|
Croeso i rifyn yr haf o gylchlythyr LIFE Afon Dyfrdwy! |
|
Os ydych wedi bod yn dilyn ein cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar, byddwch wedi gweld bod y tîm wedi bod allan yn ceisio dod o hyd i Fisglod Perlog Dŵr Croyw yn eu llawn dwf. Gall fod yn anodd dod ar eu traws gan eu bod yn rhywogaeth sydd mewn perygl difrifol yng Nghymru ac ar drothwy difodiant yn y gwyllt yn y DU.
Mae misglod perlog dŵr croyw ymysg yr anifeiliaid di-asgwrn cefn sy'n byw hiraf (gallan nhw fyw dros 125 mlynedd!) ac maen nhw’n brin iawn yn y DU. Maent yn byw ar welyau afonydd glân sy'n llifo'n gyflym, lle maent yn swatio i dywod bras neu raean mân o fewn coblau sefydlog a chlogfeini. Maent yn bwydo trwy dynnu dŵr afon i mewn a llyncu gronynnau mân o ddeunydd organig.
Mae ganddyn nhw gylch bywyd hynod o ddiddorol; mae eu larfa yn glynu wrth dagellau salmonidau ac felly’n cael eu cludo ganddynt am hyd at 10 mis o’r flwyddyn. Pan fyddant yn barod, maent yn ymollwng ac yn cysylltu eu hunain â gwely’r afon. Ar ôl tua 3-5 mlynedd byddant wedi datblygu tagellau a byddant yn gallu hidlo dŵr afon sy'n llifo'n rhydd. Nid yw'r misglod yn aeddfedu'n rhywiol tan eu bod yn 12-15 oed, neu tua 65mm o hyd. Gall pob benyw gynhyrchu hyd at 4 miliwn o larfa sy'n cael eu rhyddhau i'r golofn ddŵr bob Mai-Mehefin.
|
|
|
Mae statws poblogaeth Afon Dyfrdwy yn argyfyngus, felly fel rhan o brosiect LIFE Afon Dyfrdwy, rydym wedi bod yn cynnal arolygon mewn gwahanol leoliadau yn y dalgylch. Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, ac ar ôl llawer o chwilio manwl, roedd y tîm yn falch iawn o ddarganfod nifer o fisglod perlog dŵr croyw yn eu llawn dwf, gan ddefnyddio gwyliwr tanddwr o'r enw bathysgôp. Mae’r ddyfais yn dileu adlewyrchiad wyneb dŵr ac yn caniatáu gwylio o dan y dŵr cyn belled â bod eglurder y dŵr a’r golau yn caniatáu. |
Y nod yw casglu a defnyddio'r misglod hyn yn eu llawn dwf sy'n heneiddio fel rhan o raglen fagu gaeth i gynyddu nifer y misglod ifanc yn Afon Dyfrdwy. Y nod tymor hir yw helpu i ailsefydlu poblogaeth fridio iach, hunangynhaliol yn yr afon a hyrwyddo adferiad parhaol yn y gobaith o atal difodiant.
|
|
Mae gweithio ar y prosiect LIFE wedi rhoi cyfle unigryw i ni edrych ar lampreiod ar Afon Dyfrdwy yn llawer mwy manwl nag o'r blaen, gan na chawsant eu targedu i'w monitro yn y gorffennol. Gan fod llysywod pendoll y môr (Petromyzon marinus) yn un o'r rhywogaethau targed yn ein prosiect, rydym wedi gallu sefydlu rhaglen fonitro newydd i ddechrau cipio data gwerthfawr a fydd yn helpu i wella ein dealltwriaeth o'r rhywogaeth gynhanesyddol hon.
