|
Mae gennym gasgliad ffasiynol o ddillad ac felly gallwch droedio’r llwybr mewn steil yr haf hwn.
Dewiswch o amrywiaeth eang o grysau T o wahanol batrymau a lliwiau i gyd-fynd â’ch hwyliau ac i’ch cadw’n oer yn yr haf ar y llwybr.
|
Neu beth am wisgo un o’n hwdis meddal a chynnes braf - perffaith er mwyn ymlacio ar ôl diwrnod o gerdded
|
|
|
Yn ddiweddar gwnaethom gomisiynu corff newydd o weithiau celf a barddononiaeth i ddathlu ein dengmlwyddiant.
Arweinwyr y prosiect yw Dan Llywelyn Hall, yr arlunydd adnabyddus ac Ifor Ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, a’r bwriad yw dod â 10 artist a 10 bardd at ei gilydd i greu ffrwydrad creadigol wedi’i ysbrydoli gan y llwybr.
Yr artistiaid a’r beirdd
Bydd y cyhoedd yn gallu mwynhau’r gwaith mewn canolfannau cymunedol a chanolfannau celfyddydol fydd wedi cael eu dethol ar hyd yr arfordir yn ystod ein blwyddyn arbennig.
Wrth ddadorchuddio’r prosiect yng Ngŵyl y Gelli eleni, cyhoeddodd Dan enwau’r beirdd a’r artistiaid a fydd yn creu’r gweithiau arbennig hyn yn ogystal â chynlluniau ar gyfer arddangosfa derfynol ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.
Bydd llyfr dwyieithog a fydd yn cynnwys yr holl waith hefyd yn cael ei gyhoeddi fel ffrwyth llafur y prosiect arbennig hwn.
(Llun chwith i dde: Joe Roberts, CNC, Clare Pillman, CNC, Dan Llywelyn Hall ac Ifor Ap Glyn)
|
Er mwyn dathlu Diwrnod Ail-lenwi’r Byd ar 16 Mehefin, creodd Rachel Shiamh, yr artist tywod, waith epig yn y tywod ar Draeth Penryn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngheredigion - a’r bwriad oedd amlygu pwysigrwydd peidio â gadael dim ar ein hôl pan fyddwn yn ymweld â Llwybr Arfordir Cymru.
Gwyliwch y fideo o'r celf tywod
|
Ar 22 Mehefin 2022, gwnaethom wahodd busnesau twristiaeth a lletygarwch i ddathlu’r llwybr yng Ngwynedd – lle ceir y rhan fwyaf o’r llwybr - yng nghanolfan iaith a threftadaeth Nant Gwrtheyrn.
|
Daeth y digwyddiad i ben gyda thaith gerdded 3 milltir dan arweiniad Rhys Roberts o bentref Pistyll yn ôl i Nant Gwrtheyrn – wnaeth y golygfeydd na’r tywydd ein siomi! |
|
|
Oherwydd y diddordeb eang yn y llwybr, rydym yn dechrau cylchlythyr Llwybr Arfordir Cymru newydd i fusnesau a fydd yn anelu at y sectorau canlynol: twristiaeth, lletygarwch, hamdden awyr agored, lles ac addysg.
Oes gennych chi ddiddordeb? Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr i fusnesau i ganfod adnoddau a datblygiadau defnyddiol. Chwiliwch am y pwnc Llwybr Arfordir Cymru a thiciwch i nodi eich bod yn fusnes.
|
|
Oes gennych chi ddigwyddiad ar Lwybr Arfordir Cymru neu gerllaw iddo? Anfonwch Ffurflen Awgrymu Digwyddiad i ni fel y gallwn ei hyrwyddo ar ein gwefan. (dibynnol ar gymeradwyaeth).
|
|
|
|
|