|
Ers ein rhifyn diwethaf, gwyddom y bu sawl achos o lifogydd mewn cartrefi a busnesau ar hyd a lled Cymru.
Rydym ni yma i helpu i roi cyngor ar beth allwch chi ei wneud, cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd. Gallwch edrych ar ein tudalennau gwe i gael cyngor a gwybodaeth neu mae pob croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau. Byddwn yn ceisio ateb unrhyw ymholiadau a allai fod gennych.
Mae’n help mawr hefyd os gallwch chi ddarparu gwybodaeth i ni fel y gallwn wella ein dealltwriaeth ein hunain o achosion o lifogydd, ynghyd â'n Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd ar gyfer y dyfodol, er enghraifft:
- Oes gennych chi luniau wedi'u dyddio gyda lleoliadau penodol a dynnwyd yn ystod y digwyddiad, y byddech chi'n fodlon eu rhannu?
- Oedd yna unrhyw gamau o'ch cynllun llifogydd lle gwnaethoch chi sylweddoli bod angen i chi wneud newidiadau? A fyddech chi'n barod i rannu unrhyw beth rydych chi wedi'i ddysgu?
Byddwn yn anelu at ateb eich cwestiynau yn ein cylchlythyr nesaf. Os oes angen i'ch ymholiad gael ei ateb gan un o'n partneriaid, fe wnawn ein gorau i gael gafael ar yr atebion hynny ar eich rhan ond ceisiwch fod yn amyneddgar gyda ni, oherwydd efallai y bydd yna oedi. Bydd yr atebion yn seiliedig ar wybodaeth sydd ar gael hyd yma, wrth i ymchwiliadau barhau.
|
|
Ym mis Ionawr cyhoeddwyd canllaw i berchnogion tai a busnesau er mwyn cymryd camau i amddiffyn eich eiddo rhag llifogydd. Fe’i lluniwyd gan Gymdeithas Ymchwil a Gwybodaeth y Diwydiant Adeiladu (CIRIA) ac mae’n dilyn ei Chod Ymarfer ar gyfer gwydnwch eiddo yn erbyn llifogydd.
Mae’r canllawiau a’r cod ymarfer ar gael i’w lawrlwytho am ddim o wefan CIRIA.
Mae yna hefyd gyfres o’r enw ‘Our Flood Resilient Home’ ar YouTube, a grëwyd gan Hazard and Hope. Mae pob pennod yn canolbwyntio ar dŷ gwahanol sydd wedi profi llifogydd ac sydd wedi mynd ati i roi mesurau gwydnwch yn erbyn llifogydd ar waith ers hynny. Hyd yn hyn, mae tair pennod ar gael i’w gweld ar YouTube drwy ddilyn y dolenni hyn: Pennod 1, Pennod 2 a Pennod 3.
|
|
|
Yn ein harolwg diweddar, cododd ychydig o wirfoddolwyr llifogydd cymunedol y mater o siarad am eu cynllun llifogydd cymunedol gydag aelodau o’u cymuned ehangach.
Felly roeddem o'r farn y gallai fod yn ddefnyddiol tynnu sylw at ffordd o wneud hyn, yn ddigidol, ffordd a allai fod yn arbennig o ddefnyddiol yn y cyfnod anodd hwn pan na allwn gwrdd wyneb yn wyneb. Gwyddom fod llawer o grwpiau cymunedol eisoes yn defnyddio Facebook neu Whatsapp i rannu gwybodaeth, ond gallai hyn fod yn ffordd arall o gyrraedd pobl.
Mae Nextdoor yn ap preifat, rhad ac am ddim, lle gallwch chi rannu pob math o wybodaeth leol - o anifeiliaid anwes coll, argymhellion busnes lleol a diweddariadau diogelwch. Gallwch anfon ‘Rhybudd Brys’ allan sy’n rhybuddio pawb yn eich cymdogaeth sydd ar yr ap, a hynny ar unwaith. Gallwch hefyd ei ddefnyddio i anfon lluniau a fideos a allai fod yn ddefnyddiol mewn digwyddiad.
|
|
Ffaith: Roedd 2020 yn flwyddyn hynod o ran cofnodion tywydd
Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd erthyglau ar sut mae 2020 yn coroni 10 mlynedd fwyaf cynnes y ddaear yn ôl cofnodion a 2020 – blwyddyn hynod, gan ddangos y tywydd eithafol a ddaeth i’n rhan y llynedd.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd yn 2019. Mae’r gwyddonwyr yn rhagweld y bydd digwyddiadau tywydd eithafol yn ddigwyddiadau amlach yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y byddwn yn gweld stormydd a llifogydd amlach.
