|
Croeso i rifyn y Gaeaf o gylchlythyr LIFE Afon Dyfrdwy!
Ein cynnydd hyd yn hyn...
- 10,590 o goed wedi'u plannu
- 5,500 tunnell o raean, clogfeini a deunydd pren wedi'u cyflwyno i'r afon
- 29km o waith ffensio glan yr afon wedi’i gwblhau
- 11 ffos ddraenio yn y goedwig wedi'u huwchraddio
- 6 rhwystr wedi'u tynnu neu eu haddasu
- 1 croesfan afon coedwigaeth newydd wedi’i osod
|
|
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi cwblhau’r gwaith o adeiladu pont ar gyfer peiriannau coedwigaeth dros ryd o fewn bloc coedwigaeth Penaran, yn y dalgylch uchaf. Gwyliwch fideo tros-amser o'r gwaith adeiladu yma.
Cyn adeiladu'r bont, yr unig ffordd i groesi'r afon oedd gyrru'n syth drwy'r afon dros y rhyd bresennol. Bydd y strwythur yn atal amcangyfrifiad o 2,000 o deithiau lorïau cymalog 44 tunnell rhag gorfod gyrru'n uniongyrchol drwy'r cwrs dŵr yn ystod cynaeafu a chludo. Dros y 5 mlynedd nesaf amcangyfrifir y bydd tua 25,000 tunnell o goed yn cael eu cynaeafu a'u cludo ar draws y llwybr hwn.
Bydd y gwaith adeiladu yn cyfyngu ar y gwaddodion a'r maetholion sy'n mynd i mewn i'r cwrs dŵr a bydd hefyd yn lleihau'r tebygolrwydd y bydd unrhyw halogion pellach yn mynd i mewn i Afon Dyfrdwy.
Mae gwyddoniaeth sy’n dod i’r amlwg wedi dangos bod cyfansoddion mewn teiars yn cael effaith angheuol ar eogiaid arian. Er bod prosiect LIFE Afon Dyfrdwy yn canolbwyntio ar eogiaid Iwerydd, nid ydym yn gwybod eto a fydd yr effeithiau hyn yn effeithio ar bob rhywogaeth o eog (ac organebau eraill). Felly, bydd cael gwared ar y risg bosibl drwy adeiladu’r bont hon yn arwain at sawl mantais. Darllenwch yr astudiaeth yma.
|
|
|
Yn hanesyddol bu Nant Gwryd, un o isafonydd Afon Ceiriog, i'r de o Bontfadog yn Nyffryn Ceiriog, yn isafon silio pysgod pwysig i sewin ac eogiaid. Fodd bynnag, arweiniodd gwelliannau ffyrdd rai blynyddoedd yn ôl a gosod caergewyll yn sianel yr isafon gyfagos at erydu cwymp fertigol 6 throedfedd a sianel wedi’i rhychu, gan ei gwneud yn amhosibl i bysgod symud i fyny'r afon. Mae llystyfiant trwchus yn cuddio'r cwymp am ran helaeth o'r flwyddyn felly nid oedd yn broblem amlwg yn syth. Ni ddangosodd arolygon electrobysgota a gynhaliwyd yn ystod haf 2022 unrhyw salmonidau i fyny’r afon o’r strwythur hwn, gan gadarnhau ei fod yn rhwystr artiffisial nad oedd modd i salmonidau mudol fynd drwyddo.
Yn dilyn trafodaethau a chydweithrediad rhagorol gan y ffermwr lleol, a chymeradwyaeth Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin trwy Gyngor Wrecsam, dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu ysgol bysgod o rampiau osgoi, gan ddefnyddio clogfeini a graean o wahanol faint, a ffensys stoc i gadw da byw draw o'r ymyl. Bydd y ramp grisiog o ganlyniad yn galluogi pysgod i symud i fyny ac mae'n welliant sylweddol i'r sefyllfa flaenorol. Nid oedd y strwythur hwn yn un o rwystrau targed gwreiddiol y prosiect, fodd bynnag fe wnaethom benderfynu y byddai gwneud gwelliannau yma o fudd mawr i’r amgylchedd. Byddwn yn monitro'r safle gydag arolygon electrobysgota yn yr haf, ac mae arsylwi unrhyw welyau silio (claddau) yn parhau, i weld a yw hwylusfa i bysgod wedi ailddechrau.
|
|
|
Ddiwedd mis Tachwedd a mis Rhagfyr, mae aelodau’r tîm wedi bod allan ar draws dalgylch Afon Dyfrdwy yn cyfrif claddau eogiaid. Rydym yn gwneud y gwaith hwn i asesu effaith ein gwaith yn yr afon, fel cyflwyno graean, ar nifer yr eogiaid. Tra rydym allan, rydym hefyd yn gweld claddau sewin, ac mae'n rhoi cyfle i ni gadw llygad ar faterion eraill y gallwn fynd i'r afael â nhw drwy'r prosiect.
