 Please scroll down for Welsh / Sgroliwch i lawr am Gymraeg
First Aid Awareness for Unpaid Carers
When and where will the training be taking place?
The training is available Friday 30th January 2026: 10am - 2pm.
The training will be taking place at 305 Gladstone Road, Barry, South Glamorgan, CF63 1NL.
What is the First Aid Awareness training and what is involved?
The First Aid Awareness training is a 4 hour training session run by FAST - First Aid Supplies and Training in partnership with the Vale of Glamorgan Council.
This training will give you a basic understanding of what to do in an emergency and how you can help in the situation.
How much does this cost?
Although we are offering this at no cost to you, there is a cost to the Vale of Glamorgan council in the region of £60 per place, so once you have booked your place, please commit to attending on the day, as we will still incur a charge for your non-attendance.
REGISTRATION
|
or call 01446 704604
Vale Unpaid Carers Hub
We will be providing information and advice relating to unpaid carers on:
Thursday 27th November - Llandough Hospital, Penlan Road, Llandough CF64 2XX – 1.30pm - 4.30pm
Our information stand will be located near the Information and Support Centre, which is situated opposite the HeARTh Gallery within the Plaza.
Please feel free to pop by and chat with us about what matters to you.
For more information about the Vale Unpaid Carers Hub, please contact us: valecarershub@tuvida.org or ring 02921 921 024
|
Carer Friendly Accreditation
TuVida have been commissioned to deliver the Carer Friendly accreditation by the Cardiff and Vale Regional Partnership Board. An area of focus was for those services who provide a first point of contact for unpaid carers of all ages.
If you would like to register your interest or provide details of someone in your team best placed to discuss the Carer Friendly Accreditation with, please complete the registration form:
|
This is aimed to support organisations and teams to recognise, improve and increase access to information and support for unpaid carers. The accreditation is available free of charge for health, social care and third sector services across Cardiff & the Vale of Glamorgan.
If you are a service offering help for people seeking support, you may come across carers in your daily roles and being carer aware could benefit some of your service users and their families. I feel that this would be a fantastic opportunity for you to get the external recognition that the Carer Friendly Commitment and Accreditation can offer.
Becoming Carer Friendly means:
- Recognising the impact of being unpaid carers and how this can impact on those accessing your services
- Consider how to support customers and employees who have a caring role
- Having a basic plan on how to support this work
- Committing to two Carer Friendly Actions
- It is a simple process to make a Carer Friendly Commitment; it can be done as an individual or a team.
All you need to do is go onto the website:
- Watch the 5-minute video supporting the understanding of unpaid carers
- Complete the Carer Friendly Commitment form
- Provide a high-resolution picture of your logo or a picture of yourself if you are making a commitment as an individual
- Share your two Carer Friendly actions (these actions can be consistent across your team)
- Demonstrate to the team how you are achieving at least one of the Carer Friendly actions by sharing information with LisaHowells@Tuvida.org BridieParrish@Tuvida.org
Your commitment will be promoted via our website:
There is an opportunity to go onto the next level and complete the Carer Friendly Accreditation, this includes Carer Awareness training for your teams which can be accessed digitally or face to face. If you would like to meet to discuss this further, please get in touch.
Carer Awareness training sessions are available virtually and you can register your interest to attend via Eventbrite using the below links:
Care. Connect. Cycle.
FREE and friendly cycling sessions to help carers and loved ones they care for enjoy time outdoors together.
Sessions designed for those who might identify as an unpaid carer
For more information or to join a drop in session contact Steve at cyclingofficer@cardiffpedalpower.org.uk
Phone 02920 390713
|
Carers Wales - Me Time Sessions
Monday 1 December, 2-3pm: Book Club
Take some time for yourself and connect with fellow carers at our friendly Book Club. This is a space to unwind, chat with like-minded people, and enjoy the joy of getting lost in a good book.
|
Confident Futures Campus Day
Date: 17 December 2025
Time: 09:30-14:30
Location: Cardiff University Campus
These 1 day events are designed specifically for care-experienced and adopted young people, estranged young people, and young carers aged 14+ to help demystify Higher Education.
