Pictiwrésg Gaeaf 2024
|
|
Croeso i argraffiad cyntaf Pictiwrésg o dan ein henw newydd, Tirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy. Mae'r enw hwn yn adlewyrchu pwysigrwydd Dyffryn Gwy yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac mae'n ein rhoi ar yr un lefel â'n chwaer-sefydliadau – y Parciau Cenedlaethol a'r Llwybrau Cenedlaethol. 📷Ed Moskalenko |
Cynnwys y rhifyn hwn:
Croeso i Dirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy
Yr Afon Gwy: Y prosiect ‘Wyescapes’ / Y prosiect ‘Wye Adapt to Climate Change?’
Y rhaglen Ffermio mewn Tirweddau Gwarchodedig
Grantiau'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy/Cronfa ‘Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy’
Gwirfoddolwyr Tirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy
Datganiadau Sefyllfa am Gynllunio yn Nhirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy
‘Milltiroedd heb Gamfeydd’
Hyfforddiant am wella mynediad a datblygu llwybrau
Traciau a Llwybrau Gwy Isaf
Croeso i'n haelodau newydd o staff/ Ffarwelio
|
|
|
Croeso i Dirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy
Croeso i'n henw newydd – Tirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy. Mae pob un o'r 38 Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru a Lloegr wedi cael eu hailenwi'n Dirweddau Cenedlaethol i sefyll ochr yn ochr â'n chwaer-sefydliadau, y Parciau Cenedlaethol a'r Llwybrau Cenedlaethol. Mae'r enw newydd yn adlewyrchu ein pwysigrwydd yn genedlaethol ac yn tynnu sylw at y cyfraniad hanfodol y mae pob un ohonom yn ei wneud i ddiogelu'r genedl rhag bygythiadau'r newid hinsawdd, dirywiad natur a'r argyfwng lles.
Pam ydyn ni'n gwneud hyn?
Mae hwn yn gyfle cenedlaethol i ddangos ein maint, gwerth y gwaith a ddarparwn, a'r croeso a estynnwn i bawb. Am bob £1 o gyllid craidd a dderbynnir gan Dimau Tirweddau Cenedlaethol, maen nhw'n darparu o leiaf £4 o waith ar lawr gwlad drwy sicrhau cyllid allanol, rhoi gwirfoddolwyr ar waith a chydweithio â phartneriaid. Daeth Adolygiad (Glover) o Dirweddau 2019 Llywodraeth y DU i'r casgliad nad oedd y partneriaethau hyn yn derbyn gwerthfawrogiad haeddiannol. Mae'r Tirweddau Cenedlaethol yn ymestyn dros 15% o arwynebedd tir Lloegr, felly maen nhw ddwywaith maint y Parciau Cenedlaethol, ac eto dim ond degfed ran o'r ariannu y maen nhw'n ei dderbyn. Mae'r maint a'r cwmpas yma'n ein rhoi ni mewn sefyllfa ddelfrydol i fynd i'r afael â phroblemau amgylcheddol y DU.
Creu gwell dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o'r gwaith a wnawn
Roedd Adolygiad Glover yn argymell y dylid cryfhau Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol gyda phwrpasau, grymoedd ac adnoddau newydd, a'u hailenwi yn Dirweddau Cenedlaethol sy'n enw symlach (yn llai tebygol o gael ei fyrhau i acronym anhylaw) i wella cydnabyddiaeth ac ymwybyddiaeth ac i adlewyrchu ein pwysigrwydd cenedlaethol. Trwy gael hunaniaeth unedig ar draws teulu'r Tirweddau Cenedlaethol rydym mewn gwell sefyllfa i allu dangos maint, uchelgais ac effaith y rhwydwaith ar y cyd, gan gyflwyno achos cryfach i gael ein hariannu: https://www.national-landscapes.org.uk
|
Croeso i BAWB
|
|
Rydym wedi cymryd y cyfle hwn yn genedlaethol i'n gwneud ein hunain yn fwy hygyrch a chynhwysol, gan weithredu ar yr argymhellion a gafwyd yn Adolygiad Glover i estyn croeso i bawb a sicrhau clust i bob llais. Ni yw cefn gwlad agosaf y DU – mae 66% o'r bobl yn Lloegr (sef 44 miliwn) yn byw o fewn 30 munud i Dirwedd Genedlaethol ac mae o leiaf 170 miliwn o bobl yn ymweld â nhw bob blwyddyn. |
Yr Afon Gwy: newyddion drwg a newyddion da
|
|
