|
Croeso i rifyn diweddaraf y cylchlythyr sy’n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am Brosiect Twyni Byw (SoLIFE). Dyma grynodeb o waith mawr diweddar y prosiect a gyflawnwyd ar draws Cymru gyfan, a’r cynlluniau ar gyfer y misoedd nesaf...
|
|
|
Drwy weithio gyda chydweithwyr coedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, cafodd naw hectar o goed conwydd eu cwympo o dwyni ym Morfa Harlech. Roedd y coed conwydd yn effeithio ar y twyni sych ynghyd â lefelau dŵr y llaciau twyni cyfagos. Bydd yr ardal yn elwa o waith adfer pellach dros y misoedd nesaf.
Mae Twyni Byw (SoLIFE) hefyd wedi adfer 2 hectar o laciau twyni gerllaw sydd wedi gordyfu ar gyrion Coedwig Harlech. Cliriwyd llystyfiant a bonion oedd wedi gordyfu gennym, cyn crafu haenau o’r arwyneb i ddatguddio tywod glân, noeth. Bydd hyn yn creu pyllau bas yn y gaeaf ac amodau corsiog yn yr haf (gaiff eu cytrefu gan blanhigion prin ac amffibiaid); ynghyd â banciau tywod sychach sy'n berffaith ar gyfer gwenyn unigol a phryfetach eraill.
|
|
|
Yn gynharach eleni, cloddiwyd dau ricyn newydd yn y twyni blaen yn y Warchodfa Natur Genedlaethol. Mae'r sianeli hyn yn caniatáu i dywod traeth ffres chwythu i mewn i'r tir er mwyn ailgyflenwi'r cyflenwad i'r system dwyni. Mae hyn yn creu cynefin tywod noeth newydd ac yn helpu i roi hwb i blanhigion arbenigol y twyni. Mae tîm Twyni Byw yn monitro’r ‘glaw tywod’ hwn a chaiff y canlyniadau eu cyhoeddi maes o law.
Y cam nesaf yw creu cyfres o chwyth flychau (‘blowouts’) ar y twyni. Bydd cloddwyr yn tynnu'r tywyrch o'r cloddiau sy'n wynebu'r prifwynt er mwyn creu pantiau bas, siâp powlen, y bydd planhigion ac anifeiliaid arbenigol yn cytrefu ynddynt. Er enghraifft, mae’r wenynen durio yn ffafrio llethrau heulog agored.
Bydd y gwaith blynyddol o dorri tua 13 hectar o laciau twyni tywod yn parhau ym mis Medi. Mae hyn yn caniatáu i degeirian y fign a phlanhigion prin eraill ffynnu heb gael eu trechu gan rywogaethau mwy egnïol.
|
|
|
|
|
Ym mis Medi, bydd Twyni Byw hefyd yn creu rhicyn twyni yn Nhywyn Aberffraw. Bydd hyn yn cysylltu’r traeth â’r twyni mewnol, gan greu cynefin tywod noeth a chynyddu symudiad yn y twyni tywod. Bydd mesurau lliniaru yn amddiffyn y nythfa breswyl o fadfall y tywod tra bod y gwaith yn mynd yn ei flaen. |
|
|
Symudwyd coed conwydd hefyd yn Nhwyni Whiteford yn gynnar yn 2022. Nid yw conwydd yn frodorol i’n twyni ac fe’u plannwyd yn y gorffennol er mwyn cael pren ac i sefydlogi’r tywod oedd yn symud ar un adeg. Roedd y conwydd wedi dod i ddiwedd eu hoes fasnachol ac mewn perygl o chwythu drosodd. Bydd eu symud yn adfer ardaloedd agored o gynefin glaswelltir llawn blodau yn y twyni tywod. |
|
|
|
|
Mae gwaith cadwraeth yn dwyn ffrwyth ym Maes Tanio y Weinyddiaeth Amddiffyn ym Mhentywyn, wrth i Degeirian prin y Fign gael ei hailddarganfod eleni, a hynny am y tro cyntaf ers 20 mlynedd. Darllenwch fwy am y stori fan yma.
Er hyn, mae'r safle'n dal i ddioddef o bla Helyg y Môr, felly bydd Twyni Byw yn parhau i glirio ar raddfa fawr yr hydref hwn drwy gael gwared ar 3 hectar o'r planhigyn anfrodorol ymledol hwn. Dilynir hyn gan y dasg o godi bron i 4 cilometr o ffensys newydd er mwyn caniatáu pori, a fydd yn cadw'r cynefin a adferwyd mewn cyflwr da.
|
|
Mae pori hefyd yn cael ei ddwyn yn ôl i 14 hectar o dwyni yn Nhwyni Pen-bre, ar ôl gosod 1.5km o ffensys da byw newydd. Caiff yr ardal ei phori gan ddefaid neu wartheg o dan ofal Cyngor Sir Caerfyrddin. Bydd y cyhoedd yn dal i gael mynediad drwy gatiau mochyn newydd.
