|
Croeso i rifyn y Gwanwyn o gylchlythyr LIFE Afon Dyfrdwy!
|
|
|
Gosod Derbynyddion Acwstig
Mae tîm LIFE yn dechrau ar gyfnod allweddol o fonitro wrth i ni geisio sefydlu gwybodaeth waelodlin am fudiad llysywod pendoll ac eogiaid yn nalgylch Dyfrdwy. Mae'n debyg bod ymfudiad llysywod pendoll yr afon (Lampetra fluviatilis) i ddŵr croyw wedi dechrau ym mis Hydref y llynedd gyda niferoedd bach (yn seiliedig ar dystiolaeth hanesyddol wasgaredig) ond dylai gyrraedd ei anterth yn ystod y mis nesaf. Gobeithio y dilynir hyn gan ddyfodiad llysywod pendoll y môr (Petromyzon marinus) i ddŵr croyw fis nesaf. Mae ein dull trapio symudol newydd wedi ein galluogi i samplu cryn nifer o lysywod pendoll a gobeithio y bydd yn parhau i ddarparu sbesimenau ar gyfer ein gwaith monitro.
Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn defnyddio dros 40 o dderbynyddion acwstig ar hyd a lled y dalgylch a defnyddir y rhain i asesu cyflymder a hynt y rhywogaethau hyn i'r afon ac o gwmpas strwythurau. Drwy fewnblannu tagiau acwstig yn llawfeddygol mewn hyd at 65 sbesimen (40 llysywen bendoll yr afon a 25 llysywen bendoll y môr), gobeithiwn sefydlu ymddygiadau, patrymau oedi ac effeithiau allweddol ynghylch y rhwystrau posibl hyn i fudo. Rydym ni’n dechrau o waelodlin isel iawn a bydd y wybodaeth a gesglir yn amhrisiadwy wrth i ni fynd i'r afael â nifer o'n safleoedd ymyrryd allweddol. Rydym ni hefyd yn gobeithio sefydlu graddau'r mudo ar ôl ein hymyriadau a nodi ardaloedd silio allweddol dros y pedair blynedd nesaf.
Ni fydd yr ymchwil acwstig yn cael ei gyfyngu i rywogaethau llysywod pendoll. Mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru, rydym ni’n bwriadu tagio 40 eog llawn dwf (Salmo salar) yng Nghaer i edrych ar ymfudiad gleisiaid eog i fyny'r afon ac i lawr yr afon ar y cyd â’r astudiaeth tracio gleisiaid yn Llifddorau’r Bala. Hoffem ni ddiolch i Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru am brynu 10 tag acwstig i helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o ymddygiad eogiaid llawn dwf yn y Ddyfrdwy, ac yna dangos manteision yr ymyriadau a wnaed o dan brosiect LIFE Afon Dyfrdwy.
|
|
Dros y misoedd diwethaf, mae ein Swyddogion Adfer Afonydd wedi bod yn brysur yn paratoi prosiectau a fydd yn cael eu cyflawni yn haf 2021. Bwriedir gwneud gwelliannau mawr i gynefinoedd yn Afon Brenig ac Afon Alwen uchaf, a fydd yn cynnwys cyflwyno llawer iawn o raean ac adleoli clogfeini o fewn y sianel. Bydd hyn yn helpu i ddarparu cysgod, rheoleiddio tymheredd a chynefin silio gwell ar gyfer pob rhywogaeth o bysgod gan gynnwys eogiaid, siwin a brithyllod.
