Welcome to the first edition of our regional newsletter for Wales. This is part of a pilot aimed at improving the way we communicate with our regional stakeholders and court and tribunal users. We hope you will find it informative and useful and we welcome any feedback.
Court and Tribunal Reform updates
General
We continue to modernise our digital services to ensure they’re accessible and easy to use. Currently, Wales makes up 4% of claimants and 5% of defendants across England and Wales. Users are now able to do the following online:
These applications will continue to be developed and improved. For those users who cannot readily access digital channels, we offer an Assisted Digital service, including assistance in the Welsh Language.
Swansea Family Court pilots online application
Swansea Family Court has been selected as one of four courts across England and Wales to take part in a pilot, testing a new online application for local authorities to upload court documents electronically. We hope the pilot will be rolled-out permanently in the coming months.
Improving our buildings
General
We are working on improving our judicial security across Wales.
If you have any concerns about the buildings you have visited then please contact the relevant building managers or, failing that, the head of the Regional Support Unit: Wales.Support.Unit@Justice.gov.uk
Swansea Crown Court
Swansea Crown Court is improving the following facilities:
- disabled access to cells and courts
- better CCTV coverage
- toilet facilities
- new carpets and seating in certain areas
- heating and cooling systems
Cardiff Crown Court
Cardiff Crown Court is improving the following facilities:
- heating and cooling systems
- new security archways
- improved female toilets
- new external doors
The following projects are also underway:
- external repairs at Llandudno Magistrates Court
- new external doors at Prestatyn Justice Centre
- pathway repairs at Mold Court
- boundary wall repairs at Pontypridd County Court
- heating repairs at Llanelli Court
Regional project updates
Welsh language services
You can now find details in Welsh relating to courts and tribunals in Wales by searching for the relevant court or tribunal in our court and tribunal finder.
Work is underway to provide a Welsh language service for probate applications, divorce, Social Security and Child Support claim lodgements and money claims.
The following digital services are already available in Welsh:
New dedicated Welsh language service
Our Welsh-speaking users can now call our Welsh language service lines.
Welsh language Twitter account
Please follow @GLlTEMgovuk
Professional users court access scheme
We have trialled a professional entry scheme in certain courts to allow professionals to enter the buildings without being searched. The pilot is being evaluated and a decision will be taken on whether it will be rolled out to other courts and professional users.
Promoting the Civil Service in Welsh primary schools
We’ve been working with primary schools in Wales to promote the importance of employment, the Civil Service and the work of our courts. We are now also working closely with Careers Wales to develop a workshop for secondary schools to promote the Civil Service as a career.
Feedback
If you have any feedback on any of the content or if there are any topics you’d like to hear more about, please send us an email.
Bwletin e-bost rhanbarthol Cymru – Chwefror 2019
Croeso i rifyn cyntaf ein cylchlythyr rhanbarthol. Mae hwn yn rhan o gynllun peilot sydd wedi’i anelu at wella'r ffordd rydym yn cyfathrebu â'n rhanddeiliaid rhanbarthol a defnyddwyr ein llysoedd a’n tribiwnlysoedd. Hyderwn y bydd yn berthnasol ac yn ddefnyddiol ichi a chroesawn unrhyw adborth ar ei gynnwys.
Diweddariad ar ddiwygio Llysoedd a Thribiwnlysoedd
Cyffredinol
Rydym yn parhau i foderneiddio ein gwasanaethau digidol er mwyn sicrhau eu bod yn hygyrch ac yn hawdd eu defnyddio. Ar hyn o bryd, o Gymru y daw 4% o’r hawlwyr a 5% o’r diffynyddion yng Nghymru a Lloegr. Mae defnyddwyr bellach yn gallu gwneud y canlynol ar-lein:
Bydd y ceisiadau hyn yn parhau i gael eu datblygu a'u gwella. Cynigir gwasanaeth Assisted Digital gennym drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer y defnyddwyr hynny nad ydynt yn gallu defnyddio rhaglenni digidol yn rhwydd.
