|
Canolfan Ymwelwyr Ynyslas yw’r lle delfrydol i gychwyn ymweliad â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, sy’n gartref i’r twyni tywod enwog a’r aber enfawr ger Aberystwyth.
Mae yna arddangosfa newydd yn y ganolfan ymwelwyr ynghylch beth i’w weld yn y warchodfa. Mae’r arddangosfa’n cynnwys dangosfyrddau â darluniau hyfryd am y bywyd gwyllt sy’n byw dan y dŵr oddi ar arfordir Ceredigion, y blodau sy’n tyfu yn y twyni a’r adar sy’n dibynnu ar yr aber. Mae dangosfwrdd rhyngweithiol yn dangos sut caiff twyni eu ffurfio, ac mae gwybodaeth am hanes Ynyslas fel cyfleuster arfau yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae tîm y ganolfan ymwelwyr yn cynnig rhaglen o ddigwyddiadau, o deithiau tywys i ddiwrnodau addysg bywyd gwyllt. I gael rhagor o fanylion, ewch i dudalen y ganolfan ymwelwyr ar Facebook neu i’n gwefan (argymhellir i chi archebu ymlaen llaw ar gyfer digwyddiadau).
Mae siop y ganolfan ymwelwyr yn gwerthu llyfrau, cardiau, gwaith celf lleol a theganau. Mae hefyd yn gwerthu diodydd a byrbrydau ysgafn ac mae llefydd i eistedd yn yr awyr agored i fwynhau’r lluniaeth a’r golygfeydd.
Dysgwch fwy am ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi ar ein gwefan
Ewch i dudalen Canolfan Ymwelwyr Dyfi Ynyslas ar Facebook
|
|
|
Mae dau o’r llwybrau cerdded sy’n cychwyn yng Nghanolfan Ymwelwyr Coed y Brenin yn addas ar gyfer ymwelwyr sy’n defnyddio sgwter symudedd oddi ar y ffordd. Mae Llwybr Afon Eden yn mynd at fan picnic ger yr afon ac mae Llwybr Cefndeuddwr yn mynd at olygfan sydd â bwrdd picnic.
Gellir llogi sgwter symudedd Tramper o’r ganolfan ymwelwyr. Nodwch fod yn rhaid archebu hwn ymlaen llaw drwy gysylltu â’r ganolfan ymwelwyr.
Cysylltwch â Chanolfan Ymwelwyr Coed y Brenin ar 01341 440747 neu coedybrenin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
|
|
|
Mae cyfleusterau ymwelwyr dau o goetiroedd poblogaidd Llywodraeth Cymru bellach yn cael eu rheoli gan sefydliadau eraill.
Yn gynharach eleni, ymgymerodd Forest Holidays â’r cyfrifoldeb dros reoli cyfleusterau ymwelwyr Garwnant ger Merthyr Tudful. Mae Forest Holidays yn adeiladu cabanau gwyliau pren yn y goedwig ac yn bwriadu diweddaru’r ganolfan ymwelwyr a’r caffi. Mae’r maes parcio, y llwybrau a’r caffi ar agor o hyd i ymwelwyr dydd.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymweld â Garwnant, ewch i wefan Forest Holidays
I weld y datganiad newyddion am y newid i’r trefniadau rheoli, ewch i’n gwefan ni
Ym mis Mai, llofnododd Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gytundeb prydles yn trosglwyddo cyfrifoldebau rheoli Hafod i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Bellach mae’r Ymddiriedolaeth yn gofalu am 200 hectar yn Hafod, gan gynnwys y tir helaeth, y gerddi hanesyddol wedi’u hadfer, a’r llwybrau cerdded. Mae Hafod a’r llwybrau cerdded ar agor gydol y flwyddyn ac maent am ddim o hyd i bobl ymweld.
I weld y wybodaeth ddiweddaraf am ymweld â Hafod, ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
I weld y datganiad newyddion am y newid i’r trefniadau rheoli, ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
|
|
|
Dyma rywfaint o gynghorion o’r Cod Cefn Gwlad i’ch helpu i chwarae eich rhan yn gofalu am goetiroedd a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol er mwyn iddynt aros yn iach a phrydferth i bawb eu mwynhau.
Mae llawer o’n llefydd mewn lleoliadau tawel yng nghefn gwlad, ble nad yw gwastraff yn cael ei gasglu’n rheolaidd. Dewch â bag i fynd â’ch sbwriel adref gyda chi fel na chaiff ei adael ar ôl i ddifetha’r olygfa a niweidio bywyd gwyllt.
Mae croeso i’ch ci ymweld hefyd, ond sicrhewch eich bod yn codi ei faw a’i roi yn y bin neu’n mynd ag e adre i atal afiechydon rhag ymledu. Fe allech ddod â chynhwysydd i gario’r bag tra byddwch chi allan. Cadwch eich ci o fewn golwg ac o dan reolaeth fel nad yw’n achosi problem i ymwelwyr neu anifeiliaid eraill.
Dim ond un gwreichionyn mae ei angen i achosi tanau gwyllt dinistriol, felly sicrhewch nad ydych chi’n gadael eich sigaréts yn mudlosgi, a pheidiwch â chynnau tân. Dim ond ble mae arwyddion yn dweud y cewch wneud y dylech chi gynnau barbeciw, ac yna arhoswch tan fydd y lludw’n oer a gwaredwch y gwastraff mewn ffordd gyfrifol. Yn well byth, dewch â phicnic o gartref, yn enwedig mewn tywydd poeth a sych.
Ystyriwch y gymuned leol drwy beidio ag achosi rhwystr ar ffyrdd neu o flaen gatiau wrth barcio. Gwnewch gynllun amgen rhag ofn bydd y maes parcio’n llawn pan fyddwch chi’n cyrraedd.
Darllenwch y Cod Cefn Gwlad i gael rhagor o gyngor i’ch helpu i ofalu am natur tra byddwch yn mwynhau’r awyr agored
|
|
|
Bellach gellir prynu cyfres newydd o nwyddau brand Llwybr Arfordir Cymru ar-lein. Mae’r gyfres ddillad yn cynnwys hwdis, crysau-T a hetiau. Hefyd gallwch brynu llyfrau nodiadau, bagiau cotwm, matiau diod a mygiau.
Mae Llwybr Arfordir Cymru’n dathlu ei ddengmlwyddiant eleni, ac mae’r gyfres arbennig i nodi’r digwyddiad yn cynnwys gwydr peint coffa, sy’n berffaith ar gyfer llymaid bach ar ôl diwrnod o gerdded.
Mae’r cynhyrchion yn defnyddio deunyddiau bioddiraddadwy ac ecogyfeillgar, ac mae pob eitem a brynwch yn helpu i warchod yr awyr agored ac yn cefnogi’r gwaith o gynnal Llwybr Arfordir Cymru.
Ewch i siop Llwybr Arfordir Cymru ar-lein i bori drwy’r gyfres gyfan o nwyddau
|
|
|
|
|