Yn gynharach eleni, cafodd statws yr Afonydd Gwy a Llugwy ei ostwng gan Natural England i statws ‘anffafriol – yn dirywio’ oherwydd y dirywiad ym mhoblogaethau eog yr Iwerydd, y cimychiaid afon crafanc wen a nifer y planhigion dyfrol. Mae Tirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy ar waelod dalgylch yr Afon Gwy, yn gorchuddio oddeutu trydedd ran o hyd yr afon ond llai na 10% o ardal ei dalgylch. Mae'r rhan fwyaf o'r problemau'n cychwyn i fyny'r afon o'r dirwedd warchodedig felly rydym wedi bod yn gweithio i ddylanwadu ar y rhai sydd i fyny'r afon gyda'r capasiti a'r cylch gwaith i fynd i'r afael â'r problemau hyn: |
Y prosiect ‘Wyescapes’
Yn dilyn ymdrech ar y cyd dros yr haf gyda Chanolfan Wledig Swydd Henffordd, Ymddiriedolaeth Natur Swydd Henffordd a Sefydliad Gwy ac Wysg, mae'n bleser o'r mwyaf gennym glywed fod yr Afon Gwy yn mynd i dderbyn arian o gronfa ariannol newydd gan DEFRA ar gyfer adfer tirwedd. Cynllunnir y prosiect Wyescapes – bwyd, natur, dŵr i weithredu ar raddfa fawr a'i amcan yw helpu i adfer dalgylch yr Afon Gwy i gyflwr iach. Mae'n canolbwyntio ar ardal graidd o Goodrich i Bredwardine a Llanllieni, gyda'r posibilrwydd o ehangu i ardal fwy fyth. Bydd ffermwyr wedi eu cefnogi i gymryd camau i adfer iechyd yr afonydd megis gostwng dwysedd y cynnyrch, adfer rhai caeau o fod yn dir âr a chreu ardaloedd newydd o wlyptir, glaswelltir ar orlifdir a choetir. Bydd y rhain yn fannau sy'n dal llifogydd i mewn ac yn darparu gwell bioamrywiaeth, yn cynnwys mannau i boblogaethau adar hirgoes fridio ac aros dros y gaeaf. Diolch i fesurau fel hyn bydd llai o faethynnau fel ffosffadau'n mynd i mewn i'r afonydd a bydd carbon yn cael ei gasglu a'i storio oherwydd gwell strwythur pridd a llai o ddŵr ffo oddi ar bridd sy'n llenwi gwelyau'r afonydd gyda silt. Wyescapes
Y prosiect ‘Wye Adapt to Climate Change?’ – ymaddasu i'r newid hinsawdd yn Nyffryn Gwy
📷Adam Fisher
Hefyd, mae ail brosiect megis cychwyn sy'n canolbwyntio ar yr Afon Gwy – y prosiect Wye Adapt to Climate Change? – lle mae Tirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy yn uno ag Ymddiriedolaeth Natur Swydd Henffordd ac Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed i weithio mewn partneriaeth ar draws y dalgylch cyfan. Mae Holly Williams, un o'r tri swyddog prosiect, wedi ei seilio yn Nhîm Tirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy yn Nhrefynwy. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar gefnogi ffermwyr, rheolwyr tir a chymunedau lleol i addasu i'r newid hinsawdd o fewn dalgylch yr Afon Gwy yn Sir Faesyfed, Swydd Henffordd, Swydd Gaerloyw a Sir Fynwy.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae newidiadau arwyddocaol yn y tywydd a'r hinsawdd wedi effeithio ar y bobl, y bywyd gwyllt a'r amgylchedd. I ymdrin â hyn, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar greu tirwedd sy'n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd drwy weithio gyda pherchnogion tir, rheolwyr tir a chymunedau lleol ac archwilio atebion wedi eu seilio mewn natur a dulliau o reoli tir sy'n gynaliadwy. Bydd Holly yn hyrwyddo creu rhwydweithiau gweithredu ar y newid hinsawdd ar lefel gymunedol i gefnogi cymunedau lleol i wneud newidiadau cadarnhaol i addasu i effeithiau'r newid yn yr hinsawdd a lliniaru yn eu herbyn. Mae'r prosiect hwn wedi ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. I gael rhagor o wybodaeth neu i gymryd rhan, cysylltwch â Holly Williams: h.williams@herefordshirewt.co.uk
Y rhaglen Ffermio mewn Tirweddau Gwarchodedig
📷J. Hardwick
Mae wedi bod yn flwyddyn ragorol i'n rhaglen Ffermio mewn Tirweddau Gwarchodedig, sef ffrwd gyllido DEFRA ar gyfer prosiectau sy'n galluogi adfer byd natur, lleihau effeithiau'r newid hinsawdd, cefnogi busnesau fferm cynaliadwy sy'n garedig i fyd natur a darparu cyfleoedd i bobl ddarganfod a deall y dirwedd.
Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae'r rhaglen wedi ariannu 40 o brosiectau yn ardal Tirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy, ar yr ochr sy'n perthyn i Loegr, gan gefnogi ffermwyr, tyddynwyr, cynghorau plwyf ac elusennau sy'n ymwneud â rheoli tir, amaethyddiaeth a chadwraeth natur. O adfer dolydd sy'n gyforiog o rywogaethau, plannu coed a gwrychoedd, adnewyddu perllannau traddodiadol, compostio bokashi, gwella mynediad i'r cyhoedd, sefydlu gwndwn llysieuol cymysg a chnydau gorchudd, i adnewyddu strwythurau treftadaeth a phrynu peiriannau fferm ac offer i alluogi i ffermydd ddargyfeirio: mae'r amrywiaeth eang o weithgareddau yn adlewyrchu hyblygrwydd y grant a'r amrediad o flaenoriaethau a themâu yr ymdrechwn i'w hyrwyddo. Mae rhestr gynhwysfawr o brosiectau lleol sydd wedi eu cefnogi gydag arian rhaglen Ffermio mewn Tirweddau Gwarchodedig i'w gweld yma.
Rydym hefyd wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau a theithiau cerdded addysgiadol o amgylch y fferm y mae nifer dda iawn o bobl wedi dod iddynt. Aeth grŵp o ffermwyr ar drip i ddigwyddiad FarmEd am wndwn llysieuol cymysg sydd wedi arwain at blannu cnydau newydd o'r gwndwn yma sy'n wych am wella'r pridd yn Nyffryn Gwy. Mae nifer o deithiau cerdded ar fferm Townsend wedi ysbrydoli pawb a aeth arnynt i ystyried egwyddorion a dulliau ffermio adfywiol. Roedd y digwyddiad diweddaraf yn y gyfres Brecwast ar y Fferm, a gynhelir mewn cydweithrediad â Chynghrair Bwyd Swydd Henffordd, yn ddathliad o fwyd caredig i'r afonydd a gynhyrchir yn lleol, lle gallai cynhyrchwyr rannu eu straeon gyda'r cyhoedd a hefyd fwynhau pryd o fwy blasus wedi ei goginio'n ffres, wedi ei greu o gynhwysion lleol.
|
Mewn cydweithrediad â'n partneriaid, rydym hefyd wedi gallu cynnig cyngor cynhwysfawr wedi ei deilwra ar gynlluniau amaeth-amgylcheddol newydd a sefydledig, megis y Cymhelliad Ffermio Cynaliadwy [Sustainable Farming Incentive (SFI)], pwnc sydd o bwysigrwydd mawr i ffermwyr yn y cyfnod cyfredol o weddnewid amaethyddol. Yn ogystal, cyflwynwyd nifer o gyfleoedd hyfforddi gwych i ffermwyr a rheolwyr tir, gyda chymorth ariannol y rhaglen Ffermio mewn Tirweddau Gwarchodedig, megis Cynllun Achredu Ymweliadau Addysgiadol â Chefn Gwlad [Countryside Educational Visits Accreditation Scheme (CEVAS)] yr elusen LEAF Education, a rhaglen fentora'r gymdeithas Pasture for Life dan y teitl ‘Pasture for Profit in Protected Landscapes’ [cynnal porfeydd i wneud elw mewn tirweddau gwarchodedig]. Anna Stankiewicz, (FiPL) 07496 48764.
Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy
Mae Cronfa Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru'n cynnig cymorth ariannol i brosiectau yn y rhan o Dirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy sy'n perthyn i Gymru. Mae grantiau ar gael ar gyfer cynlluniau ymarferol arloesol sy'n ennyn diddordeb cymunedau lleol ac yn helpu i gadw a gwella harddwch naturiol a bywyd gwyllt Tirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy, neu gefnogi'r cymunedau a'u lles cymdeithasol. Gallwn gynnig grantiau o £1,000 hyd at £25,000 mewn achosion eithriadol. Os oes gennych syniad am brosiect newydd, siaradwch â Lucinda James, ein Swyddog Cyswllt Cymunedol, i weld a fyddai'n gymwys: community@wyevalleyaonb.org.uk.
