870 milltir o arfordir; dim ond un haf...
I ddathlu deng mlynedd ers agoriad swyddogol Llwybr Arfordir Cymru yn 2012, rydym ni wedi gosod her genedlaethol ar gyfer yr haf — #Her870 — a hoffai gael eich help chi i gael cynifer o bobl â phosib i gymryd rhan.
Mae #Her870 yn galw ar grwydrwyr hamddenol, heicwyr a cherddwyr cŵn, beicwyr a defnyddwyr cadair olwyn, marchogion a grwpiau cymunedol a theuluoedd fel ei gilydd i wneud ymdrech ar y cyd i gerdded 870 milltir — sef hyd y Llwybr — ar hyd unrhyw ddarn o'r llwybr rhwng rŵan a diwedd mis Medi 2022.
P'un a ydych chi'n gallu addo 1 milltir, 5 milltir, 10 milltir (neu fwy!) — helpwch ni i gyrraedd ein targed drwy addo eich milltiroedd isod.
Addunwch eich milltiroed yma https://bit.ly/3AY7rkk
A pheidiwch ag anghofio cadw llygad ar ein tudalennau Facebook, Twitter ac Instagram am ddiweddariadau rheolaidd wrth i ni weithio tuag at ein targed o 870 milltir!
Dewch i wybod mwy am #Her870 ar ein gwefan
Prynwch un o'n crys T '870 casgliad' i'w gwisgo ar gyfer eich her (ar gael mewn meintiau merched a dynion) Click to edit this placeholder text.
|