|
P'un a ydych yn dilyn diffiniad meteorolegol y tymhorau (mae'r gwanwyn yn dechrau ar 1 Mawrth) neu'r diffiniad astronomegol (mae'r gwanwyn yn dechrau ar 21 Mawrth pan fydd yr haul yn croesi llinell y cyhydedd, wrth anelu tua’r gogledd yn yr awyr) mae mis Mawrth yn golygu ei bod yn bryd edrych ymlaen at Amser Haf Prydain 🌞⏰. Mwy o oriau o olau dydd a thywydd cynhesach amdani! Gofynnwch i'ch dysgwyr gadw llygad am ŵyn yn prancio ar y bryn, chwilio’r gwrychoedd am lwyth o gynffonnau ŵyn bach neu sylwi ar fylbiau'n ffrwydro trwy'r pridd – beth yw eich hoff arwydd chi o'r gwanwyn?
Mae mis Mawrth yn fis prysur i leoliadau addysg, gyda Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth a Diwrnod y Llyfr ar 4 Mawrth. Gydag addysgwyr a rhieni fel ei gilydd wrthi fel lladd nadroedd yn trefnu gwisgoedd, mae Diwrnod y Llyfr yn hyrwyddo darllen er pleser. Yn y rhifyn hwn byddwn yn ymchwilio sut y gall yr awyr agored ysbrydoli darllenwyr amharod a byddwn yn dathlu llyfrau amgylcheddol poblogaidd. Beth bynnag wnaethoch chi wisgo, gobeithio i chi gael hwyl.
|
|
|
Ddim yn ôl Vicky Lees, Cynghorydd Gwella Cefnogi Llythrennedd a Saesneg ar gyfer GwE. Mae darparu lle yn ymestyn dysgwyr yn gorfforol ac yn ddychmygol, mae'n credu bod yr awyr agored yn cynnig cyfleoedd arbennig o dda i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a iaith.
"Mae mynd â dysgu allan i'r awyr agored yn un o'r profiadau dysgu mwyaf ysbrydoledig, ysgogol a chalonogol y gall athro ei gynnig i blentyn. Gall annog hyd yn oed y darllenydd neu'r siaradwr mwyaf amharod i ddod allan o'i gragen ac ymgysylltu â'r byd o'i gwmpas a bod yn chwilfrydig amdano a dechrau’r cyfathrebu y gall caethiwed yr ystafell ddosbarth ei rwystro weithiau. Cyfunwch hyn â llyfr da sy'n gysylltiedig â'u hanturiaethau awyr agored, ac mae gennych chi rysáit wych i ddatblygu cariad dwfn tuag at ddarllen a chysylltiad gwirioneddol â darllen er pleser. Ac rydym ni’n gwybod mai dyma un o'r llwybrau sicraf i ddatblygu darllen, cyfathrebu a lles ein plant (a'n hathrawon!) Alla i ddim ei argymell ddigon!"
|
|
|
 |
|
Gellir defnyddio llyfrau fel cymhorthion i hyrwyddo dysgu yn yr amgylchedd naturiol, yn ei gylch ac ar ei gyfer fel yr esbonia Heti mewn fideo byr newydd. Ar ôl darllen y llyfr 'Taclus' gan Emily Gravett gyda'i mam, roedd Heti eisiau mynd allan i goetir cyfagos i ddysgu mwy am goetiroedd a'r anifeiliaid sy'n byw yno. Wedi'i hysbrydoli gan y llyfr, cymerodd ran mewn amrywiaeth o weithgareddau dysgu ymarferol a oedd yn ymwneud â'r stori gan annog pob un ohonom i wneud pethau bach i helpu natur. Os ydych chi eisiau gwybod mwy, gwyliwch y fideo byr hwn! |
|
|
Mae llyfrau’n adnodd gwych i gyflwyno a dyfnhau gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr am yr amgylchedd naturiol. Rydym ni wedi datblygu rhestr lyfrau ‘Canghennau a Llyfrau yn Llu!’ a fydd yn helpu eich dysgwyr i ddeall coed, coetiroedd a'r creaduriaid sy'n byw ynddyn nhw.