Yn galonogol, gwelwyd claddau ar y graean a gyflwynwyd gennym yn Afonydd Tryweryn, Alwen a Brenig. Gwelsom hefyd gladdau ar safle Aerfen ar y brif afon lle cyflwynwyd clogfeini yn ôl i'r afon gennym yn ddiweddar. Bydd arolygon electrobysgota yn haf 2023 yn rhoi mwy o wybodaeth am niferoedd pysgod ifanc yn yr ardaloedd hyn, gan ddarparu tystiolaeth bellach o fanteision y gwaith.
Pan fydd eogiaid yn silio, mae'r benywod yn defnyddio eu cynffonau i greu pant yng ngwely'r afon lle maent yn dodwy eu hwyau cyn symud ychydig i fyny'r afon a gorchuddio'r wyau â graean, gelwir hyn yn gladd. Mae eogiaid yn aml yn torri mwy nag un cladd, a gall ddodwy rhwng 1200 a 1500 o wyau fesul cilo o bwysau'r corff.
|
|
|
Fel rhan o’n hymdrechion i wella rheolaeth dŵr yn y goedwigaeth, fe wnaethom waith yn ddiweddar ar 11 ffos ar hyd tua 5 milltir o lwybr coedwigaeth ym mloc coedwigaeth Aberhirnant a Llangywer. Mae ffosydd yn gyrsiau dŵr caeedig, fel pibellau mawr, a ddefnyddir i ddargyfeirio neu ddraenio dŵr o dir uwch ei ben. Ar ôl cynnal arolwg o'r bloc coedwigaeth cyfan, fe wnaethom ddisodli 8 ffos bresennol a oedd mewn cyflwr gwael a gosod 3 ffos newydd ychwanegol i wahanol safleoedd ar hyd y llwybr coedwigaeth. Bydd gwella'r ffosydd hyn yn lleihau faint o waddod a halogion eraill o'r llwybr a fydd yn cael eu cludo i gyrsiau dŵr cyfagos yn y dalgylch yn sylweddol, yn enwedig yn ystod fflachlifoedd.
Gosodwyd trapiau gwaddod ar hyd y ffosydd fel dull syml o ddal gwaddod. Mae'r trapiau'n golygu cloddio twll uwchben neu o dan ffos i amharu ar lif y dŵr, mae hyn yn caniatáu i ronynnau setlo wrth barhau i adael i ddŵr basio trwy'r all-lif, gan adael gwaddod ar ôl yn y trap.
Bydd dŵr sy'n cael ei ddargyfeirio o'r trapiau hefyd yn creu llaciau gwlyb a sympiau ar gyfer y dŵr dros ben. Bydd yr ardaloedd hyn o laciau’n cael eu rheoli mewn cynlluniau adnoddau coedwig yn y dyfodol ar gyfer cael gwared ar gonwydd na fydd yn ffynnu yn yr ardaloedd gwlypach, a chaniatáu i rywogaethau collddail brodorol o helyg a gwern i boblogi.
|
|
|
Fel rhan o gydran monitro prosiect LIFE, rydym yn ceisio casglu gwybodaeth am ecoleg a bioleg ein rhywogaethau ACA yn Afon Dyfrdwy. Mae hyn yn cynnwys rhywogaethau llysywod pendwll mudol – llysywod pendwll y môr (Petromyzon marinus) a llysywod pendwll yr afon (Lampetra fluviatilis). Yn union fel yr eog, maen nhw'n gadael yr afon yng nghyfnod ifanc eu bywyd ac yn mynd i'r môr i dyfu. Yna maent yn dychwelyd yn eu llawn dwf i silio yng ngraean gwely’r afon.
Er mwyn rheoli’r poblogaethau hyn yn effeithiol, mae’n bwysig casglu data ar yr adeg o’r flwyddyn maent yn cyrraedd yr afon, sut maent yn mudo i fyny’r afon, pa mor bell maent yn teithio, unrhyw rwystrau i fudo, a sefydlu’r ardaloedd allweddol lle maent yn silio. Mae cael syniad o faint poblogaeth hefyd yn berthnasol iawn, felly rydym wedi dechrau rhaglen drapio ddwys i ddal llysywod pendwll llawn dwf ac rydym yn defnyddio'r data hwn ar y cyd â chyfrifiadau gweledol.
