Diolch yn fawr iawn i'r artist cymunedol rhyfeddol Pod Clare a phawb a ddaeth draw i helpu i greu mosaig celf Cors Caron dros hanner tymor.
Daeth sawl teulu i Ganolfan Deuluol Tregaron a galwodd aelodau o'r cyhoedd i mewn yn y Neuadd Goffa dros wythnos hanner tymor, i helpu i greu elfennau o’r gwaith celf.
Byddwch yn gallu gweld a mwynhau pob un o'r wyth mosaig yng Nghanolfan y Barcud Coch yn Nhregaron yn fuan.
|