 Please scroll down for Welsh / Sgroliwch i lawr am Gymraeg
Manual Handling Training Course for Unpaid Carers
On Thursday 27 November 2025, The Vale of Glamorgan Council are offering a three-hour course on manual handling for unpaid carers who live in the Vale.
WHO IS THE COURSE AIMED AT?
- Do you provide unpaid care for someone in the community (family member or friend) living in the Vale of Glamorgan?
- Do you want to help someone in and out of a chair or bed?
- Do you want to know how to help someone after a fall?
- Do you help someone with personal care eg toileting, showering, bathing?
If you answered yes to any of the above, you may want to attend our manual handling next training session.
Although held in a manual handling training room setting, the sessions are very informal, and we’ll even give you a cuppa and a biscuit.
WHERE AND WHEN IS THE COURSE?
The course will be held in Civic Offices, Barry CF63 4RT in Barry on 27 November 2025 from 10am to 1pm.
PARKING
There are car parking spaces available at the rear of the civic offices. After parking, can you make your way to the main reception by 09:50am.
IS THERE ANY COST TO YOU?
The training provided will be free of charge. There is however a cost to the Vale of Glamorgan Council in putting on any courses for unpaid carers, so please make every effort to attend this course. We will require at least 24 hours’ notice if you are unable to attend the course.
CONTACT: Any queries about the course, please email:
Carersservices@valeofglamorgan.gov.uk or ring 01446 704851
REGISTRATION
|
Have Your Say on the Future Dementia Action Plan for Wales
Welsh Government is developing a new Dementia Action Plan for Wales, and we want to make sure the voices of people in Cardiff and the Vale of Glamorgan are heard.
The plan will shape how services and support are delivered over the next few years — so it’s vital that it reflects the real experiences and needs of people living with dementia, unpaid carers, families, and the communities who support them.
The Cardiff and Vale Regional Partnership Board (RPB) is a partnership that includes Cardiff and the Vale of Glamorgan Councils and other Third Sector partner organisations, and is gathering local feedback through a short survey and community conversations across the region. Your views will form part of our regional response to Welsh Government and help influence the final national plan.
We want to hear from you if you:
- Live with dementia or support someone who does
- Are an unpaid carer or family member
- Work or volunteer with people affected by dementia
- Are part of a dementia-friendly community group
The survey will remain open throughout October and November 2025, with all feedback helping to shape the final submission to Welsh Government in December.
Together, we can help ensure that the Dementia Action Plan truly reflects what matters most to people in our communities.
|
Carers' Rights Day 2025 drop in event – don’t forget
Thursday 20th November, 11am - 2pm: St Augustine's Parish Community Hall, Albert Road, Penarth CF64 1BJ
Tuvida are hosting a Carers’ Rights Day event in partnership with Vale Council Carers Team, at St Augustine's Parish Community Hall for unpaid carers.
Meet other carers and come along and find out more about the help and support available to you from more than the dozen organisations including YMCA Young Carers Project, Llais, Adferiad, Parents Federation and many others.
For more information ring: 02921 921 024
or visit:
|
 Screening web page for unpaid carers and people they support launched by Public Health Wales Screening Division
Screening is a process of identifying apparently healthy people who may be at increased risk of a disease or condition. They can then be offered information, further tests and appropriate treatment to reduce their risk and/or any complications arising from the disease or condition.
Public Health Wales delivers the following population based national screening programmes across Wales:
Unpaid carers play an essential role in making sure that the people they care for feel supported to access screening when invited.
Visit the web page if you are:
- someone who needs support to take part in screening
- an unpaid carer who has been invited for screening or;
- supporting a family member or friend through screening
The information on these pages will explain what happens if you or the person you support is invited for screening, including practical advice to support you or the person you care for and help you look after yourself.
If you are an unpaid carer, it is equally important that you look after your own health. Screening is one of the ways you can do this.
We understand that this may be difficult if you are caring for someone else.
Screening services make every effort to screen unpaid carers and the people they support and will try to be as flexible as possible with appointment times, dates and screening locations. This includes if you need to:
- change the appointment to a more suitable time or date
- ask for a longer appointment
- check if there is a more accessible clinic
- check if you can visit the screening clinic before the appointment
- request translation or interpreter services
- request information in other formats, for example, Easy Read, British Sign Language (BSL), audio
- ask questions about supporting someone who cannot make decisions (mental capacity), or
- ask us about the screening test or tell us about any other individual needs you have that may affect taking part in screening (for example, a mental or physical disability).
