyd glân os ydynt am dyfu'n oedolion yn llwyddiannus, a all fyw am dros 100 mlynedd!
Llun: Misglen Berlog (ar y brig) a Misglen Chwyddedig yr Afon (gwaelod).
|
|
|
Ar fore gaeafol ffres ym mis Mawrth, aeth y tîm allan gyda wardeniaid o Barc Cenedlaethol Eryri i osod derbynyddion acwstig yn Llyn Tegid fel rhan o’n gwaith tracio pysgod. Mae'r offer tracio acwstig yn ein galluogi i fonitro mudo gleisiad eogiaid i lawr yr afon, a bydd hefyd yn nodi unrhyw eogiaid llawndwf sydd wedi'u tagio yng Nghaer ac yn mudo'r holl ffordd i fyny trwy Lyn Tegid i silio yn yr isafonydd uchaf.
Mae'r derbynyddion acwstig Vemco VR2W 180kHz yn cael eu diogelu o dan y dŵr ac yn defnyddio tonnau sain i ganfod pysgod sydd wedi'u tagio â throsglwyddyddion cod bach. Mae'r tagiau'n trosglwyddo gwybodaeth adnabod pysgod unigryw dros fand amledd uchel, sydd wedyn yn cael ei chofnodi yn y derbynnydd, gan ddarparu cofnod o bob ymweliad â'r ardal honno gan bysgodyn wedi'i dagio. Fel rhan o’n rhaglen fonitro, rydym wedi defnyddio tua 45 o dderbynyddion acwstig ledled dalgylch Afon Dyfrdwy, a fydd yn ein helpu i ddeall ymddygiadau allweddol eogiaid a llysywod pendoll yn well, asesu oedi, a nodi unrhyw rwystrau posibl i fudo.
Gyda diolch i’n partneriaid prosiect, Parc Cenedlaethol Eryri, am eu holl gymorth ar y llyn (ac am y baned i'n cynhesu wedyn!). Mwy o luniau yma.
|
|
|
Fel un o fanteision ychwanegol rhaglen LIFE Afon Dyfrdwy, rydym wedi sicrhau cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru o dan y ffrwd gyllido ansawdd dŵr. Yn 2022/23, cawsom £100,000 i wneud gwaith ar ffermydd yn nalgylch Afon Dyfrdwy i wella ansawdd dŵr yn yr afonydd lleol.
Fel rhan o’r gwaith hwn, rydym wedi gosod cyfanswm o 580 metr o gwteri newydd ar adeiladau fferm, ac mae pibellau dŵr newydd hefyd wedi’u gosod a’u selio i sicrhau nad oes unrhyw ddŵr budr na maethynnau o’r buarth yn mynd i mewn i gyrsiau dŵr cyfagos yn ddamweiniol. Bydd hyn yn dod â manteision i’r cyrsiau dŵr lleol trwy wahanu dŵr glân (dŵr glaw) a dŵr budr (dŵr ffo’r buarth) yn well, a fydd yn lleihau faint o slyri sy’n cael ei gynhyrchu trwy atal glaw diangen rhag mynd i mewn i’r storfa slyri, gan hefyd arwain at lai o wasgaru ar y tir gerllaw.
Ar rai o’r safleoedd lle rydym wedi gwneud gwaith cwteri, rydym hefyd wedi gosod tanciau casglu dŵr glaw sy’n dal ac yn cadw’r glawiad yn lân tra’n cynnig y potensial i’r dŵr gael ei ddefnyddio mewn ffordd fwy cynaliadwy hefyd, megis ailddefnyddio’r dŵr ar gyfer dibenion eraill o gwmpas y fferm.
Mae’r gwaith wedi’i wneud ar sawl fferm wahanol yn amrywio o ran maint a math o ffermio, o gynhyrchu cig eidion yn y dalgylch uchaf i ffermydd llaeth mwy dwys yn y dalgylch is.
|
|
|
Mae llysywod pendoll yn un o'r rhywogaethau allweddol y mae'r prosiect yn eu targedu drwy'r ymyriadau amrywiol, gyda'r prif ffocws ar lysywod pendoll yr afon a llysywod pendoll y môr. Fodd bynnag, mae trydedd rhywogaeth i'w chael yn Afon Dyfrdwy, sydd hefyd yn un o nodweddion yr Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), sef llysywen bendoll y nant. Ychydig wythnosau yn ôl, wrth wneud gwaith trapio gleisiaid yn y nos yn rhan uchaf y dalgylch, buom yn ddigon ffodus i weld llysywod pendoll y nant yn silio. Gwyliwch y fideo yma.
