|
I ddathlu ein 10fed pen-blwydd, bydd Sarah Williams, anturiaethwr a sylfaenydd Tough Girl Challenges yn cerdded y llwybr cyfan mewn partneriaeth â Cicerone gan ddefnyddio’r arweinlyfr sydd newydd ei gyhoeddi, Walking the Wales Coast Path. Mae’n dechrau ei thaith 50 diwrnod epig ganol mis Ebrill.
Fel un sy’n frwdfrydig dros rymuso menywod i fwynhau’r awyr agored, mae Sarah wedi hen arfer â heriau ar raddfa fawr. Bydd hi’n rhyddhau cyfres o flogiau ar hyd y ffordd yn ogystal â chwrdd â’r bobl sy’n rhan o’r llwybr, o bobl leol, i berchnogion busnes yn ogystal â’r rheini sy’n gyfrifol am ofalu am y llwybr. Dilynwch ei thaith ar Facebook, Instagram a Twitter. Pob lwc i Sarah oddi wrth bawb yn nhîm Llwybr Arfordir Cymru!
Anfonwch bob cais at Louise Dickie louise@cicerone.co.uk neu ffoniwch 01539 587987.
|
|
|
Ymunwch â Chris Jones, sy’n gyflwynydd teledu a radio ers 29 mlynedd, i’ch tywys bob penwythnos ym mis Mai ar gyfres o deithiau cerdded yng nghefn gwlad ac ar yr arfordir i ddathlu rhywfaint o’r golygfeydd arfordirol mwyaf trawiadol ar Lwybr Arfordir Cymru. Dyma flas o rai o’r teithiau cerdded:
Taith gerdded Aberogwr – mwynhewch ddaeareg a bywyd gwyllt unigryw gyda golygfeydd dros Fae Dwnrhefn.
Taith gerdded arfordirol heibio goleudy ar hyd clogwyni trawiadol Arfordir Treftadaeth Morgannwg.
Taith gerdded yr arfordir a’r pier – Mwynhewch y golygfeydd hyfryd o Bier Penarth wrth i chi fynd tua’r dwyrain i Gaerdydd, prifddinas Cymru.
Gallwch weld mwy o lwybrau, amseroedd a lleoliadau ar wefan Visit the Vale
|
|
|
I ddathlu ein 10fed pen-blwydd, rydym wedi ymuno â Cadw i ddatblygu 20 taith gerdded newydd i’ch helpu i ddarganfod y dreftadaeth gyfoethog ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.
Mae Deiniol Tegid – sydd wrth ei fodd yn crwydro’r llwybr – wedi dod â’r llwybr yn fyw gan greu teithiau cerdded arfordirol, sy’n gorffen drwy roi cyfle i ddarganfod 16 o gestyll Cymreig yn ogystal ag amrywiaeth eang o fryngaerau a siambrau claddu sydd ar wasgar ar hyd arfordir Cymru. Ymhlith ein ffefrynnau mae:
Cyldaith Talacharn – llwybr pedair milltir o hyd sy’n dilyn olion traed Dylan Thomas, gan orffen yng Nghastell Talacharn.
Pwllheli i Cricieth – 11 milltir o gerdded arfordirol (neu gallwch ddewis llwybrau byrrach) gan orffen gyda Chastell Cricieth sy’n edrych dros dirwedd arfordirol sydd gyda’r gorau yn unman.
Edrychwch ar deithiau cerdded Cadw i ddechrau eich antur hanesyddol
|
Edrychwch ar ein tudalen Digwyddiadau sydd â chalendr cyfredol o ddigwyddiadau ar neu’n agos at y llwybr.
Oes gennych chi ddigwyddiad ar neu’n agos at Lwybr Arfordir Cymru? Anfonwch ffurflen Awgrymu Digwyddiad atom i’w hyrwyddo ar ein gwefan.
|
|
|
|