 Please scroll down for Welsh / Sgroliwch i lawr am Gymraeg
First Aid Awareness Course for Unpaid Carers
On Saturday 14 March 2026, 10am – 2pm, the Vale of Glamorgan Council are offering a four-hour course on First Aid Awareness for unpaid carers who live in the Vale.
This training will give you a basic understanding of what to do in an emergency and how you can help in the situation.
The training will be taking place at 305 Gladstone Road, Barry, South Glamorgan, CF63 1NL.
|
Vale Unpaid Carers Hub
We will be providing information and advice relating to unpaid carers on:
-
Wednesday 18th February - Barry Job Centre, Holton Road, Barry, CF63 4HA - 10am-12pm
-
Thursday 26th February - Llandough Hospital, Penlan Road, Llandough CF64 2XX – 9:30am – 12.30pm
Our information stand will be located near the Information and Support Centre, which is situated opposite the HeARTh Gallery within the Plaza.
Please feel free to pop by and chat with us about what matters to you.
For more information about the Vale Unpaid Carers Hub, please contact us: valecarershub@tuvida.org or ring 02921 921 024
|
Adferiad – Unpaid Carer Group
If you are an unpaid carer supporting someone with a mental health condition, anyone is invited to attend our group sessions. You do not need a referral to join our monthly groups.
The next Meeting will be held on 18th February 2026 between 11am to 1pm, at Bridge Between Community Centre, Heol Y Llongau, Barry CF63 4AT.
Our speaker will be a member of the Patient Experience Team who will share their work in identifying unpaid carers in Barry, Llandough and Heath hospitals.
|
The carers group is available to any unpaid carer providing support to someone with a mental health illness. Light refreshments are provided, and all are welcome.
For more information call: 07597 579 005
email: ifst@adferiad.org
 |
|
Draft National Strategy for
Unpaid Carers 2026
|
The Welsh Government is asking for your views on a new National Strategy for Unpaid Carers.
It is based on what unpaid carers and their organisations have already told us matters most to them.
We want to know what you think about the draft strategy. Your feedback will help shape the final version, which we will publish later this year.
Submit your comments by 13 April 2026
Me Time Sessions
Wednesday 18 February 1-2pm: Dealing with Change
This session will explore how we deal with change, what gets in the way, and techniques to overcome some of these hurdles.
It will provide some useful techniques to rediscover what might bring us joy, and to dare to dream about living our lives in tune with our true values and beliefs.
Thursday 26 February, 1-2pm: Money Matters
Join us for a session covering all things money - benefits, grants, helps with energy and healthcare costs and other things which may help you manage your money as an unpaid carer.
The button below will navigate you to the
Carers UK website to book a place:
|
If you currently receive carers’ information in the post, or if someone has forwarded this information on to you, we would be very grateful if you could provide an email address, so you do not miss out on opportunities to apply for funding or attend an appropriate training course, for example.
Note: If you have received this email from us, you do not need to provide your email address.
|
Ymwybyddiaeth Cymorth Cyntaf i Ofalwyr Di-dâl - Mae Lleoedd ar gael
Dydd Sadwrn 14 Mawrth 2026, 10yb - 2yp, mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig cwrs Ymwybyddiaeth Cymorth Cyntaf i Ofalwyr Di-dâl sy'n byw yn y Fro.
Bydd yr hyfforddiant hwn yn rhoi dealltwriaeth sylfaenol i chi o’r hyn i'w wneud mewn argyfwng a sut y gallwch helpu yn y sefyllfa.
Cynhelir yr hyfforddiant yn 305 Gladstone Road, Y Barri, De Morgannwg, CF63 1NL.
|
Hyb Gofalwyr Di-dâl y Fro
Byddwn yn rhoi gwybodaeth a chyngor sy'n ymwneud â gofalwyr di-dâl ar:
-
Dydd Mercher 18 Chwefror Canolfan Gwaith Y Barri, Ffordd Holton, Barry, CF63 4HA 10yb-12yp
-
Dydd Iau 26 Chwefror – Ysbyty Llandochau, Ffordd Penlan, Llandochau CF64 2XX – 9:30yb – 12.30yp
Bydd ein stondin wybodaeth wedi'i lleoli ger y Ganolfan Wybodaeth a Chymorth, sydd gyferbyn ag Oriel yr Aelwyd yn y Plaza.
Mae croeso i chi alw heibio a sgwrsio gyda ni am yr hyn sy'n bwysig i chi.
Am fwy o wybodaeth am Hyb Gofalwyr Di-dâl y Fro, cysylltwch â ni: valecarershub@tuvida.org neu ffoniwch 02921 921 024
|
Adferiad – Grŵp Gofalwyr Di-dâl
Os ydych chi'n ofalwr di-dâl sy'n helpu rhywun â chyflwr iechyd meddwl, mae croeso i chi ddod i’n sesiynau grŵp. Does dim angen atgyfeiriad arnoch i ymuno â'n grwpiau misol.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 18 Chwefror 2026 rhwng 11am ac 1pm, yng Nghanolfan Gymunedol The Bridge Between, Heol y Llongau, Y Barri CF63 4AT.
Bydd ein siaradwr yn aelod o'r Tîm Profiad Cleifion fydd yn rhannu eu gwaith yn adnabod gofalwyr di-dâl yn ysbytai'r Barri, Llandochau ac Ysbyty’r Waun.
|
Mae’r grŵp gofalwyr ar gael i bob gofalwr di-dâl sy'n rhoi cymorth i rywun sydd â salwch iechyd meddwl. Croeso i bawb, a bydd lluniaeth ysgafn ar gael.
I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch: 07597 579005
Ebost: ifst@adferiad.org
 |
|
Drafft Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Gofalwyr Di-dâl 2026 |
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am eich barn chi ar Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gofalwyr Di-dâl.
Mae'n seiliedig ar yr hyn y mae gofalwyr di-dâl a'u sefydliadau eisoes wedi'i ddweud wrthym sy'n fwyaf pwysig iddynt.
Rydyn ni eisiau gwybod eich barn am y strategaeth ddrafft. Bydd eich adborth yn helpu i ffurfio'r fersiwn derfynol, y byddwn yn ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 13 Ebrill 2026
Sesiynau Me Time
Dydd Mercher 18 Chwefror 1-2yp: Ymdrin â Newid
Bydd y sesiwn hon yn archwilio sut rydym yn delio â newid, beth sy'n ein rhwystro, a thechnegau i oresgyn rhai o'r rhwystrau hyn. Bydd yn darparu rhai technegau defnyddiol i ailddarganfod beth allai ddod â llawenydd inni, ac i feiddio breuddwydio am fyw ein bywydau mewn cytgord â'n gwerthoedd a'n credoau gwirioneddol.
Dydd Iau 26 Chwefror 1-2yp: Materion Arian
Ymunwch â ni am sesiwn sy'n trafod popeth sy'n ymwneud ag arian - budd-daliadau, grantiau, cymorth gyda chostau ynni a gofa iechyd a phethau eraill a allai eich helpu i reoli'ch arian fel gofalwr di-dâl.
|
Os ydych chi'n derbyn gwybodaeth gofalwyr drwy’r post ar hyn o bryd, neu os oes rhywun wedi anfon y wybodaeth hon ymlaen atoch, byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech ddarparu cyfeiriad e-bost, fel nad ydych yn colli cyfleoedd i wneud cais am gyllid neu fynychu cwrs hyfforddi priodol, er enghraifft.
Nodwch: Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn gennym ni, nid oes angen i chi ddarparu eich cyfeiriad e-bost.
|
|