|
Rydym wedi dangos ein huchelgais i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur with i ni lansio prosiect corsydd crynedig LIFE.
Mae prosiect corsydd crynedig LIFE yn brosiect pum mlynedd sydd wedi’i ariannu gan yr UE ac sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, a’i amcan yw adfer mawndir, corsydd crynedig a’u tirweddau o wlyptiroedd ategol ehangach i statws cadwraeth ffafriol.
Y prif ffocws yw 'corsydd crynedig' - sy’n cael eu henw gan fod y ddaear yn ‘crynu’ dan draed pan fo'r amodau'n gywir.
Yn ystod oes y prosiect bydd tua 50 km o waith ffensio a seilwaith arall yn cael ei osod ar draws y safleoedd a fydd yn caniatáu’r lefelau cywir o bori cynaliadwy. Bydd gwaith torri glaswellt, crafu a chloddio yn digwydd er mwyn cael gwared o lystyfiant a rhywogaethau goresgynnol annymunol sydd ar hyn o bryd yn llethu'r planhigion a'r mwsoglau pwysig sy'n creu'r 'corsydd crynedig' hyn.
Meddai Martyn Evans, Pennaeth Gweithrediadau De-Orllewin Cymru:
"Mae'r gwaith gweithredu hwn ar fawndiroedd a fydd yn digwydd yn fuan ar brosiect corsydd crynedig LIFE, nid yn unig yn gwella amwynder lleol ar gyfer cenedlaethau heddiw a’r dyfodol, ond mae hefyd yn rhan bwysig o gyfraniad Cymru wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd yn fyd-eang."
|
|
|
Rydym wedi bod yn un o'r prif gyfranwyr i Ddeifio Dwfn Llywodraeth Cymru ar Fioamrywiaeth oedd yn asesu sut y gellir cyflymu adferiad natur ar draws ein tir a'n môr.
Mae'r grŵp bellach wedi nodi ei argymhellion, ac wrth groesawu'r rhain dywedodd Ceri Davies, ein Cyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer Tystiolaeth, Polisi a Chaniatáu a oedd yn rhan o'r gwaith:
"Mae natur o fudd i bawb, a dyna pam mae'n rhaid ei adfer a'i wneud yn wydn. Heb amgylchedd naturiol iach a gwerthfawr, rydym yn bygwth ein cyflenwad bwyd, ein hiechyd, ein swyddi, ein heconomi a'n hymdeimlad o le.
"Bydd yr argymhellion yn y deifio dwfn hwn yn sbarduno'r newidiadau sydd eu hangen i sicrhau Cymru sy'n gyfoethog i fyd natur.
"Rydym ni'n falch iawn o fod yn rhan o'r ymdrech gyffredin hon i gyflawni degawd o weithredu ar ein huchelgais i ddod yn sail i natur gadarnhaol, gan osod y sylfeini i bobl a bywyd gwyllt elwa am genedlaethau i ddod."
|
|
|
Rydym wedi lansio ymgynghoriad ar gynlluniau i ddiweddaru’r ffioedd am rai o'n trwyddedau – a rheiny wedi eu cynllunio i weithio’n well ar gyfer busnesau a’r amgylchedd a lleihau dibyniaeth ar y trethdalwr.
Nid yw’r ffioedd presennol, sy’n cynnwys trwyddedau a monitro cydymffurfio parhaus bellach yn adlewyrchu’r gost lawn o gyflenwi’r gwasanaethau, sy’n golygu bod arian trethdalwyr wedi cael ei ddefnyddio i lenwi’r bwlch.
O dan y cynigion a gyflwynir yn yr ymgynghoriad, mae talwyr ffioedd yn talu am y gwasanaethau llawn y maen nhw’n eu defnyddio. Y nod yw y bydd hyn yn arwain at amgylchedd a reolir yn well ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Mae’r adolygiad o ffioedd wedi ystyried ein holl swyddogaethau rheoleiddio – gan gynnwys y gweithgareddau hynny nas codwyd tâl amdanynt yn y gorffennol.
Dywedodd Nadia De Longhi, Pennaeth Rheoleiddio a Thrwyddedu:
“Rydym wedi cymryd y cam hwn i adolygu’r ffioedd ar gyfer ein gwasanaethau rheoleiddio er mwyn sicrhau eu bod yn fwy cysylltiedig â’r gost go iawn o gyflawni’r gweithgareddau, ac er mwyn sicrhau mai talwyr ffioedd, nid y cyhoedd, sy’n ysgwyddo’r gost.