Gyda hynny mewn golwg, gallai gweithredu i leihau newid yn yr hinsawdd hefyd leihau'r risg o lifogydd.
Oes yna unrhyw beth y mae eich grŵp llifogydd cymunedol neu'ch cymuned ehangach eisoes yn ei wneud y gallech ei rannu gyda'r rhwydwaith? A yw hyn yn rhywbeth yr hoffech ei wneud?
|
Ffuglen: Rwy'n byw ar fryn, felly wnaiff llifogydd ddim effeithio arna’ i
Gall llifogydd effeithio ar ble rydych chi'n byw, ble rydych chi'n gweithio neu ble rydych chi'n teithio.
Os ydych chi'n byw ar fryn, efallai y byddwch chi'n dal i ddioddef llifogydd o bibell sydd wedi byrstio neu ddŵr wyneb yn arllwys oddi ar ochr bryn yn uniongyrchol i mewn i'ch eiddo. Efallai y cewch eich effeithio’n anuniongyrchol, er enghraifft drwy gael eich ynysu gan ffyrdd neu dir sy'n gorlifo.
Rydym yn annog pawb i fod yn ymwybodol o'r perygl o lifogydd yn eu hardal leol, a hefyd i fod â chynllun yn barod gyda golwg ar beth i'w wneud, rhag ofn.
Dyma pam mae ein Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd Rhad ac Am ddim yn cynnig yr opsiwn i gofrestru ardaloedd o ddiddordeb, ac nid cyfeiriad eich cartref yn unig. Gallwch gofrestru hyd at 5 ardal o ddiddordeb, os ydyn nhw mewn perygl o lifogydd o afonydd neu'r môr.
Diweddarwch eich manylion trwy eich cyfrif ar-lein, cofrestrwch neu ffoniwch Floodline i gael gwybod mwy.
Floodline: 0345 988 1188 Typetalk: 0345 602 6340
|
|
|
Beth i'w ddisgwyl pan gyhoeddir Rhybuddion Llifogydd.
Mae ein swyddogion dyletswydd llifogydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru ar ddyletswydd 24/7 bob dydd o'r flwyddyn. Maen nhw’n monitro ac yn darogan llifogydd o afonydd a'r môr ac yn defnyddio gwybodaeth amser real ynghyd â'n modelau llifogydd a'n mapiau i benderfynu pa negeseuon, rhybuddion a rhybuddion llifogydd difrifol y mae angen eu rhoi i'r cyhoedd a'n partneriaid. Ond pan fyddwn ni'n eu cyhoeddi, beth rydym ni a'r cyhoedd yn disgwyl ei weld?
Dyma ddadansoddiad o'r effeithiau posibl ar bob lefel o'n Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd:
Llifogydd: Byddwch yn barod |
Rhybuddion Llifogydd |
Rhybuddion Llifogydd Difrifol |
Nid yw'r rhybudd llifogydd mewn grym
|
Mae llifogydd yn bosibl, byddwch yn barod |
Disgwylir llifogydd, angen gweithredu ar frys |
Llifogydd difrifol. Perygl i fywyd. |
Ni ddisgwylir llifogydd pellach yn eich ardal chi. |
- Llifogydd mewn caeau, tir hamdden
a meysydd parcio.
- Llifogydd ar isffyrdd.
- Llifogydd ar dir amaethyddol.
- Ewyn neu donnau’n gorlifo ar yr arfordir.
|
- Llifogydd mewn cartrefi a busnesau.
- Llifogydd dros seilwaith rheilffyrdd a ffyrdd.
- Tonnau ac ewyn sylweddol ar yr arfordir.
- Gorlifo helaeth ar orlifdir (gan gynnwys meysydd carafanau a meysydd gwersylla).
|
- Dŵr llifogydd dwfn
yn llifo’n gyflym.
- Malurion yn y dŵr
yn achosi perygl.
- Adeiladau a strwythurau wedi cwympo neu bosibilrwydd o hyn.
- Cymunedau wedi'u hynysu gan ddŵr llifogydd.
Seilwaith hanfodol ar gyfer cymunedau wedi’i analluogi.
- Cymunedau wedi’u symud o ardal y llifogydd.
- Cymorth oddi wrth y lluoedd arfog.
|
- Merddwr yn dilyn llifogydd a allai fod o gwmpas am sawl diwrnod.
- Eiddo dan ddŵr.
