 Please scroll down for english
 |
|
Helpu i lunio gwybodaeth glir ac ymarferol ar wefan yr awdurdod lleol |
Bob dydd, mae gofalwyr di-dâl yn rhoi cymorth hanfodol i aelodau o’r teulu, ffrindiau a chymdogion ledled ein cymunedau.
Gall dod o hyd i’r wybodaeth gywir ar yr adeg gywir wneud gwahaniaeth gwirioneddol, yn enwedig i bobl sy’n newydd i ofalu neu nad ydynt efallai eto’n adnabod eu hunain fel gofalwyr di-dâl.
Mae Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg yn cefnogi prosiect gan Lywodraeth Cymru i wella cymorth i ofalwyr di-dâl, sy’n cael ei gydlynu gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS Cymru).
Un o’r meysydd blaenoriaeth y mae’r prosiect yn edrych arno yw sut mae gwefannau awdurdodau lleol yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr di-dâl, a pha wybodaeth ddylai fod yn hawdd dod o hyd iddi ar-lein i bobl sy’n gofalu am aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog.
Mae’r arolwg yn arbennig o awyddus i ddeall beth fyddai wedi helpu pobl ar yr adeg pan oeddent yn gofalu am rywun ond efallai nad oeddent wedi adnabod eu hunain, neu uniaethu, â thermau fel gofalwr, gofalwr di-dâl neu ofalwr anffurfiol.
Bydd yr adborth yn helpu i lunio llinell sylfaen argymelledig o wybodaeth y gall awdurdodau lleol ei defnyddio i wella eu cymorth ar-lein i ofalwyr di-dâl.
Mae sawl ffordd y gall gofalwyr di-dâl gymryd rhan a chael cymorth i rannu eu barn:
-
Dydd Llun 10 Awst 2026, 11:30–13:30: ymunwch â Chlwb Gofalwyr Dinas Gofal mis Awst yn Hyb Partneriaeth Tredelerch, Llanstephan Road, Tredelerch, Caerdydd CF3 3JA, i gael cymorth i ymateb.
-
Dydd Iau 20 Awst 2026, 11:00–12:00: ymunwch â chyfarfod cydgynhyrchu ar-lein i drafod y cwestiynau a rhannu eich barn – e-bostiwch carediff@cardiff.gov.uk i gael y ddolen.
-
Dydd Mawrth 25 Awst 2026, 11:00–15:00: siaradwch â ni yn y digwyddiad Bywydau Iach yn Stadiwm Dinas Caerdydd, lle byddwn yn casglu ymatebion. Mae rhagor o fanylion am y digwyddiad Bywydau Iach ar gael ar-lein yma
Os na allwch ymuno ag unrhyw un o’r cyfleoedd hyn, mae fersiwn ar-lein o’r arolwg y gallwch ei defnyddio i ymateb yma:
Gellir cwblhau hyn unrhyw bryd tan 23:45 ddydd Iau 3 Medi 2026.
Cysylltwch â carediff@cardiff.gov.uk neu ffoniwch Reolwr Prosiect Dinas Gofal ar 02920 873419 os oes angen cymorth arnoch i ymateb ac os na allwch ddefnyddio’r cyfleoedd presennol, fel y gallwch gael cymorth i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.
Diolch am rannu eich barn.
Bydd eich adborth yn ein helpu i wella’r wybodaeth a’r cymorth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl.
 |
|
Helping to shape clear and practical information on the local authority websites. |
Every day, unpaid carers provide vital support to family members, friends and neighbours across our communities.
Finding the right information at the right time can make a real difference, especially for people who are new to caring or who may not yet recognise themselves as unpaid carers.
Cardiff Council and the Vale of Glamorgan Council are supporting a Welsh Government project to improve support for unpaid carers, coordinated by the Association of Directors of Social Services Cymru (ADSS Cymru).
One of the priority areas the project is looking at is how local authority websites provide information, advice and assistance for unpaid carers, and what information should be easy to find online for people who care for a family member, friend or neighbour.
The survey is particularly interested in what would have helped people at the point where they were caring for someone but may not have recognised or identified with terms such as carer, unpaid carer or informal carer.
Feedback will help shape a recommended baseline of information that local authorities can use to improve their online support for unpaid carers.
There are several ways unpaid carers can take part and get support to share their views:
-
Monday 10 August 2026, 11:30–13:30: join the August Care'diff Carers Club at Rumney Partnership Hub, Llanstephan Road, Rumney, Cardiff CF3 3JA, to get support to respond.
-
Thursday 20 August 2026, 11:00–12:00: join an online co-production meeting to discuss the questions and share views – email carediff@cardiff.gov.uk to receive the link.
-
Tuesday 25 August 2026, 11:00–15:00: speak to us at the Healthy Lives event at Cardiff City Stadium, where we will be gathering responses. More details of the Healthy Lives event are available online here
If you cannot join any of these opportunities, there is an online version of the survey you can use to respond here:
This can be completed at any time until 23:45 on Thursday 3 September 2026.
Please contact carediff@cardiff.gov.uk or call the Care’diff Project Manager on 02920 873419 if you need support to respond and are unable to access the current opportunities, so you can be supported to have your voice heard.
Thank you for sharing your views.
Your feedback will help us improve the information and support available to unpaid carers.
|