Byddai’n wych cynyddu faint o restrau llyfrau â themau amgylcheddol sydd gennym ni. O dân, i lygredd plastig, cynefinoedd i foch daear, os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli i ddysgu mwy am yr amgylchedd naturiol neu wedi defnyddio llyfr fel sbardun i fynd â’ch dysgwyr y tu allan, byddem ni wrth ein bodd yn clywed eich awgrymiadau. E-bostiwch eich syniadau i addysg@naturalresourceswales.gov.uk. Dyma rai awgrymiadau i'ch rhoi chi ar ben ffordd!
"Rydw i newydd orffen darllen 'After the Flood' gan L.S. Matthews ac roeddwn i wrth fy modd gyda phob munud. Mae'r stori’n wych ac yn rhoi cymaint i gnoi cil arno ynghylch y ffordd rydym ni fel pobl yn trin ein planed a chanlyniadau posibl hynny, ar gyfer ein dyfodol ein hunain a chenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n teimlo’n gyffrous iawn am y posibilrwydd o lunio pwnc o amgylch y stori hon gyda fy nysgwyr CA2 ac rwy'n teimlo fy mod wedi cael fy ysbrydoli i gynllunio, sydd bob amser yn arwydd da!" Millie Jones, Ysgol Maes y Llan, Rhiwabon.
"Gyda gwenyn dan fygythiad, mae 'Criw'r Coed a'r Gwenyn Coll' gan Carys Glyn, yn llyfr perthnasol iawn sy'n codi sawl cwestiwn i blant am eu byd, gan helpu i ddatblygu dinasyddion moesegol a gwybodus. Mae'r cymeriadau sy’n y llyfr yn addas ar gyfer chwarae rôl a gweithgareddau celf gyda'r rap sy’n y llyfr yn helpu dysgwyr i gofio'r stori." Rhodri Harries, Athro ac Ymarferydd Creadigol, De-ddwyrain Cymru.
"Mae ein disgyblion Blwyddyn 9 wedi bod yn darllen 'Trash' gan Andy Mulligan a byddan nhw’n symud ymlaen at 'Flush' gan Carl Hiaasen. Rwy'n teimlo bod y ddau lyfr hyn yn ehangu dealltwriaeth disgyblion o faterion amgylcheddol byd-eang, yn ogystal â helpu i ddatblygu eu sgiliau Saesneg. Mae'r dysgwyr yn frwdfrydig ynghylch diogelu ein hamgylchedd naturiol ac yn mwynhau'r cyfle i fynegi eu hunain ynghylch materion amgylcheddol." Gail Quick, Cydlynydd Llythrennedd, Adran Saesneg, Ysgol Gyfun Dŵr y Felin, Castell-nedd.
"Mae Rydyn Ni’n Mynd i Hela Arth gan Michael Rosen yn glasur oesol, sy'n datgelu iaith newydd i blant ifanc wrth iddyn nhw fynd ar daith trwy fyd natur. Daw'r llyfr yn fyw wrth i'r geiriau greu sain, symudiad a hapusrwydd. Mae’r plant yn defnyddio eu synhwyrau yn yr awyr agored i gyffwrdd, teimlo, blasu, clywed ac arogli'r stori, gan ddod â'r ansoddeiriau'n fyw. Mae gan y stori lawer o gyfleoedd trawsgwricwlaidd, yn naturiol bydd plant eisiau creu mapiau, dilyn cyfarwyddiadau a mynd ar antur yn eu hamgylchedd lleol. Rydym ni wrth ein bodd yn defnyddio strwythur y stori ac yn newid y cymeriadau er enghraifft 'Rydym ni'n mynd ar helfa adar'. Y plant sy’n arwain y ffordd. Mae'r cyfleoedd yn ddiddiwedd, stori i'w thrysori." Gaynor Brimble, Cynghorydd Her y Cyfnod Sylfaen, Gwasanaeth Cyflawni Addysg.
