Bydd ein gwaith cadwraeth pwysig i gadw'r twyni'n iach yn ailddechrau ledled Cymru cyn bo hir.
Byddwn yn adeiladu rhai ffensys yn Nhywyn Niwbwrch, ac yn y goedwig yn Hendai. Byddwn hefyd yn ehangu ein gwaith torri gwair ac yn cael gwared â phrysgwydd, er mwyn rhoi hwb pellach i rywogaethau prin y twyni a geir ar y safle gwych hwn.
Byddwn yn cael gwared ar rywogaethau estron goresgynnol yn Nhywyn Aberffraw. Os nad yw'r rhain yn cael eu rheoli, efallai y byddan nhw’n ymledu dros rannau helaeth o'r twyni ac yn achosi i fywyd gwyllt prin y twyni ddioddef. Bydd hyn yn ddilyniant o'r gwaith gaeaf a gwblhawyd ar y safle.
Mae llawer o waith pwysig yn yr arfaeth ar gyfer diwedd yr haf ym Merthyr Mawr. Byddwn yn codi 15 o stribedi o dyweirch – sy’n ein galluogi i ail-greu cynefin tywod moel hanfodol. Ar hyn o bryd rydym hefyd yn bwriadu creu un rhicyn ym mlaen y twyni a chrafu ardaloedd pellach.
Draw yn Nhwyni Pen-bre byddwn yn rheoli rhafnwydden y môr, sy’n rhywogaeth oresgynnol. Er ei bod yn edrych yn ddigon deniadol, mae'r rhywogaeth yma’n anfrodorol i'n twyni tywod ac mae'n cymryd drosodd y lle sydd ei angen ar blanhigion brodorol i oroesi.
Yna, draw yn Nhwyni Lacharn-Pentywyn, fe fyddwn yn cwblhau 3km o ffensys i helpu i ddiogelu'r gwartheg sy'n pori'r twyni. Byddwn hefyd yn torri’r llystyfiant yn Nhwyni Chwitffordd, Merthyr Mawr a Chynffig i helpu i’w gadw’n fyr.
|