|
Croeso i'r cylchlythyr diweddaraf i roi'r wybodaeth gyfredol i chi am y prosiect Twyni Byw - Sands of LIFE. Pwy sy'n teimlo’n gyffrous am y flwyddyn i ddod? Rydym ni’n sicr!
Os nad ydych eisoes yn gwybod, mae Twyni Byw yn brosiect cadwraeth pwysig i adfywio twyni tywod ledled Cymru, a fydd yn rhedeg tan fis Rhagfyr 2022. Bydd y prosiect yn ail-greu symudiad naturiol yn y twyni ac yn adnewyddu cynefinoedd, a fydd yn helpu i sicrhau cartref i rai o'n bywyd gwyllt prinnaf, yn diogelu ein hamgylchedd ehangach ac yn galluogi pobl i fwynhau'r mannau bioamrywiaeth hyn.
Bydd y prosiect pwysig hwn, dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn adfer dros 2400 hectar o dwyni tywod ar draws pedair Ardal Cadwraeth Arbennig, ar 10 safle Cymreig ar wahân: Tywyn Aberffraw, Tywyn Niwbwrch, Morfa Dinlle, Morfa Harlech, Morfa Dyffryn, Twyni Lacharn – Pentywyn, Twyni Whiteford, Twyni Pen-bre, Cynffig a Merthyr Mawr.
|
|
|
Tra bod bywyd gwyllt ar y twyni ynghwsg neu'n gaeafgysgu, mae'r gaeaf yn nodi'r amser gorau i ni ddechrau ar ein rhaglen waith ar y safleoedd.
Un o'r tasgau pwysig y byddwn yn eu cyflawni yn Niwbwrch, Twyni Whiteford a Merthyr Mawr yw torri gwair. Mae glaswelltir twyni yn enwog am ei garpedi o flodau a thegeirianau prin, fodd bynnag, os na fyddwn yn cadw glaswellt tal a phrysgwydd dan reolaeth, gallant effeithio ar y cynefin pwysig hwn ac atal planhigion twyni arbenigol rhag ffynnu.
Maes hanfodol arall o waith sydd i ddod yn Nhywyn Aberffraw, Morfa Dyffryn a Thwyni Lacharn - Pentywyn yw tynnu prysgwydd. Gall prysgwydd fygu’r planhigion twyni arbenigol ac infertebratau, felly bydd ei dynnu yn helpu i ail-greu glaswelltir twyni naturiol sy'n darparu cartref i'n bywyd gwyllt sydd dan fygythiad.
Byddwn hefyd yn ffensio yn Nhwyni Pen-bre. Bydd y ffensys yn amddiffyn ac yn rheoli'r da byw sy'n cyflawni'r dasg bwysig o bori glaswelltir y twyni. Mae pori traddodiadol gan wartheg neu ferlod yn helpu i greu amodau perffaith yn y twyni. Bydd mynediad cyhoeddus yn cael ei wella trwy ddisodli'r hen gamfeydd â gatiau mochyn.
Byddwn hefyd yn cychwyn ar waith adnewyddu twyni yn Nhwyni Pen-bre. Byddwn yn tynnu tyweirch o rai o waliau’r twyni, ac yn crafu a gostwng lefel un o'r llaciau. Bydd y gwaith hwn yn helpu i greu mwy o dywod moel ac yn helpu gyda symudiad tywod naturiol - gyda pob un o’r rhain yn cadw ein twyni tywod yn iach.
Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynnydd mewn rhifynnau’r dyfodol o gylchlythyr Twyni Byw.
|
|
|
Gyda'n rhaglen waith y gaeaf bellach ar y gweill, mae gennym baneli sgleiniog newydd o faint A2 yn y ddaear. Bydd y rhain yn helpu i egluro'r gwaith sy'n digwydd ar y safle, a sut y bydd yn helpu twyni tywod a'r bywyd gwyllt prin sy'n dibynnu arnynt.
