|
Croeso i rifyn Gaeaf 2021 o'r cylchlythyr gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiect Twyni Byw – Sands of LIFE. |
|
|
|
|
Wrth i oerni’r gaeaf ddal gafael yn ein twyni tywod, bydd ein tîm yn brysur yn gwneud eu gorau glas i gwblhau gwaith mewn pryd i roi hwb i'r cynefin gwerthfawr hwn ar gyfer dechrau'r gwanwyn.
Yn Nhywyn Niwbwrch, byddwn yn parhau â'n gwaith i helpu'r twyni tywod drwy gwblhau gwaith tynnu prysgwydd yn y llennyrch. Byddwn hefyd yn crafu ac yn gostwng lefel llac, a elwir yn lleol yn 'Gull Slack'. Bydd hyn yn helpu i ail-greu cynefin tywod noeth a rhoi hwb i blanhigion ac infertebratau arbenigol y twyni.
Draw ym Morfa Harlech, byddwn yn crafu llaciau twyni mewn un o’r ddau leoliad sydd wedi’u neilltuo ar gyfer y gwaith, er mwyn helpu i adfer twyni'r safle. Bydd y gwaith yma yn cael ei wneud mewn partneriaeth â Chlwb Golff Brenhinol Dewi Sant. Byddwn hefyd yn tynnu bonion o ardal a arferai fod yn blanhigfa coed pinwydd er mwyn ail-greu cynefin tywod noeth naturiol.
Yn Nhwyni Pen-bre, byddwn yn creu tri rhicyn yn y blaendwyni, yn ogystal â thynnu tyweirch o laswelltir twyni a chrafu rhai llaciau twyni. Bydd hyn unwaith eto'n rhoi hwb fywyd gwyllt sydd ymhlith y prinnaf yng Nghymru, sy'n dibynnu ar gynefin tywod noeth. Bydd hefyd yn cynyddu symudiad naturiol tywod yn y twyni.
Draw yng Nghynffig, bydd dau lac twyni yn cael eu crafu a phrysgwydd cyfagos yn cael ei glirio. Dylai ein holl waith ddarparu hwb i'n twyni mewn pryd ar gyfer tymor blodeuo'r gwanwyn.
*Gall pob cynllun gwaith newid oherwydd rheoliadau Coronafeirws.
|
|
|
Yn ddiweddar, cwblhawyd gwaith ym Merthyr Mawr i grafu a gostwng lefelau rhai llaciau twyni i annog cynefin tywod noeth. Fe wnaethom hefyd dorri gwair ar rhannau o'r twyni i helpu planhigion sy'n tyfu'n isel, pryfed peillio ac infertebratau eraill – a'r cwningod hefyd!
Dywedodd Laura Bowen, Swyddog Prosiect a Monitro De Twyni Byw:
"Bydd y gwaith hanfodol yma yn annog cynefin tywod noeth sy'n elfen pwysig o nod ein prosiect i adfywio twyni tywod ledled Cymru."
Oherwydd agosrwydd ein gwaith at yr Heneb Gofrestredig ym Merthyr Mawr, buom yn gweithio'n agos gyda Trysor. Hoffem ddiolch iddynt am eu cymorth drwy gydol y gwaith.
Mae rhagor o fanylion am y gwaith ar gael yma.
|
|
|
Yn Nhywyn Aberffraw, gwnaethom dynnu tyweirch o chwe ardal o fewn y llaciau twyni yn ddiweddar, i greu cynefin tywod noeth sy'n hanfodol i oroesiad rhai o blanhigion mwyaf prin Gymru, yn enwedig mwsoglau a llysiau'r afu.
Torrwyd prysgwydd yn ôl i'w atal rhag cymryd drosodd yng nglaswelltir y twyni sy’n llawn blodau, ac i ganiatáu gwell mynediad drwy'r twyni i bobl a da byw.
Bydd planhigion estron goresgynnol, megis rhosyn Japan, llin Seland Newydd a chrib-y-ceiliog hefyd yn cael eu tynnu yn fuan. Os na chânt eu rheoli, gallant ymledu i fygu rhannau helaeth o’r twyni.
