 Please scroll down for English
Stondinau Gwybodaeth Diwrnod Hawliau Gofalwyr
Bydd Tîm Gofalwyr y Fro ac Adferiad yn cynnal stondinau gwybodaeth yn Llyfrgell Penarth, 9–10 Heol Stanwell, Penarth, CF64 2TY, i helpu gofalwyr di-dâl i gael gwybod am y cymorth sydd ar gael iddynt.
Nid oes angen cadw lle.
Yn syml, galwch heibio, cael sgwrs a dysgu pa wybodaeth, cyngor a chymorth sydd ar gael i chi.
 |
|
Dydd Llun 16 Tachwedd, 10:00yb – 11:30yb Ydych chi'n helpu i ofalu am aelod o'r teulu, ffrind neu gymydog oherwydd salwch, anabledd neu oedran? Dewch draw am sgwrs gyda James, Swyddog Datblygu Gofalwyr, i ddarganfod am y cymorth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl drwy Wasanaethau Gofalwyr Cyngor Bro Morgannwg. |
 |
|
Dydd Iau 19 Tachwedd, 10:00yb – 1:00yp Os ydych chi'n cefnogi rhywun sydd â chyflwr iechyd meddwl, dewch draw i gwrdd â Natalie, Gweithiwr Prosiect Adferiad yn y Fro (manylion cyswllt mewn mannau eraill yn yr e-fwletin hwn), i gael gwybod am yr help sydd ar gael. |
Dewch i Grŵp Gofalwyr Di-dâl
Adferiad
Os ydych chi'n ofalwr di-dâl sy'n cefnogi aelod o'r teulu, ffrind neu anwylyd sydd â chyflwr iechyd meddwl, mae grŵp gofalwyr misol Adferiad yn cynnig lle croesawgar i gwrdd ag eraill, dysgu am gefnogaeth, a mwynhau paned gyda'ch gilydd.
Nid oes angen atgyfeiriad. Galwch draw ac ymunwch â'r grŵp.
Dyddiad: Dydd Mercher 18 Tachwedd 2026
Amser: 11yb –1yp
Lleoliad: Canolfan Gymunedol Bridge Between, Heol Y Longau, Y Barri CF63 4AT
Ar gyfer cyfarfod mis Tachwedd, mae'r grŵp yn falch o groesawu Linda Newton, a fydd yn ymuno i drafod y gefnogaeth a gynigir gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn a chasglu adborth ar unrhyw brofiadau gyda'r gwasanaeth.
Bydd lluniaeth ysgafn ar gael ac mae croeso mawr i bob gofalwr di-dâl sy'n cefnogi rhywun sydd â chyflwr iechyd meddwl.
Eisiau gwybod mwy?
Ffoniwch: 07597 579 005 neu E-Bost: ifst@adferiad.org
|
 |
|
Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2026
Te Prynhawn Ofalwyr Di-Dâl
|
Mae rhywun rydych chi’n ei adnabod yn ofalwr, ond ydyn nhw’n gwybod hynny eto? |
|
 |
Ydych chi’n cefnogi aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog sydd angen eich help oherwydd salwch, anabledd neu oedran?
Efallai eich bod yn ofalwr di-dâl, hyd yn oed os nad ydych wedi meddwl amdanoch eich hun felly.
Ymunwch â TuVida a phartneriaid lleol am de prynhawn ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr. Dewch am baned a sgwrs, a dysgwch am eich hawliau a’r cymorth sydd ar gael.
Dydd Iau 19 Tachwedd 2026
2:15yp–4:30yp
Neuadd y Dref, Y Bont-faen, CF71 7DD
I archebu, ffoniwch 02921 921024
Diwrnod Hawliau Gofalwyr - Pedal Power a Bore Coffi
I ddathlu Diwrnod Hawliau Gofalwyr, mae'r Ffederasiwn Rhieni yn cynnal bore coffi galw heibio a sesiwn Pedal Power yng Ngerddi Sophia, Caerdydd.
Mae croeso i bob gofalwr di-dâl ymuno â ni ar 19 Tachwedd am 11:30yb.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch 02920 565917 neu i archebu beic Pedal Power e-bostiwch: admin@parentsfed.org
|
Os ydych chi'n derbyn gwybodaeth gofalwyr drwy’r post ar hyn o bryd, neu os oes rhywun wedi anfon y wybodaeth hon ymlaen atoch, byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech ddarparu cyfeiriad e-bost, fel nad ydych yn colli cyfleoedd i wneud cais am gyllid neu fynychu cwrs hyfforddi priodol, er enghraifft.
Nodwch: Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn gennym ni, nid oes angen i chi ddarparu eich cyfeiriad e-bost.
|
Carers’ Rights Day Information Stands
The Vale Carers’ Team and Adferiad will be holding information stands at Penarth Library, 9–10 Stanwell Road, Penarth, CF64 2TY, to help unpaid carers find out about the support available to them.
No booking is required.
Simply drop in, have a chat and find out what information, advice and support is available to you.
 |
|
Monday 16 November, 10:00am – 11:30am Do you help care for a family member, friend or neighbour because of illness, disability or age? Drop in and chat with James, Carers' Development Officer, to find out about the support available to unpaid carers through Vale of Glamorgan Council Carers Services. |
 |
|
Thursday 19 November, 10:00am – 1:00pm If you support someone with a mental health condition, come along and meet Natalie, Adferiad’s Project Worker in the Vale (contact details elsewhere in this ebulletin), to find out about the help available. |
Come Along to Adferiad’s Unpaid Carers Group
If you are an unpaid carer supporting a family member, friend or loved one with a mental health condition, Adferiad’s monthly carers group offers a welcoming space to meet others, find out about support and enjoy a cuppa together.
There’s no need for a referral. Simply come along and join the group.
Date: Wednesday 18 November 2026
Time: 11am–1pm
Venue: Bridge Between Community Centre, Heol Y Llongau, Barry, CF63 4AT
For November’s meeting, the group is pleased to welcome Linda Newton coming along to discuss the support offered by the Mental Health Services for Older People and gather feedback on any experiences with the service.
Light refreshments will be provided and all unpaid carers supporting someone with a mental health condition are very welcome.
Want to find out more?
Phone: 07597 579 005 or Email: ifst@adferiad.org
|
 |
|
Carers Rights Day 2026
Unpaid Carers Afternoon Tea
|
Someone you know is a carer, but do they know it yet?
Do you support a family member, friend or neighbour who needs your help because of illness, disability or age?
You may be an unpaid carer, even if you haven’t thought of yourself that way.
Join TuVida and local partners for afternoon tea this Carers Rights Day. Enjoy a cuppa and a chat, and find out about your rights and the support available.
Thursday 19 November 2026
2:15pm–4:30pm
Cowbridge Town Hall, CF71 7DD
To book call 02921 921024
|
Carers Rights Day (CRD) - Pedal Power and Coffee Morning
To celebrate CRD, the Parents Federation are hosting a drop-in coffee morning and pedal power session at Sophia Gardens, Cardiff.
All unpaid carers are welcome to join us on 19 November at 11:30am.
For more information ring 02920 565917 or, to book pedal power email: admin@parentsfed.org
|
If you currently receive carers’ information in the post, or if someone has forwarded this information on to you, we would be very grateful if you could provide an email address, so you do not miss out on opportunities to apply for funding or attend an appropriate training course, for example.
Note: If you have received this email from us, you do not need to provide your email address.
|
|