|
Croeso i rifyn gaeaf 2022/23 y cylchlythyr gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiect Twyni Byw.
Dyma rai o uchafbwyntiau tymor gwaith yr hydref a'r gaeaf, a chynlluniau ar gyfer y misoedd nesaf...
|
|
Rydyn ni wedi cyrraedd carreg filltir bwysig ym Morfa Harlech, diolch i’r gwaith sydd wedi’i gwblhau i drawsnewid 16.5ha o blanhigfa coetir masnachol, aeddfed yn dwyni tywod agored. Mae’r gwaith adfer helaeth hwn yn ganlyniad i bedair blynedd o waith caled gan Dimau Twyni Byw, Coedwigaeth a Rheoli Tir CNC. Diolch hefyd i Glwb Golff Brenhinol Dewi Sant am eu cefnogaeth.
Cafodd 7ha o'r blanhigfa eu torri yn ôl yn 2015, ac yna 9.5ha arall yn 2022 - y cyfan wedi'i werthu i'r farchnad bren. Rydyn ni wedi tynnu 5.5ha o foncyffion, 13 ha o docion, 14ha o rywogaethau estron goresgynnol ac rydyn ni wedi creu bron i 6 ha o gynefin tywod noeth hefyd.
Yn ystod eu hoes 50 mlynedd, newidiodd y conwydd gyflwr priddoedd y twyni tywod yn sylweddol, felly mae adfer radical o’r math hwn yn gofyn am lawer o waith cynnal a chadw dilynol. Rydyn ni hefyd wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr i archwilio a allwn ni gyflwyno pori ar y safle ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor. Bydd coetir brodorol nawr yn datblygu yn nolydd y twyni, gan greu trosglwyddiad naturiol i'r coetir ymhellach i mewn i’r tir.
|
|
|
Ym mis Medi, cloddiodd Twyni Byw 'ricyn' yn y twyni - siâp V yng nghefnen y blaendwyni ar Gomin Aberffraw, Ynys Môn.
Mae hyn wedi creu cynefin tywod noeth newydd, sy'n caniatáu i'r twyni symud mewn ffordd naturiol ac yn cynyddu’r 'glaw tywod' llawn calsiwm ar laswelltir sy'n blodeuo gerllaw.
Mae’n rhoi hwb i infertebratau prin, a rhywogaethau planhigion arbenigol mewn ardal lle mae'r twyni wedi sefydlogi'n ormodol ac wedi'u gorchuddio â llystyfiant dros amser.
|
|
|
Yn llennyrch agored Coedwig Niwbwrch, mae’r prosiect wedi adfywio pum ardal o wlyptir, sef cyfanswm o dros 6ha, sydd wedi bod yn dioddef o dwf gormodol o lystyfiant, rhywogaethau estron ymledol a lefelau dŵr is:
- Mae’r pyllau presennol a newydd ym Mhant Mawr a Hendai wedi'u crafu er mwyn cynyddu dyfnder a chreu llethrau graddol.
- Ym Mhant Bodowen, Ffrydiau a Phant yr Wylan mae cynefin llaciau llaith y twyni wedi'i grafu'n ôl i dywod noeth, a fydd yn dal mwy o ddŵr yn y gaeaf a'r gwanwyn ac yn creu cynefin arloesol i rywogaethau prin.
Bydd y gwaith hwn yn helpu planhigion prin fel Tafol y Traeth ac amrywiaeth o fwsoglau a llysiau'r afu prin i ffynnu, yn ogystal â gwella amodau ar gyfer y Fadfall Ddŵr Gribog, rhywogaeth sydd wedi’i gwarchod gan Ewrop. Bydd y pyllau’n ffynhonnell fwy dibynadwy o ddŵr ar gyfer da byw sy'n pori hefyd.
Yn Nhywyn Niwbwrch, mae Twyni Byw wedi ffensio tua 4km yn ddiweddar ar ran ddeheuol a gorllewinol y twyni. Mae’n dod â chyfanswm y ffensys newydd sydd wedi’u codi i 8km.
Roedd yr hen ffens mewn cyflwr gwael, felly mae gosod ffens newydd yn ei lle yn caniatáu i ddefaid - yn ogystal â gwartheg a merlod – bori’r safle; gan sicrhau bod yr holl dda byw yn ddiogel. Mae pori helaeth yn cael effaith gadarnhaol ar gynefinoedd y twyni a bywyd gwyllt cysylltiedig drwy gadw glaswelltir yn agored, creu darnau o dywod noeth a chyfyngu ar dwf prysgwydd a llystyfiant trwchus.
|
|
|
Mae gwaith i leihau faint o rafnwydd y môr sy'n tyfu ar y twyni wedi parhau dros yr hydref yn Nhwyni Tywod Pen-bre a Thwyni Talacharn-Pentywyn. Mae rhafnwydden y môr yn rhywogaeth estron yn y rhan hon o'r DU ac mae wedi ymledu dros sawl hectar o dwyni ar draws de Cymru. Yn ogystal â chreu dryslwyni pigog caeedig, mae’n fygythiad i laswelltiroedd y twyni oherwydd ei bod yn dal tywod yn ei le ac yn sefydlogi nitrogen.