Y prosiect ‘Hedgehog Aware’
Rydym yn cefnogi prosiect gwych arall a ariennir gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, sef ‘Hedgehog Aware’ a redir gan Dylan Allman, ein Hyrwyddwyr Draenogod ardderchog. Sefydlwyd y prosiect ‘Hedgehog Aware’ gan Dylan pan oedd yn 13 oed wedi iddo ganfod draenogod yn byw yn ei ardd yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Wedi iddo ddarganfod bod eu niferoedd wedi dirywio'n ddramatig, roedd eisiau gwneud rhywbeth i atal y dirywiad hwnnw. Draenogod yw un o'r mamaliaid a gerir fwyaf gan y genedl ac eto maen nhw ar y Rhestr Goch fel anifeiliaid sy'n Agos at Ddifodiant. Ym mis Mai 2022, gofynnodd Tîm Tirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy i Dylan fod yn Hyrwyddwyr Draenogod ar ein rhan i wneud pobl yn fwy ymwybodol o drafferthion y draenogod yn yr ardal hon, yn rhan o'n prosiect ‘Wye Hedgehogs Priority Species’ i ddiogelu a meithrin y draenogod yn Nyffryn Gwy – AHNE Dyffryn Gwy (wyevalley-nl.org.uk).
Ym mis Mawrth 2023, gwnaeth Dylan gais i'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy i barhau ei brosiect sydd wedi bod yn annog pobl i chwarae eu rhan i helpu'r draenogod i oroesi a ffynnu, ac mae hwn wedi mynd o nerth i nerth dros y tair blynedd diwethaf. Cytunwyd i roi grant y Gronfa yn fuan yn 2023, ac mae'n chwarae rôl hanfodol o ran helpu Dylan i ehangu ei raglen ymgysylltu gymunedol, yn ogystal â gosod y sylfeini ar gyfer gofal brys mwy hygyrch ar gyfer draenogod yn Nhirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy a'r ardal gyfagos. Mae rhan fawr o'r grant hwn wrthi'n cael ei gwario ar ddatblygu ‘Uned Ymateb Cyntaf’ o wirfoddolwyr i ofalu am ddraenogod o fewn Tirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy, lle mae diffyg darpariaeth ar hyn o bryd i unigolion sy'n dod o hyd i ddraenogod sydd angen gofal a thriniaeth brys. Mewn cydweithrediad â'r Tîm Tirwedd Genedlaethol, mae'r prosiect ‘Hedgehog Aware’ wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran recriwtio gwirfoddolwyr ac mae'n cefnogi gwirfoddolwyr gyda hyfforddiant a'r adnoddau angenrheidiol, gan gynnwys cyfarpar achub draenogod. Bydd y prosiect peilot o ‘ymatebwyr cyntaf’ gwirfoddol i ddraenogod yn weithredol yn 2024, gyda thudalen Facebook a llinell ffôn achub bwrpasol: 24/7 Hedgehog First Response : 01600 605125.
Y prosiect ‘Coed Lleol’
Rydym yn cefnogi nifer o brosiectau gwych eleni, yn cynnwys prosiect ‘Lles yn y Coed’ gan yr elusen Coed Lleol sy'n cynnig gweithgareddau lles yn y coed yn Nhirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy. Nod y prosiect yw gwella iechyd a lles pobl drwy weithgareddau mewn coedwigoedd ac ym myd natur i gysylltu pobl â byd natur a gyda'u hunain. Cynhaliwyd sesiynau ‘Rhydd yn y Gwyllt’ yn Hen Orsaf Tyndyrn yn yr hydref eleni, yn naddu pren, yn dysgu sgiliau byw yn y gwyllt ac yn ymgasglu o amgylch y tân. I ganfod sut i ymuno â'r sesiynau hyn am ddim, ac i gael manylion digwyddiadau eraill, anfonwch e-bost at carliporter@smallwoods.org.uk.
|
Cronfa ‘Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy’
Mae Cronfa Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy'n rhaglen gyllido gan Lywodraeth Cymru i greu a meithrin cymunedau, tirweddau a mynediad mwy cynaliadwy a gwydn yn y Tirweddau Cenedlaethol a'r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru. Mae wedi rhoi mwy nag £8 miliwn i gefnogi prosiectau yn yr wyth Tirwedd Ddynodedig yng Nghymru. Gyda'r cymorth ariannol hwn, mae Tîm Tirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy wedi cefnogi gwaith i reoli rhywogaethau estron goresgynnol a gwaith i atgyfnerthu Llwybr Dyffryn Gwy. Defnyddiwyd y Gronfa hon hefyd i gynnig grantiau bychain i adeiladau cymunedol a neuaddau pentref i'w helpu i weithio tuag at ddatgarboneiddio ac arbed ynni, gan alluogi iddyn nhw ostwng costau a dod yn fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Hyd yn hyn, rydym wedi cefnogi chwe adeilad cymunedol, ac mae pedwar arall ar y gweill.
