 Please scroll down for Welsh / Sgroliwch i lawr am Gymraeg
Public Forum: Unpaid Carers
As a carer, what is your experience of accessing and using health and social care services in Cardiff and the Vale of Glamorgan?
Join Llais at a Public Forum: Carers Event at the Holiday Inn, Cardiff Central, on Tuesday 18th November from 13:00 – 15:00pm, to share your views and experiences of health and social care services.
Llais wants to take the opportunity to support all carers by holding an event to get individuals to come together and share their views and experiences. Where possible, we will share these with services to meet the needs of carers in the best possible way.
|
Shaping Services for the Future, Together
This 10-year strategy will shape how health services are delivered across Cardiff and the Vale of Glamorgan — from GP appointments to emergency care, mental health, women’s health, planned care, and specialist services.
As our communities grow and change, and as the number of people providing care for those living with more complex needs, it’s essential that our health services reflect those changing realities. That means putting unpaid carers’ voices at the centre of service design — not just data or policy.
How can I get involved with the development of the plan?
We want to give everyone that accesses health services in Cardiff and the Vale of Glamorgan the chance to help us design the plan. As an unpaid carer, you can:
- Take part in a focus group.
- Fill in our short or long survey.
- Send your feedback in via email or give us a ring.
- Listen to our recorded sessions all about the plan via our website and send us your comments afterwards.
- If you are a part of a community group that you think would like to take part in the development of the plan, send us an email and we can organise to visit you.
We especially want to hear the experiences of unpaid carers, so please get in touch and help us create a plan that meets your needs. The deadline for responses is 18 December 2025.
The “Shaping our Future Services,Together” survey is now live, you can find it here:
|
Or, if you prefer you can send us your thoughts via email or telephone:
Email address: cav.engagement.cav@wales.nhs.uk
Telephone: 07812 495 339
Me Time - free online sessions for Carers
Thursday 6 November, 1-2pm: Gambling Awareness with Adferiad
Join us for this informative session with Adferiad to explore what gambling is and how prevalent it is in society today. We will also look at signs of gambling harms and where to signpost if needed.
|
Wednesday 19 November 11am - 12pm: De-clutter with Jane Breeze
This is an opportunity to explore different ways to declutter your home, garage or attic, and to look at the various reasons why we put it off.
Cardiff and Vale Recovery & Wellbeing College
We provide a range of free courses on a range of mental health and wellbeing topics for those with lived experience of mental health challenges, service users, carers and staff.
|
The courses we have on offer are co-produced by people with lived experiences of mental health challenges, including those who have used mental health services, as well as mental health practitioners.
Our courses are accessible to all and we invite those with mental health challenges, carers and staff to enrol. If you would like to register as a student and enrol on our courses, please follow the link below:
If you have any queries or would like further information about the Recovery & Wellbeing College, please contact us on the details below.
Telephone: 02921 832 619
If you currently receive carers’ information in the post, or if someone has forwarded this information on to you, we would be very grateful if you could provide an email address, so you do not miss out on opportunities to apply for funding or attend an appropriate training course, for example.
Note: If you have received this email from us, you do not need to provide your email address.
|
Fforwm Cyhoeddus: Gofalwyr Di-dâl
Fel gofalwr, beth yw eich profiad o gael mynediad at ac o ddefnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg?
Ymunwch â ni yn ein Fforwm Cyhoeddus: Digwyddiad Gofalwyr yn yr Holiday Inn, Canol Caerdydd, ddydd Mawrth 18 Tachwedd rhwng 13:00 – 15:00, i rannu eich barn a’ch profiadau o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae Llais am fanteisio ar y cyfle i gefnogi pob gofalwr drwy gynnal digwyddiad i ddod ag unigolion ynghyd i rannu eu barn a’u profiadau. Lle bo hynny’n bosibl, byddwn yn rhannu’r rhain gyda gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion gofalwyr yn y ffordd orau bosibl.
|
Llunio ein Gwasanaethau yn y Dyfodol, Gyda'n Gilydd
Bydd y strategaeth 10 mlynedd hon yn llunio sut mae gwasanaethau iechyd yn cael eu darparu ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg — o apwyntiadau gyda meddyg teulu i ofal brys, iechyd meddwl, iechyd menywod, gofal wedi'i gynllunio a gwasanaethau arbenigol.
