Gyda'r tymor bridio adar ar ben, mae gwaith cadwraeth hanfodol i helpu i gadw ein twyni tywod yn iach bellach yn ôl ar y gweill mewn gwahanol safleoedd ledled Cymru. O dorri llystyfiant i glirio prysgwydd a thynnu tyweirch i gwympo conwydd, rydyn ni’n gweithio'n galed i sicrhau bod y cynefin twyni tywod a'r bywyd gwyllt sy'n dibynnu arno yn cael yr hwb gorau posibl cyn y Nadolig.
Mae llawer o waith hanfodol ar y gweill ym Merthyr Mawr. Rydyn ni’n creu rhicyn ym mlaen y twyni ac yn crafu i adfer un o laciau hanesyddol y twyni (sydd wedi'i ddifrodi ar ôl cloddio graean yn y gorffennol) a'r twyni o'i gwmpas - cyfanswm arwynebedd o ddau hectar. Bydd 16 ardal fach arall hefyd lle bydd tyweirch yn cael eu tynnu - gan ail-greu cynefin tywod moel hanfodol.
Yng Nghynffig, ym mis Medi cwblhaodd Twyni Byw waith crafu ar 0.5 hectar o laciau twyni i adfer lefelau dŵr ac ail-greu cynefin tywod noeth, sy'n cael ei golli o dwyni tywod Cymru ar raddfa frawychus. Fe wnaethon ni hefyd dorri 13 hectar o laswelltir y twyni i helpu i hybu poblogaeth tegeirian y fign galchog ar y safle. Bydd gwaith pellach yn parhau gyda chlirio prysgwydd sy'n mygu glaswelltir y twyni ac yn bygwth planhigion twyni arbenigol.
Draw yn Niwbwrch rydyn ni wedi bod yn tynnu prysgwydd ym Mhant Mawr - llannerch agored fwyaf y safle - yn ogystal â Ffrydiau, Pant y Fuches a Cherrig Duon. Fe wnaeth contractwyr dynnu cymysgedd o rywogaethau estron goresgynnol fel cotoneaster a rhywogaethau brodorol fel bedw a helyg. Gall prysgwydd ymledu dros laswelltir y twyni yn gyflym ac arwain at ddiflaniad y llaciau llawn tegeirianau, pyllau dŵr croyw a chribau cen prin.
Mae gwaith wedi'i wneud i adfer yr ardal o amgylch Pyllau Ffrydiau (gweler y ddelwedd). Mae hyn wedi adnewyddu'r pyllau oedd wedi gordyfu, wedi datguddio tywod noeth ac wedi creu pwll newydd - mae hyn i gyd yn helpu tafolen y traeth a’r fadfall ddŵr gribog ar y safle, sy’n Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop.
Mae Rheolwr Prosiect Twyni Byw, Kathryn Hewitt, yn darparu rhagor o wybodaeth am y gwaith yn Niwbwrch.
Cadwch lygad ar ein ffrydiau cyfryngau cymdeithasol i gael diweddariadau pellach ar y gwaith.
|