Defnyddiodd Neuadd Bentref Llaneuddogwy y grant hwn i ddarparu'r arian cyfatebol sydd ei angen i wneud cais am fwy o arian i Gronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn gosod paneli solar a batri storio trydan yn y neuadd. Mae'r batri storio'n galluogi i'r neuadd storio'r trydan a gynhyrchir yng ngolau dydd i'w ddefnyddio pan fydd pobl yn defnyddio'r neuadd gyda'r nos, a hefyd i wefru'r batri gan ddefnyddio trydan rhatach a mwy gwyrdd dros nos yn ystod misoedd y gaeaf. Mae hyn yn golygu y bydd cyflenwad ynni wrth gefn ar gael i'r neuadd yn ystod toriad trydan, er mwyn galluogi i'r trigolion lleol wefru eu ffonau symudol a chadw'n gynnes.
I gael manylion am y cynllun grant hwn, mae croeso i chi gysylltu â Lucinda James ar community@wyevalleyaonb.org.uk.
|
Gwirfoddolwyr Tirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy
.Mae ein gwaith gyda gwirfoddolwyr yn alinio â'n hamcanion i adfer byd natur yn y Dirwedd Genedlaethol ac rydym wedi mwynhau teithiau gwych o wobrwyol eleni, yn cynnwys dau ddiwrnod epig Her y Fyddin. Yn y gwanwyn y llynedd, plannwyd dau gant o goed ffrwythau mewn diwrnod ar Fferm Townsend Regen Ben yn Brampton Abbotts, ac ymatebodd gwirfoddolwyr ar Fferm Jamie i'r her o blannu 2,000 metr o wrychoedd, gan greu coridorau hanfodol i fywyd gwyllt rhwng Fforest y Ddena a choetiroedd Dyffryn Gwy. Yn rhan ogleddol y Dirwedd Genedlaethol, gwnaeth gwirfoddolwyr ragor o waith i greu coridorau bywyd gwyllt yn Checkley, gan gefnogi Philip Eels sydd hefyd wedi derbyn cymorth ariannol drwy ein rhaglen Ffermio mewn Tirweddau Gwarchodedig.
Yn yr haf eleni, roedd gwirfoddolwyr yn cryfhau cyhyrau eu breichiau, yn pladuro yn Nyffryn Angidy gyda Chlwb Pysgota Tyndyrn ac yn helpu i greu glaswelltir o amgylch y pysgodlynnoedd a fydd yn gyforiog o flodau gwyllt, pryfaid ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn.
Cafwyd gwaith cydweithredol gwych hefyd gyda Chymdeithas Achub Ardal Hafren (SARA) ac Ymddiriedolaeth Natur Gwent, yn cynnwys sesiwn godi sbwriel brysur iawn ar hyd darn anhygyrch o'r Afon Gwy yn Piercefield, oedd angen arbenigwyr mynediad â rhaff, cychod a llywio'n gryf drwy laid! Gwaith ysgafnach, ond yr un mor bwysig a gwobrwyol oedd adeiladu gwestai i wenyn a waliau i greaduriaid infertebrata gyda Grŵp Dolydd Sir Fynwy yng ngwlyptir Wet Meadow ger Tryleg.
|
Rhoesom groeso i wirfoddolwyr o dimau recriwtio'r Fyddin yn Ne Cymru a De-orllewin a Chanolbarth Lloegr ar gyfer eu her flynyddol yr haf. Gyda grŵp ‘Croeso i Gerddwyr’ Rhosan ar Wy aethom ati i greu Her y Fyddin ‘Milltiroedd heb Gamfeydd’ dros ddau ddiwrnod heriol iawn. Ymunodd y timau â ni yn Walford a Brampton Abbotts i wneud gwaith palu brwdfrydig iawn, gan dynnu camfeydd a rhoi clwydi yn eu lle. Rhoddodd John o grŵp ‘Croeso i Gerddwyr’ Rhosan ar Wy, ac Ian, un o'n gwirfoddolwyr Tirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy, arweiniad gwych i dimau'r Fyddin. Erbyn diwedd yr her, roedd wyth camfa wedi eu tynnu a saith clwyd newydd wedi eu gosod, gan helpu i greu llwybrau cerdded a hwyluso'r mynediad i'r Dirwedd Genedlaethol yn fawr iawn.
|
Yn yr hydref eleni, dewisodd grŵp hyfryd o aelodau staff brwdfrydig ArcadisGlobal dreulio eu diwrnod gwirfoddoli blynyddol yn helpu i adfer y mawndir gwerthfawr ym Mawnog Cleddon drwy dynnu a chlirio coed bedw goresgynnol.
