|
Croeso i rifyn Gwanwyn 2020 o’r cylchlythyr, lle cewch y diweddaraf am y prosiect Twyni Byw – Sands of LIFE.
|
|
|
Yn naturiol, mae’r pandemig COVID-19 presennol yn destun pryder inni i gyd, a gobeithio bod pob un ohonoch yn cadw’n ddiogel ac yn iach yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mae staff y prosiect wedi bod yn gweithio gartref ers diwedd mis Mawrth. O’r herwydd, nid ydym yn gallu mentro allan i’n safleoedd. Fodd bynnag, gallwch fod yn dawel eich meddwl ein bod yn bwrw ymlaen cystal ag y gallwn.
Rydyn ni wrthi’n cynllunio manylion y gwaith sydd i fod i gael ei wneud rhwng yr hydref a diwedd mis Mawrth 2021. Hefyd, rydyn ni’n gwneud cynnydd o ran paneli dehongli i’n safleoedd, llyfryn a thaflenni. Pe bai’r cyfyngiadau’n llacio, byddwn yn ystyried ffyrdd o allu cynnig gwasanaeth rhith-deithiau tywysedig, ac efallai y byddwn yn dal i allu bod yn bresennol i ryw raddau mewn digwyddiadau lleol a allai gael eu cynnal tua diwedd yr haf/dechrau’r hydref.
Byddwn yn siŵr o roi’r diweddaraf ichi am gynlluniau’r prosiect Twyni Byw yn ystod y misoedd nesaf.
|
|
|
Pe bai’r cyfyngiadau COVID-19 yn cael eu llacio dros yr haf, byddwn yn barod i gychwyn ar waith ar ein safleoedd.
Mae gennym fwy na 2 gilometr o ffensys yn barod i’w gosod yn Nhwyni Pen-bre ac 8.4 cilometr o ffensys ar gyfer Niwbwrch i’w gwblhau mewn cyfnodau. Bydd y ffensys yn helpu i warchod a rheoli’r da byw sy’n cyflawni’r dasg bwysig o bori glaswelltir y twyni.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am ein gwaith, cofiwch anfon e-bost at SoLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
|
|
|
Mae graddfa’r gwaith sydd wedi’i gynllunio yn ystod oes y prosiect yn uchelgeisiol. O gael gwared â phrysgwydd i lunio paneli dehongli, o gymryd rhan mewn digwyddiadau i ‘symud tywod’.
Ie, mae ‘symud tywod’ yn rhan hollbwysig o’n prosiect. Yr hyn rydyn ni’n ei olygu yw tyllu rhannau penodol o’r twyni. Trwy wneud hyn, byddwn yn creu bylchau yn y twyni ar hyd y traeth, yn tynnu tyfiant oddi ar ochrau’r twyni, ac yn crafu ac yn gostwng lefel rhai llaciau – sef pantiau gwlyb rhwng y twyni.
“Ond pam?” fe’ch clywn yn gofyn! Efallai fod ein twyni tywod yn ymddangos fel pe baent yn gynefin perffaith, ond mae sawl rhan wedi tyfu’n wyllt ac yn llawn prysgwydd a glaswellt hir, sy’n llethu bywyd gwyllt prin y twyni. Bydd ‘symud tywod’ yn rhoi hwb hollbwysig i’n twyni a’r bywyd gwyllt sy’n dibynnu arnynt.
Fe fydd hyn yn creu mwy o dywod moel, yn peri i fwy o wynt chwythu trwy’r twyni ac yn helpu i symud y tywod yn naturiol, gan greu cyfleoedd i rywogaethau prin ymgartrefu yno – a bydd hyn i gyd yn cadw ein twyni tywod yn iach.
|
|
|
Pleser yw cyflwyno Toni (ar y dde) a Jake, sef dau o Gynorthwywyr y Prosiect Twyni Byw. Maen nhw wedi bod yn hollbwysig i’n rhaglen waith ers ymuno â ni yn niwedd 2019, gan gynnig cymorth gwerthfawr i Leigh a Laura, Swyddogion y Prosiect Twyni Byw a Monitro. Mae hyn wedi ein galluogi i fwrw ymlaen â’n gwaith ar safleoedd, ac mae’r ddau wedi bod yn allweddol wrth ddefnyddio’u harbenigedd gydag Arc-GIS i ddarparu mapiau manwl gywir o’n gwaith arfaethedig.
|
|
|
Ar nosweithiau olynol yn ôl ym mis Chwefror, fe wnaethom ymweld â Chyngor Cymuned Harlech, ac yna â Chyngor Cymuned Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont. Roeddem yn ddiolchgar am y croeso cynnes, a chawsom sgwrs fuddiol am waith sydd yn yr arfaeth ym Morfa Harlech a Morfa Dyffryn ac am farn y gymuned leol ynglŷn â’r twyni tywod sydd yno.
A fyddai eich grŵp neu eich cyngor cymuned chi yn awyddus inni ddod draw am sgwrs i sôn am ein gwaith? Mae croeso ichi e-bostio SoLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk a byddwn yn fwy na pharod i drefnu dyddiad.
|
|
|
|
|
SoLIFE: LIFE 17 NAT/UK/000023
Mae prosiect Twyni Byw-Sands of LIFE wedi cael cyllid gan Raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd. Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
|
|
|
|
|