|
Croeso i rifyn cyntaf cylchlythyr LIFE Afon Dyfrdwy! |
|
Rydych chi wedi derbyn y cylchlythyr hwn oherwydd credwn y gallai fod gennych ddiddordeb ym mhrosiect newydd LIFE Afon Dyfrdwy. Os ydych chi’n hapus i dderbyn rhagor o gylchlythyrau gennym ni, nid oes rhaid i chi wneud dim.
Os nad ydych chi am dderbyn rhagor o gylchlythyrau gennym ni, gallwch danysgrifio unrhyw bryd.
|
|
|
Mae LIFE Afon Dyfrdwy yn brosiect adfer afon uchelgeisiol gwerth sawl miliwn o bunnoedd i drawsnewid Afon Dyfrdwy a’r hyn sydd o’i hamgylch, er mwyn helpu i wrthdroi’r dirywiad mewn poblogaethau pysgod a bywyd gwyllt prin yn yr ardal. Bydd y prosiect trawsffiniol, sy’n werth £6.8 miliwn, yn dod â manteision amryfal i’r amgylchedd, gan wella’n benodol niferoedd yr eog, lampreiod a misglod perlog, er mwyn eu helpu i fod yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol.
Lansiwyd y prosiect yn swyddogol ar-lein ym mis Medi 2020, gyda thros 150 o fynychwyr ac roedd yn cynnwys cyflwyniadau a negeseuon o gefnogaeth gan Clare Pillman, Prif Weithredwr CNC, Syr David Henshaw, Cadeirydd CNC; Hannah Blythyn AS, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol; Will Millard, Awdur ar Enweirio a Chyflwynydd Teledu, a Joel Rees-Jones, Rheolwr Prosiect LIFE Afon Dyfrdwy. Diolch yn fawr i bawb a ymunodd â ni – roedd yn hyfryd gweld yr holl adborth cefnogol a gawsom ar y prosiect. Os nad oedd modd i chi ymuno â ni, gallwch wylio recordiad o’r lansiad unwaith eto fan hyn.
|
|
|
Dim ond ychydig ddiwrnodau ar ôl lansio’r prosiect, aethom ati’n syth i ddechrau’r gwaith a llwyddwyd i gwblhau ein carreg filltir fawr gyntaf, sef codi cored o Afon Tryweryn, isafon i Afon Dyfrdwy.
Cynhaliwyd y gwaith i ddatgymalu’r gored segur ar Afon Tryweryn gan gontractwyr lleol profiadol, ar y cyd ag arbenigwyr technegol CNC, er mwyn codi’r strwythur artiffisial a helpu i wella mynediad i bysgod. Ailddosbarthwyd y clogfeini o’r gored i ddarparu ardaloedd cynefin a silio pwysig i’r amryw rywogaethau sy’n byw yn yr afon, ac fe’u defnyddiwyd hefyd i sefydlogi gwely’r afon.
Er mwyn dathlu Diwrnod Ymfudiad Pysgod y Byd ym mis Hydref, gwnaethom ryddhau ffilm fer yn dangos gwaith codi’r gored er mwyn amlygu pwysigrwydd codi’r rhwystr i bysgod ymfudol a’r manteision ehangach y mae’n gallu eu cyflwyno i’r amgylchedd. Gwyliwch y ffilm fan hyn.
|
|
|
Mae asesu effaith ein hymyriadau’n hollbwysig i’r prosiect, nid yn unig er mwyn cyflwyno sail dystiolaeth rymus ond hefyd er mwyn sicrhau ein bod ni’n addasu ac yn gwneud newidiadau lle bo’n ofynnol. Ein tasg monitro gyntaf oedd cynnal arolwg electrobysgota ar Afon Tryweryn cyn i’r gored gael ei chodi, a llwyddom i’w gwblhau yn y ffenestr fach oedd gennym cyn i’r tymor pysgota trydanol ddod i ben.
Arolygwyd pedwar safle ar yr Afon Morlas hefyd - ni ddaethom o hyd i eogiaid yn y tri safle a archwiliwyd uwchlaw’r rhyd, ond daethom o hyd i dri eog yn uniongyrchol islaw’r rhyd. Mae hyn yn amlygu effaith bosibl y strwythur ar bob rhywogaeth pysgod, yn enwedig penlletwad, a sut mae hyd yn oed pysgod yn eu llawn dwf yn cael trafferth mynd heibio’r rhwystr hwn o dan amodau llif arferol.
Bydd un maes allweddol o’n gwaith monitro’n canolbwyntio ar ddosbarthiad lampreiod, neu lysywod pendoll (môr ac afon) a’u symudiadau yn y prif safle ac o gwmpas ein safleoedd ymyrraeth. Er mwyn i hyn fod yn llwyddiannus, mae angen samplau o lampreiod byw yn eu llawn dwf i’w tagio - yn anffodus, ni fu hyn yn rhwydd yn ystod y pum mlynedd diwethaf ar Afon Dyfrdwy! Dechreuodd treialon ar drap symudol newydd ym mis Hydref (ar ddechrau cyfnod mudo llysywod pendoll yr afon) a hyd yma, rydym wedi dal tair rhywogaeth ymfudol a digonedd o rywogaethau eraill gan gynnwys llysywod, tybiau’r dail a chrancod manegog Tsieina. Y gobaith yw y bydd y treialon yn fwy llwyddiannus wrth i gyfradd mudo’r llysywod pendoll gynyddu. Cadwch lygad...
|
|
|
Llun gan Sean Thompson
Mae ffyrdd clir rhif 9, 15 ac 16 y clwb golff yn nyffryn Dyfrdwy nesaf at Afon Dyfrdwy. Gan eu bod yn poeni am erydiad posibl y lan yn ystod digwyddiadau llifogydd, gofynnodd y clwb i ni am rywfaint o gyngor ar blannu coed i helpu i ddiogelu glan yr afon.