Datganiadau Sefyllfa am Gynllunio yn Nhirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy
📷 Adam Fisher
Mae Josh Bailey, ein Swyddog Cynllunio Tirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy, wedi bod yn brysur yn llunio dau Ddatganiad Sefyllfa, am Dai yn Nhirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy a'i Lleoliad, ac am Ddatblygu gan Ystyried y Dirwedd. Mae'r ddau ddatganiad sefyllfa'n nodi safbwynt Partneriaeth Tirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy am faterion allweddol sy'n effeithio ar yr ardal, gan helpu i dywys cyrff sy'n cynllunio ac yn gwneud penderfyniadau i esbonio sut mae modd diogelu, cadw a gwella'r dynodiad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE). Maent yn rhoi rhagor o gyd-destun, arweiniad ac argymhellion mewn perthynas ag Amcanion Strategol presennol Cynllun Rheoli AHNE Dyffryn Gwy, a materion cysylltiedig.
Yn gynharach yn yr haf eleni, aethom ati i ymgynghori ar y ddau ddatganiad a'u hatodiadau. Ar ôl cyfnod ymgynghori cadarnhaol, cadarnhawyd y Datganiadau Sefyllfa yn unfrydol yng nghyfarfod Cydbwyllgor Cynghori AHNE Dyffryn Gwy. Bydd cyfeiriadau at y Datganiadau Sefyllfa hyn bellach mewn ymatebion i ymgynghoriadau Rheoli Datblygiad/Cynllunio Strategol gyda'r Awdurdodau Cynllunio Lleol sydd o fewn y Dirwedd Genedlaethol.
|
Mae Josh yn bwriadu llunio Datganiadau Sefyllfa eraill gyda chanllawiau cysylltiedig, am Ynni Adnewyddadwy, ac am Awyr Dywyll, er mwyn helpu i ategu Cynllun Rheoli AHNE Dyffryn Gwy a helpu cyrff cynllunio eraill wrth adolygu eu Cynlluniau Lleol/Cymdogaeth. Mae hyn hefyd yn cyd-daro'n dwt â chyflwyniad Deddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023 yn ddiweddar, sy'n cryfhau'r ddyletswydd sydd ar awdurdodau perthnasol i sicrhau bod harddwch naturiol yn cael ei gadw a'i wella ac i gyfrannu at ddarparu Cynlluniau Rheoli AHNE statudol, a fydd â chysylltiadau cryfach hefyd â thargedau cenedlaethol. |
|
|
‘Milltiroedd heb Gamfeydd’
Mwy na 10 mlynedd yn ôl, dechreuodd grŵp ‘Croeso i Gerddwyr’ Rhosan ar Wy ei waith o greu rhwydwaith ‘Milltiroedd heb Gamfeydd’ ar hyd rhannau o Lwybr Dyffryn Gwy gan greu rhai teithiau cerdded cylchol hyfryd heb unrhyw rwystrau arnynt. Mae camfeydd yn dal i fod yn broblem fawr i bobl sydd â phroblemau symudedd ac i gŵn sy'n methu neidio drostynt.
|
Yn ystod 2023, gweithiodd grŵp ‘Croeso i Gerddwyr’ Rhosan ar Wy gyda 27 o berchnogion tir yn yr ardal, gan sicrhau cytundeb ganddynt i roi clwydi yn lle mwy na 40 o gamfeydd. Bydd mwy na 40 o gamfeydd eraill yn cael eu newid yn 2024. Mae gwirfoddolwyr grŵp ‘Croeso i Gerddwyr’ Rhosan ar Wy, Crwydrwyr Swydd Henffordd, Swyddogion Llwybrau Cerdded cynghorau plwyf, y fenter EnviroAbility, Tîm Tirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy a thimau recriwtio'r Fyddin wedi gwneud gwahaniaeth enfawr, yn tynnu hen gamfeydd pren, yn torri tyllau a chymysgu concrit i osod clwydi newydd.
|
Ariannwyd y prosiect drwy gynnydd yn y cymorth ariannol ‘Mynediad i Bawb’ gan DEFRA i AHNE Dyffryn Gwy o £60K yn 2022/2023, £52K yn 2023/2024 a £72k arall yn 2024/2025.
|
Hyfforddiant am wella mynediad a datblygu llwybrau
Mae ailfrandio'r AHNE yn Dirweddau Cenedlaethol wedi gofyn edrych yn feirniadol ar y rhwystrau sy'n atal pobl rhag ymweld â chefn gwlad. Mae diffyg llwybrau hygyrch, a'r ffaith mai ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael am lwybrau addas, yn rhwystrau sylweddol sy'n atal pobl anabl rhag archwilio Tirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy. Rydym wedi bod yn canolbwyntio ein hymdrechion ar greu llwybr hygyrch (y Llwybr Coed Helyg) i'r gogledd o Rosan ar Wy.