Contact the screening programme before the appointment if you would like to ask about any of the above.
screening.engagement@wales.nhs.uk
If you currently receive carers’ information in the post, or if someone has forwarded this information on to you, we would be very grateful if you could provide an email address, so you do not miss out on opportunities to apply for funding or attend an appropriate training course, for example.
Note: If you have received this email from us, you do not need to provide your email address.
|
Cwrs Hyfforddi Codi a Chario i Ofalwyr Di-dâl
Ddydd Iau 27 Tachwedd 25, mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig cwrs codi a chario tair awr i ofalwyr di-dâl sy'n byw yn y Fro.
AR GYFER PWY MAE’R CWRS?
- Ydych chi'n darparu gofal di-dâl i rywun yn y gymuned (aelod o'r teulu neu ffrind) sy'n byw ym Mro Morgannwg?
- Ydych chi eisiau helpu rhywun i mewn ac allan o gadair neu wely?
- Ydych chi eisiau gwybod sut i helpu rhywun ar ôl cwympo?
- Ydych chi’n helpu rhywun gyda gofal personol e.e. mynd i’r toiled, cael cawod, cael bath
Os ateboch ydw i unrhyw o’r uchod, efallai y byddwch eisiau dod i un o’n sesiynau hyfforddiant codi a chario nesaf.
Er y caiff y sesiynau eu cynnal mewn ystafell hyfforddiant codi a chario, maen nhw’n anffurfiol iawn a chewch baned a bisged hyd yn oed.
PRYD A BLE MAE’R CWRS?
Bydd y cwrs yn cael ei gynnal yn y Swyddfeydd Dinesig, Y Barri CF63 4RT ar Ddydd Iau 27 Tachwedd rhwng 10am ac 1pm.
PARCIO
Mae mannau parcio ceir ar gael yng nghefn y swyddfeydd dinesig. Ar ôl parcio, allwch chi wneud eich ffordd i'r brif dderbynfa erbyn 09:50am.
A FYDD COST I CHI?
Bydd yr hyfforddiant a ddarperir am ddim. Ond mae 'na gost i Gyngor Bro Morgannwg wrth gynnal unrhyw gyrsiau ar gyfer gofalwyr di-dâl, felly gwnewch bob ymdrech i fynychu’r cwrs hwn. Bydd angen o leiaf 24 awr o rybudd arnom os nad ydych yn gallu dod i'r cwrs.
CYSWLLT
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y cwrs, anfonwch e-bost i:
Carersservices@valeofglamorgan.gov.uk neu ffoniwch 01446 704851
COFRESTRU
|
Dweud Eich Dweud ar Gynllun Gweithredu Dementia Cymru yn y Dyfodol
Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu Cynllun Gweithredu Dementia newydd i Gymru, ac rydym am sicrhau bod lleisiau pobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn cael eu clywed.
Bydd y cynllun yn llunio sut mae gwasanaethau a chymorth yn cael eu darparu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf — felly mae'n hanfodol ei fod yn adlewyrchu profiadau ac anghenion go iawn pobl sy'n byw gyda dementia, gofalwyr di-dâl, teuluoedd, a'r cymunedau sy'n eu cefnogi.
Mae Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Caerdydd a'r Fro (RPB) yn bartneriaeth sy'n cynnwys Cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg a sefydliadau partner Trydydd Sector eraill, ac mae'n casglu adborth lleol trwy arolwg byr a sgyrsiau cymunedol ledled y rhanbarth. Bydd eich barn yn rhan o'n hymateb rhanbarthol i Lywodraeth Cymru ac yn helpu i ddylanwadu ar y cynllun cenedlaethol terfynol.
Rydym am glywed gennych os ydych chi:
- Yn byw gyda dementia neu’n cefnogi rhywun sydd â dementia
- Yn ofalwr di-dâl neu'n aelod o'r teulu
- Gweithio gyda neu’n gwirfoddoli gyda phobl y mae dementia yn effeithio arnynt
- Yn rhan o grŵp cymunedol sy'n gyfeillgar i ddementia
Bydd yr arolwg ar agor drwy gydol mis Hydref a mis Tachwedd 2025, gyda'r holl adborth yn helpu i lunio'r cyflwyniad terfynol i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr.
