Wrth i’r dyddiau ymestyn ac i arwyddion o’r gwanwyn ddechrau blaguro o’n cwmpas, gallwn edrych yn ôl gyda balchder ar dymor llwyddiannus a welodd dîm Twyni Byw’n cwblhau llawer o waith ledled Cymru.
Yng Nghynffig buom yn crafu ardal o fewn llaciau’r twyni i gael gwared â’r llystyfiant bras a chreu cynefin tywod noeth. Mae hyn yn hanfodol er mwyn i fywyd gwyllt arbenigol a phrin y twyni fedru goroesi.
Buom hefyd yn tynnu prysgwydd fel bedw a helyg; pe na bai’r rhywogaethau hyn yn cael eu rheoli, byddent yn cymryd drosodd yr ardaloedd gwlyb ac yn lledaenu gan ordyfu dros laciau twyni a chynefinoedd glaswelltir pwysig. Darllenwch fwy am ein gwaith yng Nghynffig.
Draw yn Nhwyni Pen-bre, buom yn creu tri rhic yn y twyni – sef bylchau ym mlaen y twyni – a thynnu tyweirch o laswelltir a llaciau isel y twyni er mwyn creu cynefin tywod noeth. Dylai’r gwaith gynyddu symudiad naturiol y tywod yn y twyni. Darllenwch fyw am ein gwaith yn Nhwyni Tywod Pen-bre.
Yn Niwbwrch, buom yn crafu tua 0.4 hectar yn Pant y Gwylan – un o’r llennyrch agored yn y goedwig yn agos at Dwyni Penrhos. Mae crafu’r llystyfiant sydd wedi gordyfu yn helpu i ddatgelu tywod noeth a chreu cynefin llaith y gall planhigion ac infertebratau brodorol fyw ynddo.
Roedd tasgau eraill a gwblhawyd yn Niwbwrch yn ystod y gaeaf yn cynnwys torri gwair mewn ardal 5ha, tynnu bonion mewn ardal 3ha a thynnu rhywogaethau estron goresgynnol a phrysgwydd brodorol mewn ardal oddeutu 20ha. Dyma Leigh â mwy o fanylion am y gwaith a wnaed yn Niwbwrch.
Ym Morfa Harlech defnyddiwyd peiriannau torri gwair robotig ar y twyni i dorri’r llystyfiant toreithiog cyn cyflwyno cloddiwr cerdded i ddringo’r twyni a chrafu’r tyweirch. Mae hyn yn creu cynefin tywod noeth ar gyfer infertebratau prin a blodau gwyllt brodorol.
Cwblhawyd y gwaith mewn partneriaeth â Chlwb Golff Brenhinol Dewi Sant sy’n berchennog y tir lle mae’r gwaith cadwraeth yn digwydd. Darllenwch fwy am ein gwaith ym Morfa Harlech yn yr erthygl hon gan y Cambrian News.
Fe wnaethom hefyd glirio 5ha o rafnwydd y môr yn Nhwyni Talacharn - Pentywyn. Er ei bod yn rhywogaeth gynhenid yn rhannau dwyreiniol y DU, nid yw’n frodorol yng Nghymru ac mae'n blanhigyn hynod oresgynnol sy'n mygu bywyd gwyllt y twyni. Mae'n tyfu'n gyflym yn gloddiau o lwyni trwchus, dreiniog, gan niweidio glaswellt a blodau gwyllt brodorol.
|