Ym Maes Tanio Pentywyn, cafodd 37ha o glystyrau llai o rafnwydd y môr eu chwistrellu â chwynladdwr. Yn ogystal, cafodd bron i 4ha o brysgwydd rhafnwydd y môr trwchus eu gwaredu drwy eu tynnu o'r ddaear gan ddefnyddio teclyn 'gafael' arbennig wedi’i gysylltu â chloddiwr.
|
Cliriodd contractwyr ardaloedd trwchus o rafnwydd y môr yn Nhwyni Pen-bre gan ddefnyddio cloddwyr i dynnu'r gwreiddiau a chreu ardaloedd newydd o gynefin tywod noeth. Bydd y crafiadau hyn yn rhoi hwb i'n rhywogaethau prin sy'n ffafrio amodau agored hanfodol. Cafodd ardaloedd gwasgaredig, llai o rafnwydd y môr eu chwistrellu gyda chwynladdwr ar draws 80ha ar y safle.
|
|
|
Hydref / gaeaf 2022 oedd y drydedd flwyddyn o dorri glaswelltir y twyni yn Nhwyni Whiteford, Cynffig a Merthyr Mawr. Mae hyn yn gwella ansawdd y cynefin yn sylweddol.
Mae twyni tywod angen priddoedd sy’n brin o faetholion i gynnal bywyd gwyllt; ac felly mae torri gwair a chael gwared ar unrhyw doriadau yn lleihau lefelau maetholion, gan roi’r cyfle i blanhigion blodeuol sy'n tyfu'n is, fel y tegeirian y fign galchog, ffynnu drwy leihau cystadleuaeth. Mae torri gwair hefyd yn annog cwningod i bori sydd yn ei dro yn helpu i gadw'r glastir yn isel dros amser.
|
|
|
Mae llac newydd 0.7ha o faint wedi'i gloddio yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig. Mae llaciau’n ardaloedd isel yn y twyni sydd dan ddŵr yn y gaeaf ac yn gorsiog yn yr haf. Mae cynefinoedd unigryw y gwlyptiroedd hyn yn ddelfrydol ar gyfer amrywiaeth o blanhigion arbenigol y twyni, yn enwedig tegeirianau.
Cafodd yr ardal lle crëwyd y llac ei chlirio yn 2019 gan dîm Twyni Byw rhag prysgwydd oedd wedi lledu, a'r gobaith nawr yw y bydd tegeirian y fign galchog – rhywogaeth brin iawn a gafodd ei chofnodi gerllaw – yn cytrefu’r llac newydd hwn yn y dyfodol.
Yn ogystal, yn yr hydref cafodd 8 crafiad (neu fwlch gwynt) sych, siâp bowlen eu hadfer yn y tywod gyda chyfanswm arwynebedd o 1.3ha. Mae'r cloddwyr yn ôl ar y safle nawr, i gwblhau'r ail gam o grafu tua 1ha arall. Bydd y gwaith yn sicrhau cyflenwad newydd o dywod yn y blaendwyni a bydd yn creu cynefin tywod noeth y mae rhywogaethau arloesol yn dibynnu arno.
|
|
|
Mae rhagor o waith yn yr arfaeth ar gyfer mis Chwefror 2023 yn Nhwyni Whiteford ar ôl i'r conwydd gael eu tynnu’r gaeaf diwethaf. Bydd y gwaith yn cynnwys clirio coed sydd wedi cael eu chwythu gan y gwynt a thocion sydd wedi disgyn, yn ogystal â thynnu prysgwydd o laciau’r twyni. Byddwn ni'n defnyddio rhywfaint o'r tocion a'r pren i greu cartrefi newydd ar gyfer cwningod ar y twyni mewn ymgais i gynyddu eu niferoedd, gan fod cwningod yn gweithredu fel peirianwyr naturiol ar gyfer cynefinoedd, gan gefnogi ecosystem iach.
|
|
Ewch draw i’n tudalen we newydd i gael yr holl newyddion diweddaraf am y prosiect a gwybodaeth am ganlyniadau a chanfyddiadau. Neu beth am ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol? Bydd ein Facebook, Instagram a Twitter yn cael eu diweddaru'n rheolaidd, gan roi cip ar ein cynnydd wythnosol, lluniau sy'n gysylltiedig â thwyni a phytiau byrion o gyfweliadau byr.
|
|
SoLIFE: LIFE 17 NAT/UK/000023
Mae prosiect Twyni Byw wedi derbyn cyllid gan Raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd. Ariannwyd yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
|
|
|
|
|
|