Gyda'n gilydd, gallwn helpu i sicrhau bod y Cynllun Gweithredu Dementia yn adlewyrchu'n wirioneddol yr hyn sydd bwysicaf i bobl yn ein cymunedau.
|
Digwyddiad galw heibio Diwrnod Hawliau’r Gofalwyr 2025 - peidiwch ag anghofio
Dydd Iau 20 Tachwedd, 11am - 2pm: Neuadd Gymunedol Plwyf St. Augustine, Albert Road, Penarth CF64 1BJ
Mae Tuvida yn cynnal digwyddiad Diwrnod Hawliau’r Gofalwyr mewn partneriaeth â Thîm Gofalwyr Cyngor y Fro, yn Neuadd Gymunedol Plwyf St Augustine ar gyfer gofalwyr di-dâl.
Dewch i gwrdd â gofalwyr eraill a dewch draw i ddarganfod mwy am y cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael i chi gan fwy na'r dwsin o sefydliadau gan gynnwys Prosiect Gofalwyr Ifanc YMCA, Llais, Adferiad, Ffederasiwn Rhieni a llawer mwy.
I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 02921 921 024
neu ewch i:
|
 Tudalen we sgrinio newydd ar gyfer gofalwyr di-dâl a phobl y maent yn eu cefnogi wedi cael ei lansio gan Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru
Proses o ddarganfod pobl sy'n ymddangos yn iach a allai fod mewn mwy o berygl o gael clefyd neu gyflwr yw sgrinio. Yna, gellir cynnig gwybodaeth, profion pellach a thriniaeth briodol iddynt i leihau eu risg o'r clefyd neu gyflwr a lleihau unrhyw gymhlethdodau sy'n deillio ohono.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyflwyno'r rhaglenni sgrinio cenedlaethol canlynol sy'n seiliedig ar boblogaeth ledled Cymru:
Mae gofalwyr di-dâl a darparwyr gofal yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod y bobl y maent yn gofalu amdanynt yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i gael mynediad at brofion sgrinio pan gânt eu gwahodd.
Ewch i’r dudalen we os ydych chi’n:
- rhywun sydd angen cymorth i gymryd rhan mewn sgrinio
- ofalwr di-dâl sydd wedi cael ei wahodd i gael prawf sgrinio; neu’n
- cefnogi aelod o'r teulu neu ffrind drwy’r broses sgrinio
Bydd yr wybodaeth ar y tudalennau hyn yn esbonio’r hyn a fydd yn digwydd os byddwch chi neu'r unigolyn rydych chi'n ei gefnogi yn cael eich gwahodd am brawf sgrinio. Mae’n cynnwys cyngor ymarferol i'ch cefnogi chi neu'r unigolyn rydych chi'n gofalu amdano ynghyd a chyngor i'ch helpu i ofalu amdanoch chi'ch hun.
Mae gwasanaethau sgrinio yn gwneud pob ymdrech i sgrinio gofalwyr di-dâl a’r bobl y maent yn eu cefnogi a byddwn yn ceisio bod mor hyblyg â phosibl gydag amseroedd apwyntiadau, dyddiadau a lleoliadau sgrinio. Mae hyn yn cynnwys os ydych angen:
- newid yr apwyntiad i amser neu ddyddiad mwy addas
- gofyn am apwyntiad hirach
- gwirio a oes clinig mwy hygyrch
- gwirio a allwch chi ymweld â'r clinig sgrinio cyn yr apwyntiad
- gofyn am wasanaethau cyfieithu neu gyfieithu ar y pryd
- gofyn am wybodaeth mewn fformatau eraill, er enghraifft, Hawdd ei Ddeall, Iaith Arwyddion Prydain (BSL), sain
- gofyn cwestiynau am gefnogi rhywun na all wneud penderfyniadau (galluedd meddyliol), neu
- gofyn i ni am y prawf sgrinio neu dweud wrthym am unrhyw anghenion unigol eraill sydd gennych a allai effeithio ar gymryd rhan mewn sgrinio (er enghraifft, anabledd meddyliol neu gorfforol).
Cysylltwch â'r rhaglen sgrinio cyn yr apwyntiad os hoffech ofyn am unrhyw un o'r uchod.
screening.engagement@wales.nhs.uk
Os ydych chi'n derbyn gwybodaeth gofalwyr drwy’r post ar hyn o bryd, neu os oes rhywun wedi anfon y wybodaeth hon ymlaen atoch, byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech ddarparu cyfeiriad e-bost, fel nad ydych yn colli cyfleoedd i wneud cais am gyllid neu fynychu cwrs hyfforddi priodol, er enghraifft.
Nodwch: Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn gennym ni, nid oes angen i chi ddarparu eich cyfeiriad e-bost.
|
|