|
Croeso i rifyn Hydref 2020 y cylchlythyr, lle cewch y diweddaraf am y prosiect Twyni Byw – Sands of LIFE. |
|
|
|
|
Wrth i liwiau trawiadol y blodau gwyllt ddiflannu o’n twyni, mae brath oer y gwynt gaeafol yn dychwelyd i’n harfordiroedd. Ond wrth i’r tymhorau newid, dyma’r cyfnod perffaith inni fynd i’r afael â’n rhaglen waith ar gyfer yr hydref a’r gaeaf – ac mae gennym lond trol o waith ar y gweill ar gyfer y misoedd sydd i ddod.
Byddwn yn creu rhiciau ac yn crafu tyfiant oddi ar Dwyni Pen-bre, a hynny er mwyn i fwy o wynt chwythu trwy’r twyni a chreu cynefin tywod noeth. Hefyd byddwn yn cael gwared â rhafnwydden y môr, sy’n rhywogaeth estron goresgynnol, er mwyn adfywio glaswelltiroedd y twyni, ac yn creu cwningaroedd artiffisial i roi hwb i boblogaethau cwningod gwyllt – sef y porwyr perffaith ar gyfer ein twyni.
Bydd ein gwaith ym Merthyr Mawr yn golygu tynnu tyfiant oddi ar topiau’r twyni, a chrafu a gostwng lefel rhai o’r llaciau. Bydd y gwaith hwn yn annog cynefin tywod noeth, sydd mor bwysig i oroesiad rhai o blanhigion a phryfed prinnaf Cymru.
Tua dechrau’r gaeaf yn Nhwyni Talacharn-Pentywyn, byddwn yn cael gwared â rhafnwydden y môr ac yn ffensio i gyfanswm o 3km. Yn ystod ein gwaith yn Nhwyni Chwitffordd yn nechrau’r gaeaf, byddwn yn torri tyfiant y llaciau ac yn gosod cwningaroedd; ac yng Nghynffig, byddwn yn crafu mwy o laciau ac yn clirio mwy o brysgwydd.
Yn Nhywyn Aberffraw, byddwn yn tynnu llystyfiant (gwyliwch Leigh yn esbonio mwy am hyn yma), yn ogystal â chael gwared â phrysgwydd a rhywogaethau estron goresgynnol, fel rhosynnau Japan a chrib-y-ceiliog.
Yn Niwbwrch, byddwn yn cael gwared â phrysgwydd o’r llennyrch, yn cychwyn ar raglen ffensio uchelgeisiol ac yn torri’r tyfiant yn yr un ardaloedd ag y gwnaethom y llynedd er mwyn parhau i roi hwb i blanhigion sy’n tyfu’n isel. Cewch fwy o wybodaeth am rywfaint o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yn Niwbwrch yma.
A draw ym Morfa Dyffryn, byddwn unwaith eto yn cael gwared â phrysgwydd er mwyn adfer y llaciau llaith, fel y gellir creu amodau mwy agored a chreu mwy o gynefin tywod noeth er mwyn i greaduriaid di-asgwrn-cefn a phlanhigion prin y twyni allu ffynnu.
|
|
|
Yn dilyn gwaith caled ein contractwyr yn ystod ail hanner yr haf, mae’r ffens pyst a gwifrau yn Nhwyni Pen-bre wedi’i chwblhau bellach.
Gwnaethom hefyd gwblhau’r gwaith o gael gwared â phrysgwydd ym Morfa Harlech a thorri’r tyfiant yn rhannau o dwyni Merthyr Mawr.
Bydd y ffens yn diogelu’r gwartheg sy’n pori’r twyni, bydd cael gwared â’r prysgwydd yn helpu i sicrhau na chaiff bywyd gwyllt prin y twyni eu mygu, a bydd torri tyfiant y twyni yn galluogi’r planhigion hynny sy’n tyfu’n isel ar y twyni i ffynnu.
|
|
|
Yn ddiweddar, aethom draw i Niwbwrch i gasglu sbwriel fel rhan o ymgyrch ‘Hydref Glân Cymru’ Cadwch Gymru’n Daclus ac ymgyrch ‘Great British Beach Clean’ y Gymdeithas Cadwraeth Forol (MCS).
Wnaeth y gwyntoedd cryfion mo’n rhwystro rhag llenwi tri bag yn llawn dop o sbwriel y daethpwyd o hyd iddo o amgylch y twyni ac ar y traeth. Roedd y sbwriel yn cynnwys hen ganiau diod, dymi plentyn, masgiau wyneb glas, a hyd yn oed balŵn siâp uncorn!
Mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw cael gwared â’n sbwriel yn y ffordd cywir. Heb inni wneud hynny, gall ymddangos yn y llefydd mwyaf annisgwyl a chael effaith dinistriol ar ein hamgylchedd a’n bywyd gwyllt.
Edrychwn ymlaen at gefnogi’r ymgyrchoedd gwych hyn eto yn y dyfodol. Gallwch weld mwy o luniau’r diwrnod yma.
|
|
|
Yn ddiweddar, cafodd adroddiad arolwg bryoffytau’r prosiect Twyni Byw ei ryddhau. Mae’r adroddiad hwn yn asesu effeithiau posibl y prosiect ar fwsoglau a llysiau’r afu prin a gwarchodedig mewn ardaloedd ymyrryd llaciau twyni.
Arolygwyd ardaloedd ar chwe safle, sef Tywyn Aberffraw, Niwbwrch, Morfa Harlech, Twyni Pen-bre, Cynffig a Merthyr Mawr. Cafodd tair rhywogaeth nodedig eu cofnodi: Abietinella abietina a Petalophyllum ralfsii yn Nhywyn Aberffraw, a Drepanocladus sendtneri yng Nghynffig.
Mae’r mwsogl Abietinella abietina yn brin iawn yng Nghymru bellach, a bydd yn cael ei gynnwys yn y Rhestr Goch o fryoffytau Prydain sydd ar fin cael ei chyhoeddi, a hynny fel rhywogaeth ‘dan fygythiad’ oherwydd dirywiad cenedlaethol.
Math o lysiau’r afu yw Petalophyllum ralfsii, a elwir hefyd yn betal-lys. Mae’n rhywogaeth a warchodir gan Ewrop a chaiff ei gwarchod yn llym gan y gyfraith. Mae’n byw ar lecynnau o dywod noeth neu dyweirch tenau mewn llaciau, yn aml ar hyd llwybrau.
Mae Drepanocladus sendtneri yn rhan allweddol o nodwedd Casgliad Bryoffytau Twyni y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghynffig.
Cliciwch yma i weld yr adroddiad llawn.
Bydd mwy o adroddiadau yn cael eu rhyddhau yn ystod y misoedd nesaf. Mae’r rhain yn cynnwys canlyniadau arolygon yn ymwneud â madfallod y tywod, madfallod dŵr cribog a LiDAR, ymhlith eraill.
|
|
|
Yn ddiweddar, ymddangosodd Leigh, Swyddog Prosiect a Monitro'r Gogledd Twyni Byw, ar y rhaglen ‘Natur a Ni’ ar S4C.
Wrth iddo dywys y gynulleidfa ar hyd twyni tywod Niwbwrch, bu Leigh yn trafod pa mor bwysig yw tywod noeth, pam mae angen rheoli ein twyni, a sut mae Twyni Byw yn rhoi hwb i’r cynefin pwysig hwn trwy Gymru.
Gallwch weld yr eitem lawn yma. Gallwch naill ai wylio’r rhaglen i gyd (mae hi’n werth ei gweld!) neu fynd yn eich blaen i 4:15.
|
|
|
Rydym yn falch o gyhoeddi bod y panel A1 cyntaf bellach wedi’i osod, a hynny yn Nhwyni Pen-bre.
Bydd y naw panel arall (un ar gyfer bob safle Twyni Byw) yn cael eu gosod dros y misoedd nesaf.
|
|
|
Cofiwch gael cip ar ein gwefan i weld y newyddion diweddaraf am y prosiect yn ogystal â chael gwybodaeth am ganlyniadau a chanfyddiadau. Neu beth am ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol? Caiff ein ffrydiau Facebook, Instagram a Twitter eu diweddaru’n rheolaidd, gan gynnig cipolwg ichi ar ein gwaith wythnosol, ynghyd â lluniau gwych yn ymwneud â thwyni a phytiau byr o gyfweliadau.
Cyfeiriad e-bost: SoLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Gwefan: cyfoethnaturiol.cymru/TwyniByw
Facebook, Instagram a Twitter: @TwyniByw
|
|
|
Twyni Byw: LIFE 17 NAT/UK/000023
Mae prosiect Twyni Byw wedi derbyn cyllid gan Raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd.
Ariennir y prosiect yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
|
|
|
|
|
|
|
|