Wrth i'n cymunedau dyfu a newid, ac wrth i nifer y bobl sy'n darparu gofal i'r rhai sy'n byw ag anghenion mwy cymhleth gynyddu, mae'n hanfodol bod ein gwasanaethau iechyd yn adlewyrchu'r realiti newidiol hynny. Mae hynny'n golygu rhoi lleisiau gofalwyr di-dâl wrth wraidd cynllunio gwasanaethau – nid data a pholisi yn unig.
Sut alla i gymryd rhan yn natblygiad y cynllun?
Rydym am roi cyfle i bawb sy'n cael mynediad at wasanaethau iechyd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ein helpu i ddylunio'r cynllun. Fel gofalwr di-dâl, gallwch:
- Gymryd rhan mewn grŵp ffocws.
- Llenwi ein harolwg byr neu hir.
- Anfon eich adborth drwy e-bost neu ffonio ni.
- Gwrando ar ein sesiynau sy’n trafod y cynllun ac sydd wedi’u recordio ar ein gwefan, ac anfon eich sylwadau atom wedi hynny.
- Os ydych chi'n rhan o grŵp cymunedol yr ydych chi'n meddwl y byddai'n hoffi cymryd rhan yn natblygiad y cynllun, anfonwch e-bost atom a gallwn drefnu i ymweld â chi.
Rydyn ni’n arbennig o awyddus i glywed am brofiadau gofalwyr di-dâl, felly cysylltwch â ni a helpwch ni i greu cynllun sy'n diwallu eich anghenion chi. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion yw 18 Rhagfyr 2025.
Mae'r arolwg “Llunio ein Gwasanaethau yn y Dyfodol, Gyda'n Gilydd” bellach yn fyw, a gallwch ddod o hyd iddo yma:
|
Neu, os yw'n well gennych, gallwch anfon eich sylwadau atom drwy e-bost neu dros y ffôn:
Cyfeiriad e-bost: cav.engagement.cav@wales.nhs.uk
Rhif ffôn: 07812 495 339
Me Time - sesiynau ar-lein am ddim i ofalwyr
Dydd Iau 6 Tachwedd, 1-2pm: Ymwybyddiaeth o Gamblo gydag Adferiad
Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn addysgiadol hon gydag Adferiad i archwilio beth yw gamblo a pha mor gyffredin ydyw yn y gymdeithas heddiw. Byddwn hefyd yn edrych ar arwyddion o niwed gamblo a ble i gyfeirio os oes angen.
|
Dydd Mercher 19 Tachwedd 11yb - 12yp: Dad-annibendod gyda Jane Breeze
Dyma gyfle i archwilio gwahanol ffyrdd o glirio'ch cartref, garej neu atig, ac i edrych ar y gwahanol resymau pam rydyn ni'n ei ohirio.
Coleg Adfer a Lles Caerdydd a’r Fro
Rydym yn darparu ystod o gyrsiau rhad ac am ddim ar bynciau iechyd meddwl, iechyd corfforol a lles ar gyfer y rhai sydd â phrofiad bywyd o heriau iechyd meddwl, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a staff.
|
Mae’r cyrsiau sydd ar gael gennym yn cael eu cyd-gynhyrchu gan bobl sydd â phrofiadau bywyd o heriau iechyd meddwl, gan gynnwys y rhai sydd wedi defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, yn ogystal ag ymarferwyr iechyd meddwl.
Mae ein cyrsiau yn hygyrch i bawb, ac rydym yn gwahodd y rhai sy’n byw gyda heriau iechyd meddwl, gofalwyr, a staff i gofrestru.
Os hoffech gofrestru fel myfyriwr a chofrestru ar ein cyrsiau, neu i fewngofnodi i’ch cyfrif, dilynwch y ddolen isod:
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech ragor o wybodaeth am y Coleg Adfer a Lles, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.
Ffon: 02921 832 619
|
Os ydych chi'n derbyn gwybodaeth gofalwyr drwy’r post ar hyn o bryd, neu os oes rhywun wedi anfon y wybodaeth hon ymlaen atoch, byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech ddarparu cyfeiriad e-bost, fel nad ydych yn colli cyfleoedd i wneud cais am gyllid neu fynychu cwrs hyfforddi priodol, er enghraifft.
Nodwch: Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn gennym ni, nid oes angen i chi ddarparu eich cyfeiriad e-bost.
|
|
 |
|