 Scroll down for English
Dewch i Grŵp Gofalwyr Di-dâl Adferiad
Os ydych chi'n ofalwr di-dâl sy'n cefnogi aelod o'r teulu, ffrind neu anwylyd sydd â chyflwr iechyd meddwl, mae grŵp gofalwyr misol Adferiad yn cynnig lle croesawgar i gwrdd ag eraill, dysgu am gefnogaeth, a mwynhau paned gyda'ch gilydd.
Nid oes angen atgyfeiriad. Galwch draw ac ymunwch â'r grŵp.
Dyddiad: Dydd Mercher 21 Hydref 2026
Amser: 11am–1pm
Lleoliad:Canolfan Gymunedol Bridge Between,Heol Y Longau, Y Barri CF63 4AT
Ar gyfer cyfarfod mis Hydref, mae'r grŵp yn falch o groesawu Susan Jones o 4Winds, a fydd yn siarad am y cymorth a'r gwasanaethau sydd ar gael i bobl ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.
Bydd lluniaeth ysgafn ar gael ac mae croeso mawr i bob gofalwr di-dâl sy'n cefnogi rhywun sydd â chyflwr iechyd meddwl.
Eisiau gwybod mwy?
Ffoniwch: 07597 579 005
E-Bost: ifst@adferiad.org
|
 Lansio llawlyfr newydd 'Gofalu trwy newid' i gefnogi gofalwyr di-dâl ledled Caerdydd a'r Fro
Mae adnodd newydd sydd wedi'i gynllunio i gefnogi gofalwyr di-dâl trwy rai o'r newidiadau mwyaf heriol ar eu taith ofalu wedi'i lansio ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.
Mae Gofalu trwy newid – Llawlyfr i gefnogi gofalwyr di-dâl wedi'i ddatblygu drwy waith partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Compassionate Cymru ac Age Cymru, ac yn bwysig, drwy gyd-gynhyrchu â gofalwyr di-dâl eu hunain. Mae'r llawlyfr yn cydnabod y rôl hanfodol y mae gofalwyr di-dâl yn ei chwarae wrth gefnogi anwyliaid a'i nod yw rhoi gwybodaeth a sicrwydd pan fydd amgylchiadau'n newid.
Lansiwyd y llawlyfr yn swyddogol ar 1 Hydref yng Nghynulliad Gofalwyr Di-dâl Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro. Datblygwyd y rhaglen ar gyfer y Cynulliad eleni gyda gofalwyr di-dâl ac mae'n canolbwyntio'n benodol ar drawsnewidiadau a newidiadau ar y daith ofalu. Mae'r ffocws hwn ar y cyd yn amlygu pa mor amserol yw'r adnodd newydd ac yn adlewyrchu'r materion sy'n flaenoriaeth ar hyn o bryd i lawer o ofalwyr di-dâl ledled Caerdydd a'r Fro.
Mae newid yn rhan anochel o ofalu. Gall ddigwydd yn raddol wrth i iechyd neu anghenion rhywun newid, neu'n fwy sydyn ar ôl diagnosis newydd, symud i ofal preswyl neu brofedigaeth. Ar gyfer gofalwyr di-dâl, y gall eu rôl ofalu ddod yn ganolog i fywyd bob dydd, gall y trawsnewidiadau hyn gael effaith emosiynol ac ymarferol sylweddol.
Mae'r llawlyfr yn dwyn gwybodaeth ddefnyddiol at ei gilydd mewn un lle, sy'n cwmpasu diagnosis newydd neu wedi'i newid, galar rhagflaenol, rhannu gofal gartref, rheoli straen a phryder, gofal preswyl, colled sydyn neu annisgwyl, profedigaeth a bywyd ar ôl gofalu. Mae hefyd yn cyfeirio gofalwyr i sefydliadau lleol a chenedlaethol a all ddarparu cymorth a chefnogaeth bellach.
Ydych chi'n ofalwr di-dâl? Mae cyngor a chymorth ariannol newydd ar gael
Os ydych chi'n gofalu am aelod o'r teulu, ffrind neu gymydog, mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael mynediad at gyngor a chymorth ariannol am ddim drwy'r Gronfa Cymorth Gofalwyr gan Cyngor ar Bopeth Caerdydd a'r Fro.
Os ydych chi'n poeni am gostau’r cartref, eisiau gwneud yn siŵr eich bod chi'n derbyn yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt, neu angen cyngor ar fater arall, mae cymorth ar gael.
Gall y gwasanaeth gynnig:
-
Cyngor am ddim ar fudd-daliadau, dyled, tai, hawliau cyflogaeth a mwy
- Gwiriadau budd-daliadau a sicrhau’r incwm uchaf posibl
- Help i lenwi ffurflenni a herio penderfyniadau budd-daliadau
-
Grantiau o hyd at £100 tuag at gostau hanfodol fel bwyd, biliau ynni, eitemau’r cartref a nwyddau gwyn
- Help i gysylltu â gwasanaethau arbenigol eraill pan fo angen
Mae'r gronfa ar gael i ofalwyr di-dâl ledled Caerdydd a Bro Morgannwg hyd at 31 Mawrth 2029.
I ddysgu mwy neu ofyn am gymorth, ffoniwch Advicelink ar 0800 702 2020, dydd Llun i ddydd Gwener, 8am–7pm, neu ddydd Sadwrn, 9am–1pm.
Gallwch hefyd gael mynediad at gymorth wyneb yn wyneb yn 119 Broad Street, Y Barri, CF62 7TZ, neu Hyb Llyfrgell Ganolog Caerdydd, Yr Ais, CF10 1FL.
|
Ymunwch â ni yn
Blue Grass Café!
