|
Croeso i rifyn Haf 2020 o’r cylchlythyr er mwyn rhoi’r diweddaraf i chi am brosiect Twyni Byw.
|
|
|
Rydym yn falch o gyhoeddi bod cyfyngiadau Covid-19 wedi llacio digon i ni allu dechrau ar ein rhaglen waith ar gyfer yr haf.
Mae’r contractwyr John Davies Agricultural and Plant Contractor Limited yn gosod dros 2km o ffens pren castan yn Nhwyni Tywod Pen-bre. Rydym hefyd wrthi’n cynllunio dros 8km o ffensys i’w codi fesul dipyn yn Niwbwrch. Bydd gwaith ffensio hefyd i’w gwblhau yn Twyni Lacharn - Pentywyn. Bydd y ffens yn help i warchod a rheoli’r da byw sy’n gwneud y gwaith pwysig o bori ar laswelltir y twyni.
Ym mis Awst, byddwn yn tynnu banadl goresgynnol ym Morfa Harlech oddi ar ardal a oedd wedi ei defnyddio fel planhigfa coed conwydd yn y gorffennol ond sydd bellach yn cael ei hadfer yn dwyni naturiol. Mae rhywogaethau estron goresgynnol hefyd yn cael eu rheoli yn ardal Twyni Penrhos yn Niwbwrch, Morfa Dyffryn yn ogystal â Twyni Lacharn - Pentywyn yn y de.
Os na chaiff rhywogaethau goresgynnol eu rheoli, gallan nhw lethu bywyd gwyllt prin y twyni tywod. Bydd ein gwaith o cael gwared ar y rhywogaethau hyn yn sicrhau bod bywyd gwyllt prin a brodorol y twyni, sy’n dibynnu ar gynefin o dywod moel, yn cael y cyfle gorau posib o ffynnu.
Byddwn yn sicr o roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar gynlluniau prosiect Twyni Byw dros y misoedd nesaf. Cliciwch yma i ddarllen mwy am sut y gwnaethon ni addasu ein llwyth gwaith yn ystod y cyfnod clo.
|
|
|
Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â Drew Buckley Photography dros y misoedd nesaf.
Mae Drew yn ffotograffydd tirwedd a bywyd gwyllt proffesiynol sy’n gweithio yn Sir Benfro. Mae ganddo brofiad helaeth o ddal eiliadau gorau bywyd gwyllt Cymru.
Ar gyfer ei weithgaredd cyntaf ar ran y prosiect, mentrodd Drew i Ferthyr Mawr. Ar ddiwrnod cynnes o haf, tynnodd Drew luniau o dirwedd anhygoel y safle, madfall gyffredin ar ei siwrnai ddyddiol a gwenyn wrthi’n brysur yn peillio rhywfaint o wiberlys.
|
|
|
Gan eu bod yn feistri ar gadw glaswelltir y twyni yn fyr ac annog tywod moel, mae cwningod gwyllt yn borwyr hanfodol ar ein twyni tywod.
Mae angen pori ar ein twyni tywod er mwyn iddyn nhw aros yn iach. Bydd gan dwyn sydd wedi ei bori’n gyson yr amodau perffaith i ganiatáu i blanhigion twyni arbenigol a bywyd gwyllt arall ffynnu. Ac mae cwningod, ynghyd â gwartheg a merlod sy’n pori, yn cadw ein twyni yn iach.
Mewn rhai twyni, mae poblogaethau cwningod wedi bod yn dirywio, felly byddwn ni’n annog cwningod gwyllt drwy dorri’r tyfiant, creu cwningaroedd artiffisial, ac mewn rhai achosion byddwn yn cynyddu niferoedd y cwningod: gan sicrhau bod y poblogaethau presennol yn parhau i fod yn ddiogel ac iach.
I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith i gael cwningod gwyllt i bori, anfonwch e-bost at SoLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
|
|
|
Hoffem ddiolch i’r Llanelli Herald am roi sylw i’n gwaith ffensio pwysig yn Nhwyni Tywod Pen-bre.
Mae ymgysylltu â chymunedau lleol, boed ar lafar, trwy gyfrwng print neu’n ddigidol, yn rhan hanfodol o’n prosiect. Cysylltwch ar bob cyfri os ydych eisiau dysgu mwy am waith ein prosiect yn eich ardal leol.
Byddwn yn fwy na bodlon trefnu i siarad gyda’ch grŵp cymunedol lleol – naill ai wyneb yn wyneb lle bo hynny’n bosibl neu trwy lwyfannau digidol.
Os yw’r canllawiau’n caniatáu, rydym hefyd yn gobeithio cynnal teithiau cerdded tywysedig dros y misoedd sydd i ddod. Bydd hyn yn rhoi cyfle perffaith i ni siarad ymhellach am y prosiect a’n nodau i adfywio twyni tywod ar hyd a lled Cymru.
Gallwch ddarllen erthygl y Llanelli Herald yma.
|
|
|
Yn ystod y cyfnod clo cynhaliwyd ail gyfarfod ein Grŵp Rhanddeiliaid Allanol. Gwnaed hyn trwy Skype for Business er mwyn cadw pellter cymdeithasol. Roeddem yn falch o allu darparu diweddariadau am y prosiect a sgwrsio ymhellach am yr hyn sydd gennym ar y gweill dros y misoedd nesaf.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â chyfarfod nesaf ein Grŵp Rhanddeiliaid Allanol, anfonwch e-bost at SoLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
|
|
|
|
|
Twyni Byw: LIFE 17 NAT/UK/000023
Mae prosiect Twyni Byw wedi derbyn cyllid gan Raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd.
Ariennir y prosiect yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
|
|
|
|
|