 Please scroll down for Welsh / Sgroliwch i lawr am Gymraeg
The Vale of Glamorgan Young Carers in Schools Programme
We are delighted to announce that St Cyres Comprehensive School in Penarth retained their award at the highest stage of Accreditation for the Young Carers in School Programme, in December 2025.
Since July in the Vale of Glamorgan, we have also seen High Street Primary, All Saints CIW Primary School and Cogan Primary achieve the Basics of the Young Carers in Schools Programme and are moving to the next stage.
Young Carers in Schools works with Primary and Secondary schools in Cardiff and the Vale of Glamorgan to provide them with the tools and resources to support young carers and reduce negative impacts, giving them the same access to education and future life chances as their peers.
The programme has five areas of focus and encourages schools to better understand, inform, identify, listen and support young carers in education. Schools gather evidence to support the work taking place which is collated into a portfolio and presented to a Review Panel, who assess the portfolios and make recommendations for improvement or award the school for achieving the standards.
The Young Carers in Schools Programme has three stages which supports schools to develop a whole school approach when supporting the needs of young carers.
- The Basics
- Beyond the Basics
- Best Practice
All eight secondary schools in the Vale have worked at achieving stages of the Young Carers in Schools Programme, with two out of eight achieving two stages and two successfully completing three stages.
At the start of January 2026, four Primaries in the Vale had achieved and another ten were working towards The Basics; two Primary schools were well on their way towards Beyond the Basics with seven schools taking the offer of free staff training to support the identification of hidden young carers.
Once the award is made, schools are reviewed periodically to ensure their standards are being maintained.
With so many young carers telling us they want schools to better recognise them and understand the impact providing care has on them, it is great to see the progress being made and the excellent standards maintained once achieved. Well done, Vale Schools.
For more information:
Telephone: 07860 957 621
Email: hello@tuvida.org
|
Penarth Memory
and Movement Cafe
Are you or a loved one living with Dementia, Parkinson's Disease, Multiple Sclerosis, Stroke or any neurological issue(s)?
Or an unpaid carer supporting someone with these medical conditions? Please feel able to join us at one of our monthly support events.
When: 11am – 1pm on the second Monday of the month
Where: Room 1, Penarth Methodist Church, Woodland Place, Penarth, CF64 2EX
You will have the opportunity to:
- Learn about local community support services
- Try free taster sessions from supporting organisations
- Enjoy some fun activities and connect with others.
Can anyone use this service?
No referral required. These sessions are free.
If you want to attend, please contact Chrissy Darby by emailing christine.darby@homeinstead.co.uk or ringing 02920 569483
|
MeTime Online Support Sessions for Unpaid Carers
Wednesday 4 February, 11am -12pm: Stop Loan Sharks Wales
Not all loan sharks are violent criminals — many appear friendly and helpful at first. They can be small lenders taking advantage of friends or family, rogue landlords or employers and even work colleagues.
Since 2008, Stop Loan Sharks Wales has supported hundreds of people affected by this crime and helped to write off hundreds of millions of pounds in illegal debt.
Join us for an informative online session to explore the work of Stop Loan Sharks Wales, understand how victims can fall prey to loan sharks, and uncover the tactics these criminals use to exploit others.
|
Thursday 12 February, 11am-12pm: Mindfulness
Join us for a friendly, guided mindfulness session and explore how this practice can help you navigate challenging situations, strengthen your relationships, and enrich your life with gratitude, compassion, kindness, and appreciation.
Take a moment to pause, breathe, and explore how simple mindfulness techniques can make a real difference to your wellbeing.
If you currently receive carers’ information in the post, or if someone has forwarded this information on to you, we would be very grateful if you could provide an email address, so you do not miss out on opportunities to apply for funding or attend an appropriate training course, for example.
Note: If you have received this email from us, you do not need to provide your email address.
|
Rhaglen Gofalwyr Ifanc mewn Ysgolion Bro Morgannwg
Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod Ysgol Gyfun Sant Cyres ym Mhenarth wedi cadw eu gwobr yng ngham uchaf yr Achrediad ar gyfer y Rhaglen Gofalwyr Ifanc mewn Ysgolion, ym mis Rhagfyr 2025.
Ers mis Gorffennaf ym Mro Morgannwg, rydym hefyd wedi gweld Ysgol Gynradd High Street, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yr Holl Seintiau, ac Ysgol Gynradd Cogan yn cyflawni Hanfodion y Rhaglen Gofalwyr Ifanc mewn Ysgolion, ac yn symud i'r cam nesaf.
Mae Gofalwyr Ifanc mewn Ysgolion yn gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i roi'r offer a'r adnoddau iddynt i gefnogi gofalwyr ifanc a lleihau effeithiau negyddol, gan roi'r un mynediad iddynt at addysg a chyfleoedd bywyd yn y dyfodol â'u cyfoedion.
Mae gan y rhaglen bum maes ffocws, ac mae'n annog ysgolion i ddeall, hysbysu, adnabod, gwrando a chefnogi gofalwyr ifanc mewn addysg yn well. Mae ysgolion yn casglu tystiolaeth i gefnogi'r gwaith sy'n mynd rhagddo, ac mae'r dystiolaeth honno'n cael ei choladu i mewn i bortffolio, a'i chyflwyno i Banel Adolygu, sy'n asesu'r portffolios ac yn gwneud argymhellion ar gyfer gwella neu'n gwobrwyo'r ysgol am gyflawni'r safonau.
