 Please scroll down for Welsh / Sgroliwch i lawr am Gymraeg
St David’s Day Afternoon Tea for Unpaid Carers |
|
 |
Calling all unpaid carers caring for someone in the Vale of Glamorgan.
You are warmly invited to a relaxing Afternoon Tea in celebration of St David’s Day.
Barry Library, 4th March 2026, 11:30am – 1:30pm
Enjoy tea, treats, and friendly conversation with fellow carers in a welcoming space. This is a chance to take a break and be appreciated for the incredible support you provide.
Hosted in collaboration with Vale Council.
Spaces are limited — please book fast.
Need support to book or attend?
Contact: Vale Carers Hub (TuVida)
email: valecarershub@tuvida.org
Phone: 02921 921024
All unpaid carers welcome — we look forward to celebrating with you.
|
 |
|
Carer Awareness Training
next online training on 26 February 2026
|
Carer Friendly aims to recognise, improve and increase access to information and support for unpaid carers in Cardiff and the Vale of Glamorgan, the training will raise awareness amongst services who regularly come into contact with unpaid carers.
|
If this may be you or your team please join us for the training!
Purpose of the training
- Raise awareness of who unpaid carers are
- Increase the identification of unpaid carers
- Enable you to proactively engage with unpaid carers
- Improve access to information and support that is available for unpaid carers
Areas of learning include:
- What an unpaid carer is including young carer
- Why someone may require care
- Caring responsibilities
- Statistics including local statistics
- Carers Rights
- Effects of caring
- Worries a young carer may have
- Barriers to identifying carers
- Barriers for LGBT+ carers
- Barriers for ethnic minority carers
- Referral pathways for young and adult unpaid carers in Cardiff & the Vale of Glamorgan
- Carers Assessments
- Cared for Assessments
- Carers Leave
- Carers Allowance
- What support do carers need
Available training delivery
Virtual sessions – 1 hour session (these quarterly sessions are booked through Eventbrite )
|
Face to face session – 1 hour or we can offer a more bespoke 2-hour session
Bitesize sessions – These are normally 30-minute sessions, these could be virtual or face to face.
Digital training – Recorded session accessed via YouTube link (30-minute sessions)
We request anyone taking part in the training completes the feedback form to keep track of those who are working towards the Carer Friendly Accreditation and ensure we provide certificates for those who attended.
For more information please contact - Hello@carerfriendly.wales
Developing a Complex Emotional Needs Pathway (Workshop)
On 3rd March 10am-1pm, we will be holding a workshop to support the development of our Complex Emotional Needs Pathway.
This session is a vital opportunity to engage with a broad range of stakeholders to ensure the pathway reflects the needs of our population. We are seeking representation from service users, families to work with clinical services across disciplines and roles.
The workshop will be interactive and group-based, focusing on key topics including:
- Overarching principles
- Defining success
- Strengths and challenges of current provision
- Support needs
Complex Emotional Needs is a term often used to describe people who may have a diagnosis of Personality Disorder, or who experience similar challenges at a level that could meet this diagnosis.
People with complex emotional needs may:
- Struggle to manage strong or overwhelming emotions safely
- Find it hard to build and maintain healthy relationships
- Experience long-term difficulties that affect many areas of their lives
To cope with intense emotions, some people may:
- Self-injure
- Take part in risky or unsafe behaviours
Lived experience wanted:
We are looking to hear from 6 people with lived experience of accessing our services for complex emotional needs and have a diagnosis of a Personality Disorder. Or individuals with a Personality Disorder Diagnosis. We would also welcome the views of carers or family members, where possible.
To ensure the session is inclusive and accessible to all, please let us know in advance if you or your nominated representative have any additional needs or accessibility requirements (e.g., communication support, mobility assistance, sensory considerations, etc.). We will do our best to accommodate these to enable full participation.
Your input is highly valued and will play a crucial role in shaping the next steps of this important work.
Developing a Complex Emotional Needs Pathway (Workshop)
Date: March 3rd, 2026
Time: 10am-1pm
Location: Seminar Room, 1st floor , Hafan y Coed, CF642XX
Deadline - expression of interest by Friday 20th February
For further details, please contact caniadcvuhb@caniad.org.uk
Please note: Should you receive no further communication from Caniad regarding this engagement, we regret to inform you that you were not selected on this occasion.
|
Launch of the Draft Dementia Strategy for Wales 2026–2036
Welsh Government is consulting on a new Dementia Strategy for Wales.
This will replace the previous Dementia Action Plan (2018) and the companion document produced in 2021, based on the challenges faced during the coronavirus (COVID-19) pandemic.
|
We have been clear that we intend to co-produce a new plan, and that we will take the time necessary to meaningfully engage partners and people with lived experience throughout. This document is therefore intended to provide the opportunity for people to have early engagement in the content of the document. The findings from which will inform our final strategy in 2026.