|
|
|
P'un a ydych chi’n datblygu geirfa, yn cyfansoddi barddoniaeth neu'n hyrwyddo llafaredd, mae'r amgylchedd naturiol yn newid o hyd ac yn rhoi cyfoeth o ysbrydoliaeth i ddysgwyr. O Pigog Gogleisiol, sy'n canolbwyntio ar ddarganfod gweadau i gerddi acrostig, mae'r 18 gweithgaredd a’r gemau yn y llyfryn yn canolbwyntio ar ddangos sut i ddefnyddio'r amgylchedd naturiol fel amgylchedd ysgogol i hwyluso iaith a llythrennedd tra'n gwella gwybodaeth a dealltwriaeth o nodweddion a phrosesau naturiol.
|
|
|
Ar ddiwedd y dydd, rydym ni’n gwybod eich bod chi’n brysur ac eisiau rhywfaint o ysbrydoliaeth barod. Beth am edrych ar yr adnoddau gwych hyn y mae ein grwpiau rhwydwaith Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru wedi'u datblygu?
Geiriau Diflanedig – Pecyn cymorth a ddatblygwyd gan fyfyrwyr Blynyddoedd Cynnar israddedig Blwyddyn 2 ym Mhrifysgol De Cymru. Dechreuodd Geiriau Diflanedig (The Lost Words) fel ymateb i dynnu geiriau natur bob dydd fel mesen, clychau'r gog a dryw allan o eiriadur plant poblogaidd am nad oedd y geiriau hynny'n cael eu defnyddio ddigon gan blant i haeddu cael eu cynnwys. Daeth Geiriau Diflanedig yn brotest o golli'r byd naturiol ac yn ddathliad o'r creaduriaid a'r planhigion rydym ni’n rhannu ein bywydau â nhw. Mae'r pecyn cymorth addysgu Geiriau Diflanedig ar gael ar wefan Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru ac mae'n cynnwys cynlluniau gwersi thematig ar ddeg gair 'coll'.
Codi Safonau gyda Phecyn Llythrennedd Dysgu yn yr Awyr Agored, grŵp DAAC Casnewydd. O ddatblygu cymeriadau i ffyn teithio, bydd y pecyn adnoddau hwn yn rhoi syniadau i chi i fynd â llythrennedd allan i’r awyr agored. Mae gan y pecyn ystod o weithgareddau wedi'u cynllunio ar gyfer pob gallu, gyda blwch geirfa Cymraeg atodol yn ogystal â dolenni TGCh.
Lle mae fy ysgrifennu'n mynd â mi – adnodd a ddatblygwyd gan grŵp DAAC De Powys. Gyda'r nod o ddatblygu llythrennedd y tu allan, mae'r adnodd hwn yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau siarad a gwrando, darllen ac ysgrifennu i ddatblygu dealltwriaeth a pherchnogaeth plant o'r amgylchedd.
|
|
|
Gall wynebu tudalen wag i'w llenwi fod yn frawychus i ddysgwyr - Gall mynd â'ch dysgwyr y tu allan a rhoi golygfa newydd iddyn nhw fod yn gam i'r cyfeiriad cywir a sbarduno eu chwilfrydedd.