Gan mai data sylfaenol cyfyngedig oedd ar gael o flynyddoedd blaenorol, digwyddodd rhediad llysywod pendoll yr afon (Lampetra fluviatilis) y gwanwyn hwn yn gynharach nag yr oeddem wedi'i ddisgwyl, ond cawsom gyfle i gynnal prawf i brofi ein dulliau casglu data gan gynnwys trapio, tagio a defnyddio derbynyddion acwstig trwy'r dalgylch. Llwyddwyd i dagio tair llysywen bendoll yr afon yn eu llawn dwf ac rydym wedi canfod bod rhai o'r tagiau hyn yn symud i fyny'r afon. Profodd y prawf yn ddefnyddiol wrth brofi dibynadwyedd ac amseriad ein prosesau, ac edrychwn ymlaen at gynnal monitro mwy cadarn yn ystod rhediad nesaf llysywod pendoll yr afon.
Llysywod pendoll yr afon - Jack Perks Photography
Roeddem yn falch o rannu fideo byr ar ein tudalen Facebook LIFEAfonDyfrdwy yn ddiweddar, a dynnwyd gan y pysgotwr John Lewis, a'i fab Gethin. Llwyddodd y ddau i ddarganfod cannoedd o lysywod pendoll yr afon yn ymgasglu i silio yn rhan isaf Afon Dyfrdwy. Aethom allan ar frys y bore canlynol i arolygu'r ardal, a chyda lefelau afonydd isel a dŵr clir, roedd hyn yn caniatáu i ni weld eu lleoliadau silio. Gydag amodau mor glir, roeddem yn gallu defnyddio drôn y tîm a chipio lluniau o’r awyr a delweddau o ‘nythod’ llysywod pendoll yr afon a oedd yn llawer haws eu gweld oddi uchod. Roedd Jack Perks, ffotograffydd bywyd gwyllt, hefyd yn awyddus i gael rhywfaint o luniau tanddwr o’r llysywod pendoll yn silio a daeth draw o Nottingham i fanteisio ar y cyfle prin hwn. Diolch i John a Gethin am ein hysbysu, a Jack Perks am rannu rhai o'i ddelweddau gyda ni. Cafodd waith ffilmio Jack Perks o lysywen bendoll yn silio eu ddangos ar BBC Springwatch ar 9 Mehefin, gellir eu gwylio eto yma tua 23 munud i mewn i’r rhaglen.
Yn ystod yr wythnos ganlynol, cynhaliwyd arolygon wrth gerdded mewn ychydig o leoliadau ar hyd rhannau isaf Afon Dyfrdwy y credir fod ganddynt raean da ac a oedd yn ddigon bas i weld y nythod silio. Darganfuwyd ychydig gannoedd o bysgod silio, a chofnodwyd a thynnwyd lluniau o rai nythod enfawr, sawl metr o hyd ac o led, (yn yr afon a chyda'r drôn). Mae hwn yn ddata sylfaenol rhagorol ar gyfer y prosiect wrth i ni geisio cynyddu nifer ac ystod llysywod pendoll yr afon a’r môr. Mae’n ymddangos bod 2021 wedi bod yn flwyddyn silio lwyddiannus iawn i lysywod pendoll yr afon.
|
|
|
|
Mae gwaith cynllunio ar y gweill ar hyn o bryd ym mloc coedwigaeth Aberhirnant a Llangywer i wella rheolaeth ar gylfatiau. Bydd hyn yn cynnwys ailosod 9 cylfat camweithredol sydd mewn cyflwr gwael ynghyd â gosod 3 cylfat newydd ychwanegol. Bydd trapiau gwaddod hefyd yn cael eu cyflwyno neu eu gwella mewn 34 lleoliad ar hyd ffordd y goedwig. Bydd hyn yn gwella rheolaeth ar gylfatiau ac yn lleihau faint o waddod a halogion eraill sy’n mynd i mewn i gyrsiau dŵr, a bydd yn caniatáu i weithrediadau coedwigaeth ddigwydd yn fwy cynaliadwy. |
Mae'r cylfatiau'n amddiffyn rhywogaethau dyfrol trwy ddal gwaddod ychwanegol a'i ddargyfeirio i rannau dynodedig o'r goedwig gan greu mannau gwlyb a swmpiau ar gyfer y dŵr gormodol. Bydd yr ardaloedd gwlyb yn cael eu rheoli mewn cynlluniau adnoddau coedwig yn y dyfodol sy'n cynnwys torri coed conwydd na fyddant yn ffynnu yn yr ardaloedd gwlypach a chaniatáu i rywogaethau brodorol collddail fel helyg a gwern i gymryd eu lle.