Byddwn hefyd yn parhau â'n hymgyrch i reoli Helygen y Môr gan ddefnyddio cyfuniad o echdynnu gwreiddiau a thriniaeth gemegol. Bydd y gwaith hwn yn helpu adfer y glaswelltir twyni pwysig sy'n gartref i amrywiaeth o rywogaethau planhigion, gan gynnwys Crwynllys prin y Twyni.
|
|
Mae'r fuches gymysg o wartheg a merlod yn olygfa gyfarwydd i ymwelwyr â Chwningar Niwbwrch. Mae ganddynt rôl bwysig fel rheolwyr cadwraeth - agor ac arallgyfeirio'r glaswelltir a chyfyngu ar dyfiant prysgwydd a llystyfiant trwchus. Mae'r ffens bresennol yn dod i ddiwedd ei hoes, felly mae Twyni Byw wedi ailosod 4km allan o'r 9km sydd ei angen. Bydd gwaith ar y dasg enfawr hon yn parhau yn yr hydref gyda chymorth hofrennydd i ddosbarthu deunyddiau.
Bu ffensio hefyd yn digwydd yng Nghoedwig Niwbwrch yn Ffrydiau, gan alluogi da byw i bori'r llannerch sydd wedi'i hadfer, a hynny am y tro cyntaf. Mae’r gwaith cynharach o gael gwared ar brysgwydd ac ailbroffilio'r pyllau eisoes yn dwyn ffrwyth, gan fod yr ardal yn gyforiog o fywyd.
Cyn bo hir byddwn yn mynd i’r afael â rhywogaethau estron dros 8.5 hectar oddi mewn i’r blanhigfa gyfagos yma ac yng Ngherrig Duon gerllaw, er mwyn atal unrhyw ledaeniad i’r llennyrch sy’n gyfoethog mewn bioamrywiaeth. Mae’r Creigafal (Cotoneaster), Helygen y Môr (Sea Buckthorn), y Geirchen Goch (Montbretia), y Llawryfen (Laurel), a’r Rhododendron yn rhywogaethau a all, os cânt eu gadael heb eu rheoli, feddiannu ardaloedd mawr, gan fygu llystyfiant brodorol.
Bydd gwaith crafu yn digwydd yn Gull Slack, Ffrydiau, Pant Mawr a Hendai cyn bo hir. Bydd cloddwyr yn cael gwared ar haenau arwyneb o lystyfiant sydd wedi gordyfu a malurion y goedwig er mwyn adfer pyllau, llaciau gwlyb a thywod noeth. Bydd y gwaith yn caniatáu i rywogaethau fel Tafolen y Traeth (Shore Dock), mwsoglau prin a llysiau'r afu â’r Madfall Cribog ail-gytrefu.
|
|
|
Arweiniodd Twyni Byw a Chanolfannau Cofnodion Amgylchedd Lleol Cymru deithiau cerdded yn ystod y gwanwyn a’r haf hwn er mwyn tynnu sylw at y bywyd planhigion a phryfed gwych sy’n galw’r cynefin arbennig hwn yn gartref. Diolch i Cofnod, WWBIC a SEWBReC am drefnu’r digwyddiadau ac yn enwedig yr arweinwyr Phil Ward, Liam Olds, Barry Stewart, Richard a Kath Pryce, Richard Gallon a Lucia Ruffino am eu harbenigedd. Cewch fanylion am deithiau cerdded sydd ar ddod ar dudalen Eventbrite LERC.
|
|
|
|
|
Ar 25 Mehefin, dathlodd tîm Twyni Byw Ddiwrnod Twyni Tywod y Byd yng Ngwarchodfa Natur Cynffig, gan arddangos gwaith y prosiect yn lleol ac ar draws Cymru.
Diolch i’r gwesteiwyr - Ymddiriedolaeth Corfforaeth Cynffig a phawb arall ymunodd â ni ar y diwrnod, gan gynnwys Plantlife, Dynamic Dunescapes a’r Ymddiriedolaeth Natur.
|
Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, Natura 2000 ac EU LIFE.
SOLIFE: LIFE 17 NAT/UK/000023
Mae prosiect Twyni Byw-Sands of LIFE wedi derbyn arian gan Raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
|
|
|
|