Yn gadarn ac yn gyfoethog o ran adnoddau, yn tawelu ond yn newid yn gyson, mae'r amgylchedd naturiol yn darparu lleoliad amlsynhwyraidd i ysbrydoli stori wych. Efallai bod ffermwr blinedig sy’n gwarchod ei gaeau’n ffyddlon yn dod o hyd i hen ddarn arian ymhlith y cwysi sydd wedi'u haredig yn ffres un diwrnod, neu 'Wiwer Ofnus' sydd ag ofn gadael diogelwch canopi’r coed. Sut mae'r amgylchedd naturiol yn effeithio ar fywydau'r prif gymeriadau? O awyrgylch dirgel coetir i gopa uchel a chreigiog mynydd, gall yr amgylchedd naturiol osod yr awyrgylch ar gyfer antur a chynnig peryglon a rhwystrau i'r cymeriadau eu goresgyn. Ym mha dymor mae'r stori'n digwydd? A fydd y prif gymeriad yn llafurio trwy aeaf tragwyddol Narnia neu'n treulio dyddiau hirfelyn tesog ger yr afon fel Mole a Ratty yn Wind in the Willows? Pa effaith mae'r cymeriadau'n ei chael ar yr amgylchedd naturiol? A ydyn nhw’n creu llanast i ddechrau dim ond i ddysgu eu gwers a mynd yn eu blaenau i fod yn hyrwyddwyr natur? Bydd yr atebion i gyd gan eich dysgwyr cyn bo hir.
Beth am roi cynnig ar ein gweithgaredd Saffari Bwystfilod Bychain i roi persbectif morgrugyn i’ch dysgwyr o'r byd? Neu eu trochi mewn dirgelwch go iawn gyda'n gweithgaredd ‘Ditectif y Gadwyn Fwyd’. Ewch allan, does dim angen mynd yn bell, a does dim rhaid mynd i lecyn perffaith. Mae angen iddo fod yn lle sy’n ymestyn eu dychymyg a chaniatáu iddyn nhw fod yn greadigol. Rhywbeth y mae’r amgylchedd naturiol yn gyforiog ohono!
|
|
|
Cyn ac ar ôl - Argraff artist
Mae Ysgol Bro Dinefwr yn Llandeilo yn datblygu ardal ar gyfer dysgu yn yr awyr agored, o'r enw Natur, sy'n sylfaenol i'w gweledigaeth fel un o ysgolion cynaliadwy'r dyfodol.
Pan fydd yr ardal un erw wedi'i gorffen, bydd yna welyau wedi'u codi, cytiau ieir, cychod gwenyn, twnelau polythen hydroponig, sied offer, ystafell ddosbarth awyr agored a wal graffiti fawr. Bydd yn gynaliadwy ac oddi ar y grid, gyda phaneli ffotofoltäig a'i system ddyfrhau ei hun.
Prif ysgogwr y prosiect yw Ian Chriswick, y Pennaeth Cynorthwyol, sy'n gobeithio y bydd y prosiect yn cael ei ddefnyddio fel model ar gyfer ysgolion uwchradd eraill yng Nghymru.
Meddai Ian: “Rydyn ni’n credu na ddylai dysgu awyr agored ddod i ben ym mlwyddyn saith - gall fod yn rhan annatod o lawer o bynciau. Mae cyfrifo cyfaint gwely wedi'i godi yn golygu gwneud rhywfaint o fathemateg. Bydd celf graffiti yn cael ei ddysgu’r tu allan. Rydyn ni’n mynd i dreialu TGAU ‘Yr Amgylchedd Adeiledig’ ac addysgu sgiliau adeiladu cynaliadwy. Bydd iechyd a lles yn cael eu hymgorffori trwy ddatblygu bwydlen sy’n defnyddio cynnyrch a dyfwyd gan y plant eu hunain. Bydd gwerthu eu cynnyrch yn caniatáu iddynt ddysgu astudiaethau busnes hefyd.
“Mae'r disgyblion yn awyddus iawn i gymryd rhan. Mae pobl ifanc yn cael eu llethu gan negeseuon am newid yn yr hinsawdd, felly mae hyn yn eu grymuso i wneud rhywbeth yn ei gylch, gan helpu i leddfu eu pryder ynghylch yr hinsawdd a, nawr, pryder ynghylch Covid hefyd."