Yn ystod hydref 2023, cynhaliwyd dau ddiwrnod hyfforddi gennym ar wella mynediad, ar y cyd â defnyddwyr cadeiriau olwyn o'r ardal leol, y Crwydrwyr Anabl a swyddogion ‘Hawliau Tramwy Cyhoeddus’, i ystyried sut y gallwn helpu pobl anabl yn well i gael mynediad i'r awyr agored gan ddefnyddio'r traciau a'r llwybrau sy'n bodoli'n barod. Dan arweiniad Craig Grimes yn Experience Community, aethom ati i brofi llwybr o Fferm Townsend ger Brampton Abbotts i lawr i'r Afon Gwy ac ar hyd y caeau ar lan yr afon. Roedd trampwyr a threiciau mynydd yn ymdopi'n wych â'r tir, gan alluogi i gerddwyr anabl gyrraedd dolen hyfryd yn yr Afon Gwy lle mae gwenoliaid y glennydd yn nythu a mulfrain yn ymgasglu.
|
Beth a ddysgwyd gennym ni? Rydym angen gwneud hyn yn amlach! Mae hyfrydwch bod allan yng nghefn gwlad ac yn agos i fyd natur yn rhoi buddion mawr i bobl ar olwynion a cherddwyr. Mae'r llwybr a brofwyd gennym yn creu dolen oddi ar Lwybr Dyffryn Gwy i'r gogledd o Rosan ar Wy, lle'r ydym wedi bod yn gweithio i dynnu rhwystrau. Mae un bont gul ar y llwybr ger yr afon wedi cael ei thynnu'n barod eleni. Bydd dwy bont arall, sy'n rhy gul ar hyn o bryd ar gyfer bygis a chadeiriau olwyn, yn cael eu hadnewyddu y gaeaf hwn. Bydd y gwelliannau hyn yn sicrhau nad oes unrhyw rwystrau ar Lwybr Dyffryn Gwy yr holl ffordd i ddolen Fferm Townsend, lle gosodwyd toiled i bobl anabl yn ddiweddar. Hwylusodd cymorth ariannol ‘Mynediad i Bawb’ newydd gan DEFRA y gwelliannau hyn i greu'r Llwybr Coed Helyg hygyrch o Rosan ar Wy. Dros y gaeaf rydym yn profi llwybrau yn y Dirwedd Genedlaethol, ar yr ochr sy'n perthyn i Gymru.
|
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, mae croeso i chi anfon e-bost at: community@wyevalleyaonb.org.uk
Dweud eich dweud yn ein hymgynghoriad ar draciau a llwybrau yn Nyffryn Gwy Isaf
Rydym wrthi'n gweithio i lunio Cynllun Gweithredu Mynediad at Ddibenion Hamdden ar gyfer y rhan o Dirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy sydd yn Sir Fynwy, er mwyn helpu i roi'r profiad gorau i bawb sy'n mwynhau'r traciau a'r llwybrau yno. Y nod yw datblygu'r ffyrdd mwyaf ymarferol o ateb anghenion pob math o ddefnyddwyr, gan hefyd ddiogelu'r amgylchedd naturiol a'r amgylchedd adeiledig ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Sicrhewch fod eich barn chi'n derbyn ystyriaeth wrth i ni ddatblygu'r strategaeth a'r cynllun gweithredu cysylltiedig: Drop in 27 Chwefror, St Arvans Memorial Hall 15.00 - 19.00 a 28 Chwefror Pelham Hall 15.00 - 19.00 Draciau a llwybrau yn Nyffryn Gwy Isaf
|
Croeso i'n haelodau newydd o staff
Rydym wedi croesawu nifer o wynebau newydd i'r Tîm Tirwedd Genedlaethol yn ddiweddar. Draw at Juliana, Josh a Holly i'w cyflwyno eu hunain…
Fy enw yw Holly Williams a fi yw Swyddog Rhaglen y prosiect ‘Wye Adapt to Climate Change?’. Mae fy nghefndir mewn cadwraeth gwlyptiroedd, a bûm yn gweithio'n ddiweddar i Ducks Unlimited Canada a'r Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw yn adfer a chreu pyllau dŵr glân i fywyd gwyllt. Mae gen i ddiddordeb yn y ffordd yr ydym yn sicrhau'r cydbwysedd rhwng cael tirwedd sy'n cefnogi amrywiaeth fawr a chyfoethog o fywyd gwyllt, ond gan hefyd gael ffermydd cynhyrchiol a chynaliadwy a chymunedau iach a bywiog. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda ffermwyr, rheolwyr tir a chymunedau lleol yn ardal y Dirwedd Genedlaethol i ddarparu prosiectau sy'n cynyddu gwydnwch rhag y newid hinsawdd a gwyrdroi'r dirywiad presennol mewn bywyd gwyllt.
