|
Rydym wedi dewis pum llwybr cerdded yn ein coetiroedd a’n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol lle gallwch fwynhau’r lliwiau hydrefol eleni.
Mae rhai o’r llwybrau cerdded yn llwybrau byrrach a gwastad drwy’r coetiroedd sy’n ddelfrydol ar gyfer teuluoedd â phlant ifanc a hefyd ceir dringfa serth i olygfan ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae pob llwybr cerdded wedi’i arwyddo a’i raddio er mwyn rhoi syniad o’i anhawster, a cheir panel gwybodaeth ar ddechrau’r daith.
Ewch i’n tudalen teithiau cerdded yr hydref i ddewis llwybr
|
|
Ym mis Medi aethom ati i osod system adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig yn ein maes parcio yng Nghoed Moel Famau.
Mae camera’r system hon yn darllen rhif cofrestru eich cerbyd pan fyddwch yn cyrraedd. Rydych yn talu pan fyddwch yn gadael a bydd y gost yn dibynnu ar hyd y cyfnod parcio.
Os ydych yn ymweld yn aml efallai yr hoffech chi brynu tocyn tymor sydd hefyd yn cynnwys rhai o’r meysydd parcio eraill yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Er mwyn prynu tocyn tymor ewch i’r ganolfan ymwelwyr ym Mharc Gwledig Loggerheads (ar ffordd A494 ger maes parcio Coed Moel Famau) neu e-bostiwch loggerheads.countrypark@denbighshire.gov.uk
Er mwyn gweld prisau parcio ac i ddysgu mwy am ymweld â Choed Moel Famau ewch i’n gwefan
|
|
O sblasio mewn pyllau i hela am drychfilod, does dim byd tebyg i’r teimlad o ryddid a geir wrth chwarae yn yr awyr agored – ac mae digon o hwyl i’w gael yn awyr iach yr hanner tymor hwn yn y lleoedd yr ydym yn gofalu amdanynt.
Mae llawer o’n coetiroedd a’n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn hygyrch i’r teulu oll, felly maen nhw’n lleoedd ardderchog i fwynhau amser gyda’ch gilydd a chanfod bywyd gwyllt syfrdanol Cymru.
Mewn rhai o’n safleoedd ceir cyfleusterau addas i deuluoedd e.e. ardaloedd chwarae, llwybrau beicio hawdd a llwybrau cerdded addas ar gyfer cadeiriau gwthio. A cheir caffis a thoiledau yn ein canolfannau ymwelwyr sy’n ddefnyddiol pan fyddwch angen seibiant byr.
Ewch i’n gwefan i ddysgu mwy am ddiwrnodau gwych i’r teulu
|
|
|
|