|
Rhifyn 1
Croeso cynnes i'r rhifyn cyntaf hwn o gylchlythyr Datganiad Ardal De Ddwyrain Cymru. Gobeithiwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd y Datganiad Ardal, tynnu sylw at sefydliadau partner, a dathlu gwaith cydweithredol ar draws rhanbarth y De-ddwyrain sy’n cefnogi’r weledigaeth ar y cyd ar gyfer yr amgylchedd naturiol yng Ngwent ac sy’n cefnogi’r pedwar piler llesiant (cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd).
Bydd y rhifyn cyntaf hwn yn edrych yn ôl ar y gwaith sydd wedi'i gyflawni hyd yn hyn gyda golwg ar yr hyn sydd i ddod.
Yr allwedd i gyflawni Datganiad Ardal y De-ddwyrain yw cydweithio mewn ffordd gydgysylltiedig. Os oes gennych chi brosiect yr hoffech ei rannu yn rhifynnau’r dyfodol, angen cymorth i gysylltu â sefydliadau eraill i gydweithio, neu os hoffech drafod sut y gall Cyfoeth Naturiol Cymru eich cefnogi, cysylltwch.
Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael y diweddaraf:
Facebook Cyfoeth Naturiol Cymru y De Ddwyrain @CyfNatCymDD
Twitter Cyfoeth Naturiol Cymru y De Ddwyrain @CyfNatCymDD
|
|
Beth yw Datganiadau Ardal?
Gobeithio bod llawer ohonoch yn gyfarwydd â Datganiadau Ardal Cyfoeth Naturiol Cymru, ond i'ch atgoffa'n gyflym, fe'u lansiwyd yn gynnar yn 2020 ac maent yn cwmpasu saith rhan wahanol ac amrywiol o'r wlad. Mae pob Datganiad Ardal yn amlinellu’r heriau allweddol y mae'r ardal benodol honno yn eu hwynebu, yr hyn y gallwn ni i gyd ei wneud i gwrdd â’r heriau hynny, a sut y gallwn reoli ein hadnoddau naturiol yn well er budd cenedlaethau’r dyfodol.
|
Mae pedair thema’r Datganiad Ardal De-ddwyrain Cymru, sy’n cwmpasu ardaloedd Awdurdodau Lleol Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen, y cyfeirir atynt weithiau fel Gwent, fel a ganlyn:
Rydym wedi mabwysiadu dull tirwedd i gynhyrchu Datganiad Ardal y De-ddwyrain. Mae hyn yn golygu ein bod wedi ystyried ble a pham rydym eisiau adeiladu cydnerthedd ecosystemau o ran ardaloedd tirwedd arbennig a nodedig ein lle ac mae'r fideo hwn yn helpu i egluro mwy. Mae gweithio fel hyn yn ein galluogi i fynd i'r afael â'r heriau amgylcheddol, cymdeithasol a gwleidyddol cynyddol gymhleth ac eang sy'n mynd y tu hwnt i ffiniau rheoli traddodiadol.
Cliciwch ar y dolenni uchod i ddarganfod mwy.
Y Weledigaeth ar gyfer yr amgylchedd naturiol yng Ngwent
Fel rhan o ddatblygiad cydweithredol Datganiad Ardal y De-ddwyrain, bu rhanddeiliaid ac arbenigwyr technegol yn ystyried gweledigaeth a rennir ar gyfer yr amgylchedd naturiol yng Ngwent, edrychwch isod.
|
|
Beth sydd wedi ei gyflawni hyd yn hyn?
Dyma grynodeb o’r camau gweithredu allweddol a gyflawnwyd a’r cynnydd a wnaed gan bartneriaid yn 2020/21 sy’n cefnogi’r weledigaeth a rennir ar gyfer yr amgylchedd naturiol yng Ngwent ac sy’n cefnogi’r pedwar piler llesiant (cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd).
Ni allem gynnwys yr holl waith da sydd wedi'i gyflawni ac sy'n parhau i gael ei gyflawni ledled Gwent yn y rhifyn cyntaf hwn, ond rydym yn croesawu argymhellion i'w cynnwys yn rhifynnau'r dyfodol.
Adroddiad Sefyllfa Byd Natur Gwent Fwyaf
Mae Partneriaeth Gwent Fwyaf Gydnerth wedi cynhyrchu'r Adroddiad Sefyllfa Byd Natur Gwent Fwyaf sy'n edrych ar ehangder bywyd gwyllt yng Ngwent, gan gofnodi llwyddiannau ecolegol ac adnabod y rhywogaethau sydd fwyaf wrth risg.
Bwriad yr adroddiad yw hysbysu’r Cynlluniau Gweithredu Adfer Natur rhanbarthol a lleol sydd ar ddod a gwaith cadwraeth arall. Y gobaith yw y bydd y wybodaeth yn yr adroddiad yn cael ei defnyddio i gyfeirio gwaith cofnodi a monitro pellach, yn ogystal â chamau cadwraeth ac adfer natur yn y dyfodol.