The day will include activities such as a scavenger hunt across the campus, a session on wellbeing and budgeting and an introduction to the idea of university.
Lunch will be provided, and transport can be arranged/reimbursed.
|
This form will take approximately 10 minutes to complete. If you have any questions, please contact outreach@cardiff.ac.uk.
If you currently receive carers’ information in the post, or if someone has forwarded this information on to you, we would be very grateful if you could provide an email address, so you do not miss out on opportunities to apply for funding or attend an appropriate training course, for example.
Note: If you have received this email from us, you do not need to provide your email address.
|
Ymwybyddiaeth Cymorth Cyntaf i Ofalwyr Di-dâl
Pryd a ble fydd yr hyfforddiant?
Mae'r hyfforddiant ar gael Dydd Gwener, 30ain Ionawr 2026: 10yb - 2yp
Cynhelir yr hyfforddiant yn 305 Gladstone Road, Y Barri, De Morgannwg, CF63 1NL.
Beth yw'r hyfforddiant Ymwybyddiaeth Cymorth Cyntaf a beth mae’n ei gynnwys?
Mae’r hyfforddiant Ymwybyddiaeth Cymorth Cyntaf yn sesiwn 4 awr a gynhelir gan FAST - First Aid Supplies and Training mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg.
Bydd yr hyfforddiant hwn yn rhoi dealltwriaeth sylfaenol i chi o’r hyn i'w wneud mewn argyfwng a sut y gallwch helpu yn y sefyllfa.
Beth fydd y gost?
Er ein bod yn cynnig hyn am ddim i chi, mae ’na gost o ryw £60 fesul lle i Gyngor Bro Morgannwg, felly ar ôl i chi archebu eich lle dylech ymrwymo i fynychu ar y dydd oherwydd byddwn yn dal i orfod talu os na fyddwch yn dod.
COFRESTRU:
|
neu ffonwch 01446 704604
Hyb Gofalwyr Di-dâl y Fro
Byddwn yn rhoi gwybodaeth a chyngor sy'n ymwneud â gofalwyr di-dâl ar:
Dydd Iau 27 Tachwedd – Ysbyty Llandochau, Penlan Road, Llandochau CF64 2XX – 1.30yp – 4.30yp
Bydd ein stondin wybodaeth wedi'i lleoli ger y Ganolfan Wybodaeth a Chymorth, sydd gyferbyn ag Oriel yr Aelwyd yn y Plaza
Mae croeso i chi alw heibio a sgwrsio gyda ni am yr hyn sy'n bwysig i chi.
Am fwy o wybodaeth am Hyb Gofalwyr Di-dâl y Fro, cysylltwch â ni: valecarershub@tuvida.org neu ffoniwch 02921 921 024
|
Achrediad Ystyriol o Ofalwyr
Mae TuVida wedi cael eu comisiynu i ddarparu'r achrediad Ystyriol o Ofalwyr gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro. Un o’r meysydd ffocws oedd y gwasanaethau hynny sy'n darparu pwynt cyswllt cyntaf i ofalwyr di-dâl o bob oedran.
Os hoffech gofrestru eich diddordeb neu roi manylion rhywun yn eich tîm sydd yn y sefyllfa orau i drafod yr Achrediad Ystyriol o Ofalwyr, cwblhewch y ffurflen gofrestru.
|
Mae dod yn Ystyriol o Ofalwyr yn golygu:
- Cydnabod yr effaith o fod yn ofalwr di-dâl a sut y gall hyn effeithio ar y rhai sy'n defnyddio eich gwasanaethau
- Ystyried sut i gefnogi cwsmeriaid a gweithwyr sydd â rôl ofalu
- Meddu ar gynllun sylfaenol i gefnogi'r gwaith hwn
- Ymrwymo i ddwy Weithred sy'n Ystyriol o Ofalwyr
- Mae'n broses syml i wneud Ymrwymiad Ystyriol o Ofalwyr; gellir ei wneud fel unigolyn neu dîm.
Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw mynd i'r wefan:
- Gwylio’r fideo 5 munud sy'n cefnogi dealltwriaeth o ofalwyr di-dâl
- Cwblhau’r ffurflen Ymrwymiad Ystyriol o Ofalwyr
- Darparu llun manylder uchel o'ch logo neu lun ohonoch chi os ydych chi'n gwneud ymrwymiad fel unigolyn
- Rhannu’ch dwy weithred Ystyriol o Ofalwyr (gall y gweithredoedd hyn fod yn gyson ar draws eich tîm)
- Dangos i'r tîm sut rydych chi'n cyflawni o leiaf un o'r gweithredoedd Ystyriol o Ofalwyr drwy rannu gwybodaeth gyda LisaHowells@Tuvida.org BridieParrish@Tuvida.org
Bydd eich ymrwymiad yn cael ei hyrwyddo trwy ein gwefan:
Mae cyfle i fynd i'r lefel nesaf a chwblhau'r Achrediad Ystyriol o Ofalwyr; mae hyn yn cynnwys hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Ofalwyr ar gyfer eich timau y gellir ei wneud yn ddigidol neu wyneb yn wyneb. Os hoffech gyfarfod i drafod hyn ymhellach, cysylltwch â ni.
Mae sesiynau hyfforddi Ymwybyddiaeth o Ofalwyr ar gael yn rhithwir a gallwch gofrestru eich diddordeb i fynychu drwy Eventbrite gan ddefnyddio'r dolenni isod:
Gofal. Cysylltu. Beicio.
Sesiynau beicio cyfeillgar ac am ddim i helpu gofalwyr a'u hanwyliaid fwynhau amser yn yr awyr agored gyda'i gilydd.
*Sesiynau wedi'u cynllunio ar gyfer y rhai a allai uniaethu fel gofalwr di-dâl*
Am ragor o wybodaeth neu i ymuno â sesiwn galw heibio cysylltwch â Steve ar
cyclingofficer@cardiffpedalpower.org.uk
Ffoniwch 02920 390713
|
Gofalwyr Cymru - Sesiynau Amser i Fi
Dydd Llun 1 Rhagfyr, 2-3pm: Clwb Llyfrau
Cymerwch amser i chi'ch hun a chysylltwch â gofalwyr eraill yn ein Clwb Llyfrau cyfeillgar.
Mae hwn yn lle i ymlacio, sgwrsio â phobl o'r un anian, a mwynhau llawenydd mynd ar goll mewn llyfr da.
|
Dyfodol Hyderus – Diwrnod ar y Campws
Dyddiadau: 17 Rhagfyr 2025
Amser: 09:30-14:30
Lleoliad: Campws Prifysgol Caerdydd
Mae’r digwyddiad undydd hwn yn benodol ar gyfer pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, pobl ifanc wedi’u mabwysiadu, pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teuluoedd a gofalwyr ifanc sy’n 14 oed a throsodd.
Bydd yn helpu i chwalu camsyniadau o addysg uwch. Bydd hefyd yn cynnwys gweithgareddau megis helfa sborion ar y campws, sesiwn ar les a chyflwyniad ar beth yw’r brifysgol.
Bydd cinio’n cael ei ddarparu, a bydd modd trefnu trafnidiaeth ar eich cyfer/ad-dalu eich costau teithio.
|
Bydd yn cymryd tua 10 munud i lenwi’r ffurflen hon. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag outreach@caerdydd.ac.uk
Os ydych chi'n derbyn gwybodaeth gofalwyr drwy’r post ar hyn o bryd, neu os oes rhywun wedi anfon y wybodaeth hon ymlaen atoch, byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech ddarparu cyfeiriad e-bost, fel nad ydych yn colli cyfleoedd i wneud cais am gyllid neu fynychu cwrs hyfforddi priodol, er enghraifft.
Nodwch: Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn gennym ni, nid oes angen i chi ddarparu eich cyfeiriad e-bost.
|
|