|
Gair neu ddau o newyddion ac ysbrydoliaeth ar gyfer ymwelwyr sy’n ymweld â’n coetiroedd a’n Gwarchodfeydd Natur Genedlaethol.
Mae côr y wig yma eto a’u cân a’ chlychau’r gog yn gyforiog o liw. Oes gwell tymor na’r gwanwyn! Rydym ni wedi dewis pum coedlan ar eich cyfer i chi i’w cerdded a’u mwynhau’r lliwiau hyfryd yn ystod y gwanwyn.
Mae’r llwybrau cerdded yn cychwyn o un o’n meysydd parcio gydag arwyddion clir o’r dechrau i’r diwedd. Mae pob llwybr yn llai na dwy filltir o hyd. Mae rhai yn addas ar gyfer cadeiriau gwthio, cadeiriau olwyn neu sgwteri pwrpasol oddi ar y ffordd. Mae pa mor serth ydy’r llwybr yn ogystal â gwybodaeth am y llwybr ar ein gwefan.
Ewch i’n gwefan o deithiau cerdded ar gyfer y gwanwyn i wneud eich dewis
|
|
Mae Coedydd Aber yn goetir brodorol gyda llwybr cerdded sy’n dilyn dyffryn i raeadr ysblennydd, a elwir yn lleol fel Rhaeadr Aber.
Mae'r dyffryn hwn, sydd wedi'i gerfio gan rewlif yn ogystal â gwaith yr afon yn erydu wedi creu ceunant sydd wedi denu pobl ers miloedd o flynyddoedd. Gallwch bellach ymweld â'n harddangosfa sy’n cynnig dehongliad newydd sy’n dangos sut mae hinsawdd, daeareg a gweithgaredd dynol i gyd wedi gadael eu hôl yma.
Mae'r arddangosfa wedi'i lleoli mewn adeilad carreg bach ar ochr y llwybr i'r rhaeadr gyda mynediad am ddim.
Ewch i’n gwefan i gynllunio eich ymweliad a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedydd Aber
|
|
Mae Taith Gerdded Allt Fedw yng Ngelli Ddu ger Aberystwyth wedi ailagor yn ddiweddar.
Mae’r llwybr wedi’i ad-drefnu i gynnwys bryngaer Allt Fedw sydd dros ddwy fil o flynyddoedd oed. Mae golygfeydd panoramig gwych i’w gweld o’r fryngaer ar draws cwilt o fryniau a dyffrynnoedd sy’n ymestyn draw hyd at Bumlumon sef mynydd uchaf Canolbarth Cymru.
Mae'r llwybr 2.2 milltir (3.6 cilometr) wedi'i arwyddo’n glir yr holl ffordd o'r maes parcio ac yn ôl. Mae’n daith gerdded gymedrol gyda rhai dringfeydd hir a disgynfeydd serth. Mae'r wyneb yn arw ac o bosibl yn wlyb mewn mannau ac argymhellir gwisgo esgidiau cerdded gyda gafael da.
Mae Llwybr Marchogaeth Allt Fedw (3.5 milltir/5.6 cilometr) hefyd wedi ailagor.
Mae’r llwybr ceffylau gydag arwyddion clir yn cynnig cyfle i’r rhai sy’n hoffi reidio i fwynhau amrywiaeth o arwynebau, coetiroedd a llecynnau agored - heb sôn am y cyfle i fwynhau golygfeydd godidog o’r wlad o’u cwmpas.
Ewch i’n gwefan i gynllunio eich ymweliad a’r Allt Fedw
|
|
Rydym yn trefnu rhaglen ar gyfer cynnal sesiynau tynnu lluniau yn ein coetiroedd a’n Gwarchodfeydd Natur Genedlaethol bob blwyddyn. Nod y sesiynau tynnu lluniau hyn ydy dangos pobl sy’n profi ein lleoliadau a’n cyfleusterau i ymwelwyr, a cheisio annog pobl eraill i ymweld â nhw.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n amrywio o deuluoedd, ffrindiau, cyplau a cherddwyr ci o bob oed, gallu ac ethnigrwydd i gymryd rhan yn sesiynau tynnu lluniau ar gyfer 2023.
Rydym yn defnyddio ffotograffydd proffesiynol sy'n cysylltu'n uniongyrchol â'n gwirfoddolwyr i gytuno ar amser sy’n gyfleus i'r ddwy ochr ar gyfer tynnu lluniau a gwneud trefniadau.
Gellir defnyddio’r lluniau ar ein gwefan, mewn ymgyrchoedd ar ein cyfryngau cymdeithasol, mewn cyhoeddiadau print ac ar baneli croeso ac arwyddion eraill, a byddai angen i bob gwirfoddolwr (neu riant/gwarcheidwad) lofnodi ffurflen ganiatâd i roi caniatâd i ni gadw a defnyddio’r lluniau.
Nid oes tâl am gymryd rhan ond rydym yn trefnu i wirfoddolwyr gael printiau o dri o'u hoff luniau o'r digwyddiad fel diolch.
Am fwy o wybodaeth e-bostiwch Mary Galliers, Ymgynghorydd Arbenigol Hamdden a Hyrwyddo Mynediad ar Ystadau ar mary.galliers@naturalresourceswales.gov.uk
|
|
Mae croeso i gŵn yn ein coetiroedd a gwarchodfeydd. Wrth ymweld â chŵn, byddwch cystal â pharchu pobl eraill, anifeiliaid a bywyd gwyllt trwy ddilyn y Cod Cerdded Cŵn.
Mae'n hanfodol eich bod yn cadw eich ci dan reolaeth ac yn y golwg, a defnyddio tennyn lle bo angen. Rhaid i chi roi baw eich ci mewn bag a bin neu fynd ag ef i ffwrdd gyda chi os nad oes bin ar gael.
Mae gennym ni ffilm fer newydd sy'n esbonio beth arall sydd angen i chi ei wneud i fynd am dro yn ddiogel a difyr gyda'ch ci.
Ewch i’n gwefan i weld y ffilm fer am y Cod Mynd a’r ci am dro
|
|
Gyda dyfodiad y gwanwyn, mae llawer ohonom yn edrych ymlaen at ddyddiau hirach, mwynach a chyfle i dreulio mwy o amser yn yr awyr iach.
Yn ei blog diweddaraf, mae ein hymgynghorydd iechyd yn esbonio pam mae’r gwanwyn yn gwneud i ni deimlo’n dda, ac mae’n cynnig 5 ffordd i hybu ein hiechyd a’n lles y tymor hwn.
Cyfle i ddarllen y blog am y gwanwyn ar ein gwefan
|
|
Rydym ni’n mawr obeithio ein bod wedi rhoi ychydig flas i chi o’r hyn sy’n cymryd lle i rai o’r lleoedd rydym yn gofalu amdanyn nhw ledled Cymru. Gobeithio fod hyn wedi rhoi rhywfaint o ysbrydoliaeth i chi i fynd allan i’r awyr agored.
Rhowch wybod i ni beth yw eich barn am y cylchlythyr hwn yn ogystal â rhannu unrhyw syniadau sydd gennych ar gyfer yr hyn i’w gynnwys i’r rhifynnau nesaf.
A beth am anfon y cylchlythyr ymlaen at ffrindiau a theulu fyddai wrth eu bodd i wybod mwy am Gymru?
I dderbyn mwy o wybodaeth am ein coetiroedd a’n Gwarchodfeydd Natur Genedlaethol a’r cyfleusterau sydd ar gael i ymwelwyr, yna ewch i’n gwefan Ar grwydr
|
|
|
|