"Rydym eisiau adennill ein holl gostau rheoleiddio fel y gallwn ailfuddsoddi adnoddau mewn mwy o weithgaredd cydymffurfiaeth ac mewn gwaith i atal llygredd rhag digwydd yn y lle cyntaf. Dylai canlyniad hyn fod yn system decach a mwy tryloyw a fydd yn arwain at ddiogelu a gwella’n hamgylchedd naturiol yn fwy effeithiol.”
|
|
|
Mae ymgyrch cwympo coed arloesol a drefnwyd i symud coed heintus gan ddiogelu cloddfeydd Rhufeinig hynafol yng Nghoedwig Mwyngloddiau Aur Dolaucothi,yn Sir Gâr, wedi cael ei chwblhau'n llwyddiannus.
Mae Coedwig Mwyngloddiau Aur Dolaucothi yn cael ei phrydlesu i ni gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae'n rhan o'r mwyngloddiau aur Rhufeinig cyfagos. Mae'n ardal ffrwythlon o ran archaeoleg, gyda Henebion Cofrestredig dynodedig gan gynnwys dyfrffosydd Rhufeinig, tanciau dŵr, cafnau golchi a chloddfeydd yn croesi’r safle.
Cafodd ardal naw hectar o faint yn y goedwig ei heintio gan glefyd coed llarwydd ac roedd angen cael gwared â’r coed. Roeddent yn sefyll yn farw ac yn fygythiad i ddiogelwch aelodau'r cyhoedd a'r nodweddion archaeolegol.
Dywedodd Caroline Riches, Rheolwr Gwaith Coedwig ar safle Mwyngloddiau Aur Dolaucothi:
"Mae cydweithio cryf a’r gallu i ddatblygu dull cynaeafu sensitif wedi arwain at lwyddo i symud y coed heintus yn ddiogel a gwarchod yr Henebion Cofrestredig yn Nolaucothi."
|
|
|
Mae cornel fach o Ynys Môn wedi’i henwi ymhlith y safleoedd daearegol gorau yn y byd.
Mae Ynys Llanddwyn, sy'n rhan o Goedwig a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch, wedi'i henwi yn rhestr y 100 o Safleoedd Treftadaeth Daearegol Cyntaf - safleoedd daearegol allweddol o bwysigrwydd gwyddonol rhyngwladol sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at ddatblygiad gwyddorau daearegol drwy gydol hanes.
Mae Ynys Llanddwyn a Choedwig Niwbwrch wedi’u ffurfio o gymysgedd o greigiau, gan gynnwys calchfaen, cornfeini a lafâu clustog y credir eu bod yn 500-600 miliwn o flynyddoedd oed o leiaf.
Dywedodd Raymond Roberts, Prif Ymgynghorydd Arbenigol Geoamrywiaeth:
"Dyma gydnabyddiaeth arbennig i Ynys Llanddwyn a Niwbwrch sy'n golygu ei fod yn sefyll ymhlith safleoedd daearegol pwysig ac eiconig eraill ar draws y byd ac yn cael ei gydnabod gan gymuned y gwyddorau daear am ei effaith wrth geisio deall y Ddaear a'i hanes."
|
|
|
Bellach, ni yw’r unig reoleiddiwr amgylcheddol ar gyfer safle Kronospan yn y Waun a bydd yn cynnal yr holl swyddogaethau rheoleiddio yn y dyfodol mewn perthynas â'i drwydded.
Cwblhawyd y broses o amrywio a chyfuno trwyddedau'r ddau reoleiddiwr, yn dilyn ymgynghoriad ar drwydded ddrafft a lansiodd ym mis Mehefin, a rhoddodd drwydded gyfunol i’r gweithredwr.
Meddai Lyndsey Rawlinson, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-ddwyrain Cymru:
"Mae sut y byddai Kronospan yn cael ei reoleiddio yn y dyfodol wastad wedi bod yn fater pwysig i'r gymuned leol. Mae dod yn unig reoleiddwyr y safle yn caniatáu inni sicrhau bod y gweithredwyr yn cydymffurfio â safonau perthnasol a thrwy hynny’n amddiffyn iechyd pobl a'r amgylchedd. Bydd hyn hefyd yn helpu i sicrhau cysondeb drwy gynnig un pwynt cyswllt i'r gweithredwr, y gymuned leol a'r rhanddeiliaid.
"Mae'r drwydded yn cynnwys nifer o amodau gwella i'r gweithredwr eu rhoi ar waith dros y 18 mis nesaf. Byddwn yn gweithio'n agos gyda Kronospan i sicrhau bod y gwelliannau hyn yn cael eu gwneud."
|
|
|
Mae gwaith i ail-greu cynefin newydd i helpu i fynd i’r afael â’r dirywiad mewn rhywogaethau prin sy’n hoff o fetel wedi’i gwblhau’n llwyddiannus gan ein tîm Amgylchedd yng Nghonwy.