Llys Teulu Abertawe yn rhoi’r cynllun peilot ar waith
Mae Llys Teulu Abertawe yn un o bedwar llys yng Nghymru a Lloegr sy’n rhan o’r cynllun peilot, sy’n profi rhaglen newydd ar-lein er mwyn i awdurdodau lleol lwytho dogfennau yn electronig i'r llys. Gobeithiwn ei gyflwyno'n barhaol yn y misoedd i ddod.
Gwella ein hadeiladau
Cyffredinol
Rydym yn gweithio ar wella ein diogelwch barnwrol ledled Cymru.
Os oes gennych unrhyw bryderon am adeilad yr ydych wedi ymweld ag ef, yna cysylltwch â rheolwyr yr adeiladau perthnasol neu, os nad oes modd gwneud hynny, cysylltwch â phennaeth Uned Gefnogi Cymru: Wales.Support.Unit@Justice.gov.uk
Llys y Goron Abertawe
Mae Llys y Goron Abertawe yn gwella'r cyfleusterau canlynol:
- mynediad i'r anabl i'r celloedd a’r llysoedd
- gwelliannau i ddarllediadau teledu cylch cyfyng
- cyfleusterau toiledau
- carpedi a seddi newydd mewn rhai mannau
- systemau gwresogi ac oeri
Llys y Goron Caerdydd
Mae Llys y Goron Caerdydd yn gwella'r cyfleusterau canlynol:
- systemau gwresogi ac oeri
- mynedfa fwaog newydd
- toiledau gwell i ferched
- drysau allanol newydd
Mae'r prosiectau canlynol ar y gweill hefyd:
- atgyweiriadau allanol yn Llys Ynadon Llandudno
- drysau allanol newydd yng Nghanolfan Gyfiawnder Prestatyn
- gwella’r llwybrau yn Llys y Goron Yr Wyddgrug
- atgyweirio waliau ffiniol Llys Sirol Pontypridd
- atgyweirio’r system wresogi yn Llys Llanelli
Diweddariadau i brosiectau Rhanbarthol
Cyfieithiadau Cymraeg
Gallwch ddod o hyd i fanylion am Lysoedd a Thribiwnlysoedd yn Gymraeg drwy chwilio am lys neu dribiwnlys perthnasol ar ein cyfleuster court and tribunal finder.
Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddarparu gwasanaeth Cymraeg ar gyfer ceisiadau profiant, ysgaru, ceisiadau am nawdd cymdeithasol a chynnal plant a hawliadau am arian.
Mae'r gwasanaethau digidol canlynol eisoes ar gael yn Gymraeg:
Gwasanaeth Cymraeg newydd
Gall ein defnyddwyr Cymraeg bellach ffonio ein llinellau gwasanaeth Cymraeg.
Cyfrif Twitter Cymraeg
Dilynwch @GLlTEMgovuk
Cynllun mynediad i ddefnyddwyr proffesiynol
Rydym wedi treialu’r cynllun mynediad i ddefnyddwyr proffesiynol mewn rhai llysoedd i ganiatáu i weithwyr proffesiynol fynd i mewn i'r adeiladau heb gael eu chwilio. Mae'r cynllun peilot yn cael ei werthuso a gwneir penderfyniad maes o law ynghylch ei gyflwyno mewn llysoedd eraill ac i ddefnyddwyr proffesiynol eraill.
Hyrwyddo’r Gwasanaeth Sifil mewn ysgolion cynradd Cymraeg
Rydym wedi bod yn gweithio gydag ysgolion cynradd yng Nghymru i hyrwyddo pwysigrwydd cyflogaeth, y gwasanaeth sifil a gwaith ein llysoedd. Rydym bellach hefyd yn gweithio'n agos gyda Gyrfa Cymru i ddatblygu gweithdy ar gyfer ysgolion uwchradd i hyrwyddo'r gwasanaeth sifil fel gyrfa.
Adborth
Os oes gennych unrhyw adborth ar y cynnwys neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am bynciau penodol, anfonwch e-bost atom.
|