Dywedodd Leigh Denyer, Swyddog Prosiect a Monitro Gogledd Twyni Byw:
"Mae ein gwaith yn Nhywyn Aberffraw yn hanfodol i'n nod o adfywio twyni tywod ledled Cymru. Mae twyni Tywyn Aberffraw wedi’u dosbarthu’n Ardal Cadwraeth Arbennig ac maent o bwysigrwydd rhyngwladol i fioamrywiaeth."
Gweithwyd yn agos gydag Ystâd Bodorgan, sy'n berchen ar y twyni yn Nhywyn Aberffraw ac yn eu rheoli.
Mae rhagor o fanylion am y gwaith ar gael yma. Cafodd y stori sylw hefyd ym mhapur newydd y Daily Post.
|
|
|
Mae ein contractwyr wedi cwblhau'r gwaith torri yn un o'r llaciau yn Nhwyni Whiteford. Gobeithio y bydd hyn yn rhoi hwb i laswelltir twyni'r safle a'i garpedi o flodau a thegeirianau prin. Edrychwn ymlaen at weld y buddion pan ddaw’r gwanwyn.
|
|
|
Mae gwaith wedi ei gwblhau neu’n mynd rhagddo mewn sawl man ar draws Niwbwrch gan gynnwys torri gwair, clirio prysgwydd a chael gwared ar rywogaethau goresgynnol estron.
Y peth mwyaf amlwg i ymwelwyr â'r goedwig yw’r gwaith i agor llac twyni sydd wedi gordyfu gerllaw'r prif faes parcio. Ar y tywyn rydym yn gweithio i dynnu rhafnwydden y môr, sydd ddim yn rhywogaeth gynhenid yng Nghymru, ac sy’n gallu creu mannau o ddrain trwchus yn gyflym.
|
|
|
Rydym wedi rhyddhau adroddiad newydd sy'n tynnu sylw at boblogaethau madfallod tywod mewn dau safle twyni tywod ar Ynys Môn.
Canfu cyfres o ddeg ymweliad arolygu boblogaethau madfallod tywod yn y ddau safle a arolygwyd; Tywyn Aberffraw a Thywyn Niwbwrch.
Cynhaliwyd yr arolygon mewn meysydd lle mae ein gwaith wedi'i gynllunio. Cynhaliwyd ymchwiliadau ym mis Ebrill, Mai a Medi 2019, ac roedd bridio o fewn y flwyddyn ddiwethaf yn amlwg.
Y fadfall dywod yw ymlusgiad prinnaf Cymru. Fel Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop, mae angen arolygu a lliniaru’n briodol cyn gwneud unrhyw waith ymyrraeth.
Darllenwch y stori lawn yma.
|
|
|
Yn ddiweddar, rhoddodd Kathryn Hewitt, Rheolwr Prosiect Twyni Byw, gyflwyniad ddigidol yng Nghynhadledd Flynyddol Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru. Hoffem ddiolch i'r trefnwyr am ganiatáu i ni sgwrsio'n fanwl am ein prosiect fel rhan o’r sesiwn bore Iau ar 'Adfer cynefinoedd cydnerth'. |
|
|
|
|
Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein Fframwaith Caffael Cadwraeth a Ffensio, sy'n werth £1.4m, bellach ar waith. Mae am 12 mis i ddechrau ond gellir ei ymestyn tan ddiwedd y prosiect ym mis Rhagfyr 2022. Bydd hyn yn helpu i symleiddio'r broses o gaffael gwaith cadwraeth y prosiect ac yn ein galluogi i gael gafael ar gontractwyr a gymeradwywyd ymlaen llaw, sy'n mynd law yn llaw â chadw ein twyni'n iach.
|
|
|
Rydym hefyd yn falch o gyhoeddi ein bod wedi gosod dau banel A1 arall, y tro hwn ym Merthyr Mawr a Thywyn Niwbwrch. Cadwch lygad os byddwch yn ymweld â'r safleoedd arbennig hyn yn fuan.
Yn Nhwyni Pen-bre, mae placiau cydnabod rhaglen LIFE yr UE nawr ar ein ffensys a'n gatiau mochyn newydd. Mae'r gatiau a'r ffensys yn helpu i ddiogelu da byw wrth ganiatáu mynediad haws i bobl hefyd.
|
|
|
|
|
Twyni Byw: LIFE 17 NAT/UK/000023
Mae prosiect Twyni Byw wedi derbyn cyllid gan Raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd.
Ariennir y prosiect yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
|
|
|
|
|