Mae creu trapiau gwaddod yn golygu cloddio twll uwchben neu islaw cylfat er mwyn torri ar draws llif y dŵr sy'n galluogi gronynnau gwaddod i ymgartrefu, ond gan barhau i ganiatáu i ddŵr basio trwy'r all-lif gan adael yr holl waddod ar ôl yn y trap. Mae'r dyluniad yn cynnwys pwll cadw bach dros dro, y gellir ei wagio wedyn pan fydd yn llawn. Bydd y gwaith hwn wedi'i gwblhau erbyn mis Medi eleni.
|
|
|
Mae tîm LIFE wedi parhau gyda gwaith tagio pysgod dros yr ychydig fisoedd diwethaf, gydag eog yr Iwerydd (ar eu llawn dwf yng Nghaer, a physgod ifanc yn y llednentydd uchaf) a llysywen bendoll y môr yn cael eu targedu. Bydd y rhwydwaith o dderbynyddion a ddefnyddir ledled yr afon yn canfod y tagiau acwstig hyn sydd wedi'u mewnblannu trwy lawdriniaeth ac yn caniatáu i ni ddeall symudiadau'r pysgod hyn wrth iddynt fudo fel rhan o'u rhediadau silio, ac asesu unrhyw oedi yn eu taith.
|
Mae arwyddion cychwynnol gan dderbynyddion yn rhan isaf yr afon yn awgrymu bod eogiaid a llysywod pendoll y môr yn eu llawn dwf yn mudo'n gyflym trwy ran isaf yr afon i gyffordd Alyn, gyda bron pob pysgodyn yn cymryd llai na 12 awr i deithio'r 14km hwn o'r afon.
Llysywen bendoll y môr wedi'i thagio yng Nghaer
Bydd data gan dderbynyddion pellach yn cael ei lawrlwytho dros yr wythnosau nesaf i gael gwell dealltwriaeth o symudiadau pysgod trwy'r system. Bydd y derbynyddion yn cael eu gadael yn yr afon, gan y bydd y tagiau mwy a ddefnyddir yn yr eog llawn twf yn para am dros 18 mis, felly byddwn hefyd yn gallu edrych ar symudiad celtiaid i lawr yr afon (y term a roddir ar eogiaid unwaith y byddant wedi silio).
Darllenwch am ein gwaith o olrhain pysgod yn acwstig mewn astudiaeth achos ddiweddar a gyhoeddwyd gan un o'n cyflenwyr, RS Aqua yn yr ECO Magazine yma.
|
|
Rydym yn falch iawn o weithio gyda North Wales Photography by Simon Kitchin, a fydd yn tynnu lluniau o ansawdd uchel o ddalgylch hyfryd Afon Dyfrdwy ar draws pob un o'r pedwar tymor ar gyfer ein prosiect. Ein gobaith yw bod y delweddau amrywiol hyn yn adlewyrchu'r gwahanol ffyrdd y defnyddir yr afon, a'r rôl bwysig y mae'n ei chwarae wrth gefnogi'r amgylchedd, bywoliaethau a hamdden yn yr ardal.
Efallai eich bod eisoes wedi gweld rhai o ddelweddau trawiadol Simon ar ein tudalennau Facebook a Twitter, ac rydym hefyd newydd lansio tudalen Instagram newydd i arddangos yr holl ddelweddau gorau o'r prosiect - dilynwch ni am yr holl ddiweddariadau diweddaraf!
|
|
• Dyfarnu contract fframwaith Adfer Afon a chynllunio’r gwaith i’w gyflawni eleni gan gontractwyr.
• Parhau i gynllunio a chysylltu â rhanddeiliaid ar y gwaith arfaethedig ar ddwy gored yn Llangollen.
• Dechrau ymyriadau ar ffermydd mewn safleoedd wedi'u targedu i leihau dŵr ffo llawn maetholion.
• Cael gwared â rhwystr rhyd Morlas a monitro ar nant Morlas i gasglu data sylfaenol pellach.
|
|
|
|
|
|