Mae’r adroddiad, a ariennir gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRAW) Llywodraeth Cymru, wedi cwmpasu’r pum Awdurdod Lleol sef Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen. Cliciwch ar y dolenni uchod am fwy o wybodaeth.
|
Roedd Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent yn un o'r Cynulliadau Hinsawdd cyntaf yng Nghymru. Ym mis Mawrth 2021, daeth â 50 o drigolion o Flaenau Gwent ynghyd i fynd i’r afael â’r cwestiwn:
Beth ddylem ni ei wneud ym Mlaenau Gwent i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd mewn ffordd sy'n deg ac yn gwella safonau byw i bawb?
Archwiliodd y Cynulliad y cwestiwn cyffredin drwy ddysgu am themâu a’u trafod gan gynnwys tai, natur a mannau gwyrdd, a thrafnidiaeth, a phleidleisio ar yr argymhellion terfynol – pasiwyd pump yn swyddogol gan y Cynulliad.
- Mae’r argymhellion i’w gweld yma
- Mae adroddiad terfynol y Cynulliad Hinsawdd i'w weld yma
Mae’r argymhellion wedi’u cyflwyno i Gymdeithasau Tai a grŵp llywio lliniaru hinsawdd Blaenau Gwent. Ym mis Gorffennaf 2021 cymeradwyodd PSB Blaenau Gwent (gynt) ei ymateb cychwynnol yn cefnogi’r argymhellion hyn, gan nodi peth o’r gwaith y mae partneriaid eisoes yn ei wneud ac wedi ymrwymo i ddatblygu camau gweithredu penodol mwy manwl. Cynhaliwyd tri gweithdy ym mis Tachwedd 2021, un ar gyfer pob un o’r tair thema allweddol, i ddod â phartneriaid ynghyd i ganolbwyntio ar gamau y gellir eu cymryd nawr i gyflawni’r argymhellion.
|
|
Nod Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent yw gwella a datblygu ein seilwaith gwyrdd, y rhwydwaith o nodweddion naturiol a lled-naturiol, mannau gwyrdd, afonydd a llynnoedd sy'n croesi ac yn cysylltu pentrefi, trefi a dinasoedd. Mae gan seilwaith gwyrdd ran hanfodol i'w chwarae wrth fynd i'r afael ag argyfyngau byd natur, newid yn yr hinsawdd ac iechyd. Mae'r bartneriaeth yn rhan bwysig o helpu i gyflawni Datganiad Ardal De-ddwyrain Cymru.
Dyma gylchlythyr partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent lle gallwch gwrdd â'r tîm a chael gwybod mwy am 5 ffrwd gwaith y prosiect a amlinellir isod.
- Strategaeth a Phartneriaeth Seilwaith Gwyrdd (GI) Rhanbarthol
- Coridorau Gwyrdd Gwent
- Ardaloedd Peilot Astudiaeth i-Tree Eco Gwent
- Prosiectau Seilwaith Gwyrdd (GI) Gwent
- Gwent Gyfeillgar i Peillwyr
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth hefyd yma ac ar Twitter yma @GwentGreenGrid
Cynlluniau Gweithredu Adfer Natur
Mae partneriaeth Gwent Fwyaf Gydnerth yn paratoi Cynllun Gweithredu Adfer Natur (NRAP) ar gyfer Gwent Fwyaf, sydd â'r nod o helpu sefydliadau i gydweithio'n well i hyrwyddo camau adfer natur ar raddfa ranbarthol. Bydd hefyd yn gweithredu fel pont rhwng NRAP Cymru yn 2015 a'r Cynlluniau NRAP Lleol sydd ar ddod.
Bydd NRAP Gwent Fwyaf yn tynnu ar ganfyddiadau adroddiad Sefyllfa Byd Natur Gwent Fwyaf (gweler uchod), ynghyd â thystiolaeth arall gan gynnwys Datganiad Ardal y De-ddwyrain ac Asesiadau Llesiant. Bydd y Cynlluniau NRAP rhanbarthol a lleol yn cynnwys rhestr o gamau adfer natur.
Dyma ddolenni gwe y 3 Partneriaeth Natur Leol (LNP) yn ardal y De Ddwyrain am ragor o wybodaeth am eu gwaith:
|
|
Aeth yr Asesiad Llesiant Gwent drafft allan ar ymgynghoriad yn ddiweddar, a bydd yr asesiad a’r ymatebion yn cael eu defnyddio i greu Cynllun Llesiant Gwent o 2023 ymlaen. Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent (BGC) newydd ei ffurfio, ac mae’r asesiad wedi’i baratoi ar sail ranbarthol am y tro cyntaf.
Gall yr Asesiadau Llesiant ardal leol ym mhob awdurdod fod o ddiddordeb hefyd (sgroliwch i ddiwedd y dudalen we). Gallwch hefyd wirio’r wefan am y diweddaraf a chamau nesaf a dilyn Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent ar Twitter @gwentpsb.