Together, we can shape a strategy that delivers meaningful change for people living with dementia and those who support them.
We invite you to share your views by 3 April 2026
If you currently receive carers’ information in the post, or if someone has forwarded this information on to you, we would be very grateful if you could provide an email address, so you do not miss out on opportunities to apply for funding or attend an appropriate training course, for example.
Note: If you have received this email from us, you do not need to provide your email address.
|
Te Prynhawn Gŵyl Dewi i Ofalwyr Di-dâl |
|
 |
Galw ar bob gofalwr di-dâl sy’n gofalu am rywun ym Mro Morgannwg.
Mae croeso cynnes i chi ymuno â ni am De Prynhawn i ddathlu Gŵyl Dewi.
Llyfrgell y Barri, 4 Mawrth 2026, 11:30yb – 1:30yp
Dewch i fwynhau te, danteithion a sgwrs gyfeillgar gyda gofalwyr eraill mewn awyrgylch croesawgar. Dyma gyfle i gael hoe ac i gael eich gwerthfawrogi am y cymorth anhygoel rydych yn ei roi.
Wedi’i gynnal mewn cydweithrediad â Chyngor Bro Morgannwg
Mae lleoedd yn gyfyngedig — archebwch yn fuan.
Os oes angen cymorth arnoch i archebu neu i fynychu:
Cysylltwch â Hwb Gofalwyr y Fro (TuVida)
ebost: valecarershub@tuvida.org
Ffon: 02921 921 024
Mae croeso i bob gofalwr di-dâl — edrychwn ymlaen at ddathlu gyda chi.
|
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Gofalwyr
hyfforddiant ar-lein nesaf ar 26 Chwefror 2026
|
|
 |
Nod Carer Friendly yw cydnabod, gwella a chynyddu mynediad at wybodaeth a chymorth i ofalwyr di-dâl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Bydd yr hyfforddiant yn codi ymwybyddiaeth ymhlith gwasanaethau sy'n dod i gysylltiad â gofalwyr di-dâl yn rheolaidd.
|
Os yw hyn yn berthnasol i chi neu’ch tîm, ymunwch â ni ar gyfer yr hyfforddiant!
Diben yr hyfforddiant
- Codi ymwybyddiaeth o bwy yw gofalwyr di-dâl
- Cynyddu’r nifer o ofalwyr di-dâl sy’n cael eu hadnabod
- Eich galluogi i ymgysylltu'n rhagweithiol â gofalwyr di-dâl
- Gwella mynediad at wybodaeth a chymorth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl
Mae meysydd dysgu yn cynnwys:
- Beth yw gofalwr di-dâl, gan gynnwys gofalwyr ifanc
- Pam y gallai rhywun fod angen gofal
- Cyfrifoldebau gofalu
- Ystadegau gan gynnwys ystadegau lleol
- Hawliau gofalwyr
- Effeithiau gofalu
- Pryderon y gallai fod gan ofalwr ifanc
- Rhwystrau i adnabod gofalwyr
- Rhwystrau i ofalwyr LHDT+
- Rhwystrau i ofalwyr o leiafrifoedd ethnig
- Llwybrau atgyfeirio ar gyfer pobl ifanc ac oedolion sy’n ofalwyr di-dâl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg
- Asesiadau Gofalwyr
- Asesiadau Derbyn Gofal
- Absenoldeb Gofalwyr
- Lwfans Gofalwr
- Pa gymorth sydd ei angen ar ofalwyr
Hyfforddiant sydd ar gael
Sesiynau rhithwir – sesiwn 1 awr (mae'r sesiynau chwarterol hyn yn cael eu harchebu drwy Eventbrite)
|
Sesiwn wyneb yn wyneb – 1 awr neu gallwn gynnig sesiwn 2 awr fwy teilwredig
Sesiynau cryno – Sesiynau 30 munud yw'r rhain fel arfer, a gallent fod yn rhithwir neu wyneb yn wyneb.
Hyfforddiant digidol – Sesiwn wedi'i recordio sydd ar gael drwy ddolen YouTube (sesiynau 30 munud
Gofynnwn i unrhyw un sy'n cymryd rhan yn yr hyfforddiant lenwi'r ffurflen adborth i gadw golwg ar y rhai sy'n gweithio tuag at yr Achrediad Carer Friendly a sicrhau ein bod yn darparu tystysgrifau i'r rhai a fynychodd.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Hello@carerfriendly.wales
Datblygu Llwybr Anghenion Emosiynol Cymhleth (Gweithdy)
Ar 3 Mawrth, rhwng 10am a 1pm, byddwn yn cynnal gweithdy i gefnogi datblygiad ein Llwybr Anghenion Emosiynol Cymhleth.