|
Fy enw yw Josh Bailey ac rwy'n Swyddog Cynllunio Tirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy. Fy rôl innau yw rhoi sylwadau ar geisiadau cynllunio ledled y Dirwedd Genedlaethol, ymateb i ymgynghoriadau ar lefel polisi cynllunio a strategol, yn ogystal ag arwain y gwaith o lunio canllawiau am Gynlluniau Strategol a Datganiadau Sefyllfa ar gyfer y Dirwedd Genedlaethol. Bydd yr olaf o'r rhain yn helpu i roi gwybod i awdurdodau cynllunio lleol a chynghorau tref, plwyf a chymuned am Gynlluniau Lleol a Chynlluniau Datblygu Cymdogaeth newydd a rhai sydd wedi eu diwygio i gadw a chyfoethogi ein Tirwedd Genedlaethol hynod werthfawr. Wedi i mi gwblhau fy ngradd gyntaf a'm gradd meistr, mi es ‘adre’ lle gweithiais i Gyngor Swydd Henffordd fel Swyddog/Uwch Swyddog Cynllunio yn yr adran Rheoli Datblygiad am bum mlynedd, cyn ymuno â'r tîm ddechrau mis Chwefror 2023. Rwy'n rhannu fy swydd hefyd gyda Thirwedd Genedlaethol Bryniau Malvern, ac rwy'n treulio 2.5 diwrnod yr wythnos gyda phob Tirwedd Genedlaethol.
|
Fy enw yw Juliana Foster ac ymunais â'r tîm ddiwedd mis Mai 2023 fel Cynorthwyydd Cymorth Busnes. Mae fy mhrofiad ym meysydd bancio ac addysg, felly mae'r swydd hon braidd yn wahanol i'r pethau rwyf wedi eu gwneud o'r blaen! Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i fyw yn Nhirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy ar hyd fy oes. Nid pawb sy'n gallu dweud eu bod yn cymudo i'w gwaith drwy harddwch Dyffryn Gwy. Mae'n rhywbeth yr wyf yn ei werthfawrogi'n fawr wrth imi ddysgu bod y dirwedd yn llawer mwy na ‘dim ond darlun hardd’. Mae llawer o bethau y gall POB UN ohonom ei wneud i ofalu am y lle prydferth hwn a'i wella.
|
Ffarwelio
Ar ôl gweithio fel Swyddog Cyllid i ni am 13 o flynyddoedd, ffarweliwyd â Sharon Seymour yn gynharach eleni. Ffarweliwyd hefyd ag Ellie Baggett, ein Swyddog Adfer Byd Natur, a Nickie Moore, ein Swyddog Prosiect Dyffryn Gwy Isaf. Pob dymuniad da iddynt yn y dyfodol.
Yn union cyn i Nickie Moore ymadael â ni, aeth i Wobrau CPRE Swydd Gaerloyw 2023 lle cafodd Partneriaeth Tirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy wobr am y gwaith a wnaed gan y prosiect ‘Rhywogaethau Goresgynnol yn Nyffryn Gwy’ “am osod model i'w ddilyn wrth gymryd camau cadarnhaol i atal rhywogaethau estron goresgynnol”. Bu Nickie yn rheoli'r prosiect hwn gyda chefnogaeth Alan Martin (Gwasanaethau Cadwraeth Natur), Meyrick Ames (Sefydliad Gwy ac Wysg) ac Alex Crawley (Rheolwr Pori Cadwraethol) a'r nifer fawr o unigolion a gwirfoddolwyr brwdfrydig sydd wedi gwneud y prosiect hwn mor llwyddiannus. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi bod yn rhan ohono!
Nickie a chynrychiolwyr cydweithrediad ‘Rhywogaethau Goresgynnol yn Nyffryn Gwy’ yn derbyn eu gwobrau gan yr elusen cefn gwlad CPRE. O'r chwith i'r dde: Meyrick Ames, Nickie Moore, Jane a Steve Gilliard (Grŵp Llwybrau Cerdded Pennarth a'r Cylch). 📷 Andrew Higgins
|
Tim Tirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy
01600 713 977 / information@wyevalleyaonb.org.uk
|
|