Lefelau Byw
Cymerwch olwg ar rifyn olaf 'Byw'r Lefelau', cylchlythyr chwarterol Partneriaeth Tirwedd y Lefelau Byw. Gallwch ddod o hyd i'r holl gylchlythyrau blaenorol yma
|
The Outdoor Partnership
Mae prosiect y Bartneriaeth Awyr Agored bellach yng Ngwent, yn gweithio i gefnogi pobl i ymgymryd â gweithgareddau awyr agored fel gweithgaredd gydol oes. Ymhlith yr hyn a gynigir yng Ngwent y mae Gaeaf o Lesiant: y cyfle i bobl ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon awyr agored ac antur, cael gwerthfawrogiad o'r amgylchedd naturiol, ac ennill cymhwyster cysylltiedig â gwaith.
Cysylltwch â Brett Mahoney, Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored Gwent, i wneud atgyfeiriad neu am ragor o fanylion.
Ceir rhagor o wybodaeth yma The Outdoor Partnership | Partneriaeth Awyr Agored.
|
Hyfforddiant Llythrennedd Carbon Sir Fynwy a Chasnewydd wledig
Dyma gyfle hyfforddi gwych i ddysgu mwy am yr argyfwng hinsawdd, y cysylltiad rhwng gweithgaredd dynol a newid hinsawdd, ac i ddatblygu'r wybodaeth i gymryd camau i leihau allyriadau carbon. Mae Cynnal Cymru yn cynnal hyfforddiant am ddim rhwng Ionawr a Mawrth ar gyfer trigolion, cynghorau tref neu gymuned, a’r rhai sy’n gofalu am adeilad cymunedol, yn Sir Fynwy a Chasnewydd wledig (Llanwern, Marshfield, Graig, Langstone a Chaerllion).
Am fwy o wybodaeth am y cwrs a sut i gadw lle cliciwch yma ac ar Twitter yma.
Dywedodd un cyfranogwr, ''Roedd Hyfforddiant Llythrennedd Carbon wedi'i gyflwyno'n eithriadol o dda, yn hygyrch iawn, gyda digon o gyfle i ofyn cwestiynau. Hyfryd oedd cyfarfod â chymaint o bobl o'r un anian a dysgu gyda'n gilydd. Roedd yr hyfforddiant yn ysgogi'r meddwl ac yn ysgogol. Mae wedi rhoi llawer o syniadau da i mi ar sut i ymateb yn bersonol i newid hinsawdd ac wedi fy annog i siarad ag eraill am ffyrdd y gallwn wneud y newidiadau angenrheidiol i'n bywydau.''
|
Gwyrdd a Diogel Casnewydd
Gweledigaeth Mannau Gwyrdd a Diogel yw 'Mae gan Gasnewydd ecosystemau iach sy'n ffynnu lle mae pob cymuned yn teimlo'n gysylltiedig â natur a bod ganddynt fynediad hawdd at fannau gwyrdd a glas diogel o safon ar gyfer iechyd, llesiant, chwarae a hamdden'. Mae’r gwaith hwn yn rhan o’r Cynllun Llesiant presennol ar gyfer Casnewydd.
I ddarllen mwy am yr holl waith partneriaeth gwych sy'n mynd ymlaen i gyflawni'r weledigaeth hon cliciwch yma ar gyfer y cylchlythyr diweddaraf, a chliciwch yma i gael y diweddaraf ar gynnydd.
|
|
|
Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru
28 Mawrth i 3 Ebrill
Trefnir Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru gan Gyfoeth Naturiol Cymru a'r Cyngor Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru. Ymunwch â'r dathliad fel addysgwr, rhiant neu ddysgwr a mynd allan i'r awyr agored. Cyhoeddir calendr llawn o ddigwyddiadau yn fuan. Sut byddwch chi a'ch dysgwyr yn cymryd rhan? Fforio am y tro cyntaf? Plannu ychydig o hadau? Neu fynd â'ch dysgwyr allan am ychydig o ymwybyddiaeth ofalgar naturiol? Mae’r cyfleoedd ar gyfer dysgu o fewn yr amgylchedd naturiol, yn ei gylch ac ar ei ran yn ddiddiwedd. Mae’n bryd cynllunio ar gyfer sut y byddwch yn dathlu ein hystafell ddosbarth fwyaf a gorau, sef amgylchedd naturiol Cymru!
|
|
|
Rydych wedi derbyn y cylchlythyr hwn oherwydd eich bod wedi tanysgrifio i un o'n gwasanaethau o'r blaen.
Os nad ydych yn dymuno derbyn cylchlythyrau gennym bellach, gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd. Os ydych yn hapus i dderbyn mwy o gylchlythyrau Datganiad Ardal y De-ddwyrain gennym ni, yna nid oes rhaid i chi wneud dim.
Cyfoeth Naturiol Cymru
Website | Contact us
Subscription Management
Manage my preferences | Unsubscribe | Privacy Policy | Help
|
|
|
|
|