Mae'r gwaith yn un o gyfres o brosiectau gaiff eu gweithredu gennym fel rhan o Raglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd y gwaith ar ddwy Uned yn Ardal Cadwraeth Arbennig Coedwig Gwydyr yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri sy'n gartref i boblogaethau cenedlaethol bwysig o blanhigion metaloffytaidd fel Mwsogl y Plwm a Chodywasg y Mwynfeydd.
Meddai Caroline Bateson, sy’n swyddog Natura 2000:
“Mae planhigion fel Mwsogl y Plwm a Chodywasg y Mwynfeydd yn blanhigion Metaloffytaidd sydd angen lefelau uchel o fetelau trwm yn y pridd i fodoli.
"Mae'r ddwy rywogaeth yma yn dirywio oherwydd bod prysgwydd wedi ymledu ym mhob man oni bai am yr ardaloedd mwyaf gwenwynig. I fynd i'r afael â hyn, rydym wedi cloddio crafiadau â llaw i greu cynefinoedd newydd."
|
|
|
Mae canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian ac Ynyslas wedi cadw eu statws fel atyniadau Sicrwydd Ansawdd i Ymwelwyr gan Croeso Cymru.
Gwobrwyir yr achrediad yn unig i atyniadau sy'n cyrraedd safonau uchel ar draws ystod o ofynion gan gynnwys ansawdd staff, y wybodaeth sydd ar gael i ymwelwyr a glendid.
Dywedodd Jenn Jones, Arweinydd Tîm Canolfan Ymwelwyr yng Nghanolbarth Cymru:
"Wrth ymweld ag atyniad Sicrwydd Ansawdd i Ymwelwyr, gallwch fod yn sicr y byddwch chi'n mwynhau diwrnod gwych, boed waethaf y tywydd. Mae sicrhau safonau uchel yn waith caled ond mae gallu eu cynnal dros amser yn arwydd o staff rhagorol ac ymroddgar."
|
|
|
Cynhaliwyd gweithrediadau gorfodi yn ardaloedd Caernarfon a Bangor i gyfyngu ar gludwyr gwastraff anghyfreithlon a safleoedd gwastraff anghyfreithlon.
Bu i ni weithio gyda Heddlu Gogledd Cymru ac Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) i dargedu troseddwyr sy’n defnyddio’r ffyrdd i gyflawni troseddau gwastraff.
Os oeddent yn gweld fod unrhyw droseddau gwastraff wedi cael eu cyflawni, roedd ein swyddogion yn defnyddio’r ymateb gorfodi mwyaf priodol, oedd yn cynnwys rhoi cyngor a chanllawiau.
Meddai Euros Jones, Rheolwr Gweithrediadau Gogledd Orllewin Cymru:
"Mae gweithio mewn partneriaeth â’r DVSA a Heddlu Gogledd Cymru yn anfon neges gref i’r rhai sy’n ceisio gwneud elw drwy dorri’r gyfraith, sef na fyddwn ni yn goddef unrhyw niwed i gymunedau Gogledd Cymru na difrod i’r amgylchedd.
“Gall cludwyr gwastraff anghyfreithlon gael effaith andwyol ar fusnesau gwastraff cyfreithlon sy’n buddsoddi drwy sicrhau fod ganddynt y trwyddedau amgylcheddol cywir."
|
|
|
Mae blwyddyn o sychder, stormydd eithafol, a thanau gwyllt wedi atgyfnerthu’r ffaith fod Cymru'n wynebu ymchwydd yn llanw newid hinsawdd. Dyma rybudd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wrth i'r corff amgylcheddol annog pobl i fod yn wyliadwrus ac nid yn ddifater am lefel eu perygl llifogydd y gaeaf hwn.
Gydag 1 ymhob 8 (tua 245,000) eiddo yng Nghymru mewn perygl o lifogydd, a chydag argyfwng yr hinsawdd yn dod â thywydd mwy eithafol, mae'n bwysicach nag erioed bod pobl yn deall eu perygl o lifogydd a sut i baratoi a delio â llifogydd.
Dywedodd Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau:
"Tywydd eithafol a'i effeithiau yw arwyddion amlycaf argyfwng yr hinsawdd. Mae'r amrywiadau mewn amodau tywydd rydyn ni wedi'u gweld eleni yn dangos yr her sy'n ein hwynebu ac wedi’n gorfodi i roi sylw i bwysigrwydd gwytnwch.
"Ar hyn o bryd, mae ein timau'n gweithio gyda'r Swyddfa Dywydd a'n partneriaid i baratoi ar gyfer yr hyn y gallai ddigwydd yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Ond fyddwn ni byth yn gallu atal pob achos o lifogydd. Er bod Cymru'n parhau i fod mewn statws sychder, rydyn ni'n annog pobl i fod yn wyliadwrus ac nid yn ddifater am eu perygl o lifogydd yn y dyfodol."
|
|
|
|
|
|