|
 Scroll down for English
Cwrs Hyfforddi Codi a Chario
i Ofalwyr Di-dâl
Ddydd Iau 15 Hydref 2026, mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig cwrs codi a chario tair awr i ofalwyr di-dâl sy'n byw yn y Fro.
Bydd y cwrs yn cael ei redeg gan Rachelle Church, Cydlynydd Codi a Chario Cyngor Bro Morgannwg.
AR GYFER PWY MAE’R CWRS?
- Ydych chi'n darparu gofal di-dâl i rywun yn y gymuned (aelod o'r teulu neu ffrind) sy'n byw ym Mro Morgannwg?
- Ydych chi eisiau helpu rhywun i mewn ac allan o gadair neu wely?
- Ydych chi eisiau gwybod sut i helpu rhywun ar ôl cwympo?
Os ateboch ydw i unrhyw o’r uchod, efallai y byddwch eisiau dod i un o’n sesiynau hyfforddiant codi a chario nesaf.
Er y caiff y sesiynau eu cynnal mewn ystafell hyfforddiant codi a chario, maen nhw’n anffurfiol iawn a chewch baned a bisged hyd yn oed.
PRYD A BLE MAE’R CWRS?
Bydd y cwrs yn cael ei gynnal yn y Swyddfeydd Dinesig, Y Barri CF63 4RT ar Ddydd Iau 15 Hydref rhwng 9.30yb ac 12.30yp.
PARCIO
Mae mannau parcio ceir ar gael yng nghefn y swyddfeydd dinesig. Ar ôl parcio, allwch chi wneud eich ffordd i'r brif dderbynfa erbyn 09:20yb.
A FYDD COST I CHI?
Bydd yr hyfforddiant a ddarperir am ddim. Ond mae 'na gost i Gyngor Bro Morgannwg wrth gynnal unrhyw gyrsiau ar gyfer gofalwyr di-dâl, felly gwnewch bob ymdrech i fynychu’r cwrs hwn. Bydd angen o leiaf 24 awr o rybudd arnom os nad ydych yn gallu dod i'r cwrs.
CYSWLLT
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y cwrs, anfonwch e-bost i:
Carersservices@valeofglamorgan.gov.uk neu ffoniwch 01446 704851
COFRESTRU:
|
Adferiad – Grŵp Gofalwyr Di-dâl
Os ydych chi'n ofalwr di-dâl sy'n helpu rhywun â chyflwr iechyd meddwl, mae croeso i chi ddod i’n sesiynau grŵp.
Does dim angen atgyfeiriad arnoch i ymuno â'n grwpiau misol.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 16 Medi 2026 rhwng 11:00yb ac 13:00yp, yng Nghanolfan Gymunedol The Bridge Between, Heol y Llongau, Y Barri CF63 4AT.
Mae'n bleser gennym groesawu siaradwr o Recovery Cymru, fydd yn siarad am y gwasanaethau maen nhw'n eu cynnig a'r amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael i gefnogi gofalwyr di-dâl a'r rhai y maen nhw’n gofalu amdanynt.
Mae’r grŵp gofalwyr ar gael i bob gofalwr di-dâl sy'n rhoi cymorth i rywun sydd â salwch iechyd meddwl. Croeso i bawb, a bydd lluniaeth ysgafn ar gael.
I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch: 07597 579 005
Ebost: ifst@adferiad.org
|
Rhybudd Ymlaen Llaw
Digwyddiad Diwrnod Hawliau Gofalwyr
Dyddiad ac amser: Dydd Iau 19 Tachwedd, 13:30pm – 16:30pm: Hen Neuadd Y Bont-faen, Stryd Fawr, Y Bont-faen CF71 7DD.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys:
- Te prynhawn am ddim i ofalwyr di-dâl
- Neuadd farchnad i gwrdd â darparwyr gwasanaethau lleol
- Gweithgareddau blas gan wasanaethau cymorth
Bydd mwy o fanylion i ddilyn......
|
 |
|
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Caerdydd a'r Fro i Bobl Hŷn |
Gwneud Gwasanaethau'n Fwy Hygyrch
Gwasanaethau i bobl sy'n byw gyda dementia, pobl dros 65 oed ag anghenion iechyd meddwl a theulu/ffrindiau/gofalwyr
Ydych chi'n defnyddio Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn (GIMBH) ar hyn o bryd?
Hyd yn oed os nad ydych chi, a oes gennych farn yr hoffech ei rhannu?