Mae Ian wedi datblygu cysylltiadau â llawer o sefydliadau i helpu i ddatblygu'r ardal awyr agored. Un enghraifft yw cydweithrediad â Chanolfan Arloesi Prifysgol Abertawe i gyflwyno astudiaethau’r dyfodol, fel argraffu 3D gyda chwyr gwenyn. Mae prosiect arall yn cynnwys creu gorsafoedd tywydd gyda ffrwd fyw dros y we o’r ardal a chartrefi'r disgyblion.
Bydd yr ardal awyr agored yn hwyluso prosiectau trawsgwricwlaidd yn unol â’r Cwricwlwm i Gymru, ac yn darparu'r sgiliau sydd eu hangen ar y disgyblion i fod yn rhan o weithlu'r dyfodol. Mae gan yr ysgol nod uchelgeisiol i gynyddu cyfleoedd swyddi’r sir er mwyn caniatáu i fyfyrwyr aros yn lleol. Mae Ian yn ystyried yr ardal awyr agored yn rhan allweddol o ddatblygu’r economi gylchol hon a gwytnwch yr ardal.
Dilynwch daith Ysgol Bro Dinefwr i adeiladu Natur ar Trydar (ac efallai i roi help llaw os ydych chi gerllaw!).
|
|
|
Beth bynnag fo'ch pwnc mae llawer o wahanol ffyrdd y gallwch chi ddefnyddio llyfrau fel sbardun i fentro y tu allan yn ystod Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru. Beth am gynnal Te Parti’r Hetiwr Hurt o Alys yng Ngwlad yr Hud? Gofynnwch i'ch dysgwyr fesur, arllwys a rhannu cacennau mwd a the dail wedi'i stiwio.
Dysgu am y Celtiaid gyda'ch dysgwyr? Yn draddodiadol, roedd y Celtiaid yn defnyddio briwydd felen, glaslys a rhisgl derw i greu llifynnau neu liw ar gyfer dillad ac i addurno'r corff. Dewch â Cheltiaid Cythryblus yr Hanesion Hyll yn fyw ac adfywio traddodiadau Celtaidd hynafol drwy roi cynnig ar wneud llifynnau naturiol (Gweithgaredd 8 – Llyfryn Bod yn Greadigol yn yr Awyr Agored).
Pe bai eich dysgwyr yn sownd ar ynys bellennig fel y bechgyn ysgol yn Lord of the Flies, a fydden nhw’n goroesi neu’n troi’n wyllt? O ysgrifennu cyfarwyddiadau ar sut i adeiladu lloches i gyflawni her Goroesi yn y Gwyllt (Gweithgaredd 11 Llyfryn Iechyd a Lles yn yr Awyr Agored), a fyddai eich dysgwyr chi’n gallu goroesi?
Wedi’i drefnu gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored, a bydd yr holl bartneriaid sy’n cymryd rhan yn rhannu syniadau a chyfleoedd i hyfforddi yn ystod yr wythnos er mwyn eich galluogi chi i ymuno fel addysgwr, rhiant neu ddysgwr wrth i ni ddathlu ystafell ddosbarth fwyaf a gorau Cymru; yr amgylchedd naturiol. Cofiwch rannu eich profiadau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod: #WythnosDysguYnYrAwyrAgoredCymru.
|
|
|
Beth bynnag eich diddordeb neu’r grŵp oedran rydych chi’n gweithio ag ef, mae amrywiaeth o gyrsiau gennym ni.
Naturiol Iach a Hapus - Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r adnoddau i chi wneud y gorau o ddefnyddio profiadau sy'n seiliedig ar natur i hyrwyddo lles corfforol a meddyliol cadarnhaol i ddysgwyr o bob oed.
