 Please scroll down for Welsh / Sgroliwch i lawr am Gymraeg
Manual handling training course for unpaid carers
On Thursday 14 August, The Vale of Glamorgan Council are offering a three-hour course on manual handling for unpaid carers who live in the Vale. The course will be run by Rachelle Church, Manual Handling Co-ordinator of the Vale of Glamorgan Council.
WHO IS THE COURSE AIMED AT?
- Do you provide unpaid care for someone in the community (family member or friend) living in the Vale of Glamorgan?
- Do want to help someone in and out of a chair or a bed?
- Do you want to know how to help someone after a fall?
If you answered yes to any of the above, you may want to attend our manual handling next training session.
Although held in a manual handling training room setting, the sessions are very informal, and we’ll even give you a cuppa and a biscuit.
WHERE AND WHEN IS THE COURSE?
The course will be held in Civic Offices, Barry CF63 4RT in Barry on Thursday 14th August from 10am to 1pm.
REGISTRATION
|
Adferiad – Unpaid Carer Group
If you are an unpaid carer supporting someone with a mental health condition, anyone is invited to attend our group sessions. You do not need a referral to join our monthly groups.
The next Meeting will be held on 16th July 2025 between 11am to 1pm, at Bridge Between Community Centre, Heol Y Llongau, Barry CF63 4AT.
In July, our speaker, will be Caniad – involving individuals with lived experience in service improvement.
The carers group is available to any unpaid carer providing support to someone with a mental health illness. Light refreshments are provided, and all are welcome.
For more information call: 07597 579 005
|
The Index – Newsletter for Families in the Vale
Please find below a link our digital Summer Index newsletter, designed for families of children and young people with disabilities or additional needs in the Vale of Glamorgan.
No diagnosis required, our information is relevant pre and post diagnosis and we’re inclusive of all disabilities and additional needs.
|
Further information about The Index can be found on our website:
The Parents’ Voice – July 2025 Newsletter
The Parents’ Federation latest newsletter is available to view and download on their Meta page.
|
|
 |
Family Information Service Launches Summer 2025 Activity Programme
From free drop-in sessions, library activities and sports camps, there’s lots of activities for families and children to take part in this summer.
Working in partnership with organisations across the Vale, the FIS team have put together a calendar of events suitable for children and young people up to the age of 25, alongside a number of family activities.
The Summer Holiday Programme 2025 kicks off on Saturday 19 July and will run throughout Summer until 31 August.
You can find the full programme of events on the Council’s website:
|
New Advice Line for Older Carers in Wales
Are you an older person in Wales providing care for a loved one, friend, or neighbour? You’re not alone – and Age Cymru is here to help.
Age Cymru has launched a brand-new, free and confidential telephone advice line specifically for older carers in Wales. Whether you’re new to caring or have been doing it for years, Age Cymru understands that being a carer can be rewarding but also physically and emotionally demanding. That’s why they’re offering dedicated information and advice tailored to the needs of older carers.
The advice line is part of a joint project between Age Cymru and Carers Trust Wales, and is funded by Welsh Government.
You can contact the Older Carers Advice Line on 03300 564 365 to speak to a friendly adviser who understands your situation. They can help with a range of issues, including access to services, benefits, your rights as a carer and more.
For more information, visit:
|
Register to receive information
If you currently receive carers’ information in the post, or if someone has forwarded this information on to you, we would be very grateful if you could provide an email address, so you do not miss out on opportunities to apply for funding or attend an appropriate training course, for example.
Note: If you have received this email from us, you do not need to provide your email address.
|
Hyfforddi codi a chario i ofalwyr di-dâl
Ddydd Iau 14 Awst, mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig cwrs codi a chario tair awr i ofalwyr di-dâl sy'n byw yn y Fro. Bydd y cwrs yn cael ei redeg gan Rachelle Church, Cydlynydd Codi a Chario Cyngor Bro Morgannwg.
AR GYFER PWY MAE’R CWRS?
- Ydych chi'n darparu gofal di-dâl i rywun yn y gymuned (aelod o'r teulu neu ffrind) sy'n byw ym Mro Morgannwg?
- Ydych chi eisiau helpu rhywun i mewn ac allan o gadair neu wely?
- Ydych chi eisiau gwybod sut i helpu rhywun ar ôl cwympo?
Os ateboch ydw i unrhyw o’r uchod, efallai y byddwch eisiau dod i un o’n sesiynau hyfforddiant codi a chario nesaf.
Er y caiff y sesiynau eu cynnal mewn ystafell hyfforddiant codi a chario, maen nhw’n anffurfiol iawn a chewch baned a bisged hyd yn oed.
PRYD A BLE MAE’R CWRS?