Mae gan y Rhaglen Gofalwyr Ifanc mewn Ysgolion dri cham sy'n cefnogi ysgolion i ddatblygu dull gweithredu ysgol gyfan o gefnogi anghenion gofalwyr ifanc.
- Yr Hanfodion
- Y Tu Hwnt i’r Hanfodion
- Arfer Gorau
Mae pob un o'r wyth ysgol uwchradd yn y Fro wedi gweithio tuag at gyflawni camau o'r Rhaglen Gofalwyr Ifanc mewn Ysgolion, gyda dwy o’r wyth yn cyflawni dau gam, a dwy yn cwblhau tri cham yn llwyddiannus.
Ar ddechrau mis Ionawr 2026, roedd pedair ysgol gynradd yn y Fro wedi cyflawni, a deg arall yn gweithio tuag at Yr Hanfodion; roedd dwy ysgol gynradd ar eu ffordd tuag at Y Tu Hwnt i’r Hanfodion, gyda saith ysgol yn cymryd y cynnig o hyfforddiant staff am ddim i gefnogi'r gwaith o adnabod gofalwyr ifanc cudd.
Ar ôl i'r dyfarniad gael ei wneud, caiff ysgolion eu hadolygu o bryd i'w gilydd, i sicrhau bod eu safonau'n cael eu cynnal.
Gyda chynifer o ofalwyr ifanc yn dweud wrthym eu bod am i ysgolion eu hadnabod yn well, a deall yr effaith y mae darparu gofal yn ei chael arnynt, mae'n wych gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud, a'r safonau rhagorol a gynhelir, ar ôl i’r gwobrau gael eu hennill. Da iawn, ysgolion y Fro.
I gael rhagor o wybodaeth:
Ffôn: 07860 957 621
E-bost: hello@tuvida.org
|
Caffi Memory and
Movement Penarth
Ydych chi neu anwylyn yn byw gyda Dementia, Clefyd Parkinson, Sglerosis Ymledol, Strôc neu unrhyw broblem(au) niwrolegol?
Neu ofalwr di-dâl sy'n cefnogi rhywun â'r cyflyrau meddygol hyn?
Mae croeso i chi ymuno â ni yn un o'n digwyddiadau cymorth misol.
Pryd: 11am – 1pm ar ail ddydd Llun y mis
Ble: Ystafell 1, Eglwys Fethodistaidd Penarth, Woodland Place, Penarth, CF64 2EX
Cewch gyfle i:
- Ddysgu mwy am wasanaethau cymunedol lleol
- Rhoi cynnig ar sesiynau blasu gan sefydliadau cymorth
- Mwynhau gweithgareddau sydd yn hwyl a chysylltu â phobl eraill.
A all unrhyw un ddefnyddio’r gwasanaeth hwn?
Does dim angen atgyfeiriad. Mae’r sesiynau hyn am ddim.
Os hoffech fynychu, cysylltwch â Chrissy Darby drwy e-bostio christine.darby@homeinstead.co.uk neu ffoniwch 02920 569483
|
MeTime Sesiadau Cefnogaeth Ar-Lein i Ofalwyr
Dydd Mercher 4 Chwefror, 11am -12pm: Stopiwch Benthycwyr Siarcod Cymru
Nid yw pob benthyciwr siarc yn droseddwyr treisgar — mae llawer yn ymddangos yn gyfeillgar ac yn gymwynasgar ar y dechrau. Gallant fod yn fenthycwyr bach sy'n manteisio ar ffrindiau neu deulu, landlordiaid neu gyflogwyr twyllodrus a hyd yn oed cydweithwyr. Ers 2008, mae Stop Loan Sharks Cymru wedi cefnogi cannoedd o bobl yr effeithiwyd arnynt gan y drosedd hon ac wedi helpu i ddileu cannoedd o filiynau o bunnoedd mewn dyled anghyfreithlon
|
Dydd Iau 12 Chwefror, 11am-12pm: Ymwybyddiaeth Ofalgar Ymunwch â ni am sesiwn ymwybyddiaeth ofalgar gyfeillgar, dan arweiniad, ac archwiliwch sut y gall yr arfer hwn eich helpu i lywio sefyllfaoedd heriol, cryfhau eich perthnasoedd, a chyfoethogi eich bywyd gyda diolchgarwch, tosturi, caredigrwydd a gwerthfawrogiad.
Cymerwch eiliad i oedi, anadlu, ac archwilio sut y gall technegau ymwybyddiaeth ofalgar syml wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'ch lles.
Os ydych chi'n derbyn gwybodaeth gofalwyr drwy’r post ar hyn o bryd, neu os oes rhywun wedi anfon y wybodaeth hon ymlaen atoch, byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech ddarparu cyfeiriad e-bost, fel nad ydych yn colli cyfleoedd i wneud cais am gyllid neu fynychu cwrs hyfforddi priodol, er enghraifft.
Nodwch: Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn gennym ni, nid oes angen i chi ddarparu eich cyfeiriad e-bost.
|
|