- Seilwaith wedi'i ddifrodi.
|
Llifogydd: Byddwch yn barod
Mae'r llun hwn yn dangos yr effeithiau a ddisgwylir mewn achos o neges Llifogydd – Byddwch yn barod: ewyn a thonnau'n gorlifo ar yr arfordir.
Mae'r llun hwn yn dangos yr effeithiau a ddisgwylir mewn achos o neges Llifogydd – Byddwch yn barod: disgwylir i ffyrdd fod dan ddŵr a llifogydd ar dir amaethyddol.
Rhybuddion Llifogydd
Mae'r llun hwn yn dangos yr effeithiau a ddisgwylir mewn achos o Rybudd Llifogydd: tonnau ac ewyn sylweddol ar yr arfordir, a disgwylir llifogydd mewn cartrefi.
Mae'r llun hwn yn dangos yr effeithiau a ddisgwylir mewn achos o Rybudd Llifogydd: afon sy'n gorlifo a disgwylir llifogydd mewn cartrefi.
Llun gan Clare Jones
Rhybuddion Llifogydd Difrifol
Mae'r llun hwn yn dangos yr effeithiau a ddisgwylir mewn achos o Rybudd Llifogydd Difrifol: cymunedau’n cael eu heffeithio a’u symud ymaith oherwydd llifogydd.
Llun gan NPAS (Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu)
Nid yw'r rhybudd llifogydd mewn grym
Mae'r llun hwn yn dangos yr effeithiau a ddisgwylir mewn achos o Rybudd Llifogydd nad yw mewn grym mwyach: ardaloedd sydd wedi'u difrodi wedi'u cau a'u hasesu, malurion llifogydd a difrod llifogydd yn cael eu hatgyweirio.
Mae'r llun hwn yn dangos yr effeithiau a ddisgwylir mewn achos o Rybudd Llifogydd nad yw mewn grym mwyach: merddwr yn cael ei bwmpio allan o'r ardal.
Caiff rhybuddion a negeseuon llifogydd byw am lifogydd o afonydd neu'r môr eu diweddaru bob 15 munud ar ein gwefan https://rhybudd-llifogydd.cyfoethnaturiol.cymru, neu gallwch ffonio Floodline i ddod o hyd i fanylion am ardaloedd sy’n agos atoch chi 0345 988 1188.
|
|
Yn yr adran hon gallwn rannu negeseuon a phrofiadau o bob rhan o'r rhwydwaith gwirfoddolwyr llifogydd cymunedol yng Nghymru, ynghyd ag ymatebion i gwestiynau rydym wedi eu derbyn.
|
|
Mae Non Parry yn Warden Llifogydd gyda Grŵp Llifogydd Llangefni, Ynys Môn ac mae hi’n gofyn am i bobl gysylltu â hi, i rannu eu profiadau o amddiffyn eiddo rhag llifogydd.
"Cawsom lifogydd dinistriol ym mis Tachwedd 2017 a adawodd gartrefi a busnesau wedi’u dryllio, ac rydych chi fel grwpiau llifogydd eraill wedi dioddef yr un peth dros y blynyddoedd.
Mae gan ein grŵp ddiddordeb mewn amddiffyniad ar lefel eiddo ar gyfer cartrefi a busnesau, ac rydw i’n awyddus i weld a oes gan unrhyw grŵp arall brofiadau neu farn i'w rhannu."
Cysylltwch yn uniongyrchol â Non.Parry@yahoo.com
|
|
|
Mae bwletin cyllid allanol diweddaraf Cyfoeth Naturiol Cymru bellach ar gael i'w ddarllen.
Diweddariad Cyllid: Mis Chwefror 2021
Mae'n cynnwys manylion am y cyllid sydd ar gael, a allai fod o ddiddordeb i'ch cymuned chi.
|
|
- Beth hoffech chi ei weld yn rhifynnau'r cylchlythyr hwn yn y dyfodol?
- Oes rhywbeth yr hoffech wybod mwy amdano?
- Fyddech chi'n barod i rannu'ch profiadau o lifogydd neu fel gwirfoddolwr cymunedol?
|
|
Nid yw CNC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau eraill. Rydym yn darparu hyn fel dull cyfeirio at wybodaeth, ac nid i hyrwyddo sefydliadau neu gwmnïau eraill. Credwn fod y cyngor y maent yn ei rannu yn ddefnyddiol i bawb. Efallai mai gwybodaeth yn Saesneg yn unig fydd ar gael wrth ddilyn y dolenni i wefannau allanol.
|
|
|
|
|