Yn rhan isaf Afon Dyfrdwy, rydym wedi gosod camera sonar tanddwr (Sonar Delweddu Datrysiad Addasol neu ARIS) sy'n defnyddio sain yn hytrach na golwg, i gasglu data ar fudo i'r afon. Mae’r darn hwn o offer soffistigedig yn sganio 96 pelydr o sain yn llorweddol i mewn i’r golofn ddŵr ac mae’r sain yn bownsio’n ôl o beth bynnag mae’n ei tharo, gan ganiatáu i ‘ymennydd’ y cit ARIS drawsnewid hyn yn ddelwedd uwchben o’r hyn sy’n symud trwy’r dŵr. Defnyddir hwn yn y tywyllwch neu mewn dŵr lliw pan fydd bron pob llysywen bendoll yn mudo. Yna gellir gweld y delweddau yn ôl yn y swyddfa i gyfrif a mesur y pysgod.
Yn gynnar yn 2022, fe wnaethom lwyddo i weld llysywod pendwll yr afon yn mudo i ddŵr croyw am y tro cyntaf (nid oedd arbenigwyr ARIS yn siŵr a allai’r offer hwn weld pysgod mor fain), ac mae’r recordiadau o haf 2022 yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd i gael maint rhediad llinell sylfaen ar gyfer llysywod pendwll y môr yn eu llawn dwf.
|
|
|
Ydych chi erioed wedi meddwl pa newidiadau sy'n digwydd wrth i wyau pysgod ddatblygu o fod yn wyau bach i fod yn silod mân, ac yna’n bysgod? Mae ein prosiect deorfa ystafell ddosbarth poblogaidd yn ôl unwaith eto gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae Wardeiniaid Llyn Tegid wedi sefydlu deorfa frithyllod dros dro yn Ysgol O M Edwards yn Llanuwchllyn, yn y dalgylch uchaf. Trwy sefydlu’r ddeorfa a gofalu am wyau’r pysgod, bydd disgyblion yn dysgu am ecoleg yr afon a chylch bywyd brithyllod trwy oruchwylio eu datblygiad, o wyau wedi’u ffrwythloni i silod mân mewn tanc pysgod arbennig.
Yn ogystal â deorfa'r ysgol, bydd y Wardeiniaid yn goruchwylio deorfa arall yn eu canolfan ar lan Llyn Tegid. Oddi yno byddant yn monitro cyflwr yr wyau ac yn paratoi dyddiaduron fideo ar adegau allweddol yn eu datblygiad. Maen nhw hefyd wedi sefydlu llif byw 24/7 o'r tanc fel y gallwch chi wylio'r pysgod yn deor mewn amser go iawn! Mae pecyn addysg cynhwysfawr yn llawn gweithgareddau hefyd ar gael ar dudalen we’r prosiect deorfa, fel y gall ysgolion ledled y wlad elwa o’r prosiect gwych hwn.
Ar ôl deor, bydd y silod mân yn aros yn y ddeorfa nes eu bod wedi tyfu’n ddigon mawr i oroesi yn Afon Twrch, un o isafonydd Afon Dyfrdwy. Er y bydd tua 100 o wyau yn cael eu gosod ym mhob tanc, yn anffodus nid oes disgwyl i bob un oroesi gan y bydd rhai wyau yn naturiol yn methu, a bydd rhai pysgod yn destun profion afiechyd cyn y gellir rhyddhau'r gweddill i'r afon er mwyn amddiffyn y stociau gwyllt brodorol o frithyll.
Gwyliwch disgyblion Ysgol O M Edwards yn sgwrsio gyda Newyddion S4C am y prosiect deorfa yma.
|
|
|
Ymyriadau ar ffermydd Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd gwaith yn cael ei wneud ar nifer o ffermydd ar draws y dalgylch i leihau faint o faetholion sy’n mynd i mewn i gyrsiau dŵr lleol, ac yn y pen draw i ACA Dyfrdwy (Ardal Cadwraeth Arbennig). Mae hwn yn waith ychwanegol gan dîm y prosiect i gynnig buddion ychwanegol mewn ardaloedd lle rydym wedi gwneud gwaith arall, fel ffensio, trwy'r prosiect.
Cored Caer Mae gwaith dylunio parhaus yn cael ei wneud gan gontractwr allanol i ddylunio'r hwylusfa bysgod i'w gosod yng nghored Caer. Y prif fater ar y safle hwn yw oedi gyda symudiad y gleisiaid i lawr yr afon, bydd yr ateb arfaethedig yn lliniaru'r mater hwn ac yn lleihau oedi yn y strwythur.
Myfyriwr PhD Rydym yn ffodus i allu cynnig cyfle i fyfyriwr PhD presennol weithio gyda’r prosiect am 3 mis i gynorthwyo gyda rhai o elfennau monitro’r prosiect. Bydd hyn o fudd i’r prosiect gan y byddwn yn gallu ymchwilio’n fanylach i rai o’r canlyniadau rydym yn eu gweld, a bydd hefyd o fudd i’r myfyriwr gan y bydd yn rhoi cyfle iddynt ennill profiad ymarferol gwerthfawr.
|
|
|
|
|