 Please scroll down for English
Galwad i bob gofalwr di-dâl sy’n wynebu caledi ariannol.
Mae grantiau’r Gwasanaeth Llesiant Ariannol yn ailagor ar 03.08.2026 am 10yb!
Os ydych chi wedi bod yn llwyddiannus o fewn y 12 mis diwethaf, ni allwch wneud cais eto ar hyn o bryd.
Gweler isod y dolenni ar gyfer y ceisiadau i’r rhai sydd angen cymorth gan Grantiau Llesiant Ariannol.
Unwaith y byddan nhw’n agor, peidiwch ag oedi cyn gwneud cais — dim ond nifer bach iawn o grantiau sydd ar gael, ac fe aeth y grantiau’n gyflym iawn ym mis Mai.
Os oes angen cymorth arnoch i gwblhau cais am grant, cysylltwch â - Financialwellbeingservice@tuvida.org
Bydd y ddolen hon yn mynd yn fyw am 10yb ar 03.08.2026
|
Golden Takeover
Mae’r Golden Takeover yn gyfle ad ddim i oedolion 50+ gael mynediad at gyfleusterau’r ganolfan hamdden mewn amgylchedd hamddenol a chroesawgar, rhoi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau, cwrdd â hyfforddwyr, a chael gwybod mwy am gyfleoedd lleol i fod yn fwy egnïol.
Y nod yw helpu pobl i feithrin hyder, rhoi cynnig ar rywbeth newydd, a darganfod gweithgareddau y gallent ddymuno parhau â nhw yn y dyfodol.
Manylion: Canolfan Hamdden Penarth, dydd Sadwrn 8 Awst, 5:30–7:30pm. Ar gyfer oedolion 50 oed a throsodd sy’n byw ym Mro Morgannwg.
Noson AM DDIM o weithgareddau gan gynnwys: Aerobeg Dŵr, Nofio, Tai Chi, Chwaraeon Cerdded, Badminton a Phicl-fêl (Pickleball), ynghyd â the, coffi a bisgedi am ddim.
I’r rhai sydd â diddordeb, cysylltwch â mi’n uniongyrchol-Tom Geere 07902 401007
|
 Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru – arolwg i ofalwyr sy’n cefnogi rhywun sy’n byw gyda dementia
Hoffai Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru glywed wrth ofalwyr yng Nghymru, yn benodol gofalwyr dros 50 oed sy’n gofalu am rywun sy’n byw gyda dementia. Rydyn ni’n trefnu ein digwyddiad dysgu cyntaf ym mis Tachwedd 2026, ac mae’n bwysig bod lleisiau gofalwyr yn siapio’r digwyddiad.
Mae’n rhan o brosiect tair blynedd a ariennir gan Sefydliad Shaw. Ei nod yw gwella’r gefnogaeth i ofalwyr hŷn sy’n gofalu am bobl â dementia yng Nghymru.
Rydyn ni eisiau clywed y canlynol:
- Beth sy’n eich helpu fel gofalwr
- Beth sy’n anodd a’r prif heriau fel gofalwr
- Pa gymorth sydd ei angen
Bydd eich atebion yn helpu i siapio ein digwyddiad ym mis Tachwedd 2026.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â nkatchi@carers.org neu 07542 511911
(Nicole Katchi, Swyddog Polisi ac Ymarfer)
Mae’r arolwg yn cymryd tua 3 munud i'w gwblhau. Byddwn yn rhannu crynodeb byr o'r hyn a ddysgwn ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y camau nesaf.
Dewiswch Gymraeg neu Saesneg gan ddefnyddio’r togl iaith ar frig y ffurflen cyn i chi ddechrau.
 Gofalwyr Cymru - Arolwg Cyflwr Gofalu 2026
Ydych chi’n ofalwr di-dâl? Hoffem glywed gennych.
Os ydych yn gofalu am aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog, cymerwch ychydig funudau I gwblhau Arolwg Cyflwr Gofalu.
Mae’n gyfle i rannu sut brofiad yw gofalu i chi mewn gwirionedd.
Mae eich profiadau’n helpu I greu darlun gwell o’r heriau sy’n wynebu gofalwyr a’r cymorth sydd ei angen.
Os ydych yn adnabod gofalwyr di-dâl eraill, rhannwch hwn gyda nhw hefyd. Po fwyaf o bobl sy’n cymryd rhan, y mwyaf cynrychiadol fydd y darlun.
Diolch am gymryd yr amser i leisio’ch barn.
Os ydych chi'n derbyn gwybodaeth gofalwyr drwy’r post ar hyn o bryd, neu os oes rhywun wedi anfon y wybodaeth hon ymlaen atoch, byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech ddarparu cyfeiriad e-bost, fel nad ydych yn colli cyfleoedd i wneud cais am gyllid neu fynychu cwrs hyfforddi priodol, er enghraifft.
Nodwch: Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn gennym ni, nid oes angen i chi ddarparu eich cyfeiriad e-bost
|
Calling all unpaid carers facing financial hardship
The Financial Wellbeing Service grants are re-opening on the 03.08.2026 at 10AM!
If you have been successful within the last 12 months, you are unable to apply again at this time.
Please find below the links for the applications for those who require support from the Financial Wellbeing Grants.
Once they open don’t delay in applying — there are only a very small number of grants available, and the grants went very quickly in May.
If you require support to complete a grant please contact - Financialwellbeingservice@tuvida.org
This link will go live at 10AM on the 03.08.2026
|
Golden Takeover
The Golden Takeover is a free opportunity for adults aged 50+ to access leisure centre facilities in a relaxed and welcoming environment, (completely free) try a range of activities, meet instructors, and find out more about local opportunities to get active.
The aim is to help people build confidence, try something new, and discover activities they may wish to continue with in the future.
Details: Penarth Leisure Centre, Saturday 8th August 5:30-7:30pm. Adults aged 50 and over living in the Vale of Glamorgan.
FREE evening of activities including: Aqua Aerobics, Swimming, Tai Chi, Walking sports, Badminton & Pickleball. With complimentary Tea, coffee & biscuits
For those interested, please either get in touch with me directly-Tom Geere 07902 401007
|
 Carers Trust Wales – survey for carers supporting someone living with dementia
Carers Trust Wales wants to hear from carers in Wales, specifically carers over 50 who care for someone living with dementia. We are planning our first shared learning event in November 2026 and it’s important that carers voices shape the event.
This is part of a three-year project funded by the Shaw Foundation. It aims to improve support for older carers of people with dementia in Wales.
We want to hear the following:
- What helps you as a carer
- What is difficult and key challenges as a carer
- What support is needed
Your answers will help shape our event in November 2026.
For further information, please contact nkatchi@carers.org or 07542 511911
(Nicole Katchi, Policy and Practice Officer)
The survey takes about 3 minutes. We will share a short summary of what we learn and keep you updated on the next steps.
Please select Welsh or English using the language toggle at the top of the form before you begin.
 Carers Wales - State of Caring Survey 2026
Are you an unpaid carer? We’d love to hear from you.
If you look after a family member, friend or neighbour, please take a few minutes to complete the State of Caring Survey.
It’s a chance to share what caring is really like for you.
Your experiences help build a better picture of the challenges carers face and what support is needed.
If you know other unpaid carers, please pass this on too. The more people who take part, the more representative the picture will be.
Thanks for taking the time to have your say.
If you currently receive carers’ information in the post, or if someone has forwarded this information on to you, we would be very grateful if you could provide an email address, so you do not miss out on opportunities to apply for funding or attend an appropriate training course, for example.
Note: If you have received this email from us, you do not need to provide your email address.
|
|