|
Rydych wedi derbyn y cylchlythyr hwn oherwydd eich bod wedi tanysgrifio i un o’n gwasanaethau yn y gorffennol.
-
Os nad ydych yn dymuno derbyn cylchlythyrau gennym bellach, gallwch datdanysgrifio ar unrhyw adeg.
- Os hoffech dderbyn y cylchlythyr yng Nghymraeg, ’tanysgrifiwch i'r cylchlythyr yma eto, gan ddewis ‘Cymraeg’.
- Os ydych yn fodlon derbyn mwy o gylchlythyrau gennym, yna nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth.
|
|
Croeso i’r cylchlythyr cyntaf mewn cyfres o gylchlythyrau a fydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am brosiect cyffrous Twyni Byw – Sands of LIFE.
Prosiect cadwraeth pwysig yw Twyni Byw i adfywio twyni tywod ledled Cymru, a bydd yn gweithredu tan fis Rhagfyr 2022. Bydd y prosiect yn ail-greu symudiad naturiol yn y twyni ac yn adfywio cynefinoedd, a fydd yn helpu i sicrhau cartref i’n bywyd gwyllt mwyaf prin, diogelu ein hamgylchedd ehangach, a galluogi pobl i fwynhau’r mannau pwysig hyn o ran bioamrywiaeth.
Bydd y prosiect hwn, sy’n cael ei arwain gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn adfer mwy na 2400 o hectarau o dwyni tywod ar draws pedair Ardal Cadwraeth Arbennig, ar 10 safle ar wahân yng Nghymru, sef: Tywyn Aberffraw, Niwbwrch, Morfa Dinlle, Morfa Harlech, Morfa Dyffryn, Lacharn – Twyni Pendine, Twyni Whiteford, Arfordir Pen-bre, Cynffig a Merthyr Mawr.
|
|
|
Dechreuodd prosiect Twyni Byw ym mis Medi 2018. Yn y misoedd cynnar canolbwyntiwyd ar greu sail gadarn i’r prosiect adeiladu arno, gan gynnwys recriwtio a hyfforddi’r tîm.
Cychwynnodd y broses o gysylltu â swyddogion safle, tirfeddianwyr, rheolwyr safle, a phartneriaid eraill sy’n hollbwysig i’r gwaith cyflawni ymarferol, â gweithdy i aelodau Gweithgor Twyni Tywod Cymru. Bu staff y prosiect yn brysur ers hynny’n cynllunio’r rhaglen waith ac yn parhau i feithrin perthnasoedd â pherchnogion a rheolwyr tir.
Ddiwedd mis Mehefin, cynhaliodd Twyni Byw weithdy rhyngwladol Cynnal Twyni Tywod Symudol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, y bu arbenigwyr twyni tywod ynddo o bob rhan o ogledd Ewrop i drafod pob agwedd ar reoli twyni tywod. Roedd y digwyddiad yn cynnwys ymweliadau â safleoedd Cynffig a Merthyr Mawr – a gwnaeth y bywyd gwyllt trawiadol a’r gwaith diweddar i ailsbarduno symudedd y blaendwyni argraff fawr ar ein gwesteion.
|
|
|
Diolch i gyllid LIFE, rydym wedi gallu cynnal gwaith pwysig o fonitro twyni tywod yn ecolegol a ffisegol, a hynny ar raddfa na gwelir fel arfer yng Nghymru. Trefnwyd i JBA Consulting wneud y gwaith o dan gontract. Yn bwysig iawn, bu’n cynnal arolwg llystyfiant cyflawn o’r twyni – sef y cyntaf ers y 1980au.
Bydd arolygon ‘cyn ac ar ôl’ eraill o infertebratau, planhigion a phriddoedd yn olrhain effaith y prosiect. Bydd hediadau awyrol yn cynhyrchu delweddau LiDAR 3-D o’r twyni, a bydd lefelau dŵr yn cael eu hasesu. Mae lleoliadau rhywogaethau gwarchodedig fel madfall y tywod a’r fadfall gribog yn cael eu cofnodi er mwyn sicrhau nad yw unrhyw waith prosiect yn eu niweidio.
“Ond beth sy’n digwydd nesaf?” meddwch chi. Wel, rydym wrthi’n cynllunio ar gyfer cyfnod cyntaf y gwaith ymarferol dros fisoedd yr hydref a’r gaeaf. Bydd hyn cynnwys gwaith torri i wella glaswelltir y twyni (pum safle), tynnu prysgwydd (chwe safle), gosod ffensys (dau safle) ac ailbroffilio twyni tywod fel y gall y tywod symud yn naturiol (tri safle).
Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi ynglŷn â’n cynnydd mewn rhifynnau i ddod o gylchlythyr Twyni Byw.
|
|
|
Mae tîm Twyni Byw yn cael ei arwain gan Kathryn Hewitt, Rheolwr y Prosiect. Mae dau Swyddog Prosiect a Monitro, sef Leigh Denyer a Laura Bowen, yn gofalu am Ogledd a De Cymru. Mae’r gwaith Cyfathrebu a Dehongli yn cael ei arwain gan Danny Wyn Griffith, tra bo’r gwaith Cyllid a Gweinyddu yn cael ei reoli gan Diane Farmery gyda chymorth Rachel Davies.
Mae dau Swyddog Cynorthwyol i’r Prosiect, un yn y Gogledd ac un yn y De, yn cael eu recriwtio ar hyn o bryd.
Bydd y tîm yn gweithio’n agos gyda swyddogion safle a rheolwyr gwarchodfeydd i gyflawni gwaith ymarferol ar lawr gwlad.
|
|
|
Ewch i’n gwefan newydd i gael y newyddion diweddaraf am y prosiect, ynghyd â gwybodaeth am ganlyniadau a chanfyddiadau. Neu pam na wnewch chi ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol? Bydd ein ffrydiau Facebook, Instagram a Twitter yn cael eu diweddaru’n rheolaidd, gan roi cipolwg ar y cynnydd a wneir bob wythnos, ffotograffau gwych o’r twyni, a cyfweliadau byr. Mae’r manylion i’w gweld isod.
E-bost: SoLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Gwefan: cyfoethnaturiol.cymru/TwyniByw
Facebook, Instagram a Twitter: @TwyniByw
|
|
|
SoLIFE: LIFE 17 NAT/UK/000023
Mae prosiect Twyni Byw-Sands of LIFE wedi cael cyllid gan Raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd. Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
|
|
|
|
|
|
|
|