Mae llysywod pendoll y nant yn aros mewn dŵr croyw gydol eu hoes, gan fyw am rhwng tair a saith mlynedd mewn ardaloedd siltiog/tywodlyd o’r afon, cyn trosi’n oedolion yn yr hydref cyn silio. Unwaith y byddant yn oedolion, maent yn rhoi'r gorau i fwydo'n gyfan gwbl, ac yn marw yn fuan ar ôl silio. Mae'r wyau (sydd i'w gweld fel dotiau gwyn bach yn y llun) yn deor ar ôl ychydig ddyddiau, cyn i'r larfau dyrchu i ardaloedd siltiog i ddechrau'r cylch bywyd eto.
Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gydag aelodau o’r cyhoedd a sefydliadau eraill i gynnal arolygon llysywod pendoll ar gyfer llysywod pendoll yr afon, sy’n silio tua chanol i ddiwedd mis Ebrill. Mae gennym dîm o wylwyr sy'n rhoi gwybod i ni am unrhyw lysywod pendoll yr afon sy’n silio er mwyn i ni allu mapio eu dosbarthiad. Bydd yr un gwaith yn cael ei wneud ym mis Mehefin pan fydd llysywod pendoll y môr yn silio o fewn Afon Dyfrdwy.
Mae gwaith tagio acwstig hefyd wedi'i wneud ar lysywod pendoll yr afon, gan ein galluogi i ddeall eu gwasgariad presennol o fewn yr afon. Mae Rich Cove, ein huwch-swyddog monitro, wedi tagio 25 o lysywod pendoll yr afon dros yr ychydig fisoedd diwethaf, a byddwn yn casglu data o rwydwaith o tua 45 o dderbynyddion a ddefnyddir yn yr afon i edrych ar eu symudiadau. Byddwn hefyd yn tagio llysywod pendoll y môr pan fyddant yn dechrau mynd i mewn i'r afon dros yr wythnosau nesaf.
Os yw unrhyw un yn treulio amser ar lan yr afon ac yn dymuno bod yn rhan o'n grŵp gwyddoniaeth dinasyddion i roi gwybod am unrhyw beth a welwyd, cysylltwch â Joel (joel.rees-jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk).
|
|
|
Un o'r cynlluniau ffensio mwyaf yr ydym wedi'i gynnal yn y dalgylch yw prosiect ger Shocklach, Swydd Gaer. Ym mis Ebrill, gwnaeth ein contractwyr lleol ffensio darn di-dor o 4.5 cilometr o Afon Dyfrdwy i greu coridor glan yr afon. Mae'r ‘coridor’ yn llain glustogi o dir ar hyd glan yr afon y gwnaethom ei ffensio i atal da byw rhag sathru ar y glannau, yn ogystal ag annog ecosystemau glan yr afon i ffynnu. Yn y cynllun hwn, lled cyfartalog coridor glan yr afon oedd tua 25 metr, tra oedd rhai rhannau o’r ffens dros 75 metr o lan yr afon, a fydd yn rhoi cyfle gwych i natur ffynnu yn yr ardal hon.
Y llynedd, plannwyd 4,000 o goed ar y safle, gan gynnwys amrywiaeth eang o rywogaethau fel gwern cyffredin, helyg, derw, ffawydd, coed cyll, criafol, pinwydd yr Alban, masarn bach, celyn, poplys du, aethnenni, oestrwydd, castanwydd pêr, castanwydd y meirch, cerddin, a phiswyd. Bydd y cynllun ffensio yn sicrhau bod da byw yn cael eu cyfyngu rhag cael mynediad i’r cwrs dŵr, gan leihau faint o waddod a deunydd organig sy’n cyrraedd Afon Dyfrdwy. Bydd y coed a blannwyd yn helpu i sefydlogi’r glannau a chreu cynefin a chysgod ar hyd glan yr afon yn ogystal ag yn yr afon ei hun. Gyda’i gilydd, mae’r ffensio a’r plannu coed yn darparu buddion lluosog i’r amgylchedd lleol yn ogystal ag arferion ffermio ar y safle.
|
|
|
Mynychodd dau o’n staff prosiect y 24ain Gynhadledd Flynyddol ar Adfer Afonydd yn Birmingham ar 19 a 20 Ebrill. Ffocws y gynhadledd oedd cyfuno barn y gymuned adfer afonydd (400 o gyfranogwyr) i gynnig strategaeth weithredu ar gyfer cyflawni uchelgeisiau adfer afonydd yn y DU. Roedd yn ddeuddydd hynod ddiddorol, gyda chyflwyniadau a thrafodaethau ar ystod eang o weithgareddau a methodolegau prosiect – o adfer afonydd trefol i weithio gyda ffermwyr gwledig, o ailgysylltu gorlifdiroedd i gynnwys dinasyddion-wyddonwyr yn y gwaith monitro. Dolenni i wylio'r cyflwyniadau yma.