Mae'r sesiwn hon yn gyfle hanfodol i ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid i sicrhau bod y llwybr yn adlewyrchu anghenion ein poblogaeth. Rydym yn chwilio am gynrychiolaeth gan ddefnyddwyr gwasanaeth a theuluoedd i weithio gyda gwasanaethau clinigol ar draws disgyblaethau a rolau.
Bydd y gweithdy'n rhyngweithiol ac mewn grwpiau, gan ganolbwyntio ar bynciau allweddol sy'n cynnwys:
- Egwyddorion cyffredinol
- Diffinio llwyddiant
- Cryfderau a heriau'r ddarpariaeth bresennol
- Anghenion cymorth
Mae Anghenion Emosiynol Cymhleth yn derm a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio pobl a allai fod â diagnosis o Anhwylder Personoliaeth, neu sy'n profi heriau tebyg ar lefel a allai olygu'r diagnosis hwn.
Mae pobl ag anghenion emosiynol cymhleth yn gallu:
- Cael trafferth yn rheoli emosiynau cryf neu lethol yn ddiogel
- Ei chael hi'n anodd meithrin a chynnal perthnasoedd iach
- Profi anawsterau hirdymor sy'n effeithio ar lawer o feysydd o'u bywydau
Er mwyn ymdopi ag emosiynau dwys, gall rhai pobl:
- Hunan-anafu
- Cymryd rhan mewn ymddygiadau peryglus neu anniogel
Profiad bywyd rydym yn chwilio amdano:
Rydym yn awyddus i glywed gan 6 o bobl sydd â phrofiad personol o gael mynediad at ein gwasanaethau ar gyfer anghenion emosiynol cymhleth. Neu unigolion sydd â diagnosis o Anhwylder Personoliaeth. Byddem hefyd yn croesawu barn gofalwyr neu aelodau o'r teulu, lle bo modd.
Er mwyn sicrhau bod y sesiwn yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb, rhowch wybod i ni ymlaen llaw os oes gennych chi neu'ch cynrychiolydd enwebedig unrhyw anghenion ychwanegol neu ofynion hygyrchedd (e.e. cymorth cyfathrebu, cymorth symudedd, ystyriaethau synhwyraidd, ac ati). Byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu ar gyfer y rhain er mwyn galluogi cyfranogiad llawn.
Mae eich mewnbwn yn cael ei werthfawrogi'n fawr a bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio camau nesaf y gwaith pwysig hwn.
Datblygu Llwybr Anghenion Emosiynol Cymhleth (Gweithdy)
Dyddiad: 3 Mawrth 2026
Amser: 10am-1pm
Lleoliad: Ystafell Seminar, Llawr 1af, Hafan y Coed, CF642XX
Dyddiad cau - mynegi diddordeb erbyn: Dydd Gwener 20 Chwefror
Noder: Os na fyddwch yn derbyn unrhyw ohebiaeth bellach gan Caniad ynghylch yr ymgysylltiad, mae'n ddrwg gennym eich hysbysu na chawsoch eich dewis ar yr achlysur hwn.
|
Lansio Strategaeth Ddrafft Dementia Cymru 2026–2036
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar Strategaeth Dementia newydd i Gymru.
Bydd hon yn disodli’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia blaenorol (2018) a’r ddogfen gysylltiedig a gynhyrchwyd yn 2021, a oedd yn adlewyrchu’r heriau a wynebwyd yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19).
|
Rydym wedi bod yn glir ein bod yn bwriadu cyd-gynhyrchu cynllun newydd ac y byddwn yn cymryd yr amser angenrheidiol i ymgysylltu’n ystyrlon â phartneriaid a phobl sydd â phrofiad byw drwyddo draw. Felly, bwriedir i’r ddogfen hon roi cyfle i ymgysylltu’n gynnar â chynnwys y ddogfen, a bydd y canfyddiadau ohoni’n llywio ein strategaeth derfynol yn 2026.
Mae'r dull hwn wedi'i wreiddio mewn cyd-gynhyrchu, gan sicrhau bod pobl â phrofiad byw, partneriaid a rhanddeiliaid yn cael eu hymgysylltu'n ystyrlon drwy gydol y broses. Mae'r drafft hwn yn rhoi cyfle i gael adborth cynnar, a fydd yn llywio'r strategaeth derfynol yn 2026.
Rydym yn eich gwahodd i rannu eich barn erbyn 3 Ebrill 2026.
Os ydych chi'n derbyn gwybodaeth gofalwyr drwy’r post ar hyn o bryd, neu os oes rhywun wedi anfon y wybodaeth hon ymlaen atoch, byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech ddarparu cyfeiriad e-bost, fel nad ydych yn colli cyfleoedd i wneud cais am gyllid neu fynychu cwrs hyfforddi priodol, er enghraifft.
Nodwch: Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn gennym ni, nid oes angen i chi ddarparu eich cyfeiriad e-bost.
|
|