Mae Turning Barry Blue yn falch iawn o gyhoeddi lansiad Caffi Cymunedol Deall Dementia newydd yn y Barri.
Bydd Blue Grass Café yn agor ddydd Mercher 7 Hydref 2026, 10:30am–12:30pm, ac yna bydd yn cael ei gynnal bob dydd Mercher yng Nghlwb Bowlio Canolog y Barri, Heol Gladstone, Y Barri, CF62 8NA.
Dewch draw am groeso cyfeillgar, cwmni da a bwyd a diod am ddim. Mae'r lleoliad yn cynnig mynediad hawdd i bawb, ac er bod popeth am ddim, rydym bob amser yn ddiolchgar o dderbyn rhoddion tuag at y costau rhedeg.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu!
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch turningbarryblue@gmail.com
|
Os ydych chi'n derbyn gwybodaeth gofalwyr drwy’r post ar hyn o bryd, neu os oes rhywun wedi anfon y wybodaeth hon ymlaen atoch, byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech ddarparu cyfeiriad e-bost, fel nad ydych yn colli cyfleoedd i wneud cais am gyllid neu fynychu cwrs hyfforddi priodol, er enghraifft.
Nodwch: Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn gennym ni, nid oes angen i chi ddarparu eich cyfeiriad e-bost.
|
Come Along to Adferiad’s Unpaid Carers Group
If you are an unpaid carer supporting a family member, friend or loved one with a mental health condition, Adferiad’s monthly carers group offers a welcoming space to meet others, find out about support and enjoy a cuppa together.
There’s no need for a referral. Simply come along and join the group.
Date: Wednesday 21 October 2026
Time: 11am–1pm
Venue: Bridge Between Community Centre, Heol Y Llongau, Barry, CF63 4AT
For October’s meeting, the group is pleased to welcome Susan Jones from 4Winds, who will be talking about the support and services available to people across Cardiff and the Vale of Glamorgan.
Light refreshments will be provided and all unpaid carers supporting someone with a mental health condition are very welcome.
Want to find out more?
Phone: 07597 579 005 Email: ifst@adferiad.org
|
 New ‘Caring through change’ handbook launched to support unpaid carers across Cardiff and the Vale
A new resource designed to support unpaid carers through some of the most challenging changes in their caring journey has been launched across Cardiff and the Vale of Glamorgan.
Caring through change – Handbook to support unpaid carers has been developed through partnership working between Cardiff and Vale University Health Board, Cardiff Council, Vale of Glamorgan Council, Compassionate Cymru and Age Cymru, and importantly, through co-production with unpaid carers themselves. The handbook recognises the vital role unpaid carers play in supporting loved ones and aims to provide information and reassurance when circumstances change.
The handbook was officially launched on 1 October at the Cardiff and Vale Regional Unpaid Carers Assembly. The programme for this year’s Assembly was developed with unpaid carers and has a particular focus on transitions and changes within the caring journey. This shared focus highlights how timely the new resource is and reflects the issues that are currently a priority for many unpaid carers across Cardiff and the Vale.
Change is an inevitable part of caring. It may happen gradually as someone's health or needs change, or more suddenly following a new diagnosis, a move into residential care or bereavement. For unpaid carers, whose caring role can become central to everyday life, these transitions can have a significant emotional and practical impact.
The handbook brings useful information together in one place, covering a new or changed diagnosis, anticipatory grief, sharing care at home, managing stress and anxiety, residential care, sudden or unexpected loss, bereavement and life after caring. It also signposts carers to local and national organisations that can provide further help and support.
The Caring through change handbook is available in both printed and electronic formats, helping unpaid carers, families and professionals to access and share the resource.
Are you an unpaid carer? New advice and financial support is available
If you look after a family member, friend or neighbour, you may be able to access free advice and financial support through the new Carers Support Fund from Citizens Advice Cardiff and Vale.
Whether you’re worried about household costs, would like to check you’re receiving all the benefits you’re entitled to, or need advice about another issue, support is available.
The service can provide:
-
Free advice about benefits, debt, housing, employment rights and more
- Benefit checks and income maximisation
- Help completing forms and challenging benefit decisions
-
Grants of up to £100 towards essential costs such as food, energy bills, household items and white goods
- Help to connect with other specialist services when needed
The fund is available to unpaid carers across Cardiff and the Vale of Glamorgan until 31 March 2029.
To find out more or ask for support:
Call Advicelink on 0800 702 2020, Monday to Friday, 8am–7pm, or Saturday, 9am–1pm.
You can also access support in person at:
119 Broad Street, Barry, CF62 7TZ
or Cardiff Central Library Hub, The Hayes, CF10 1FL.
|
Join us at the Blue Grass Café!
Turning Barry Blue is delighted to announce the launch of a new Dementia Friendly Community Café in Barry.
The Blue Grass Café opens on Wednesday 7 October 2026, 10:30am–12:30pm and will then take place every Wednesday at Barry Central Bowling Club, Gladstone Road, Barry, CF62 8NA.
Come along for a friendly welcome, good company and free food and drinks. The venue offers easy access for everyone, and while everything is free, donations towards the running costs are always gratefully received.
We look forward to welcoming you!
For more information, email turningbarryblue@gmail.com
|
If you currently receive carers’ information in the post, or if someone has forwarded this information on to you, we would be very grateful if you could provide an email address, so you do not miss out on opportunities to apply for funding or attend an appropriate training course, for example.
Note: If you have received this email from us, you do not need to provide your email address.
|
|