Ar hyn o bryd, er mwyn i bysgod gyrraedd rhannau uchaf Afon Alwen yn hawdd, mae angen iddyn nhw nofio drwy gwlfer mawr 50 metr o dan ffordd y B4501 rhwng Cerrigydrudion a Dinbych, sydd wedi'i nodi fel rhwystr sylweddol i bob pysgodyn ar lifoedd is. Rydym ni wedi penodi ymgynghorwyr i ddarparu ateb gwell ar gyfer taith pysgod yn y lleoliad hwn ac ar ôl cynnal arolwg topograffig ar y safle’n ddiweddar, gobeithiwn dderbyn dyluniadau amlinellol yn fuan iawn i symud ymlaen gyda'r prosiect.
|
|
|
Efallai y cofiwch o'n cylchlythyr diwethaf mai ein targed oedd codi 2.5km o ffensys y gaeaf hwn. Rydym ni wedi llwyddo i ragori ar y targed hwn ac rydym ni eisoes wedi cwblhau dros 3.9km o goridorau glan afon wedi'u ffensio ar hyd y brif afon a'r llednentydd sy'n llifo i mewn i Afon Dyfrdwy. Mae'r coridorau glan afon hyn yn effeithiol iawn wrth eithrio stoc rhag sathru’r glannau ac atal gwaddodion a maetholion rhag mynd i mewn i Afon Dyfrdwy. Mae'r coridorau'n gweithredu fel lleiniau clustogi sy'n diogelu'r afonydd yn ogystal ag annog ecosystemau glan afon i ffynnu.
Hefyd, yng Nghwrs Golff Llangollen, rydym ni wedi plannu 140 o goed brodorol cymysg i sefydlogi glannau'r afon a fydd yn helpu i leihau faint o waddod wedi erydu sy'n dod i mewn i'r afon ac yn darparu cynefin ychwanegol i fywyd gwyllt.
Ers lansio'r prosiect, mae nifer o goridorau glan afon wedi'u creu ar hyd a lled y dalgylch gan gynnwys y brif afon ger Llangollen, o gwmpas ardal Bangor-is-y-Coed, yn ogystal ag uwch i fyny yn y dalgylch ar Afon Mynach ac Afon Tryweryn. Mae coridorau glan afon yn amrywio o ran hyd ac rydym ni wedi gweithio'n agos gyda'r tirfeddianwyr a'r tenantiaid i sefydlu pa ddull fyddai fwyaf buddiol i'r afon a'r tir. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio gyda ni i greu coridor glan afon wedi'i ariannu'n llawn ar eich tir, mae croeso i chi gysylltu â ni ar lifedeeriver@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
|
|
|
Ym mis Ionawr, cyhoeddwyd rheoliadau newydd gan Lywodraeth Cymru sy'n gosod y wlad gyfan o dan reoliadau Parthau Perygl Nitradau (NVZ) o fis Ebrill eleni. Mae hyn yn golygu y bydd cyfyngiadau llymach o ran storio slyri, cyfnodau pan fydd taenu'n cael ei wahardd, yn ogystal â gofyniad i gofnodi a dilyn cyfanswm y ffigurau llwytho nitrogen.
Bydd ein hymweliadau fferm yn gallu helpu eich busnes i baratoi ar gyfer y rheoliadau newydd hyn. Isod ceir rhai o'r technegau a'r mesurau y gallwn ni eu cynnig:
• Cyfrifo'r storfa slyri sydd ar gael
• Cyfanswm cyfrifiadau llwytho nitrogen
• Potensial ar gyfer ymyriadau ar y fferm a allai arwain at lai o law yn mynd i mewn i storfeydd slyri
• Cyngor ar grantiau mewnol ac allanol a allai fod o fudd i'ch busnes
• Cyngor a sicrwydd cyffredinol ar y rheoliadau newydd
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am sut y gallwn ni eich helpu, neu os hoffech drefnu ymweliad fferm, cysylltwch â'n Swyddogion Rheoli Tir i gael sgwrs anffurfiol:
Ifor: ifor.potts@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk | 07971 545474 Tomos: tomos.wynne@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk | 07917 214791
|
|
|
O dan brosiect LIFE Afon Dyfrdwy, sefydlwyd fframwaith newydd ar gyfer offer monitro pysgodfeydd yn ddiweddar. Mae'r fframwaith hwn ar gyfer gwahanol ddarnau arbenigol o offer monitro a fydd yn cael eu defnyddio gan dîm y prosiect drwy gydol oes y prosiect a thu hwnt. Mae'r fframwaith yn cynnwys lotiau ar wahân ar gyfer technoleg Trawsatebwyr Integredig Goddefol (PIT), camerâu acwstig tanddwr, cyfrifyddion pysgod awtomatig ac offer telemetreg acwstig i'n galluogi i ddeall symudiadau ac ymddygiadau pysgod yn yr amgylchedd dŵr croyw a morol.