Os gallwch chi sbario 5-10 munud, byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth / copi corfforol o'r arolwg cysylltwch â:
Linda.Newton3@wales.nhs.uk Ffôn: 07483 627802
Mae'r holiadur yn cau Medi 18fed 2026. Diolch yn fawr iawn am eich cymorth:
|
Gofalwyr Cymru
- Sesiynau Amser i Fi
Rydyn ni’n falch o rannu ein calendr o sesiynau hyfforddi, lles a gwybodaeth ar-lein (am ddim) sydd ar ddod. Mae pob un sesiwn wedi'i hanelu’n benodol at ofalwyr di-dâl.
|
Os ydych chi'n derbyn gwybodaeth gofalwyr drwy’r post ar hyn o bryd, neu os oes rhywun wedi anfon y wybodaeth hon ymlaen atoch, byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech ddarparu cyfeiriad e-bost, fel nad ydych yn colli cyfleoedd i wneud cais am gyllid neu fynychu cwrs hyfforddi priodol, er enghraifft.
Nodwch: Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn gennym ni, nid oes angen i chi ddarparu eich cyfeiriad e-bost.
|
Manual Handling Training Course for Unpaid Carers
On Thursday 15 October 2026, The Vale of Glamorgan Council are offering a three-hour course on manual handling for unpaid carers who live in the Vale.
The course will be run by Rachelle Church, Manual Handling Co-ordinator of the Vale of Glamorgan Council.
WHO IS THE COURSE AIMED AT?
- Do you provide unpaid care for someone in the community (family member or friend) living in the Vale of Glamorgan?
- Do want to help someone in and out of a chair or a bed?
- Do you want to know how to help someone after a fall?
If you answered yes to any of the above, you may want to attend our manual handling next training session.
Although held in a manual handling training room setting, the sessions are very informal, and we’ll even give you a cuppa and a biscuit.
WHERE AND WHEN IS THE COURSE?
The course will be held in: Civic Offices, Barry CF63 4RT
On: Thursday 15th October from 9.30am to 12.30pm.
PARKING
There are car parking spaces available at the rear of the civic offices. After parking, can you make your way to the main reception by 09:20am.
IS THERE ANY COST TO YOU?
The training provided will be free of charge. There is however a cost to the Vale of Glamorgan Council in putting on any courses for unpaid carers, so please make every effort to attend this course. We will require at least 24 hours’ notice if you are unable to attend the course.
CONTACT
Any queries about the course, please email:
Carersservices@valeofglamorgan.gov.uk or ring 01446 704 851
REGISTRATION:
|
Adferiad – Unpaid Carer Group
If you are an unpaid carer supporting someone with a mental health condition, anyone is invited to attend our group sessions.
You do not need a referral to join our monthly groups.
The next Meeting will be held on 16th September 2026 between 11:00am to 13:00pm, at Bridge Between Community Centre, Heol Y Llongau, Barry CF63 4AT.
We are pleased to welcome a speaker from Recovery Cymru, who will talk about the services they offer and the range of courses available to support both unpaid carers and those they care for.
The carers group is available to any unpaid carer providing support to someone with a mental health illness. Light refreshments are provided, and all are welcome.
For more information call: 07597 579 005
Email: ifst@adferiad.org
|
Advance Notice - Carers' Rights Day Event
Date and time: Thursday 19th November, 13:30pm – 16:30pm: Cowbridge Town Hall, High Street, CF71 7DD.
The event will include:
- Complimentary afternoon tea for unpaid carers
- Market hall to meet local service providers
- Taster activities from support services
More details to follow.....
|
Cardiff and Vale Mental Health Services for Older People (MHSOP) |
|
 |
Making Services More Accessible
Services for people living with dementia, people over 65 with mental health needs and family/friends/carers.
Are you currently using Mental Health Services for Older People (MHSOP)?
Even if you're not, do you have a view you'd like to share?
If you can spare 5-10 minutes, we'd love to hear your thoughts.
If you would like more information / a physical copy of the survey, please contact:
Linda.Newton3@wales.nhs.uk or ring 07483 627802
Questionnaire closes September 18th 2026. Thank you very much for your help:
|
Carers Wales
Me Time Sessions
We’re pleased to share our upcoming calendar of free online training, wellbeing, and information sessions, all designed specifically for unpaid carers.
|
If you currently receive carers’ information in the post, or if someone has forwarded this information on to you, we would be very grateful if you could provide an email address, so you do not miss out on opportunities to apply for funding or attend an appropriate training course, for example.
Note: If you have received this email from us, you do not need to provide your email address.
|
|
|
|
|
|