24.03.21 @ 10.15 am, Saesneg
24.03.21 @ 4.15 pm, Saesneg
12.05.21 @ 10.30 am, Cymraeg
12.05.21 @ 4.15 pm, Saesneg
Coed, Coetiroedd Campus: Rhan 1 – Yn ateb i alw poblogaidd, cwrs annibynnol, yn cynnig gweithgareddau rhyngweithiol i gael eich dysgwyr yn dysgu sut mae coeden yn tyfu, ymchwilio i'r cylch coetiroedd, ecosystemau coetiroedd a llawer mwy!
29.06.21 @ 4.15 pm, Cymraeg NEWYDD
01.07.21 @ 4.15 pm, Saesneg NEWYDD
Coed, Coetiroedd Campus: Rhan 2 – Bydd Rhan 2 yn cwmpasu popeth o sut i gyfrifo faint o garbon sydd mewn coeden, sut i fesur coed a byddwn ni’n ymdrin â phopeth y mae angen i chi ei wybod am wasgaru hadau, a llawer mwy! Cwrs annibynnol, does dim angen i chi fod wedi mynychu Rhan 1 i fynychu Rhan 2.
19.04.21 @ 4.15 pm, Saesneg
20.04.21 @ 10.15 am, Saesneg
20.04.21 @ 4.15 pm, Cymraeg
Mae Mawn yn Anhygoel – mawndiroedd mawreddog – 3 am bris 1, dewch i ddathlu mawndiroedd, Wythnos Dysgu Yn yr Awyr Agored Cymru a Diwrnod y Ddaear 2022 gyda ni ar 22 Ebrill! Byddwn yn rhannu syniadau a gwybodaeth am weithgarwch trawsgwricwlaidd i ennyn brwdfrydedd eich dysgwyr am y tirweddau bregus, hynafol hyn. O ddarganfod faint o garbon sy'n cael ei storio mewn m3 o fawn i ddysgu sut y defnyddiwyd planhigion mawndir yn draddodiadol i drin clwyfau, mae'r sesiwn hon wedi'i hanelu at addysgwyr CA2/3/4.
22.04.21 @ 11.00 am, Cymraeg
22.04.21 @ 4.15 pm, Saesneg
Plentyndod Naturiol - Wedi'i anelu at ymarferwyr ac athrawon cyn-ysgol, meithrin a'r Cyfnod Sylfaen, mae'r cwrs hyfforddi hwn yn llawn awgrymiadau a thriciau ar sut i ddefnyddio'r awyr agored i gefnogi datblygiad, dysgu a chwarae plant.
15.04.21 @ 11.00 am, Saesneg
21.04.21 @ 10.30 am, Cymraeg
21.04.21 @ 4.15 pm, Saesneg LLAWN
06.05.21 @ 4.15 pm, Saesneg NEWYDD
18.05.21 @ 4.15 pm, Cymraeg NEWYDD
I archebu lle, ewch i wefan Tocyn Cymru .
|
|
|
Hoffech chi gael diweddariadau a newyddion rheolaidd am ddysgu yn yr awyr agored? Beth am ddilyn cyfrif Twitter Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru neu’r Grŵp Facebook preifat sydd ill dau'n cynnig llwyfan i gael y wybodaeth ddiweddaraf, lledaenu’r gair am brosiectau cyfredol a hwyluso trafodaethau gydag unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu yn yr awyr agored yng Nghymru.
Rydych chi’n derbyn y cylchlythyr hwn oherwydd eich bod eisoes wedi mynychu cwrs hyfforddi sy'n cael ei redeg gan CNC neu wedi gofyn am gael ymuno â rhestrau postio Grŵp Rhwydwaith Addysg CNC neu Ddysgu Yn yr Awyr Agored Cymru. Gobeithio ei fod yn ddefnyddiol i chi ond os hoffech gael eich tynnu oddi ar y rhestr, atebwch gan ddefnyddio'r opsiwn dad-danysgrifio isod.
|
|
|
|
|
|