Mae'r fframwaith hwn yn adeiladu ar flynyddoedd lawer o ddefnydd a phrofiad o fewn y meysydd arbenigol yn y maes hwn, ac yn ffurfioli pryniannau blaenorol, yn dilyn proses dendro gystadleuol a hysbysebwyd yn Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.
RS Aqua yw un o'r cyflenwyr a byddant yn darparu tagiau acwstig i'r prosiect (ac astudiaethau tracio eraill ledled Cymru) ac yn ddiweddar mae nhw wedi cyhoeddi manylion eu rhan yn y prosiect ar eu gwefan yma.
|
|
|
Mae tynnu delweddau a lluniau o ansawdd uchel yn agwedd bwysig ar y prosiect, nid yn unig fel cofnod o'r gwaith sy'n cael ei wneud ond yn bennaf i fonitro effeithiau ein hymyriadau, yn ogystal ag ymchwilio i ardaloedd anodd eu cyrraedd, ac fel adnodd gweledol ddifyr ar gyfer cyfathrebu ein gwaith. Gyda llawer o'r swyddogion prosiect yn ymweld â safleoedd ar hyd y dalgylch yn rheolaidd, un o'r ffyrdd gorau o fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hyn yw defnyddio drôn i hedfan dros y safleoedd hyn a thynnu delweddau o amrywiaeth o wahanol safbwyntiau.
Ar ôl dilyn cwrs hyfforddi trwyadl yn ddiweddar, mae gennym ni bellach beilotiaid drôn trwyddedig yn y tîm a fydd yn casglu cymaint o ddata â phosibl dros y pedair blynedd nesaf, gan helpu i ddarparu sylfaen dystiolaeth gadarn a darparu delweddau o safon i rannu diweddariadau gyda chi drwy ein sianeli cyfathrebu – cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol i ddarganfod ble rydym ni wedi bod yn hedfan yn ddiweddar!
|
|
|
- O ran newyddion caffael…Cyhoeddir cyfle tendro ar gyfer Fframwaith Adfer Afon Dyfrdwy LIFE ddiwedd y mis hwn! Mae'r fframwaith £1.5m yn cynnwys ffensio, plannu coed, gwaith ar amddiffynfa falurion, tynnu coredau bach a gosod graean a meini mawr. Cadwch olwg ar GwerthwchiGymru ac ar eDendro Cymru i wneud cais.
- Gyda phrosiect fel hwn mae'n hanfodol sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud mewn ffordd amgylcheddol sensitif, ac o ganlyniad rydym ni’n brysur yn gwneud cais am wahanol hawliau a thrwyddedau fel Trwyddedau Gweithgarwch Perygl Llifogydd ac Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gwaith a wneir gennym ni neu gontractwyr penodedig yn cael ei wneud mewn modd na fydd yn achosi niwed i'r amgylchedd.
-
Bydd ein rhaglen ffensio gaeaf a phlannu coed ar draws y dalgylch wedi'i chwblhau o fewn y mis nesaf. Yn dilyn Storm Christoph, rydym ni wedi asesu'r holl ffensys a gwblhawyd yn flaenorol o dan y prosiect, ac rydym ni’n falch o ddweud mai dim ond 6 metr a ddifrodwyd yn ystod y llifogydd gwaethaf erioed ym mis Ionawr ac y byddan nhw’n cael eu trwsio gan y contractwr yn ystod yr wythnosau nesaf.
- Dros y tri mis nesaf, byddwn yn cyhoeddi dyluniadau amlinellol ar gyfer strwythurau mewn afonydd a byddwn yn ymgysylltu â'n cymunedau lleol i drafod y cynlluniau hyn a'r canlyniadau cadarnhaol rydym ni’n gobeithio eu cyflawni.
|
|
|
|