Yn dilyn ymweliad, daeth i’r amlwg y byddai’r fenter hon o fantais i’r clwb ac i’r prosiect. O ran y clwb golff, byddai’n sefydlogi’r lan ac yn lleihau’r potensial i’r lan erydu a fydd yn difrodi’r ffyrdd clir. O ran y prosiect, byddai sefydlogi’r lan yn lleihau swm y gwaddod wedi erydu rhag mynd i mewn i’r afon (mae gormod o waddodion yn effeithio ar ecoleg afonydd) ac yn darparu cynefin ychwanegol ar gyfer adar a bywyd gwyllt. Dynodwyd nifer o rannau ar hyd y ffyrdd clir fel rhai a fyddai’n elwa o goed ychwanegol, gan ddefnyddio cymysgedd o rywogaethau coed brodorol sy’n gweddu i amodau afonol lleol ac na fyddai eu huchder adeg aeddfedrwydd yn rhoi gormod o gysgod ar y ffyrdd clir. Disgwylir i’r gwaith plannu fynd rhagddo yn y Flwyddyn Newydd.
|
|
Dros y misoedd diwethaf, mae ein Swyddogion Rheoli Tir wedi bod yn cynnal ymweliadau atal llygredd ac yn dynodi ffermydd a fyddai’n elwa o’r 100% o gyllid sydd ar gael tuag at atal mynediad da byw i’r cyrsiau dŵr. Bydd sawl ymyriad arall yn cael eu cynnal hefyd, megis sianelu cyrsiau dŵr i leihau swm y gwaddod sy’n mynd i mewn i Afon Dyfrdwy, yn ogystal â gwaith gosod ffensys a phlannu dros y gaeaf.
Mae’r gwaith arfaethedig ym mlociau coedwigaeth Penaran, Aberhirnant a Llangywer yn mynd yn ei flaen hefyd. Dros y pedair blynedd nesaf, bydd hyd at 21 o ffosydd ychwanegol yn cael eu gosod i atal dŵr fflachlifoedd sy’n cynnwys gwaddodion a halogion o lwybr y goedwigaeth rhag mynd i mewn i gyrsiau dŵr naturiol. Yn ogystal, bydd dwy bont yn cael eu hadeiladu ar y ffordd goedwig brifwythiennol ym Mhenaran i ddisodli’r croesfannau afon presennol.
Cysylltwch â’r Swyddogion Rheoli Tir os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda ni. Mae Ifor a Tom yn fwy na bodlon cynnig cyngor a chefnogaeth, ac archwilio meysydd potensial ar gyfer gwaith a fyddai o fantais i’r tir a’r afon. Anfonwch e-bost at Ifor Potts neu Tomos Wynne i gael rhagor o wybodaeth.
|
|
|
Rydym yn gyffrous iawn o gynnig cyfle rhyngweithiol i bob ysgol yn y wlad ddysgu am frithyllod brown y mis hwn, trwy wylio wyau pysgod yn deor mewn ffrwd fyw!
Dan arweiniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (APCE), bydd disgyblion yn cael cyfle i wylio’r pysgod yn datblygu o wyau bychain i silod mân (pysgod bach), mewn amser real trwy gyswllt gwegamera ar wefan APCE. Er mwyn gwella’u profiad, bydd y disgyblion yn cael cyfres o adnoddau addysg, gan gynnwys llyfr gwaith i olrhain cylch bywyd y pysgod ac yn penderfynu pryd y bydd angen iddynt gael eu rhyddhau i’w cynefin naturiol. Ar ôl iddynt ddatblygu, bydd y pysgod yn cael eu rhyddhau i Afon Dyfrdwy i barhau â’u cylch bywyd. Mae'r ffrwd gwegamera a’r adnoddau addysgol ar gael nawr ar wefan APCE er mwyn i ysgolion a phawb sy’n hoff o bysgod ledled y wlad eu mwynhau.
|
|
|
Mae’r prosiect wedi bod trwy rai misoedd prysur iawn ers dechrau, gyda digonedd o waith ar y gorwel. Dyma ein cynlluniau ar gyfer yr ychydig fisoedd nesaf...
Bydd oddeutu 2½km o ffensys yn cael eu codi ar sawl fferm yn y dalgylch i leihau swm y maetholion a gwaddodion sy’n cael eu cyflwyno i Afon Dyfrdwy. O’u cyfuno gyda phlannu cannoedd o goed, bydd hyn yn helpu i leihau mynediad i dda byw i’r afon ac felly’n lleihau cyflwyniad gwaddodion a maetholion. Yn ogystal, bydd coed yn helpu i sefydlogi’r glannau ac yn cysgodi’r dŵr lle bo angen, er mwyn cadw’r tymereddau’n is yn ystod cyfnodau o dywydd poeth.
Bydd cynlluniau amlinellol ar gyfer 6 strwythur, a restrir isod, yn cael eu cwblhau ddechrau 2021 i alluogi trafodaethau i fynd yn eu blaenau gyda thirfeddianwyr a phartïon â buddiant cyn cadarnhau’r cynlluniau terfynol a dechrau adeiladu:
- Afon Morlas - Cored Erbistock - Cored Llangollen i fyny’r afon (uwchben y bont) - Cored Llangollen i lawr yr afon (o dan y bont) - Cored Caer - Rhaeadr y Bedol, Llangollen
|
|
|
|
|
|