Os byddwch yn gweld ein paneli, cymrwch lun a'i bostio ar gyfryngau cymdeithasol trwy dagio @TwyniByw neu drwy ddefnyddio'r hashnod #TwyniByw. Byddwn yn rhannu! 📸
|
|
|
Pwy sy'n cadw llygad barcud ar ein cyfryngau cymdeithasol? Os felly, byddwch wedi sylwi ar ein poblogrwydd diweddar gyda'r cyfryngau. Yn ôl ym mis Hydref, fe wnaethom recordio eitem gyda Country Focus ar BBC Radio Wales a ddarlledwyd tua diwedd Tachwedd. Tynnodd yr eitem, a recordiwyd ym Merthyr Mawr a Chynffig, sylw at y brwydrau sy'n wynebu cynefinoedd twyni tywod a'n gwaith i'w adfywio.
Cyfwelwyd â Laura Bowen, Swyddog Prosiect a Monitro De Twyni Byw, yn ogystal â'n ffrindiau yn Dunes2Dunes, cyd-brosiect sydd hefyd yn helpu twyni tywod. Ymhlith y cyfranwyr eraill, cafwyd staff a gwirfoddolwyr o Ferthyr Mawr a Chynffig. Yn anffodus nid yw'r eitem ar gael mwyach trwy BBC Sounds, ond gallwch weld lluniau o'r recordiad ar wefan y BBC.
Yn ddiweddar, dangosodd Laura hefyd y wyddoniaeth y tu ôl i’n casglwyr glaw tywod ar gyfer Cynefin S4C. Ffilmiwyd hwn eto ym Merthyr Mawr a bydd yn cael ei darlledu tua'r gwanwyn. Hoffem ddiolch i bawb a chwaraeodd ran yn y ddwy eitem.
|
|
|
Yn ddiweddar ymwelon ni â Chyngor Cymuned Aberffraw. Roeddem yn ddiolchgar am y croeso cynnes, lle cawsom sgwrs dda am waith wedi'i gynllunio yn Nhywyn Aberffraw a barn y gymuned leol am y twyni tywod yno.
A fyddai'ch cyngor cymuned neu'ch grŵp yn hoffi i ni ddod i gynnal sgwrs am ein gwaith? Anfonwch e-bost at SoLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk a byddwn yn fwy na pharod i drefnu dyddiad.
|
|
|
Ar hyn o bryd rydym yn cynnal holiadur Survey Monkey ar-lein ar reoli twyni tywod, i gasglu barn ar draws y sectorau rheolaeth ac ymchwil twyni tywod ar reoli'r cynefin gwerthfawr hwn. Mae'r arolwg wedi'i rannu'n ddwy ran (Rhan 1 a Rhan 2). Byddwn yn ailadrodd yr arolwg tua diwedd y prosiect i weld sut fydd safbwyntiau wedi newid yn ystod y tair blynedd nesaf. Rydym yn hynod ddiolchgar i'r rhai ohonoch sydd eisoes wedi cyfrannu, ond rydym yn awyddus i gasglu cymaint o safbwyntiau ag y gallwn - felly, gwnewch eich gorau i’n helpu... dim ond 10 munud y mae'n ei gymryd!
|
|
|
Ewch draw i'n gwefan i gael yr holl newyddion diweddaraf am y prosiect a gwybodaeth am ganlyniadau a chanfyddiadau. Neu beth am ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol? Mae ein cyfrifon Facebook, Instagram a Twitter yn cael eu diweddaru'n rheolaidd, gan ddarparu cipolwg bach ar y cynnydd wythnosol, lluniau rhagorol sy'n gysylltiedig â thwyni a phytiau cyfweliad byr – fel yr un yma.
E-bost: SoLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Gwefan: cyfoethnaturiol.cymru/TwyniByw
Facebook, Instagram a Twitter: @TwyniByw
|
|
|
SoLIFE: LIFE 17 NAT/UK/000023
Mae prosiect Twyni Byw-Sands of LIFE wedi cael cyllid gan Raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd. Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
|
|
|
|
|
|
|