Bydd y cwrs yn cael ei gynnal yn y Swyddfeydd Dinesig, Y Barri CF63 4RT ar Ddydd Iau 14 Awst rhwng 10am ac 1pm
COFRESTRU
|
Adferiad – Grŵp Gofalwyr Di-dâl
Os ydych chi'n ofalwr di-dâl sy'n cefnogi rhywun â chyflwr iechyd meddwl, dewch i’n sesiynau grŵp. Does dim angen atgyfeiriad arnoch i ymuno â'n grwpiau misol.
Y Cynhelir y Cyfarfod nesaf ar 16 Gorffennaf 2025 rhwng 11am ac 1pm, yng Nghanolfan Gymunedol The Bridge Between, Heol y Llongau, Y Barri CF63 4AT
Ym mis Gorffennaf, bydd ein siaradwr gwadd, Caniad gydag unigolion sydd â phrofiad byw o wella gwasanaethau.
Mae’r grwpiau ar gael i bob gofalwr di-dâl sy'n rhoi cymorth i rywun sydd â salwch iechyd meddwl. Croeso i bawb a bydd lluniaeth ysgafn ar gael.
Ffoniwch 07597 579005
|
Y Mynegai – Cylchlythyr i Deuluoedd yn y Fro
Gweler isod ddolen i rifyn Haf ein cylchlythyr digidol y Mynegai, wedi'i gynllunio ar gyfer teuluoedd plant a phobl ifanc ag anableddau neu anghenion ychwanegol ym Mro Morgannwg.
Nid oes angen diagnosis, mae ein gwybodaeth yn berthnasol cyn ac ar ôl diagnosis ac rydym yn cynnwys pob anabledd ac anghenion ychwanegol.
|
Mae rhagor o wybodaeth am y Mynegai ar gael ar ein gwefan:
 |
|
Llais y Rhieni – Newyddlen Gorffennaf 2025
Mae'r cylchlythyr diweddaraf gan Ffederasiwn yr Rhieni ar gael i'w gweld a'i lawrlwytho ar eu tudalen Meta:
|
Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yn Lansio Rhaglen Gweithgareddau Haf 2025
O sesiynau galw heibio am ddim, gweithgareddau llyfrgell a gwersylloedd chwaraeon, mae yna lawer o weithgareddau i deuluoedd a phlant gymryd rhan ynddynt yr haf hwn.
Gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau ledled y Fro, mae tîm y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd wedi llunio calendr o ddigwyddiadau sy'n addas ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ochr yn ochr â nifer o weithgareddau teuluol.
Mae Rhaglen Gwyliau’r Haf 2025 yn cychwyn ddydd Sadwrn 19 Gorffennaf a bydd yn rhedeg drwy gydol yr Haf tan 31 Awst.
Gallwch ddod o hyd i'r rhaglen lawn o ddigwyddiadau ar wefan y Cyngor
|
Llinell Gyngor Newydd ar gyfer Gofalwyr Hŷn yng Nghymru
Ydych chi’n berson hŷn yng Nghymru sy’n darparu gofal ar gyfer aelod o’r teulu, ffrind, neu gymydog? Dydych chi ddim ar eich pen eich hun – mae Age Cymru yma i’ch helpu.
Mae Age Cymru wedi lansio llinell gyngor newydd a chyfrinachol am ddim, yn arbennig ar gyfer gofalwyr hŷn yng Nghymru. Mae Age Cymru yma i helpu pobl sydd newydd ddechrau darparu gofal, a phobl sydd wedi bod yn gofalu am flynyddoedd. Mae Age Cymru’n deall bod gofalu’n werthfawr, ond mae hefyd yn dasg anodd a heriol. Dyma pam maen nhw’n cynnig gwybodaeth arbenigol a chyngor sy’n gweddu i anghenion gofalwyr hŷn.
Mae’r llinell gyngor yn rhan o brosiect ar y cyd rhwng Age Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Cysylltwch â Llinell Gyngor Gofalwyr Hŷn ar 03300 564 365 er mwyn siarad â chynghorwr cyfeillgar sy’n deall eich sefyllfa. Maen nhw’n medru helpu gydag amrywiaeth o broblemau, yn cynnwys mynediad at wasanaethau, budd-daliadau, eich hawliau fel gofalwr a mwy.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, ewch i:
|
Cofrestrwch i dderbyn gwybodaeth
Os ydych chi'n derbyn gwybodaeth gofalwyr drwy’r post ar hyn o bryd, neu os oes rhywun wedi anfon y wybodaeth hon ymlaen atoch, byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech ddarparu cyfeiriad e-bost, fel nad ydych yn colli cyfleoedd i wneud cais am gyllid neu fynychu cwrs hyfforddi priodol, er enghraifft.
Nodwch: Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn gennym ni, nid oes angen i chi ddarparu eich cyfeiriad e-bost.
|
|
 |
|