Cynrychiolwyd gweithgareddau prosiect LIFE Afon Dyfrdwy, fel rhan o ymdrechion ehangach CNC i warchod y fisglen berlog, sydd mewn perygl difrifol, mewn cyflwyniad ar “Adfer afonydd ar gyfer molysgiaid nerthol Cymru – prosiect atal difodiant”. Cafwyd ail gyflwyniad, ar ein gwaith i wella cored Erbistog ar gyfer llwybr pysgod, gan y cwmni ymgynghorol AECOM. Disgrifiodd y gwaith modelu a wnaed i asesu newid tebygol mewn gwaddod afon a phroffil glan yr afon, yn dilyn y cynllun i gael gwared ar y gored yn rhannol. Gwnaeth y ddau gyflwyniad ennyn llawer o ddiddordeb gan y gynulleidfa, fel y dangosir gan gwestiynau dilynol.
O ystyried yr heriau lluosog sy’n wynebu afonydd a bioamrywiaeth y DU, roedd yn galonogol gweld cymaint o enghreifftiau rhagorol o brosiectau’n gwneud gwahaniaeth. Bydd y strategaeth weithredu o ganlyniad i'r gynhadledd yn helpu i roi arweiniad i sicrhau cefnogaeth wleidyddol, ariannol ac adnoddau ar gyfer y gwaith hollbwysig hwn.
|
|
|
Ymweliad NEEMO ym mis Gorffennaf Mae rhaglen LIFE Afon Dyfrdwy yn cael ei monitro gan fonitoriaid allanol sy’n adrodd i fyny i LIFE, gan sicrhau bod y gwaith rydym yn ei gwblhau yn cydymffurfio â deddfau cyllid a chaffael a’n bod yn cyflawni’r amcanion a amlinellir yn y cais. Fel rhan o'r gwaith hwn, rydym yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda'n monitor, a hefyd 'Ymweliad Cenhadol' blynyddol. Eleni, bydd y rheolwr prosiect o Asiantaeth Weithredol Hinsawdd, Seilwaith ac Amgylchedd Ewrop (CINEA), sy'n goruchwylio holl brosiectau natur a bioamrywiaeth LIFE, yn gwmni i’n monitor. Bydd hon yn daith ddeuddydd ym mis Gorffennaf o amgylch y dalgylch i ddangos llawer o'r gwaith rydym wedi'i gwblhau hyd yma i'r monitoriaid. Edrychwn ymlaen at glywed eu hadborth.
Cored Caer Mae gwaith newydd ddechrau yng Nghaer i wella'r llwybr i lawr yr afon i eogiaid a brithyllod ifanc ar bwys cored Caer. Mae giât bresennol yn ei lle ar grib y gored nad yw wedi gweithio ers dros 20 mlynedd; drwy osod giât newydd yn ei lle, bydd yn galluogi CNC i sicrhau nad yw’r gleisiaid yn cael eu hoedi ar eu taith i lawr yr afon gan y gored. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynnydd.
Diwrnod Llif Afon Dyfrdwy Bydd swyddogion LIFE Afon Dyfrdwy ar y safle ar y diwrnod agored cymunedol ‘Llif Afon Dyfrdwy’ cyntaf ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr ddydd Sadwrn 27 Mai, a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru. Mae’n gyfle gwych i gwrdd ag aelodau’r tîm a darganfod mwy am yr holl waith rydym wedi bod yn ei wneud i wella amodau yn nalgylch Afon Dyfrdwy, a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw'r dyddiad a galwch heibio i ddweud helô.
Ewch i’n gwefan am yr holl newyddion diweddar ar y prosiect, neu dilynwch @LIFEAfonDyfrdwy ar ein ffrydiau Facebook, Instagram, a Trydar i gael gwybod beth rydym wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar.
Gwefan: naturalresources.wales/LIFEAfonDyfrdwy
E-bost: lifedeeriver@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
|
|
|
|
|